Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
CYMDEITHAS IECHYD Y BONEDDIGESAU.
CYMDEITHAS IECHYD Y BONEDDIGESAU. Aaacan y gymdeithas hon ydyw casglu a chrynhoi addysg, gwyddoriaeth, a phroiSad o barth i ddeddfau bywyd ac iechyd, a lledaenu yr addysg hono yn mhlith pob dosparth o'r gened 1 sydd yn sefyll mewn angen am dani. Y mae yn cyflawnu y gwaith trwy ddosparthu traethodau bychain ar wahauol fater- ion cyssylltiedig ag iechyd. Nid oes un ammheuaeth nad oes angen mawr am y fath gymdeithas. Y mae miloedd yn gwneyd cam dirfawr â'u iechyd trwy esgeuluso cyflawnu yr hyn y mae hyd yn oed eu synwyr yn galw arnynt i'w wneyd. I ba beth y priodolir yr olwg lwydaidd, wanaidd, ac afiach a ganfyddir ar filoedd o blant, ond i esgeulusdra neu anwybodaeth eu rhieni o ddeddfau cyffredin bywyd. Allan o gant o blant a enir i'r byd, torir qant i lawr cyn bod yn bump oed. "Nid tlodi ac angen yn gymmaint sydd yn cenedlu aficrhyd, ond trosedd o ddeddfau cyfTredin natur." Er fod traethodau y gymdeithas wedi eu cyfaddasu i'r tlodion gyda'r amcan o ddangos iddynt pa fodd i gadw iechyd, ac i wneyd eu cartref. leoedd yn gysurus, gallant fod o les i bob dosparth. Dengys teitlau ychydig o honynt eu natur ymarferol" Gwerth Awyr bur;" "Lies Dwfr pur;" "Gwertb Ymborth Da;" "Mantaia Dillad Cynhes;" "Golchi y Plant" Cartreif newydd y Bnodasferch;" "Y Fam;" "Iechyd Manaau Pa fodd i drin baban Gallu Dwfr a Sebon "Am briodat);" "Dirgetwch Cartref Iach." Y mae y rbai hyn, ya nghyd a lluaws o draethodau cyffelyb, wedi eucyhoeddi am brisiau yn amrywio o ddimai i ddwy geiniog, ac i'w cael yn swyddfa y gymdeithas trwy anfou at Miss Griffiths, 14, 15, Princess street, Carendish-square, Llundain. a
,;
TY YR ARGLWYDDI. Dydd Llun, Mai 18. Symudodd yr Ardalydd Clanricarde am gopiau o unrhyw -adroddiadau a dderbyniwyd oddiwrth unrhyw oruchwylwyr dan y Llywodraeth yn America Ogleddol. Dywedai yr Ardalydd fad ymddygiadau Llywodraeth yr Unol Daleithiau, yr hon oedd yn proffesu bod ar delerau heddychlon a ni, wedi bod mor hollol groes i ddeddfau cydnabyddedig cenedlaethau mewn perthynas i attafaeliad llongau masnachol y wlad hon, fel yr oedd yn arshebgorol angenrheidiol i Lywodraeth ei Mawrhydi ddefnyddio mesu/au mwy bywiog yn y mater nag oeddynt wedi gwneyd hyd yn hyn. Yr oedd yn anoihosibl yr amser presenol i effeithio yswiriad ar longau yn hwylio i'r hanner- gylch gorllewinol, o herwydd yr attafaeliadau parhaus ag oedd yn cael eu gwneyd gan wibtongsu Americanaidd. Pe buasai unrhyw sail i obeithio y cyfnewidiai y eyflwr presenol o bethau yn fuan, neu pe buasai Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn dangos rhyw awydd i barchu deddf cenedlaethau, teimlai ef yn -awyddus i wneyd pob caniatad iddynt; eithr yr oedd yr atta- faeliadau hyn wedi bod yn myned yn mlaen yn awr am gryn amser, ac nid oedd yn gweled un argoel am gyfnewidiad boddhaol oddieithr i Lywodraeth ei Mawrliydi fabwysiadu mesurau mwy egniol a phenderrynol. Iarll Russell, mewn atebiad, a ddywedai fod Mr. Seward, cyn belled oddiwrth ammheu deddf cenedlaethau, yn ei chyd- nabod yn ei holt ohebiaethau, ac yr oedd wedi dweyd fod yn rhaid fod achos