Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Ilk, -A PATWIFLTT F GLWPTG.
Ilk, -A PATWIFLTT F GLWPTG. CYFARFOD Y BEDYDDWYR CAETH- LLYTHYR 0 AMERICA. MAE y llythyr canlynol wedi ei ddanfon oddiwrth "Weinidogion y Bedyddwyr yn Efrog Newydd at y brodyr a gyfarfuasant yn y cyfarfod pwysig a gynnal- iwyd yn Llundain, EbriIl 2lain, 1863. Mae v llythyr hwn mor bwysig, gan ei fod yn dyfod oddiwrth dair ar ddeg a deugain o eglwysi yn ninas fawr Efrog Newydd, ar bwnc ag sydd yn wir 0 bwysig i Fedyddwyr y deyrnas hon. Gosodwn ef yma yn gyflawn "EfrogNewydd, Ebrill 9, 1863. u Cynnadledd o Weinidogion y Bedyddwyr yn Ninas Efrog Newydd at William Stokes, Golygydd y Primitive Church. Magazine, ac Ysgrifenydd An- rhydeddus cyfarfod y Bedyddwyr Caeth yn Llun- dain. "GAREDlG SVR,-Catodd eich llythyr chwi at y -by. Gillette, yn nghyd a'r cylch-lythyr a ddaeth n Sydag ef ar y cymundeb rhydd a chaeth, ei ddarllen yn Nghynnadledd Gweinidogion y Bedyddwyr yn eu Cyfarfod rheolaidd a gynnaliwyd yn Efrog Newydd, Igbrill 6, 18ô3; a ctfan. fod y gynnadledd hon yn cydymdeimlo ag amcanion eich cyfarfod dyfodol yn Llundain, ac yn teimlo gyda chwi y dyddordeb mwyaf yn niogeliad athrawiaeth a chymdeithas yr eglwys gyntefig, dymunant fod i'r atebiad canlynol gael ei ddanfon i'ch llythyr chwi:— Mae. aelodau y Gynnadledd hon yn perthyn i'r "yn a elwir Bedyddwyr Rheolaidd TJnol Daleithiau America, ac mae ein hystadegau, y rhai a gyhoeddir yn ein Dyddiadur am y flwyddyn hon, yn sefyll fel y canlyn: Cymmanfaoedd, 607; eglwysi, 13,362; gweinidogion ordeiniedig, 8,481; pregethwyr trwydd- edig, 1,138; cyfanswm yr aelodau, 1,109,343. Mae yr boll eglwysi hvn, perthynol i'r Bedyddwyr Rheol- aidd, yn arfer cymundeb caeth, yn dal yr egwyddor fod y bedydd Cristionogol yn gyn-gymhwysder i eglwysig ac i Swper yr Arglwydd, ac yn 8wrthod yr egwyddor fod pawb Cristionogion fel y C5 cyfryw, pa un a fyddant wedi eu bedyddio neu heb "It bedyddio, a hawl i gymdeithas eglwysig weledig, ac gymuno wrth fwrdd yr Arglwydd. Yr ydych yn gofyn, 4 A ydyw syniadau am gym- undeb agored yn gwneyd llawer o ffordd yn mhlith eglwysi yn y wlad hon ?' Mor bell ag y mae y bedyddwyr Rheolaidd yn'myned, atebwn, Nad yw yn j»*Qeyd ffoidd o gwbl, gan nad oes genym y fath ar- ac nid oes y fath arferiad yn eglwysi y Bed- yddwyr Rheolaidd. Mae yr holl eglwysi hyn (heb C3 Sycttnaaint ag un eithriad, mor bell ag y mae ein ^ybodaeth yn cyrhaedd), yn dal yn gadarn a diys- Og y fifydd ac ymarferiad yr egwyddor fod bedydd i *a§flaenu Swper yr Arglwydd, a phob braint arall o *vttiundeb eglwysig. deh ° Robert Hall, a phleidwyr ereill i'r cymun- b agored, yn dal fod arferiad y cymunwyr caeth yn ^ystr mawr i gynnydd yr egwyddorion ag ydym yr 611 yn eu Per^hynas a'r bedydd Cristionogol, fely<Jy*» y° galw eich sylw at dystiolaeth ffeithiau, el^?u gosodir allan gan Dr. Arnold, yn ei lyfr