Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

CONFFIRMASIWN.

News
Cite
Share

CONFFIRMASIWN. jpfc (Parhad o Rifyn 175*). Gadawsom Mr. Evans gyda'r gorchwyl gofidus ac anobeithiol o geisio gwneyd y casgliadyn lletach na'r cynseiUau set, dangos fod "genym sail gref i gredu" v gwna Duw roi doniau grasol yn bresenol trwy arddodiad dwylaw a gweddi yr esgobion Sen- eddol, oblegid i'r nefoedd gyfranu dylanwad gwyrthiol i'r Samariaid trwy arddodiad dwylaw yr Apostolion. Wonders will never cease." Y mae'r fath ymres- ymiad i gael ei briodoli i wendid y pwnc ac nid i eiddilwch ei amddiffynydd ac nid dyma y tro cyntaf iberchenogsynwyradysgddarostwng ei hun trwy ymdrechu amddiffyn syniadau cyfeiliornus ac anam- ddiffynadwy. Gan fod yr hyn a ddyfynwyd yn siamplau teg o'i appeliadau at y Testament Newydd 0 ar ran y ddefod gonffirmol, efallai nad gwiw dynoethi y gweddill o'i gyfeiriadau at yr un awdurdod (?) ac yn neillduol felly, am mai dangos quality ac nid quantity ei resymau (?) yw y dyben mewn golwg genym. Nid yw y sylw a wna ein hatbraw ar ym- ddygiad "yr eglwys gyntefig" lawer yn fwy ffafriol i'w bwnc nag esiamplau Apostolion Crist." A chaniatau er mwyn rhesymu y byddai rhai o'r hen da dan yu y-<ldefod hon o eiddo yr eglwys Sen- eddol, a ydyw hyny yn profi ysgrythyroldeb yr ar- feriad, ac yn ei gwneyd yn rhwymedig arnom ni ? Onid oeddynt hwy hefyd yn defnyddio mel a phoeri wrth fedyddio ? Rhaid i Mr. Evans wneyd yr un peth mewn trefn i fod yn ffyddlon i'w broffes. Mor bell yr a dynion ar gefn mympwy wedi ffarwelio a ttaes y gwirionedd!! Curir hefyd wrth ddrws yr Enwaediad, ond nid yn fwy Ilwyddiannus nag y ceisir tJynnorthwy yn y manau a nodwyd, oddieithri Mr. E. allu profi fod deddf ordinhad ddwyfol yn rheol gweinyddiad defod ddynol a diles. Pe caniataem er mwyn rhesymu fod Conffirmasiwn yn ordinhad ben- dant berthynol i'r oruchwyliaeth bresenol, a all offeiriad Rhumni brofi fod deddf un ordinhad yn rheol gweinyddiad ordinhad arall hollol wahanol ? Os na all, byddai yr un peth appelio at Lyfr Esther aw gadarnhad i'r ddefod hon ag at hanes yr enwaed- iad yn G-euesis. Ceisia ddangos fod "plant bychain yn ddeiliaid cymhwys i fyned i gyfammod a Duw c oddiwrth ddeddf yr enwaediad OY ac ymdrecha brofi fod rhywbeth tebyg i Gonffirmasiwn o dan yr hen oruchwyliaeth, sef dwyn y plant at y doctoriaid i gael eu holi yn gyhoeddus" pan yn dair ar ddeg oed." "0 hyny allan," ebe ef, "gelwid hwynt yn feibion y ddeddf,' yn arddangos eu bod bellach o dan rwymau eu hunain i gadw y ddeddf, ac yn gyf- rifol am ei thori." Dyma i ni gawl blasus Os oes Illodd dwyn y tryblith hwn i ryw fath o drefn, ym- ddengys mai fel y canlyn y dylid ymlwybro yn ol duwinyddiaeth offeiriadol Rhumni. 