cyfreithlon o attafaeliad cyn y gcllid attafaelu llong. Yroedd y Llywodraeth wedi danfon g.,)rchymyn i'r Llyngesydd Milne i anfon. gallu llyngesol digomd i gymmyd- ogaeth Matamoros i'r dyben i amddiffyn llongau Prydeinig rhag attafaeliad annghyfreithlon, ac yr oedd y Llyngesydd wedi ateb fod y porthladd hw nw yn llawn olongau masnachol. Gan hyny, yr oedd yn ymddangos nad oedd gweithrediadau gwiblongau yr Unol Daleithiau wedi ymyru a llongau ag oedd yn masnachu yn gyfreithlawn. Yr oedd achwyniadau lluosDg, yn ddiau, wedi cael eu danfon at y Llywodraeth gan berclien- ogion llongau ag oedd wedi cael eu hattafaelu, ac yr oeddys wedi cyfeirio pob un o honynt at swyddogion cyfreithiol y Goron, pa rai oedd wedi datgan y farn nad oedd tir rhesymol i wrthwynebu dedfrydau y gwobr-lysoedd Americanaidd. Nid gwiw celu y ffaith fod llawer iawn o longau a adeiladwyd er mwyn buandra, yn brysur gyda'r gorchwyl o dori ygwarchae; ac yr oedd yn ofni pan yn attafaelid un o'r llongau hyn, mai arfer y perchenogion oedd dyfod ar unwaith i'r Swyddfa Dramor, yn holl bwysigrwydd diniweidrwydd camdriniedig, i h&wlio iawnhad. O'r tu arall yr oedd yr Americaniaid yn teimlo yn ddigofus iawn o herwydd yr hyn a ystyriant ym- ddygiad anrighyfiawnadwy Lloegr yn parotoi ac yn danfon allan yr Alabama i ysglyfio ar eu masnach ond yr oedd yn credu mai dymuniad didwyll pobl Llcjegr oedd peidio ymyru yn annheg yn yr ymdrech ag oedd yn awr yn myned yn mlaen yn America. Dydd Mawrth Mai 19. Symudodd Arghvydd Ebury ail-ddarlleniad ysgrif Gwellhad Deddfau UnfFurfiaeth, dyben yr hon yw dileu yr angenrheid- rwvdd sydd yn awr yn gorpliwys ar bob un fyddo yn bwriadu dyfod yn offeiriad, i ddatgan yn JdiiTuantei Fod yn credu yr hyn oil a gynnwysir yn y Ijlyfr Gweddi Cyffredin. Dadleuii ei Arglwyddiaeth mai hyn oedd un o'r achosion ag oedd yn cadw llawer o ddynion ieuainc allan o'r offeiriadaeth. Gwrthwynebai Archesgob Caergaint yr ysgrif, a symudai fod yr ysgrif i gael ei thaflu allan. Yr oedd Esgob Llundain o'r farn, ar ol ystyriaeth priodol, fod y cyfryw ddatganiad yn ddiangenrhaid, ac o ganlyniad yn niweidiol, gan hyny attegai yr ysgrif. Esgob Ty Ddewia ddywedai nad oedd o un pwys sylweddol pa un y dileid y datganiad ai peidio ond gan ei fod yn dram- gwyddirai meddyliau, ac yn rhwystr i ddynionienainc i ddyfod yn offeiriaid, byddai iddo ef gynnorthwyo yr ysgrif. (iwrthwynebid yr ysgrif gan Esgob Oxford ac Arglwydd Lytteltan, a chefnogid hi gan larll Grey ac ar raniad y T1 collwyd hi gan 90 yn erbyn 50. Dydd lau, Mai 21. Cynnygiodd Arglwydd Stanley o Alderley ail-ddarlleniad ysgrif Arian Ariandai Cynnilo. I Yr oedd Arglwydd Redesdale o'r farn na, ddylid darllen yr ysgrif yr ail waith hyd nes y buasai: y Tt wedicael ea fhoddi mewn meddiant o hysbysrwydd pasutoedd syjaiau mawrion yn cael eu dfil mewn ymddiried dros yr Ariaodai Cynnilo, a pha*beth oeddys yn bwriadu gwneyd a'r symiau hyny. Cymmerodd dadi fer lear y pwnc, pryd ycyntoieroddArgl- Brougham gyfleostra i ddweyd ei fod yn cynameradwyo yr ysgrifj a bod yn dda iawn gydag ef i weled fod Ariandai Cyn- nilo y Llythyrdai yn taenu mor helaeth drwy'r wlad hon, ac hefyd yn yr Iwerddon.