a Ar ^erau Y sgrythyrol derbyniad i Swper yr '.KjJ" ^ydd cyhoeddedig yn Boston yn y fl. 1860, 115—117 «tp n .an »u farw Robert Hall, ddeng mlynedd ar ydd ° 'Vn ^^l), yr oe^ ^ros 100,000 o Fed- yn Lloegr, a llai na 400,000 yn yr Unol Dal- U ^ae y boblogaeth wedi cynnyddu oddiar Bedv 13,000,000 i 20,000,000, ond mae rhif y -q .wyr yn aros tua'r un faint. Mae poblogaeth >1 ^aleithiau, yr hon oedd y pryd hwnw tua'r rlvd!f a LloeSr' wec^ ^awn ddyblu; oud mae rhif y y dwyr wedi gwneyd llawer mwy na chadw yn mlaen gyda'r cynnydd buan hwn, gan eu bod wedi codi o lai na 400,000 i dros 1,000,000. Fel hyn mae yn ymddangos, yn Lloegr, lie mae yr arferiad ogym- undeb agored yn ffynu yn gyffredin, mae rhif y Bedyddwyr wedi lleihau, yn olcyfrifiad y boblogaeth, yn ol y gradd o dri ar ddeg ar hugain yn y cant; tra yn y wlad hon, He mae cymundeb caeth wedi bod yn rheol, mae ein rhif yn ein perthynas a'r boblogaeth wedi cynnyddu yn ol y radd o ddeg a deugain y cant. t3 Z5 A dylid cymmeryd i ystyriaeth fod cynnydd ein pobl- ogaeth vma wedi cymmeryd lie dan amgylchiadau an- fanteisiol iawn, gan fod ein cynnydd wedi ei achosi mewn rhan fawr gan ymfudwyr ac ennilliad tiridg- aethau newyddion ac o boblogaeth a ychwanegwyd fel hyn, mae rhan fawr o honynt yn Babyddion, a rhan fach iawn o Fedyddwyr, tra mae y cynnydd yn Lloegr gan mwyaf wedi bod yn naturiol. Gosodweh at hyn, fod arferiad y Bedyddwyr yn ein gwlad ni wedi cyfnewid llawer ar arferion enwadau ereill, fel mae bedydd trwy drochiad yn gyffredin yn cael ei arfer, a thaenelliad ar fabanod yn gyffredin yn cael ei esgeuluso gan y cyfryw nad ydynt yn cael eu galw yn Fedyddwyr, tra nad oes y fath agosrwydd at ein dal- iadau yn cymmeryd lie yn Lloegr.' Y gymhariaeth a sefydlir gan Dr. Arnold, wedi ei sylfaenu ar ffeithiau, a adewir genym i lefaru drosti ei hun. Dylid, er hyny, gofio, tra yr ydym ni yma yn dàl y dylai bedydd ragflaenu undeb gweledig a'r eglwys, nid ydym yn dal ond yr un peth ag y mae pob enwad efeogylaidd arall yn cyduno yn ei gylch, gyda'r eithriad o'r Cwaceriaid a Bedyddwyr yr EW- yllys Rydd. Cymmerwch ychydig ffeithiau yn es- boniad ar hyn. Mewn traethodyn cyhoeddedig gan Fwrdd y Cynnulleidfaolwyr o dan yr enw Scriptural Platform of Church Government, pan yn trafod y defnyddiau o ba rai y mae eglwys Crist yn cael ei ffurfio,' dywedant (tud. 2.), 'Am yr eglwys ef&ngyl- aidd, mae yn arnlwg ei bod wedi ei ffurfio o saint gweledig yn unig. Nid oedd neb ond personau wedi eu bedyddio yn cael eu derbyn i'w chymundeb ac ni dderbynid i fedydd neb mewn oed ond y cyfryw a broffesa edifeirwch a ffydd, yr hyn a brofai eu bodyn saint gweledig.' Mewn cyfrol ar fedydd a'r cymundeb, wedi ei hys- grifena gan y Dr. Hibbart, o'r Eglwys Fethodistaidd Episcopalaidd, cyhoeddedig gan yr enwad hwnw fel un o'i llyfrau enwadol sefydlog, ac wedi ei gymmer- adwyo gan y Gynnadledd