Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Pittmiw dglwpig.

News
Cite
Share

Pittmiw dglwpig. CYFARFOD Y BEDYDDWYR CAETH- LLYTHYR 0 AMERICA. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) Y R ydym yn teimlo yn sicr fod ein holl ddarllenwyr yn chwennych cael yr oil o'r Llythyr o America i Gyfarfod Llundain; gan hyny, ni gawa roddi y gweddill yma mewn parhad o'n hysgrif Eglwysig yn ein rhifyn diweddaf:— Mae Cymdeithas Traethodan America yn y wlad hon, fel Cymdeithas y Traethodau Crefyddol yn Mhrydain Fawr, wedi ei ffurfio gan Gristionogion o Jfrahanol enwadau, i gyhoeddi y gwirioneddau mawr- ion efengylaidd am ba rai yr oeddent yn cyduno.' Mae y Gymdeithas yn dywedyd mai ei gwaith yw, C lledaenu cyhoeddiadau crefyddol o duedd i dderbyn cymmeradwyaeth gan holl Gristionogion efengylaidd. Mae, felly, yn cael eu hattal rhag cyhoeddiadau yn pynciau dadleugar yn mhlith Cristionogion efengylaidd' (' Egwyddorion a Ffeithiau Cymdeithas Traethodau America,' tud. 2.') Mae PwyIIgor Cyhoeddiadol y Gymdeithas yn gynnwysedig o wein- idogion yr efengyl o chwech o enwadau Cristionogol, a phob llyfr neu draethodyn a gyhoeddir gan y Gym- deithas a & allan i'r byd yn nghyflawn awdurdod un ac oil o'r Pwyllgor. Mewn traethodyn a gyhoedd- "Wyd gan y gymdeithas hon o dan y teitl, A gaf fi ddyfod at Fwrdd yr Arglwydd?' mae dyledswydd yr ymgeisydd duwiol yn cael ei roddi lawr fel hyn, — |dded iddo edifarhau, a chredu, a dyfod at fwrdd yr Arglwydd. Mae y pethau hyn oil yn ddyled- swyddau cyffelyb, a byddai esgeuluso un o honynt yn drosedd ar orchymyn dwyfol. Ond rhaid iddynt gael eu gwneyd yn nhrefn yr efengyl—edifarhau, a chredu, a chymmeryd ei fedyddio, a chofio am farw eariadlawn y Gwaredwr,' tud. 1 a 2. Dywed yn Eahellach (tud. 3),—' Yr ydym, gan hyny, wedi cyr- ;ha.edd y casgliad, fod pawb, heb eithriad na gwahan- laeth-pawb a edifarhant ac a gredant, ac ydynt wedi eu bedyddio, a hwy yn unig, yn wrthddrychau addas 1 fwrdd yr Arglwydd.' Gan nad faint, gan hyny, a ddichon v gwahaniaeth fod rhyngom ni a'r Cristion- ogion efengylaidd hyn ar y gofyniad, Beth sydd yn cyfansoddi Bedydd Cristionogol?' yn yr egwyddor *od bedydd yn gyn-gymhwysder i fwrdd yr Arglwydd, yr ydym oil yn cyduno. "0 berthynas i gyfenwadau ereill yn yr Unol Daleithiau ag ydynt yn arfer trochiad yn y bedydd, ond heb fod yn perthyn i'r cyfenwad a adnabyddir J^rth yr enw Bedyddwyr Rheolaidd,' nid ydym yn barod i roddi i chwi wybodaeth fanwl a chyflawn. Mae gan y Bedyddwyr Gwrth-genadol tua 180 o Gymmanfaoedd, 1,800 o eglwysi, 850 o weinidogion ordeiniedig, a thua 60,000 o aelodau mewn cymmun- deb. Mae yr eglwysi yn dal yn gadarn at yr arferiad o gymmundeb caeth. Mae gan y Bedyddwyr Khydd-ewyllys 143 o Gymmanfaoedd, 1,285 o eg- hvysi, 1,033 o weinidogion ordeiniedig, 186 o bre- Sethwyr trwyddedig, a 58,055 o aelodau. Mae y C5 thai hyn yn arfer cymmundeb agored. Mae Bed- Yddwyr y Seithfed Dydd yn cynnwys 4 o Gymman- faoedd, 66 o eglwysi, 77 o weinidogion ordeiniedig, 4 o bregethwyr trwyddedig, a 6,686 o aelodau. Fel 0 n y maent hwy yn arfer cymmundeb caeth. ^Lae y Dysgyblion, neu y Diwygwyr, neu y Camp- eliaid, fel y gelwir hwy weitfriau ar ol Alexander atnpbell, yr hwn sydd wedi bod yn offeryn pwysig y^eu casgliad yn nghyd, yn rhifo 2,000 o eglwysi, >000 o weinidogion, a 350,000 o aelodau. Yrydym J* credit fod rhyw nifer fechan o'r eglwysi hyn yn rfer cymmundeb agored, ond fel cyfenwad y maent yn arfer cymmundeb caeth. ¥n y chweched gyfrol £ 20 ^hriitian Baptist, cyhoeddedig yn 1828, tud. °'r argraffiad diwygiedig, Alexander Campbell a ddywed :_C Yr wyf yn gwrthwynebu ei wneyd yn rheol o dan unrhyw amgylchiadau i dderbyn personau heb eu trochi i ordinhadau yr eglwys :—1. Am nad yw yn unrhyw fan wedi ei orchymyn. 2. Am nad oes un enghraifft o hyn yn y Testament Newydd. 3. Am ei fod o angenrheidrwydd yn llygru symlrwydd ac unffurfiaeth holl gynllun y sefydliad newydd. 4. Am ei fod nid yn unig yn chwalu trefn y deyrnas, ond mae yn gwneyd yn ddirym un o'r ordinhadau mwyaf pwysig a roddwyd i ddyn erioed. Mae, o angenrheidrwydd, yn gwneyd trochiad yn ddiwerth canys gyda pha gyssondeb, neu briodoldeb, y gall cynnulleidfa ddal i fyny gerbron y byd awdurdod neu ddefnyddioldeb sefydliad ag y maent yn yr arferiad o wneyd cyn lleied o hono a rhyw fympwy dynol. 5. Am ei fod yn gwneyd rheol i ddiddymu sefydliad dwyfol o'r pwys mwyaf; maent hwy sydd yn honi y cyffelyb awdurdod a esgorodd ar y cyfeiliornad dych- rynllyd hwnw ag ydym ni a phawb Cristionogion yn llafurio i'w ddinystrio. Os bydd i gyfundeb Crist- ionogol osod yn ei breinlen, gyfammod, neu gyransodd- iad y gallu i ddifodi sefydliad y Brenin mawr, pwy a all ddywedyd yn mha le y bydd yr awdurdod i roddi trwyddedau iddo ei hun derfynu V Mewn cyfartod un- debol a gynnaliwyd yn Lexington, Kentucky, Ebrill, 1841, hysbysir fod Alexander Campbell wedi dweyd, —' Nad oes gan berson heb;ei drochi hawl i eistedd wrth fwrdd yr Arglwydd er hyny, dywedai, os daw y fath berson at y bwrdd, y byddai iddo ddywedyd wrtho, Nid wyf fi yn gwybod a ydyw eich cyfeil. iornad yn eiddo y pen neu y galon, ond os bydd i chwi gymmeryd y cyfrifoldeb, ni fydd i mi eich gwthio oddiwrth y bwrdd" (Banner and Pioneer, Louisville, Kentucky, April, 1841). Pan fyddo cymmundeb agored yn cael ei arfer yn y cyfundeb hwn, bydd ar dir cyffelyb. Nid yw y rhai difedydd yn cael eu gwahodd at fwrdd yr Arglwydd ond yn ddiwahoddiad, bydd i'r rhai difedydd gymmeryd y cymmundeb ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Mae Bed- yddwyr y Chwech Egwyddor yn meddu 18 o eglwysi, 16 o weinidogion ordeiniedig, a 3,000 o aelodau. Maent hwy yn arfer cymmundeb caeth. Mae y Winebreneriaid, neu Eglwys Dduw, yn Fedyddwyr o'r ffydd Arminaidd, ac yn dal cymmundeb agored. Mae eu ffurflywodraeth eglwysig yn debyg i'r Pres- byteriaid. Mae ganddynt hwy 275 o eglwysi, 123 o weinidogion, a 14,000 o aelodau. Mae y Tunkeriaid yn rhifo 150 o eglwysi, 150 o weinidogion, a 8,200 o aelodau. Maent hwy yn dal iachawdwriaeth gyff- redinol, ond y maent yn Fedyddwyr yn eu ffurflyw- odraeth a'u dysgvblaeth, ac yn dal cymmundeb caeth. 