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. Dydd Llun, Mai 18. Arglwydd Clarence Paget, mewn atebiad i Mr. Liddell. a ddywedai ei fod yn eithaf gwir fod Syr R.Bromley, y diweddar gyfrifydd-cyffredinol, wedi bod yn cael j £ 300 y ilwyddyn fel golygwyr gwobr gyfrifon. Yr oedd y pwnc o pwy fyddai ei ganlyniedydd yu awr dan ystyriaeth. (Jofynai Mr. Urquhart a oedd y gweinidog Brazilaidd wedi hawlio ei drwydded, nea wedi rhoddi unrhyw hysbysiaeth i Lywodraeth ei Mawrhydi ei fod wedi derbyn cyfarwyddiadaa a ddichon rwystro perthynasau diplomyddol rhwrtg Lloegr a Brazil. Atebai Mr. Layard fod yr oHebiaeth rhwng y Llywodraeth a'r gweinidog Brazilaidd yn awr yn myned yn mlaen, ac yr oedd yn annghyfleus y pryd hwnw i fyned yn mhellach i mewn 'i'r pwnc. Arglwydd Palmerston, mewn atebiad- i Arglwydd John Manners, a ddywedai fod y Llywodraeth yn gomedd rhoddi .odefnyddiau o ba rai y gellid creu cynnen rhwng Mr. Odo Russell a Llywodraeth Ffrainc ac eiddo y Pab. Darllenwyd ysgrif Gweinidogion Carcharau y drydedd waith. Dyben yr ysgrif hon yw caniatau rhyddid i ynadon i dalu offeiriaid Pabaidd am ymweled i charcharorion Pabyddol. Cynnygiai Mr. Black welliant ar y tir y byddai yn niweidiol i garcharorion protestanaidd annghydffurfiol, heb fod o un lies "i garcharorion Pabyddol, ond ni Iwyddodd. [Dywed y Morning Star nad oes achos i un annghydffurfiwr ofidio o herwydd yr ysgrif hon, gan nad yw Annghydffurliaeth yn addysgu ei deiliaid ar gyfer carcharau.] Dydd Mawrth, Mai 19. Mr. Villiers.mewn atebiad i'r Cadfrid »g Buckley, a ddywedai fod y frech wen ar leihad yn holl weithdai Liundain. Syr George Grey, mewn atebiad i Arglwydd Naas, a ddy. wedai nad oedd trwyddedau wedi eu rhoddi yn caniatau i swyddogion milwrol fyned i wasanaeth Amherawdwr China. Fe geisiwyd am ddwy, ond ni chymmerwyd hwy, gan i orch- ymyn o'r Cynghor eu gwneyd yn anofynol. Syr H. Verney a ofynai am ba swm ac ar ba deleran y gwerthid adeiiad Arddangosfa Fa.wr 1862, gyda golwg i wneyd rhan o honi yn amgueddfa i weithiau celfyddydol. Mr. Gladstone a atebai nad oedd ef mewn sefyllfa i roddi hysbysiaeth ar y pwnc hwn, gan nid o?dd y dirpi wywyr wedi cael cyfle i ystyried y mater. Cyfarfyddent ar ddydd lau, a phenderfynent arno. Dygai Mr. Hennessy ymddygiad Prwsia yn mlaen gyda golwg ar y cydymdeimlad ag oedd wedi ddangos tuag at Rwsia yn ei cbreulonderau at Poland, a'r cymhorth sylweddol oedd wedi roddi i'r milwyr Rwsiaidd oedd yn ymladd yn erbyn y Pwyliaid. Gofynai os nad oedd rhoddi arlwyon rhyfel i filwyr Rwsia gan yr awdurdodau Rwsia yn drosedd o ddeddf cededladlaethau, a plia un a oedd Llywodraeth ei Mawrhydi wedi gwneyd unihyw awgrym i Prwsia ar y pwnc. Arglwydd Palmerston a ddywedai mai dyledswydd gallu an- mhleidiol oedd peidio rheddi help i'r naill ochr na'r Hall; a phan y byddai i filwyry naill blaid neu'r Hall fyned ar dirog- aeth y gallu anmhleidiol, dyledswydd y gallu hwnw oedd eu .diarfogi, ac yr oedd yr arfau i gael eu dychwelyd ar ymadaw- iad y milwyr hyny o'r cyfryw dirogaeth. Nid oedd yn barnu fod diwallu y naill ochr na'r ilall ag arlwyon rhyfel yn groes i ddeddf cenedlaethau. Mr. D. Griffith a ddywedai fod yr esboniad diweddaf hwn yn gwpeyd yn ddirym yr athrawiaeth flaenaf, drwy yr hon y diarfogid y milwyr ar diriogaeth anmhleidiol. Mr. Dillwyn a symudai am bwyllgor i holi pa mor bell y gellir gwella y rhaniad presenol o'r gwaddoliadau crefvdilol yn yr Iwerddon fel ag i fod o les i bob dosptrth o d-ieiliaidei Mawrhydi; i chwilio coflyfrau y Ty" am uurhyw benderfyn- iadau a basiwyd er y weithred 40 Sior Ill., p. 67 yn dal per. thynas a chymhwysiad unrhyw weddill o'r gwaddoliadau cre- fyddol yn yr Iwerddon ac i fynegu pa mor bell y cariwyd y cyfryw benderfyniadau i weithrediad. Eiliwyd y cynnyg gan Syr John Trelawny. Mr. H. Seymour a gynnygiai fel gwelliant bennodind dir- prwyaeth freiniol i chwilio fi Imewn i drefn bywiolaethau eglwysig, y ddarpariaeth ar gyfer eneidiau, rhif y bobl- ogaeth a rhif y protestanaid yn mhob bywiolaeth, &c. Eiliwyd y gwelliant, gan Mr. Newdegate. Dadleuai Mr. Whiteside yn erbyn y cynnyg, a gwaaeth araeth rymus. Gohiriwyd y ddadl hyd yr 28aia o Fai. ■ <i —»
[No title]
Ymddeogys fod Garibaldi yn parhau i ddyoddef llaweroddi. wrth y cryd cymmalau, a'i fod yn hollol analluog i ysgrifenu. Teimla ei gyfeillion awydd i'w symud i ryw fan lie y mae sef. ydliadau baddawl. DTGWYDDIAD GALARUs.-Oddeutu dau o'r gloch boreu dydd Sul, suddodd lIong ag oedd yn llwythog at cheryg, yn yr afon ger pont Crown Point, Leeds. Yr oedd y eadben, ei wraig, a phedwar o blant yn cysgu yn y llong ar y pryd-y gwr a'r wraig a'r ddau blentyn ieuengaf mewn un caban, a'r ddau blentyn arall mewn caban arall. Diangodd y cadben a'i wraig ac un o'r plant, bachgenyn deuddeg oed, ond boddwyd y tri phlentyn ereill-bacbgenyn naw mlwydd oed, a dwy ferch, un yn saith a'r llall yn bum mlwydd oed, RHYDDHAD Y CABTHION.—Yn ddiweddar, cynnaliwyd cyf- arfod mawr yn Llundain, o dan nawdd Cymdeithas Rhyddhad y Caethion, i wrthdystio yn erbyn ymdrechion aelodau sen- eddol i lusgo y wlad i ryfel a'r Unol Daleithiau, ac i ofyn am i'r gyfraith yn erbyn adeiladwyr Hongau mSr-ladronllyd gael ei rhoddi mewn grym." Llywyddid gan y Parch. W. Lan- dells, yr hwn a ddywedai, pa faint bynag o wahaniaeth barn oedd yn eu plith o barth i'r achos o'r rhyfel yn America, ei fod yn sier fod pawb yn untrydol yn erbyn rhyfel rhwng Lloegr ac America. Nid oedd un ammheuaeth ganddo nad oedd y teimtad cyffredinol yn y ddwy wlad yn ffafriol i hedd- wch. Yr oedd holl weithrediadau llywodraeth ei, Mawrhydi yn profi nad yw yn teimlo un awydd i fyned i ryfel ag Amer- ica ac o'r tu arall, yr oedd llywodraeth yr Undeb wedi dan. gos eu parodrwydd i wneyd pob peth er gochelyd y fath drych- ineb ofnadwy. Pasiwyd penderfyniad yn condemnio caethwas- iaeth, ac yn amlygu cymmeradwyaeth o ymdrechion y Gogledd i ryddhau y caethion, ac yn galw ar lywodraeth ei Mawrhvdi i arfer pob moddion priodol er attal gwneuthuriad llongau i'r Gwrthryfelwyr yn y wlad hon. Yn y diwedd, mabwysiadwyd deiseb i Dt y Cyffredin wedi ei sylfaenu ar y penderfyniad.
[No title]
Mae rhan o berlau a diemwntau coronog Portugal i gael eff gwerthu er mwyn codi y swm o jS60,000. 1 Daliwyd dyn yn Sunderland dydd Sadwrn ar y dybiaeth Iria efe yw Pennington, llofrudd Eliza Jones yn Llynlleifiad. 0 herwydd cyflwr ansefydlog Greece, y mae Ffrainc wedi anfon llong rhyfel arall i'r Piraeus. Rhoddwyd cyngherdd gan Madame Lind-Goldschmidt yn neuadd St. James er budd yr Ysbytty Breiniol yn Putney** pryd y cliriwyd £ 526. Dywed Mr. Farnall yn ei adroddiad wythnosol fod lleihad 0 5,071 yn rhif y personau sydd yn derbyn cymhorth plwyfol mewn saith ar hugain o Undebau yn Lancaster. Y mae y Parch. Henry Ward Beecher, yn ol y newyddioo. diweddaf, ar gychwyn i gymrneryd taith am bedwar misya Ewrop. Y: mae Senedd Ffrayic wedi ei dadgorffori, ac etholiad cyffredinol i gymmeryd He yr wythnos nesaf. Y mae Mr. Rawlinson a Mr. Farnall yn awr ar eu taith, fel cenadon y llywodraeth trwy y prif drefydd yn-y dosbarth- iadau cotwm, yn gwneyd ymchwiliad pa weithfeydd cyhoeddus y gellir yn fanteisiol eu dwyn yn mlaen. Dywedir nad yw tref Blackburn wedi teimlo ond ychydig oddiwrth gyfyngder swydd Lancaster hyd yn hyn. Y mae masnach yn lied fywiog ar y cyfan, a'r masnachwyr yn lied barod a'u harian. Derbynlodd llywodraeth Twrci nodyn oddiwrth Ffrainc ya erfyn arni ymuno A'r galluoedd ereill i wrthdystio yn erbya creulonderau Rwsia at y Pwyliaid. Dywedir fod rhai Italiaid wedi anfon rhybudd i'r Amher- awdwr Napoleon y bydd iddynt ei lofruddio os bydd iddo barhau i lochesu terfysgwyr Bourbonaidd yn Rhufain. Dywedir fod Iarll Aberdeen yn gwneuthur ymdrech i rydd- hau y Protestant Yspaenaidd Matamoros a'i gydgarcharorion. Dywedir fod ei arflwyddiaeth wsdi cychwjn i Yspaen ar y neges ardderchog hon. Yr ydym yn gobeithio y bydd yo. llwyddiannus. Cadarnheir yr adroddiad am briodas lawchwith y brenia Victor Emmanuel gyda boneddiges—i'r hon y rhoddodd ei Fawrbydi y teitl urddasol o Ardalyddes de Miranores—gan yr holl newyddion o Itali. Priodas lawchwith ydyw pri- odas drwy yr hon uid yw y wraig na'i phlant yn mwynhau gradd ae4etifeddiaetli y g*r. Mae ateb y Llywydd Lincoln i anerchiad Cymdeithas Rhyddhad y Caethion, wedi cael ei dderbyn. Yr oedd yr anerchiad yn dra boddhaol i'r Llywydd, ac y mae ei ateb yn datgan teimladau cyfeillgar tuag at y wlad hon. Mae Arglwydd Clyde (Syr Colin Campbell gynt) yn glaf iawn, ac ofnir fod yrafiechyd yn bygwth y galon o her- wydd hyn y mae ei feddygon yn gwahardd ymweliadau ag ef, gan ei fod yn gofyn tawelwch mawr. 0 y mae amlygiadau newyddion o gydymdeimlad a Pholand wedi cael eu gwneyd yn Norway. Rhoddwyd croesawiad cal- onog i'r Tywysog Czartoryski yn Christiana. Mae dau Dp y Cynghor Eglwysig wedi trwyadl gondemaio Ilyfr y Dr. Colenso, Esgob Natal. ARGLWTDD PALMEHSTOK YN DDIRWESTWU.—Dr. Lees yn ysgrifenu at Ysgrifenydd y United Kingdom Alliance, a ddywed Yr oeddwn yn Romsey yn ddiweddar, ac yr oedd- wn yn ares gyda Dr. Taylor, meddyg Arglwydd Palmerston, a dysgais oddiwrtho ef nad yw y Prif Weinidog byth yn yfed gwin gartref, a'i fod yn ddirwestwr o fewn ychydig." NEGRO DEWR.