Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

LLUN Y SULGWYN.

News
Cite
Share

LLUN Y SULGWYN. Mae y diwrnod hwn yn nodedig yn Nghymru am bleserau a -chyfarfodydd cyhoeddus, megys, cyfarfodydd ysgolion Sab. bothol a dyddioj, darlithiau, Eisteddfodau, &c., a chredwn fod y diweddaf wedi bod mor gyfoethog o'r trysorau hyn ag un a'i blaenorodd. Yr oeddem ni yn agor ein llygaid boreu Llun Sulgwyn diweddaf yn Nghastellnedd. Wedi cael ar ddeall yn flaenorol fod parotoadau helaeth wedi eu gwneyd er.treulio y diwrnod yn ddedwydd, bwriadem fwynhau v rhan fwyaf o'r dydd yno. Oddeutu un o'r gloch, dechreuai yr ysgolion wersyllu i'w gwahanol gapeli, ac mewn ychydig wele hwynt yn cerdded yn fyddin luosog trwy y dref, yr hyn a ddangosai fod crefydd mewn sefyllfa bur ddymuool yn Nghastellnedd. Clywsom fod Lleurwg i draddodi ei ddarlith orgampus ar Amryw fathau o bobl" yn y neuadd y nos hono. Hiraethem yn fawr am ei glywed ac er ein bod wedi ei gwrando dair gwaith, carem ei glywed dair ar ddeg o weitbiau etto ond gan fod amgylchiadau yn ein gorfodi i ymadael, amddifadwyd ni o'r pleser hwnw y waith hon. Oddeutu pedwar o'r gloch, eawsoni ein hunain yn Abertawe. Wedi cyflawnu ein gorchwyl, ni theimlem un awydd i aros yno, am y gwyddem oddiwrth gynnefinrwydd blaenorol mai eithriad fuasai i ni fwynhau ein hunain. Prys- urasom yn union tua gorsaf rheilffordd Cwmtawe, er cael ein brysio gyda'r ceffyl tâni dreulio y ihan olaf o'r dydd gyda'n cyfeillion anwyl a'n perthynasau serchoglawn yn Nghlydach. Buan y cyrhaeddasom ben ein siwruau, a phan yn disgyn i'r platform, evn cael bamdden i ysgwyd llaw a rhai oedd yn ein dysgwyl yn barod i'n croesawi, canfyddem ar y mynydd o'n blaen rhyw dyrfa luosog iawn banerau yn chwifioynyrawyr, a chyrchu parhaus tuag yno, yn debyg i'r fyddin Roegaidd pan yn ymgasglu ar y maes yn Skamandria, wrth fynecl i ddinystrio dinas Troy. Oeallasom yn fuan mai ysgolion y Bedyddwyr a'r Annibynwyr oeddent, wedi myned yno i fwynbau eu hunain, ac i fagu awydd yn y cylla i roesawi y danteithion oedd yn cael eu parotoi iddynt yn y pentref. Ar ein gwaith yn myned i'w cyfarfod, gwelsom ei bod yn ddydd o agoriad y National School, yr hon a gredwn syad wedi ei chyfodi yn fwy fel gwrthwynebiad i'r British nag er lies y gymmydogaeth; oblegid hyny, ni theimlem un dyddordeb yn yr achos hwu. Yr oedd yno lawer o rwysg ciniaw fras wedi ei pharotoi; yr offerynau cerdd yn chwareu a gwelsom faner fawr yn groged- ig wrth dderwen gerllaw, ar yr hon yr oedd yn argraffedig mewn lIythyrenaullawnion, Success to our School." "Eitbaf da," ebai fy nghyfaill," but nonsuccess to our manner of gaining schollars." Carem ddywedyd gair wrth y eyfeillion hyn; peidiweh proselytio. Erbyn i ni ddisgyn oddiar y mynydd, a digoni ein hunain a'r bara brith a ffrwyth y ddalen werdd, ac yn barod i gaei turn out arall, yr oedd y seindorf wedi gorphen gwasanaethu y church, a phan wedi chwythu allan eu grym, yn rhydd i chwareu i'r Dissenting party. Yn fuan ffurfiwyd gorymdaith drachefn, yr hon a flaenorid gan y Parchedigion Daviesac Owens, Clydach; Griffiths, Ynyspen- llwch; Morgans, Treforis; a Howells, Rumni. Yna y dia. coniaid wedi hyny y seindorf a'r chwibanoglau, yn cael eu harwain gan Mr. Griffiths, Glaish. Yna, oddeutu banner dwsin o bregethwyr ieuainc, ac yn canlyn hyny yr oedd oddeutu pump neu chwecb' cant o bob rhai, yn cael eu llywyddu gan Mr. Jones, draper, ac ereill. Hon oedd yr olygfa hyfrydaf fu yn Nghlydach erioed. Ni freuddwydiasom fod yma agos cymmaint o Ymneillduwyr, a'u bod mor selog dros Annghyd- ffurfiaeth, neseu gweled gyda'u gilydd y Llun Sulgwyn. Mae cymmanfa yr eiyrch ar y ddol gerliaw-rliyw sfon lifeiriog, yn ymlawenhau yn swn eu hadenydd, ac yn llanw y cylchoedd a'u lleisiau felly y cerddai y rhai hyny yn dyrfa luosog o Glyd. ach i'r Glaish, a'r llwch yn cyfodi fel cymylau mwg oddi dan eu traed, a'r offerynau cerdd yn ymddysgleirio fel seren Julius, t'uUesiauyngodenwi y gymmydogaeth, wrth esgyn trwy yr awyr i'r nef. Fel yr arweiniai yr archotFeiriaid yr Israeliaid gynt, felly yr arweinid y dyrfa hon gan y Parchedigion a nod- asom, er dangos i'r cyhoedd eu sel dros yr egwyddorion a bro- flfesant. Yr oedd yr olygfa yn peru i ni feddwl am ddesgrifiad Solomon o'r eglwys filwriaethus, ac i ddymuno brysiad dydd ei chyflawniad Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad,|yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel ilu banerog ?" Wedi cerdded fel hyn am tua dwy awr, ymgasglasom oil o flaen yr Ysgol Prytanaidd, lie yr anerchwyd ni yn fyr gan Davies ac Owens4- Yna ymadawsom, y rhan amlaf, ond odid, mewn gwell hwyl i fyned i'r gwely nag ua- lie arall, am ei bod erbyn hyn tua naw o'r gloch. Gobeithio y gwna y stirhvrn les mawr, er ennill y gymmydogaeth, a gwneyd y rhai sydd yn rhith bro- ffesu egwyddorion annghvdffurfiaeth i fod yn fwy ymdrechgar, selog, a diwyd.—HOMEK.

EISTEDDFOD Y MAENLLWYD, RHYDRI.

TY YR ARGLWYDDI.

TY Y»CYFFREDIN.

--..