Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

Yn awr yn barod, pris 2.. 6c., YBEDYDD CRISTIONOGOL A "THAENELLIAD BABANOD." Gany Parch. J. JONES (Mathetes), Rhumni. Arebebion i'w hanfon at yr Awdwr, neu ynte at y Cyhoeddwr, -W M. Evans, Seren Cymru Office, Carmarthen. Daufonir y Ilyfr i unrhyw gyfeiriad ar dderbyniad ei werth mewn stamps. Rhoddir y seithfed vn rbydd i bwy bynag a gasglo chwech o enwau. Y mae y Jlyfr hwn yn cymmeryd golwg fwy eyflawn ar y pwnc nag un arall sydd wedi ymddangos yn y Gymraeg. Yn awr yn barod, pris dau swllt mewn amleni, a hanner coron wedi ei rwymo yn hardd, Y WEITHRED 0 FEDYDDIO, NEU YMCHWILIAD I DDULL BEDYDD. GAN Y PARCH. H. JONES, LLANGOLLEN. CyNNWVSiAD.—Rhan I, Pen I.-Arweiniad i mewn. 2. Bapto yn yrYsgrifau Clasurol a Chysesgredig. 3. Baptizo yn yr ys- grifau Clasurol a'r LXX. 4. Baptizo yn yr Efengylau. 5. Bap- tizo yn yr Actau. 6. Baptizo yn yr Epistolau. 7. Geiriau ereill yn cael eu defnyddio am daenellu, tywallt, &c. 8. Arferiad yr Eglwys gyntefig. 9. Gwrthwynebiadi daenelliad ar ei gyfodiad. 10. Yr hen fedyddfanau. 11. Arferiad Eglwys Groeg. 12. Tystiolaeth Taenellwyr. 13. Crynodeb o hanesiaeth Bedydd. Rhan 2. ATEBIAD GWRTHDDADLEUON. 1. Y geiriau dyfr- eedd lawer,beirniadaeth ar "hudala polla." 2. Bedyddiad Paul. 3. Bedydd yr Ysbryd Glan. 4. Gwlychiad corff Nebu- codonosor mewn gwlith. 5. Trochi yr aderyn byw yn ngwaed yr aderyn marw. 6. Bapto yn y Datguddiad. 7. Baptizo yn yr Apocrypha. 8. Bedydd a Phuredigaeth yr un. 9. Gwyleidd- dra Gwragedd Dwyreiniol. 10. Yr arddodiad apo, ek, eis, en. 11. Gweddusrwydd a Diogelwch bedydd. 12. Yn nghylch y diafol yn dynwared bedydd, o lustyn Ferthyr. 14. Y Cyfieithiad Syriaeg. NODIADAU DIWEDDOL. 1. Y Pwys o goleddu golygiadau cywir ar fedydd er mwyn llwyddiant yr efengyl yn mhlith y pa- ganiaid. 2. Bedydd a Chymmundeb. 3. Y Pwysigrwydd o lynu wrth y rheol ysgrythyrol i fedyddio. Boed i'r rhai ydynt awyddus i'w feddiannu, anfon am dano yn ddioed. Rhoddir y seithfed rhifyn i'r rhai a gasglant chwech o enwau, ac a ofalant am yr arian. Anfoner am dano at yr Awdwr, neu yr Argraffydd, i Langollen. AT EIN GOHEBWYR, &c. EIN DERBYNTADAU.—Parch. E. Thomas-D. E.-Moses Wil- liams—Mary Jones—Gutto'r Brain-Mary Evans—loan Bach —Cymraes—Homer—Samuel Jonel- Y Dryw-Dewi Eiddil, Clydach B. J.—Didymus—Parch. D. Davies-Parch. H. Jones — Talogwya — J. Jones — W. Samuel Lloyd — Rees Powell. CTMRAES.—Mae yr arferiad y cyfeiriwch ato o adael i'r Myfyr- wyr dori bara, a gwrthod i frodyr da ereill ag ydynt yn bregeth- wyr cynnorthwyol, i wneyd hyny, yn agor drws i lawer iawn o annhrefn. Byddai yn llawer gwell er mwyn trefn a chyssondeb i'r eglwysi ymdrechu yn mhob amgylchiad i ofalu am weinidog- ion ordeiniedig i weinyddu yr ordinhadau, neu fod yn gysson a hwy eu hunaia, i daflu y drws led y pen, a gadael i bawb weinyddu yr ordinhadau. MARY WILLIAMS.- Yr ydych chwi yn ago red i gosp a charchar am adael eich He heb y rhybydd angenrheidiol. Nid yw o un gwahaniaeth nad oedd dim siarad wedi bod am hyny wrth gytuno. Mae arferiad gwlad yn penderfynu y pwnc, ac yn fwy cryf na'r gyfraith ysgrifenedig. WILLIAM MORRIs.-Mae yn dda genym eich bod chwi wedi rhoddi eich enw priodol wrth eich ysgrif; ond wedi y cwbl, pa les gwirioneddol a ddeilliai o ofyn y gofyniadau ensyniadol ? Gwell o lawer fyddai i chwi wneyd y cyhuddiad yn agered a gonest. Yn ein rhifyn diweddat, cyfeiriasom at res o'r rhai rhai hyn, y rhai a ofynid i ddau weinidog ae un Ileygwr. Yr ydym ni o'r farn mai dyma y ffordd fwyaf isel a gwael i ddef- nyddio y wasg ac hyd y mae ynom, yr ydym yn annghefnogi y ffordd hon o frathu yn y tywyllwch. JBNNET.—Yrydym yn hollol o'r un farn a chwi, a byddai yn dda genym glywed oddiwrthych yn amI. JOAN BACH.—Nid ydym yn dewis eyhoeddi eich llythyr yn beirn- iadu ar yr Athraw. Dichon y daw yn well. Gwell i chwi anfon gair at y Dr. Prichard. GWEINIDOG.—Er cyfarfod pwysig y Bedyddwyr Caeth yn Llun- dain, yr ydym wedi cael amryw geisiadau am gopi o'r trust deed y cyfeiriasom ato yn hanes y cyfarfod hwnw. Yr ydym yn ofni nad yw ein cyfeillion yn gwybod maint y drafferth i ni wneyd copiau o'r deeds hyn. Bydd yn well genym dalu am ei argraffn na'i ysgrifenu ddwy neu dair gwaith. Ond nid ydym yn dewis argraffu am ychydig ddyddiau nes y caffom bob cyfleu i aeddtedu y deed sydd yn awr mewn Haw gan Mr. Mote o Lundain. Mewn wythnos neu ddwy ni a hyderwn fod mewn sefyllfa i roddi pob hysbysrwydd ar y pen hwn. Mae yn dda iawn genym allu bysbysa fod ffrwyth y cyfarfod yn Llundain yn dechreu dyfod i'r golwg yn barod, a gallwn eich sicrhau y deillia llaweroddaioniohono. MERCH DRALLODus.-Gan fod deuddeg mis wedi myned heibio wedi genedigaeth y plentyn, nid oes genych unrhyw hawl ar dad y plentyn. Dylai merched fod yn hynod ofalus i wneyd yr hyn ycyteiriwchofewny deuddeg mis i enedigaeth y plentyn, beth bynag fyddo sefyllfa y tad. ELIZA WILLIAMS.-Byddai yn annoeth i chwi ymfudo heb fod o dan ofal rhyw un o'r ystlen arall. Mae y peryglon yn fawr, a dylech gael rhyw un i ofalu am danoch. GWION GocH.-Mae yn annichonadwy i chwi gael eich cario yn rhad i Melbourne yn awr gany Hywodraeth. Rhaid i chwi gaei cynnortbwy trwy law rhyw un ag sydd yn byw yno. EWYLLYSIWR DA.-Mae digon wedi ymddangos ar fater y Gareg Fedd. Nid oes genym le i ddadl ar y pwnc. OFYDDIS.- Y r ydym yn arfer ysgrifenu ein nodion at y gohebwyr ein hunain felly, ni a'ch rhyddhawn chwi oddiwrth y gorchwyl. DEWI EIDDIL.—Os bu y brawd farw yn ddiewyllys, mae y lease- hold yn dyfod yn eiddo y ddwy chwaer, a phlant y brawd a'r chwaer ag ydynt wedi meirw, rhan a rhan yn gyfartal, h.y., rhaner y gweddill yn bedair rhan, a bydd gan y ddwy chwaer hawl i bob o ran, a phlant y brawd hawl i ran rhyngddynt, a phlant y chwaer yr un modd. Nid oes gan fab y chwaer henaf ddim mwy o hawl nalr lleill. Ond cyn y gellir gwerthu y tai, rhaid cymmeryd y peth a elwir Letters of Administration gan un neu y ddwy chwaer sydd yn fyw, yna bydd y teitl yn dda i'w werthu ond gwell fyddai i'r mortgagee i werthu, ac yna rhanu y gwaddol. Gan na tydd y gweddill yn £ 20 i bob rhan, ni fydd eisieu administrato. Y cynghor a roddwn yw, i'r teulu gydune ilu gilydd, ae ymgyngbori a chyfreithiwr yn yr ardal, gan nas gallwch wneyd heb un o'r cyfryw. MR. M. P. PRICE.—Mae silent contempt yn beth o'r guren, ond mae y ffaith yn aros er hyny. Felly, ynte, nid ydych chwi yn meddwl myned. Wel, purion, ni a gawn eich cwmpeini gartref. "Y BEDYDD CRISTIONOGOL," GAN MATHETES; "Y WEITHRED 0 FEDYDDIO," GAN Y PARCH. H. J ONES.- Mae y ddau lyfr hyn wedi dyfod ilaw cant ein sylw yn ddioed, ond nis gallasem wneyd cyfiawnder a'r naill na'r llall erbyn ein rhifyn preientl. B. J. DIDYMUS.—Beth yw ef i chwi, nac ininnau, fod Mr. Davies yn myned i briodi ? JOHN J ONES.-G \Vel weh fod hanes eich cyfarfod eh warterol wedi ymddangos. PARROTS Y PWLPIT.—Mae yn ymddangos yn awr i'r ysgrif hon fyned i'r Swyddfa trwy gamsyniad, gan nad oedd un bwriad i'w chyhoeddi. Mae yn dda genym gael yr esboniad, a diolchwn am dano. Heb i ni gael pethau i'n dwylaw cyn yr elont i'r SEREN, nis gallwn fod yn gyfrifol am danynt. Yr ydym wedi cael mwy o ofid oddiwrth y darnau a gyhoeddwyd heb i 'ni eu gweled nas gallwn ddatgan. Felly, yr ydym am fod yn dra gofalus. Am y darn dan sylw, daeth i ni yn y ffordd arferel. Nid oedd dim i beru i ni feddwl llai nad oedd i fyned i'r SEREN, nes i ni dderbyn yr esboniad. [Drwg genym i'r ysgrif uchod gael ei hanfon i'r Golygydd mewn camsyniad. Dygwyddodd yr awdwr ysgrifenu ar gefn hen erthygl, a thybiwyd fod yr oil i gael eigyhoeddi —CYHOEDDWR.] igg" Danfoner pob hanesion Crefyddol a Chymdeithasol, archeb- ion a thalia,lau, at y Cyhoedrlwr,—Mr. IV. M. Evans, Seren Cymru Office, Carmarthen. Y Traethodau, Gohebiaethan, Gofyniadau, a llyfrau i'w hadolygu, &c., at Rev. Thomas Price, Aberdare. tW Y Farddoniaeth,—Rev. J. Rhys Morgan (Lleurwg), Llan- elly, Carmarthenshire. AT DDERBYNWYR SEREN CYMRU." Dymunwn hysbysu ein darIlen wyr y bydd ehwarter Seren Cymru i fyny gyda Rhifvn 184. Deuddeg Rhifyn fydd yn y chwarter hwn etto, gan i ni golli pythefnos ar ddechreu y flwyddyn. Byddwn ddiolchgar i'n Dosparthwyr am wneyd hyn yn hysbys i'r Der- bynwyr, fel y byddont barod i ateb ein gofynion ddiwedd y mis hwn. Ymdreched ein holl dderbynwyr fod yn brydlawn a rheol- aidd yn eu taliadau, gan fod hyn yn rhwyddhau y ffordd i ni i'w gwasanaethu. Nid ydym yn addaw anfon y SKREN i neb rhag- llaw nad ydynt yn cydsynio a'n hammodau. Bwriedir helaethu SERKN CVMR u ar ddechreu y eh warter nes af, yn nghyd a dwyn i mewn welliannau ereill. Gan y gesyd hyn ragor o gost arnom, hyderwn y gwna ein gweinidogion a'n dos- parthwyr ymdrech ychwauegol i helaethu cylchrediad y SEREN, fel y galluoger ni i ddwyn allan Newyddiadur wythnosol gwir deilwng o enwad y Bedyddwyr yn Nghymru. T-A_3LI-A.ID-A.TT. Derbyniwyd taliadau oddiwrth,—L. R. Cwmllafrod, D. J. R. Llanymddyfri, J. C. Caerdydd, W. G. Ystalyfera, M. M. Waen- fach, J. M. L'anrhystyd, S. T. Penfro, D. J. Pantllyn.

YR WYTHNOS.

YR ODYDDION—Y CYFARFOD BLYNYDDOLr