—Llythyr o Washington, Carolina Ogleddol, a rydd yr hanesyn canlynol am negro dewr a goilodd ei fywyd yn ystod y gwarchae: II Yr oedd bad yn llawn o filwyr ac ychydig o negroaid^yu ymdrechu glanio ar Rodman's Point, ond fe'u gyrwyd hwy yn ol gan gawodydd trymion o fwledi y Gwrthryfelwyr, a tliaflasant eu hunain ar eu hyd ar waelod y bad er diogelu eu bywydau. Yn y cyfamser aeth y bad ar dir, pan y dywedodd un o'r negroaid 'Mae yn rhaid i ryw uo. farw er ein cael ni oddiyma, aphahamllad myfi Co lodd yn bwyllog, neidiodd dros ochr y bad, gwthiodd hi i ddwfr dwfn, a dhan yn neidio i mewn drachefn. cw.ympodd i'w gwaelod & phum bwled yn ei gorff. Ni bu farw yn union, a thorwyd un o'i glmiau a chymhwyf wyd rhan OT asgwrn yn un o'i freich- iau gan Dr. Ware, ond wrth gwrs bu farw druan." YPRBSBYTERIAI D YN Y SGOTLÄ.N D.- Y maeymraniad arall wedi cymmeryd lie yn mhlith Presbytepiajd Ysgatland. Daeth y Gymmanfa Bresbyteraidd Ddiwygi0<Mg, yr hon oedd yn cynnal ei chyfarfod btynyddol yn ddiweddar yn Glasgow, i'r penderfyniad. trwy fwyafrif o 46 yn erbyn 11, i an nog yr ael. odau i ymattal, fel y tcaent wedi gwneyd hyd yma, rhag defa- yddio yr etholfraint; a ehymmeryd y ttwqafyddtbndeb; ond megn cyssylltiad a hyn, hysbysasartt n. ddiarddelid neb 0 Gymundeb yr Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig a ddefnydd- iaiyretholfraint, neaa gymmerai yllwo fFyddlondeb i'w Mawrhydi. Ond yr oedd y penderfyniad hwn yn fwy na allai y lleiafrif, neu ran o hidnynt, ei ddyoddef; ac am hyny, en- ciliodd wyth neu ddeg o weinidogion a henaduriaid o'r Gym. manfa, ac ymgynnullasant mewn ystafell eang, gau hawlio sef- yllfa corf fcrefyddol annibynol, fel y Gymmanfa Bresbyteraidd Ddiwygiedig wirioneddol, neu wir gynnrychiolwyr y Cyfam- modwyr. Y mae y boneddigion enciliedig yn bwriadu ymgyf* arfod yn ystod y mis nesaf i ffurfio en hunain yn gorff cre- fyddol annibynol. GARIBALDI.—Llythyr o Turin a hyabysa i 25 o foneddlj- ion Seisnig dirio yn Caprera rai dyddiau yn ol, er talu ym- weliad a Garibaldi. Talodd y diweddaf ei ddiolchgarwch act yr arddangosiad yma o'u cydymdeimlad, ond ar yr un pryd hysbysai rod yn ddrwg ganddo nas gallai dderbyn ond dau honynt, o herwydd sefyllfa wael ei iechyd. Oddiar 1859. f mae 150 o agerlongau wedi galw yn Caprera, lie na arosai un llong amser yn ol, ac y mae dros 16,000 o bersonau wedi tirio. Y mae pedair o agerlongau Neapolaidd yn dwyn yr enw Gari- baldi. Y mae y cadfridog yn dad bedydd i 4,500 o blant, ac y mae 2,000 o fechgyn wedi derbyn ei enw. Y mae yn ysto" y tair blynedd diweddaf wedi derbyn rhoddiongwerth 16,000 a ffranciau. Y mae y rhan amlaf o'r rhai hyn yn gynnwysedig mewn offerynau amaethyddol. Y mae hefyd yn ystod yr ua amser wedi gwrthod derbyn rhoddion gwertb dros filiwo 0 bunnaui Y mae yn berchenogi 21 o geffylau anrhydeddus, l* o ba rai a anfonwyd iddo o wledydd tramor. 0 herwydd y dt- wylliant y mae wedi wneyd yn y tir a feddianna yn Caprera, 1 mae ei gynnyrch blynyddol yn werth 3,000 ffVanc. Amser y" 01 nid oedd yn werth braidd dim.