Gyffredinol fel Ilaw-lyfr i'w hathrofeydd, Dr. Hibbart, yn nosran 2, tud. 174, a ddywed,—' Cyfiawnderyw dywedyd, fod un egwyddor ag y mae y Bedyddwyr a'r Mabanfedyddwyr yn hollol unol yn ei chylch. Maent oil yn cyduno i gadw o gymundeb wrth Fwrdd yr Arglwydd, a gwrthod hawliau eglwysig i bawb na fyddant wedi eu bedyddio. Maent hwy yn ystyried gwir fedydd yn angenrheidiol i gymdeithas eglwysig. Yr ydym ninnau yn dal hyn hefyd. Yr unig bwne sydd yma yn ein gwahanu yw, beth sydd yn rheidiol er gwir fedydd.' Mae yn rhaid i ni ymattal yn y fan hon ar hyn o bryd mae dros hanner y llythyr ar ol, ac mae yn ormod i ni gael lie iddo yn ein rhifyn presenol. Rhoddwn y gweddill mcwn rhifyn dyfodol. Ac yn y cyfamser, myned ein darllenwyr fynegiad o hanes y cwrdd mawr yn Llundain, yn yr hwn y mae y llythyr rhagorol hwn, gyda llawer o bethau gwerthfawr ereill, ac yn eu plith bapyr ar Fedyddwyr Cymru gan Mr. Price, Aberdar.
[No title]
Y mae penderfyniad wedi ei basio gan ynadon Manchester dros gael dienyddio yn ddirgel. Yr oedd dau o honynt yn erbyn crogi yn ddirgel na chyhoeddus. Derbyniwyd adroddiad swyddol mai holl golled yr Undebwyr, rhwng lladdedigion, clwyfedigion, ac ar goll, yn y brwydrau diweddar yn ChancellorsTilleydoedd 13,500; a'r golled mewn carcharorion ydoedd 4,500; y cyfanrif yn 18,000 o wyr, sefyr un nifer yn hollol a cholled y Gwrthryfelwyr.
ADDOLDAI DIDDYLED.
ADDOLDAI DIDDYLED. ER nad yw breniniaeth Crist o'r byd hwn, y mae dyled- ion ein haddoldai yn peru i ni deimlo yn ami ei bod yn y byd hwn; ac y mae yn iechyd i'n calon i gofio fod amser gwell gerllaw. Y mae llwyddiant y Drysorfa Goffadwriaethol yn peru i ni ddiolch i Dduw a chym- meryd cysur. Mae y Deheubarth wedi gweithio yn. ogoneddus, ac yn awr hefyd y mae y Gogledd yndeffroi. Mae y pwyllgor wedi bod yn ddedwydd iawn i gael y fath oruchwyliwr a Mr. Jenkins; y mae ynenaid y pwnc, a'r pwnc yn ei enaid yntau mae yn dan byw eiriasboeth, ac yn melltenu gwreichion pa le bynag yr 61, nes gwaeyd cynnulleidfaoedd y North yma yn un. goddaith Ilosgedig, nes y gallai un feddwl eu bod wedi esgyn i fyny yn mwg arogldarth eu sêl, oni bai yr add- ewidion a wnant i'w talu o fewn pedair blynedd, yr hyn a ddengys nad ydynt am ffarwelio a'r ddaear hyd nes y talant eu haddunedau i'r Arglwydd. Tybiwyf ei fod wedi bod yn ddoeth, yn mhob ystyr, yn newisiad ei adeg i ddyfod i'r Gogledd, yr hyn a ddengys ei fod ef, beth bynag, yn deall arwyddion yr amserau." Mae cael capeli diddyled yn beth gwerth ymdrechu drosto. Mae capel mewn dyled yn debyg i arch Duw yn nwylaw y Philistiaid, y rhai a fygythiant ei gwerthu ar auction, os na thelir y llog yn brydlon Er y drafferth sydd gydag addoldni, nis gallwn wneyd hebddynt. Tra byddo achos Mab Duwyn y byd, y mae mewn angen eu gwasanaeth. Mae Satan wedi deall fod yn rhaid iddo yntau gael addoldai i gario ei achos yn mlaen o herwydd hyny yr ydym yn canfod y chwareu- dai yn ymrithio i'n golwg yn y trefydd newydd mawrion. t, Rhaid i bob .crefydd gael ei haddoldai. Addola yr Hindw ei eilunod mewn temlau wedi eu gwisgo ag aur. Dyga y Mahometaniaid eu gwasanaeth crefyddol yn mlaen mewn temlau o farmor. Rhaid hyd y nod i'r infidel gael ei assembly rooms i gablu Duw a gwenwyno eneidiau. Onid mwy o lawer y dylem ni gael o addoldai i addoli y Duw hwnw nad ydyw y bydyssawd ollamgen nag un deml ogoneddus iddo ? Wedi cael capel, y pwnc mawr yw talu am dano. Ychydig mewn cymhariaeth sydd yn gallu talu am addoldy wrth ei wneyd; ac y mae cael cymhorth yn beth melus iawn mewn angen. Mae yn haws i eglwys wan dalu .£100 mewn deng mlynedd, nag ar unwaith. Gall aelodau llawer eglwys wan dalu JJlOO ynol deg punt y flwyddyn, pryd na allant dalu y cyfryw swm eu hunain ar unwaith. Gwelsom feichiau trymion ag nas gallai un dyn eu symud; ond gallai tri neu bedwnr eu symud gyda rhwyddineb. Weithiau bydd ffermwyr caredig mewn cymmydogaeth yn anfon eu gweision i ffarm arall yn y cynhauaf i gynnorthwyo ed cymmydog i gael y cynhauaf adref mewn un diwrnod, ac yntau drachefn yn dychwelyd y caredigrwydd. Dyna yw am can gogoneddus ffurfiad y Drysorfa Fenthyciol—cael holl eglwysi Cymru i gyn- northwyo eglwys wan o dan ei baich, a hithau drachefn yn ei thro i gynnorthwyo ereill, nes dwyn yr olaf o'i chadwynau. Dygwch feichiau eich gilydd, ae felly cyflawnwch gyfraith Crist," Mae rhywbeth yn ddyeithr i'r bydol-ddyn yn amcan y Gymdeithas i roddi benthyg arian yn ddilog. Y fath swm anferth a delir bob blwyddyngan y Bedyddwyr yn Nghymru o log arian Mae ein gwylwyr ffyddlon yn ngwersyll Seion bob hanner blwyddyn yn gysson yn canu can y llog. Mae cri y llog fel rhyw dune gron ys- brvdol yn Seion yn cael ei chanu gyda thrymder calon; a phan fyddaf fi yn clywed y nodyn cyntaf o honi yn cael ei swnio, y mae bron a'm gyru i'r pruddglwyf am wythnosau Ac er talu'r llog, nid ydyw y ddyledyn llai. Mae'r bnystfil yn fyw, a'i ddannedd llymion yn ei ben wrth dalu r llog, nid ydym ond tori ei ewinedd ac y maent yn tyfu yn gysson bob hanner blwyddyn, heb goll erioed; ac os na thorir hwy yn brydlon, cawn eu teimlo yn trywanu ein cnawd, ac yn tynu gwaed o'n calon. Diolch fod amser gwell gerllaw. Mae addoldai dyledog yn rhwystr i lwyddiant crefydd. Digalona hyn y gweinidog. Lleinw y brodyr a phryder ac ofn. Cyfynga ar y casgliadau Cenadol, Lleiha eia rhoddion at y Cymdeithasau Beiblaidd. Bwyta gyflog y gweinidog. Llymha fwrdd tlodion ein heglwysi. Ya. gafna drysorfa ein hathrofeydd. Cydrhwng y naill beth a'r llall, y mae yn rhwystr dirfawr ar ffordd llwyddiant crefydd, ac yn chwerwi cysuron anwyliaid y nef. Mae rhywbeth yn annaturiol iawn i blant Duw addoli mewn capel dyledog. Gwyr rhyddion yn y jail yw hyny. Breninoedd ac offeiriaid i Dduw yn y carcbar yn cyhoeddi rhyddid i'r byd!