1. Enwaedid y gwrrywod Iuddewig yn wyth diwrnod oed o gan- lyniad, dylai gwrrywod a benywod gael dwfr ar eu talcenau pan yn bythefnos, tair wythnos, neu fis oed. 2. Yr oedd yr Enwaediad yn arwydd o gyfammod cenedlaethol rhwng Duw ac Abraham o ba her- Wd, y mae Taenelliad yn arwydd o ryw gyfammod *hwng y Nefoedd a'r rhai y taenellir dwfr arnynt. Byddai rhai o'r Iuddewon yn dwyn eu plant i gael eu holi gan y doctoriaid pan yn dair ar ddeg o ha herwydd, y mae offeiriad Seneddol y wlad °n i holi y plant, ac esgobion Seneddol i osod dwy- avp arnynt i'w conffirmio. Dyma y cynseiliau a'r casghadau (?), ac wele hefyd y gyfatebiaeth (?) ytedd sydd rhwng y naill a'r llall o'r amgylchiadau! r erem ni feddwl fod Iuddewaeth a Christionogaeth gyfundraeth hollol wahanol—fod y naill ec«i ei bwrw allan i'r dyben o roi lie i'r llall, fel nas dar ?n yr yagrif ddiweddaf, yn lie codi seirff tanllyd," I • codi seirff pres;" ac yn lie digloff," dar. disgloff." gall unrhyw sefydliad fod yn Iuddewig ac yn Efeng- ylaidd ar yr un pryd ond dengys y dduwinyddiaeth Zy mewn cwestiwn nad oeddem yn deall egwyddorion cyfundrefu y cymmod. Gwir nad yw Mr. Evans yn haeriuyn ddiamwys fod Conffirmasiwn wedi dod yn lie yr holiad gan y doctoriaid Iuddewig, ond y mae mewn modd amlwg yn awgrymu hyny, pan yn dweyd eu bod hwy (y plant Iuddewig), bellach, dan rwymau eu hunain i gadw y ddeddf, ac yn gyf- rifol am ei thori," ac ysgrifena am y peth mewn cys- sylltiad a'r "addunedau o du'r dyn yn y bedydd. Ond yn hytrach na manylu ar eiddilwch dadleuol y pamphlet ger ein bron, gwnawn yn fyr wahodd sylw ein darllenwyr at rai o niweidiau ofnadwy Con- ffirmasiwn, fel y byddo i'r ystyriol dalu yr un com- pliment i'r ddefod ag a delir gan yr oen i'r llewpard, a chan lone i erais bervalus. 1. Y mae'r arferiad o gonffirmio yn dinystrio per- sonolrwydd crefydd. A wyt ti yn credu ? yw gof- yniad yr ysgrythyr; ond crefydd by proxy, mewn rhan, yw egwyddor sylfaenol taenelliad babanod a Chonffirmasiwn. Ai nid dysgu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr ArglwyddJ rhoi siamplau teilwng o'u blaen, gweddio drostynt, a gadael iddynt ffurfio barn am grefydd, ac ufyddhau yn ol eu hewyllys, yw dyledswydd rbieni ? Gan mai o'r amser y con- ffirmir ef y mae'r plentyn i fod yn gyfrifol am dano ei bun, ai nid o'r adeg hono befyd y mae i deimlo mai peth personol yvt crefydd ? Os oes rhyw beth yn libel ar grefydd bersonol, y mae ymddygiad rhieni, ac ereill, yn dod a llwyth cart o grytiaid a chrotesi annuwtol at esgob i gael eu gwneyd yn gyf- rifol, &c., yn sier o fod felly. 2. Nid yw offeiriadaeth orthrymus y Senedd (fel yr awgrymwyd) yn cydnabod cyfrifoldeb dyn cyn ei gonffirmio. Dysgir yr athrawiaeth ddinystriol hon yn y modd mwyaf eglur yn y pamphletyn anys- grythyrol ger ein bron. Ar ol tyfu o'r plant i fyny i oedran pwyll," medd ein hathraw, 11 hyny yw, i wybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg, ac yu alluog i ateb drostynt eu hunain, dygir hwynt at yr offeir- iad i'w dysgu a'u holi yn mheilach." Wedi i?r offeiriad gael ei foddloni ynddynt," yna, ar y dydd pennodedigj^feyflwyna hwynt gerbron yr esgob igael eu conffirmio" (tud. 6.) Yn ol y dyfyniadau hyn, nid yw y plant mewn oedran pwyllyn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg," nac yn alluog i ateb drostynt eu hunain," cyn cael eu holi gan yr offeiriad, a'u conffirmio gan yr esgob. 0 ganlyniad, os yw yr athrawiaeth hon o eiddo duwin- ydd Rhumni yn safadwy, gall bechgyn a merched ieuainc bechu faint fyd a fynont cyn y Conffirmasiwn, heb ofni cosp am eu pechod. Dywed un fod llawer o ieuenctyd yn ceisio gohirio en conffirmasiwn er mwyn cael rhyddid i gyflawnu pechod heb fod yn gyfrifol am dano. Os nad yw'r fath athrawiaeth yn drwydded i ddrygioni, v mae yn anhawdd gwy- bod beth ydyw. 3. Er nad ystyrir y plant yn gyfrifol cyn eu con- ffirmio, etto ystyria Mr. E. hwy yn aelodau eglwysig er yr amser y taenellwyd dwfr arnynt, ac felly y mae ganddo rai heb "wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da," rhai analluog i ateb drostynt eu hunain," mewn aelodiaeth eglwysig! Gyda chyfeiriad at arddodiad dwylaw yr esgob, dywed" Beth all fod yn fwy naturiol na gweled gweinidog Duw, yn ol yr hen arferiad patriarchaidd, yn dodi ei ddwylaw ar ben aelodau ieuainc ei eglwys" (tud. 2.) Ai nid aelodau rhyfedd iawn yw rhai nad ydynt yn gwybcjd y gwahaniaeth rhwng da a drwg ?" Pa gyssondeb sydd rhwng aelodiaeth eglwysig a sefyllfa oannghyf- rifoldeb ? Os ydynt yn aelodau ieuainc cyn v Con- ffirmasiwu, paham y naceir y cymmuu iddynt cyn eu conffirmio ? Ai nid ordinhad berthynol i aelodau eglwysig yw'r swper ? 4. Er yr ymdrech a wneir i ddangos nad ydynt yn gyfrifol, etto, rhoddir ar ldeall iddynt eu bod wedi eu hail-eni yn y bedydd—wedi eu gwneyd yn blant i frduw, yn aelodau o Grist, ac yn etifeddion teyrnas nefoedd a bod eu pechodau wedi cael eu maddeu. Hysbysir hyn iddynt gaii yr esgob wrth eu con- ffirmio. Os nad oeddynt yn gyfrifol, pa fodd y gallasent beehu; ac os nad oeddynt wedi pechu, sut y gallesid maddeu iddynt ? Ai trefn y nefoedd yw maddeu pechod cyn ei gyflawnu ? Nid yw yr hyn a draethir gan yr esgob yn wir, ond y mae o angen- rheidrwydd yn tueddu i dwyllo'r plantos anystyriol, y rhai a anerchir ganddo. Episcopaliaid ystyriol, a chwithau Daenellwyr Annghydffurfiol, er mwyn eich hunain a'ch plant, ac er mwyn anrhydedd y grefydd Gristionogol, edrychwch gyda dirmyg gor- uchel ar y seremoni dwyllodrus a dinystriol hon, a gwnaed Mr. Evans ysgrifenu pamphled arall mewn ffordd o apology i drigolion Rhumni, ac ereill, am gynnyg iddynt y fath sarhad a chyhoeddi yr ysgrif anysgrythyrol a niweidiol ger ein bron.

i TY'E CAPEL FBON OLEF: