Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

DIAREBION Y BYD.

News
Cite
Share

DIAREBION Y BYD. GAN Y PARCH. OLIVER EDWARDS. RHIF. III. DENGYS diarebion i ni wvbodaeth helaeth o'r galon ddynol, a thriniant wahanol gymraeriadau bron i ber- ffeithrwydd. Dechreuwn gyda y rhai a draethant ar falchder yn nghyd a ffug ostyngeiddrwydd. Mae gyda'r Persiaid daywediad fel yma,—" Mae yn Hawddach i ti ganfod morgrugyn yn ymsymud ar nos- waith dywyll hanner milltir oddiwrthyt, na chanfodholl symudiadau balchder yn dy galon." Gan nad pa un a ydyw hon yn ddiareb neu beidio yn yr ystyr briodol o'r gair, mae wedi ei llefaru yn rymus dros ben. Yr ydym yn darllen yn y Talmud Iuddewig fod pob coed yn llosgi yn ddystaw ond drain, pa rai a graciant, gan waeddi allan, Yr ydym nihnau yn goed hefyd." Ac ys dywed y llall, Mae pob asyn yn meddwl ei hunan yn aadas i gael ei yru gyda cheffylau'r brenin." A thyma ddiareb Roegaidd ir un perwyl, U Mae rhai dynion ddi- ystyrant falchder & balchder mwy. Cawn unwaith i Plato yr athronydd ganfod un o ddilynwyr Diogenes yn cerdded yr heol gan dynu gweflau cam a gwyneb hir annghyffredin, ei g6t yn llawntyllau, ei. wallt mor an- nhrefnus ar ei ben a llwyth o eithin, a ffon fawr dair llath yn ei law, ac ymddangosai mor wyneb dduwiol a eant perffeithiedig; ohd dacw Plato yn ei gyfarch, ac yn dweyd wrtho, er ei holl bretensions, i fod yn ostyngedig, ei fod yn canfod ei falchder yn saethu allan drwy dyllau ei got; ac y mae yn wirionedd diammheuol fod llawer i lodyn bachyn Nghymru, mor anwybodus a phagan, ac mor llwm a llygoden eglwys-heb na synwyr yn ei ben, egwyddor yn ei galon, nac arian yn ei logell; er hyny, mae mor falch a Lucifer ei hunan. Mae llawer i hen geibwr wrth fon y clawdd, a'i got Iwyd am ei gefn, a'i iacsau am ei draed, yn llawer mwy hunanol na'r bon- eddwrayrah.eibioiddo yn ei gerbyd. Tybia llawer corach pedair troedfedd nad oes ei fwy mewn bodolaeth —edrycha yn ddiystyrllyd ar ddynion sydd filldiroedd yn uwch nag ef yn llechres dealldwriaeth, a theifl ei linyn mesur dros ddyaion nad yw yn addas i ddal can- wyll iddynt pan yn golchi gwadnau eu traed. Nid oes ditn yncaelei ddweyd na'i wneyd wrth fodd y dyn hunanol hwn. Pan yn gwrandaw pregeth dda, mae efe yn sicr o gael allan rhyw gruglwyth o feiau ynddi. Ni chan y cantorion, ni flaenora'r diaconiaid, ni feirn- 'f iada'r bejrniad, ac ni ysgrifena r golygydd, wrth ei fodd ef. Efe yw'rcyatafi lefaru, ond yr olaf i wneyd mae ei dafod mor hir a.choes rhaca, ond mae ei fraich mor fyr a phen ei drwyn. Pa le bynag y bydd, mae am i bawb wybodei fod ef yno ond nid yw fod pob hen badell bres yn gwneyd llawer o siin yn un prawf fod yno lawer o sylwedd, ac ys dywed yr hen ddiareb Gym- reig, Nid wrth ei big mae prynu ceffylog." Nid gwlaw y taranau, ond y gwlithwlaw, sydd yn ad- fywio y llysiau; nid fflachiadau tanbaid y mellt sydd yn aeddfedu y cynhauaf, ond pelydrau dyddiol yr haul. Nid yw y Niagara yn ei gwylltiueb ofnadwy yn ffrwyth- loni tir ei glaijau yn debyg fel mae y Nilus bwyllog yn ei wneyd, yrhon a gyfyd yn ddystaw, ac a lithra ymaith yn ddidrwst. gan adael y wlad ar ei hoi fel gardd barad- wysaidd. Pethau tawel, didrwst, yw pethau mwyaf natur. Cwyd yr haul yn y boreu heb fod neb yn clywed ei swn, a chura ei belydrau ar y ffenestr mor ddystaw fel na ddihunant yr hwn fydd yn cysgu. Mae'r gornant fechan wyllt, a neidia o glogwyn i glogwyn, gan olchi traed y creigiau, yn cadw llawer mwy o swn a rali na'r afon gref a lledan, yr