Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

AT EIN GOHEBWYR, &c. Em DERBVNIAOAU.—Carwr Trefn — Un o'r Ysgol —Bedyddiwr—Ymofynydd — James Rees-J. T. Morgan—D. ab Dewi-Y. V.—Ewyllysiwr Da yr Achos—F'ewythr—Parch. T. E. James Hen Wcinidog — Adolygiad—Tegai—Mynro—Gwesyn— W. J. R.-Parch. Thomas Lewis-John Lewis- Rhys Deiliwr. RHY DRVVM.—Sienk Bach. Anfoned ddau stamp i ni, a darllenwn yr ysgrif, onite caiff fyned heibio. SION GORFF, a'i holl frodyr dienw, i'r fasged. CARWR TREFN sydd yn galw sylw crefyddwyr y wlad at yr arferiad o ddechreu cyfarfodydd wyth- nosol mor hwyr ag 8 neu 9 o'r gloch. Dywed fod hyn yn ddrwg am ei fod yn ysbeilio y llafurwr o oriau priodol cwsg-ei fod yn attal llawer o ddynion da, ond hen a thlawd, i ddyfod i'r oedfa-tra y mae yn gosod profedigaeth o flaen ieuenctyd ein gwlad, wrth eu harfer i fod allan oriau anamserol. UN O'R YSGOL.—Mae eich gofyniad at y Parch. B. Evans heb eich enw priodol, ac felly yn ddiwerth. BEDYDDIWR, Croelgoch.-Mae Cricket yn un o'r campau hyny a arferir yn Lloegr gan rai o'n dynion goreu, ac yn un o'r campau hyny a arferir yn y rhan fwyaf o ysgolion cyhoeddus y deyrnas. ( Mae Cricket, fel Chess, yn ol y rheolau, i fod yn hollol rydd oddiwrth hapchwareu—h.y., nid oes neb i chwareu y naill gamp na'r Hall am arian. Felly, ynddo ei hunan, nid oes niwed mewn chwareu Cricket; ond am i grefyddwr uno a Chlwb Cricket yn Nghymru, dywedwn ar unwaith fod Iliwed mawr ynddo, a chanlyniadau andwyol i bobl ieuamc ein gwlad. Mae y cwmpeini a fydd yn uno a hwy, a'r yfed a'r gloddesta a tydd yn gyffredin yn canlyn y Matches, yn debyg o brofi yn beryglus iawn i gref- yddwr. Yna, y peth a all fod ynddo ei hun yn gyfreithlon, a digon diniwed, a all er hyny, o her- viydd y cwmpeini a'r amgylchiadau, fod yn hollol annghyfreithlon a niweidiol i grefyddwyr Cymru. J. T. MOHGAW (Thalamus).-Mae eich gofyniadau i Ufelwyn yn rhy debyg i eiddo yr Herodaniaid, y Phariseaid, a'r Saduceaid i Grilt-er ei rwydo. Gyfaill anwyl, mae eieh amter chwi ac Ufelwyn, a'r eiddom ni, yn rhy fyr yn y byd hwn i'w drsulio yn y ffordd hon. Htblaw hyn, mae genym ni, hyd ag y gnllwn, i ofalu am les eyffredinol ein darllenwyr. Dylai pob gtfyniad fod yn gyfryw ag y gellir ei ateb, a bod yr ateb ya lies cyffredinol. Y. V.-Mae eich gofyniad at Mr. Thomas Jones, diacon, Seion, yn un a ddylai gael ei ateb yn y wwrdd eglwys, ac nid ar faes v SEREN. MARGARET.-Awst 24, 1866. YMOFYNTDD, Rhondda.—Yn gyntaf, mae eich gofyn- iadau yn fwy cyfaddas i gyhoeddiad misol nag i newyddiadur wythnosol. Yn ail, ni charem osod y cyfryw ofyniadau heb fod Mr. Thomas yn gwybod am danynt, ac yn boddleni eu hateb. Os danfonwch hwy at Mr. Thomas, ac iddo ef foddloni eu hateb, ni a'i cyhoeddwn ond etto, gwell fyddent mewn cylchgrawn crefyddol. YSTKADGYNLAIS.—Yn y SHREN cyn y diweddaf, cyhoeddwyd genym hanes priodas. Danfonwyd hono i'r Swyddfa, ac ymddangosodd yn y SEREN yn y ffordd arferol. Erbyn hyn, gwyddom mai twyll ac anwiredd oedd yr hanes. Mae yn wir ddrwg genym ni fod y fath beth weii dygwydd, ac yr ydym yn y modd mwyaf parod yn datgan ein c gofid dwys ein bod wedi bod yn offerynol-er yn ddiniwed—i lusgo o flaen y eyhoedd enwau y mab a'r ferch ieuanc, a'u teuluoedd, gydag eiddo Mr.- Walters, y gweinidog parchus y cyfeirir ato. Mae yr anwiredd hwn wedi ei ddanfon gan rhyw ffwl penfeddal a diymenydd-creadur isel a gwael, a ddylai gael ei ysgymmuno o bob cymdeithas o ddyn- ion geirwir. 0 holl ymlusgiaid y greadigaeth-yn falwod, llyffanod, a nadredd—dyma y mwyaf dir- mygedig o honvnt oil. Nid gwiw ymrcsymu a. rhyw sugnydd gwaed fel hwn—rhyw vampier lleol; ond dylai gael ei drwytho yn mhwll y domen dair gwaith y dydd am ddeng niwrnod ar hugain. Yr ydym ni wedi danfon ei ysgrif i Ystradgynlais, ac yn addaw yn ddifrifol, os cawn allan i foddlonnvydd pwy yw y winci, bydd i ni beru iddo deimlo i fwy o raddau nag y meddylia y creadur siolwag. Gyfeillion Ystradgynlais, rhoddwch eich help i ni gael allan y bredych dienaid hwn. JOHN LEWIS, Llanrhystyd, a ddanfona i si y nodyn •anlynol:— At Bwyllgor y Drysorfa Goffadwriaethol. Foneddigion,-Ar gais amryw o gyfeillion y Dry. sorfa, yr wyf yn cyflwyno y gofyniadau canlynel i'ch ystyriaeth, gan hyderu y telwch y sylw priodol iddynt. Deallwyf eich bod wedi cynnal eich ail gyfarfod blynyddol, ac yn hwnw wedi penderfynu oedi gwneuthur dim yn effeithiol mewn cyssylltiad a rhan Lenyddol y Drysorfa, yr hyn, yn ngolwg ed- mygwyr y rhan hono, sydd yr un peth a chanu cloch marwolaeth yr amcan cyntefig a da. Oddiar yr olwg hon ar bethau, gofynaf-l. A ydych (mewn gwirionedd) yn bwriadu neillduo cyfran o'r gasgl er ffurfio Trysorfa Lenyddol i'r enwad ? 2. Os ydych, pa bryd ? ac os nad ydych, paham na ddy- wedwch hyny yn eglur? 3. Ai nid yw eich gwaith yn oedi gwneyd hyny yn bradyehu gwrth- duedd ati ? a pheth, dybiwch, a ddeallir wrth ddystaw- rwydd y Goruchwyliwr yn hanes eich cyfarfod yn Llangollen ? Dyma f\' lien ar ben. Yr eiddoch, JOHN LEWIS. Yn awr, gan na fydd y Pwyllgor yn cyfarfod cyn Hydref 12fed, cymmerwn ni arnom i roddi ateo i Mr. Le'vis, nid fel un o'r Pwyllgor, ond fel un ag oedd yn wyddfodol yn y eyfarfod blynyddol yn Llangollen. Yn y cyfarfod blynyddol cyntaf-un 1863, peunodwyd i'r Pwyllgor ddarparu cynllun i'w osod gerbron yr holl aelodau a fuasai yn y cyfarfod blynyddol yn 1864. Er tario hyn allan, neillduwyd ls-bwyllgor i ddarparu y cynllun hwn. Ar gais' y brodyr hyn, tynwyd i fyny ddrafft o Gyfansoddiad a Rheolau y Uvmdeithas Gyhoeddiadol gan Dr. Price, Aberdar. Danfonwyd hwnw i aelodau yr is- bwyllgor, a gosodwyd y cwbl o flaen y cyfarfod blynyddol dydd Iau, Awst 18, a chyda hyny yr oedd Pwyllgor 1863 yn gwaghau eu swyddi, ac yn cym- meryd rhan yn y cyfarfod fel aelodau y Gymdeithas. Penderfyniad y Cwrdd Cyhoeddus yw gohirio y mater o gyhoeddi llyfrau am y presenol—am eleni a chan mai ilyma benderfyniad y cwrdd blynyddol, ni fydd hawl gan y pwyllgor i ymwneyd a'r pwiic cyn y'Cwrdd blynyddol nesaf, gan nas gall pwyllgor drei yn ol ber.derfyniad cwrdd blynyddol. Y mae yn dygwydd ein bod ni mewn ffordd i ateb nad yw y mater wedi ei aiael, ond ei ohiiio yn unig, a hyny am resymau cryfion. Gallwn sicrhau. Mr. Lewis fod y pwysigrwydd cydfynedol a sfefydlu, a dwyn i weith- rediad, yn Ilawer mwy nag y meddylir ar yr olwg gyntaf-mae yn gotyn pwyll mawr, ae arafwch nid bychan, i wneyd hya yn deilwng o honom yn awr, ac o'n hoiafiaid yn ol llaw. Caffed amynedd ei pher- ffaith waith." EIN GOHEBWYR.—Yr ydym wedi ein gorfodi i wneyd un o ddau beth-un ai cael yr holl ohebiaethau trwy ein dwylaw, neu i roddi fyny yr Olygiaeth. Ein penderfyniad yn awr yw, para yn ein swydd am dymhor etto, yna rhaid i ni gael gweled y goheb- iaethau oil, ond hanesion cyfarfodydd a dygwydd- iadau, cyn y bydd iddynt gael eu cyhoeddi telly, os bydd rhai yn rhy uchel i'n cydnabod ni, a phara i anfon eu cynnyrchion tu cefn i ni i'r Swyddfe, mae y Cyhoeddwr yn addaw dychwelyd y cyfryw ysgrifau yn ol i ni. Bydd hyn yn rhoddi tipyn a diafferth i'r Cyhoeddwr, a phob amter yn cadw yr ysgrifau wythnos yn hwy cyn ymddanges. Ar y tir hwn yn unig y gallwn ddal ein cyssylltiad a SEREN CYMRU. Cyhyd ag y cedwir y telerau hyn, ni a fyddwn foddlon i weithio a phan fyddo y cyhoedd a'r Cyhoeddwr yn blino, byddwn yr un mor ioddlon i roddi fyny. Mae gair fel yna yn ddigon ond er rhoddi cyfle i bawb o'n eyfeillion, bydd i ni ail gy- hoeddi hyn am dro neu ddau. Ein hamcan yw gwneyd SEREN CYMRU yn newyddiadur teuluaidd -yn gyfryw ag y gall ein mamau, gwragedd, a'n plant ei darllen bob gair heb deimlo dolur am fod annghariad ac enllib yn cael ei daflu gan y naill gref- yddwr at y llall. Y mae genym wmbredd o hanesion, &c., yn aros eu tro. Nis gallwn foddloni pawb ar yr un adeg. "SEREN CYMRU." W Danfoner pob hanesion Crefyddol a Chymdeith- asol, archebion a thaliadau, at y Cyhoeddwr,- Mr. W. Morgan Evan., Seren Cymru Office, Carmarthen. Ø" Y Traethodau, Gohebiaethau, Gofyniadau, a Llyfrau i'w hadolygu, &e., at-Rev. T. Price, M.A., Ph.D., Aberdare. er Y Farddoniaeth, — Rev. J. Rhys Morgmn (Llettrwg), Llmnelly, Carmarthenshire. PIli eKRRN CYMRU i dderbynwyr a dalant am dani wrth ei derbyn, neu a dalant eyn pan wythnos ar ol i'r chwarter ddyfod yn ddyledus, yw Is. le. y ehwarter, neu I s. 3c. os na wneir hyny. TEIMLIR yn ddiolchgar i'n dosparthwyr am gael nifer ▼ derbynwyr yn 4. 8, 12, &c., er arbed postage. is gellir eaniatau y postage panfydde y nifer da* badwar.

BARN GWEITHIWR AM Y WASG GYMREIG.

To the Editor of THE MINER…

Family Notices

[No title]