0 Yn y cyfrif a roddir yma'o Fedyddwyr Rheolaidd yr Unol Daleithiau, yr ydym wedi ymdrechu rhoddi, mor agos ag y gaUem, y cyfanswm ond nid oes lie i ammheu nad yw rhif y cyfryw ag ydynt yn dal ein golygiadau yn mhell uwchlaw yr hyn a roddwn yma, canys y mae llawer o eglwysi yn y wlad yn dal ein golygiadau ag nad ydynt yn perthyn i unrhyw Gymmanfa, a ;chyfrif pa rai nid ydyw yn cael ei roddi. Mae y Bedyddwyr Rheolaidd nid yn unig yn dal fod bedydd yn gyn-gymhwysder i hawliau eg- lwysig, ac i fwrdd yr Arglwydd, ond y maent hefyd yn gwrthod cymmuno gydag aelodau bedyddiedig o eglwysi difedydd, a phawb ereill sydd yn goddef llwybr anysgrythyrol at fwrdd yr Arglwydd a chyf- yngant eu cymmundeb i'r cyfryw ag ydynt mewn cyflawn aelodiaeth yn yr eglwysi hyny ag sydd yn ol trefn yr efengyl. Yr ydych yn siarad yn eich llythyr fel pe bai eich brodyr yma yn arfer galw eu hunain yn Fed- yddwyr Cymmundeb Cauedig (Close),' yn hytrach na 'Bedyddwyr Cymmundeb Caeth (Strict),' yn hyn yr ydych yn gamsyniol. Yr ydym yn hoffi y gair Caeth' yn well uâ'r gair Cauedig.' "Mae y Gynnadledd hon wedi penderfynu y brodyr canlyriol yn bwyllgor, a'r rhai y gwahoddwn chwi i ohebu, yn ol eich dymuniad, ar faterion o ddyddordeb i'r ddwy ochr Parch. A. D. Gillette, D.D., gweinidog eglwys y Bedyddwyr yn Calfaria, Efrog Newydd; Parch. E. T. Hiscot, D.D., gwein. idog eglwys Heol Stanton, Efrog Newydd; Parch. Samuel Baker, D.D.; a'r Parch. Rufus Babcock, D.D. I un neu yr oil o'r brodyr hyn gellwch anfon unrhyw ohebiaeth a garech ei wneyd a Bedyddwyr y wlad hon, a bydd iddynt hwy wneyd y cyfryw ddefnydd o'ch gohebiaethau a farnant ddoethaf. Yr ydym yn rhoddi yma gofres o weinidogion ac eglwysi y ddinas a'i chymmydogaeth, y rhai gan mwyaf ydynt yn aelodau o'r Gynnadledd, a rhan fawr o ba rai ydynt yn bresenol, ac a bleidleisiant dros anfou y llythyr hwn. Ar ran y Gynnadledd, "SAMUEL BAKER, Cymmedrolwr, "ROBERT LOWRY, Ysgrifeuydd." t5 Yma y canlyn gofres o dair ar ddeg a deugain a eglwysi, gyda y gweinidogion ag oedd yn uno yn y llythyr uchod. Mae y gofres yn rhy faith i ni ei rhoddi yma, onite buasai yn dda genym wneyd hyny. Mae y llvthyr hwn wedi rhoddi gwir bleser i ni, a chalondid nid bychan wrth feddwl am y teimlad sydd gan rai yn Lloegr i esgeuluso yr ordinhad o fedydd, a thynu i lawr y tnur a fwriadodd Duw i fod yn wrthglawdd rhwng y byd a'r eglwys. Mae yn gysur meddwi fod y Ddwy Filiwn Bedyddwyr yn dal at yr hen ffordd; a thra yn dal at hon, mae Duw yn eu llwyddo tuhwnt i neb arall yn y Talaethau Amer- icanaidd. *Y Duw sydd wedi eu llwyddo mor fawr yn barod, a fyddo gyda hwy etto yn mhwerau ei ras a'i Ysbryd.

DARGANFYDDIADTARDDIAD YR AFON…