hon a ymlifa yn araf drwy'r dyffrynoedd teg, a ymddengys fel llinyn arian y drlol, ac a ymarllwys yn dawel i fynwes yr eigion. Dynion diymftrost yw'r dynion sydd wedi gweithio eu ffordd yn mlaen yn y byd; nid trwy gadw twrw mae ein pre- gethwyr a'n beirdd, ein beirniaid a'n hareithwyr, wedi cyrhaedd i'r safle uchel a gyrhaeddasant. Nid nerth a glendid corfforol, nid cyfoeth ac anrhydedd daear, nid ymffrost dy dafod na balchder dy galon a'th wna yn ddyn. Tielli fod yn chwe troedfeddo hyd, ti elli fod mor gryf a hen gewri boreuol Cymru, ti elli gael dy roesawi at fyrddau pendefigion, ie, ti elli gael dy oreuro A ag aur, a'th wiago a pberlau, ac etto heb fod yn ddyn. Fel y dywed Dr. Watts:- '4 Were I so tall as to reach the pole, Or grasp the ocean with a span, I must be measured by my soul— The Mind's the standard of the man." Mae genym amryw ddiarebion gyda golwg ar y dyn- ion hyny sydd yn llawn bygythion i gyd, ond ydynt yn analluog idd eu dwyn i ben. Dywed yr un Ladin- aidd, Y ci mwyaf ofnus sydd yn cyfarth fwyaf." Dywedyr un Germanaidd, "Dau beth y dylai dyn gymmeryd gofal am danynt, sef.dwfr llonydd a chi dystaw." Arwydd dda iawn yw clywed ci yn cyfarth yn go uchel—nid oes eisieu ofni llawer ar hwnw; ond dyna'r ci i'w ofni fwyaf ddeua yn mlaen at y sawdl yn ddystaw ac heb yn wybod, Dywed yr un Itajaidd, Mae mwy yn cael eu bygwth nag sydd yn cael eu lladd." Athymaun arall ddaeth lawr i ni o Iceland rewllyd ac oer, Ni ddarfu Dafydd ladd Goliath a bygythion." Y ddiareb sydd yn yr Yspaen am hyn ydyw, "Ni fu'r gath sy'n mewian llawer erioed yn dda i ddal a llygod." Cynghor digon da ydyw hwnw, sef, Na ddylai'r ei ddangos ei ddannedd os na all gnoi." Yr ydym yn cael i ddyn unwaith stabbo ei elyn ar ol i un arall ei ladd. Gorchwyl digon hawdd yw i un ddych- rynu'r tarw o ffenestr ei dy, a 'does yn hawddach nag ymddangos yn wrol pan y byddo'r gelynion yn ffoi, ac ys dywed yr hen ddiareb Gymreig, Lion fydd y lygoden pryd na bo'r gath gartref. Mae genym ddi- areb o Seionia yn dweyd fel hyn, Gellwch fentro rhoddi rhaff i'r hwn sydd yn barhaos siarad am grogi." Mae pawb o honom wedi pron gwirionedd yr hen ddiareb hono, ar yr hon I- y .mae Lleurwg wedi bod yn darlithio cymmaint, sef, mai "Nid aur yw pob peth syddyndysgleirio." Gyda golwg ar ddynion ansefydlogeu meddwl, dywed y ddiareb, Gwae a dro o glim i glun fel na feddo beth ei hun." Mae llawer iawn o'r cymmeriad yma i'w cael yn y byd a droant gyda phob a-Jvel, ac a welant bob man pell yn wyn, fel ycânt allan yn y 4iwedd eu bod wedi bod yn rhedeg ar ol eu cysgod. Gellir gyda llawer o briodoldeb gymhwyso ystori'r asen at y dynion hyn. Yr oedd gan arddwr asen unwaith, a rhyfedd mor an- foddlon oedd i'w sefyllfa yr oedd yn galed i'w ryfeddu ami, ebe hi; yr oedd yn gotfbd carlo beichiau trymion iawn. Gofynodd i Jupiter rywddiwrnod am gael newid caniataodd ei dymuniad iddi, a rhoddodd hi ymaith i grochenydd, ond yn lie lleihau trymhau oedd y beichiau. Gofynodd nm gael newid ei meistr wedy'n beth bynag, cafodd ei gwerthu yn y diwedd i grwynwr; ond os drwg cynt, gwaeth wedy'n, nes i'r asen dori allan i ddweyd, Y fath ffwl 'rwyf wedi bod buasai yn llawer gwell i mi aros gyda'm meistri cyntaf; nid yn unig yr wyf yn gorfod gweithio yn galetach pan yn fyw, ond fe aiff yr hen grwynwr yma a nghroen I ar ol i mi farw. Mie'r dyn ansefydlog ei feddwl yn debyg iawn i am- bell gi a welsom rheda yn oi ac yn mlaen nes bron tori ei goesau, a phan ar garlam wyllt ar ol vsgyfarnog cwyJ bran yn ei yrnyl; dilyna hono wedy'n am gae neu ddau, ac erbyn hyn bydd wedicolli'r fran a'r ysgyfarnog. Careg dreigledig ni chasgl foswm; ergyd ar bob pren ni thyr un i lawr. Edrych»'r dyn ansefydlog am adeg fwy manteisiol i weithio; pe cai ef y peth a'r peth, gwnai wyrthiau braidd wedy'n. Mae rhywbeth neu gilydd yn barhaus ar ei ffordd ef. Mae'r bobl yma yn debyg iawn i blant ag sydd mewn rhyw drafferth neu gilydd o hyd un yn dod adref wedi tori ei got, ond nid fe'i rhwygodd hi, ond yr hoelen ymaflodd ynddi; un arall wedi cwympo yn rhondyn ar y llawr, nes cael dolur arswydus ar ei benliniau, ond nid efe gwyrnpodd ei hunan, ond y gareg taflodd e' lawr. Fel hyn yn gywir mae llawer o ddynion ydynt wedi tyfu fyny i'w maint- y ioli; maent yn barhaus mewn rhyw drwbl neu gilydd; 'dyw eu sefyllfa bresenol ddim yn eu taro hwy. Arnat ti mae r bai, gyfaill, ac nid ar y pethau sydd yn dy am- gylchynu Mae yn wir i'r hoelen rwygo dy got ti, -ond b'le oedd dy lygaid ar y pryd fel na welsit yr hoelen, a chadw ymaith oddiwrthi; a thi a ddywedi i'r gareg fwrw yn erbyn dy droed di, ond dy anwiredd noeth yw, dy droed dy hunan fwriodd yn erbyn y gareg, a'r bap& mawr, ti ddylet weled y gareg, a chamu drosti, neu ynta ti ddylet ymaflyd ynddi fel cawr a'i thaflu o'r ffordd- Mae gweithiwr tlawd bob amser yn achwyn ar ei offer; dwg reswm dros bob esgeulusdra, tafla'r bai ar bawb a phob peth ond arno ei hun, fel ag y dywedodd y medd- wyn er ys llawer dydd pan yn gorwedd yn y gwter, Pwy a all attal afiechyd P" Ond y mae y rhan fwyaf o'r dosparth hwn wedi cael gweled trwy brofiad mal diogi ydyw allwedd tlodi." "Nid trwy ddywedyd Mel y daw melusder i'r genau." Nid trwy ewyllysio dodyn gyfoethog, neu yn ddysgedig, y deuir felly. Wrth fod dyn yn ymdrechu myned yn fawr yn mhob peth, a yrt llai na dim. Jack of all trades will never get rich." Cawnhanes fod gan dd) n unwaith un ar bumtheg a- wahanol alwedigaethau-eloehydd, tinker, crydd, gwadd- otwr, mochwr, teiliwr, gwehydd, &c. &c. Yr oedd yn dipyn o bob peth, ond darfu iddo newynu yn y diwedd er ei holl alwedigaethau. Os bod yn rywbeth, bod yfle rhywbeth iawn. "Os clera clera, ac nid codi sovereigns." Gwell bod yn dincer da nag yn gyfreithiwr gwael. Y dyn sefydlog a phenderfynol yw'r dyn llwyddian- nus; yr hwn ni adawai amgylchiadau dibwys ei attal yn ei anturiaethau, ond a weithia ei ffordd yn mlaen yn ddiysgog drwy bob anhawsder, gan wneyd yn egnial bob peth ymafaela ynddo. Nid rhyw geiliogod y gwynt cymdeithas ydym i fod yn y byd, yn troi gyda phob awel, ond dylem fod yn gadarn ac yn sefydlog yn nghanol ystormydd bywyd. Nid yw'r byd yma ddim i fod yn fyd segur i neb mae yma ddigon o waith i bawb, a digon o roesaw i bawb ddod ato. "Llaw y diwyd a gyfoethoga." Dywed diareb wrthym fod Yr Arglwydd yn helpu y rhai hyny a helpant eu hunain," ac un arall a ddywed, Er fod yr Arglwydd yn weithiwr da, er hyny mae yn hoffi cael ei gynnorthwvo." Dylaidyit bob amser wneyd ei ran ef, ac yna ni fydd rhan Duwyn ol. Cawn fod Mahomet yn nghyd a i ganlynwyr un- waith yn teithio trwy anialwch Arabia, ac ar fin nos pan oeddynt yn myned i orphwys, dywedodd un o'i gyfeill* ion, "Yo awr y gollyngaf fy nghamel yn rhydd, a rhoddaf ei ofal i Dduw;" ond Mahomet a'i atebodd, gan ddweyd, Nid fel yna, gyfaill, ond rhodda dy gamel yn rhwym, ac yna rhodda ei ofal i Dduw." Dylai dyn wneyd ei ran ef, a dysgwyl wrth Dduw am y canlyn- iadau.

CYWIRO GWALL.

GORPHENIAD YR YMWELIAD A DINBYCH,…

i TY'E CAPEL FBON OLEF: