Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

HYN A'R LLALL.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL. htythyr at Cadwaladr Jones. ANWYL GYFAXLL,—Dyma fi, am y waith gyntaf erioed' yn anturio anfon atoch trwy gyfrwng y SBREN, ac yr wyf yn credu fod genyf rywbeth teilwng i'w anfon hefyd (yr hyn sydd yn help mawr i fyned yn mlaen, wyddoch). Fel y gohebwyr mawr yma i gyd, yr wyf yn addaw, os bydd i chwi ddiolch am y llythyr hwn, a chanmawl ychydig arno, y cewch un arall yn fuan. Peidiwch a meddwl mai diflfyg talent yw'r achos fy mod yn cymmeryd muy nag un pwnc ar unwaith (canys pa greadur a feiddiai ysgrifenu i'r wasg heb datent); ond z!l am fy mod yn gwybod y tueddfryd naturiol yn mhawb at amrywiaeth, a chwi yn neillduol felly, yr wyf yn dysgwyl y bydd i lawer, heblaw chwi, gael difyrwch ac adeiladaeth wrth ddarllen fy llythyrau; aryr un pryd, nid wyf yn dysgwyl y bydd i mi aUu boddiaw pawb ond os gallaf foddio dwy ran 0 dair o ddarllenwyr y SEREN, byddaf yn cyfrif fy hunan yn llwyddiannus iawn oblegid yr hyn a ddarllenir gan un gyda rhyw hyfryd- wch neillduol, edrychir ar yr un peth gydi diystyrwch gan un arall. Hynod mor hofF y-w dynion gyda phob math o wrth- ddrychau i gael digon b amrywiaeth, ac y mae y Crewr fel pe wedi darparu digon ar gyfer hyn yn ngwaith y greadigaeth. Mewn un lie, yr ydym yn cael y dyfroedd yn Elfen denau ysblenydd, Lyfndeg yn rhedeg yn rhydd." Ond yn y fan mae y scenery yn newid, a chawn "UcheJgadr raiadr dwr ewyn—'n hydrwyllt, Edrych arno'n disgyn Crochwaedd y rhedlif crychwyn, Synu, pensyfrdana dyn I" Hefyd, mae y rhosyn prydferth a pheraroglus wedi cael ei osod yn ngafael y drain ar mieri dyryslyd. Hefyd, mae yr Awdwr gogoneddus yma, yr hwn a wnaeth natur, wedi trefnu hefyd ddigon i gyfarfod a gwahanol duedd- iadau dyn gyda chrefydd yn mha ffordd bynag y mac dyn yn ymofyn pleser, y mae i'w gael yn ei burdeb gyda chrefydd lesu. Tybed nad wyf wedi ysgrifenu digon o ragymadrodd ond yr wyf yn sicr os gall y darllenydd fy nghyhuddo o fod yn faith, nad all neb fy nghyhuddo (yn gywir, beth bynag) o fod yn crwydro oddiwrch fv nhestun, oblegid os nad allaf ddilyn hyn, yr wyf yn rhwym o ganlyn yIlad. Wel, gyfaill, beth ydjrch chwi yn ei fedjdwl am y barnau aneirif sydd y dyudiau hyn yn bod^i yn Eglwys Loegr? Wn i ddim a j^es rhyw un yn bresenol a all ddeall arwyddion yr amserau; ond yri oljkyny a allaf fi ddeall am y pwnc, yr wyf fi yn ofni mai pur ddrwg ydynt. Ai tybed fy mod yn cyfeiliorni wrth ddweyd fod braidd hanner cre- fyddau y byd yn cael lloches dan gysgod adenydd yr eglwys ? O'r fath lu o heresiau dinystriol a geir ynddi Nid wyf yn meddwl fod awdwyr yr "Essays and Re- views," a'r enwogion Dr. Colenzo, yn eithriad i luaws ereill, ond eu bod hwy yn fwy talentog, ac yn fwy an- turus hefyd i gyhoeddi eu barnau. Onid yw yn rhyfedd iawn fod yn rhaid cael y fath dreialon cyn y gellir en diswyddo, pan y maent mor eglur yn dangos i bawb beth ydynt, a hyny o herwydd cyssylltiad anachaidd y yr Eglwys a'r Wladwriaeth ? Ond y mae yn rhaid fod achos i bob effaith, ac eithafnaturlol i minnau yw ymholi beth yw yr achos o'r heresiau a gei,r yn Eglwys Loegr. Wel, "rhydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei Hafar ar y pwnc, ac felly dywedaf fi fy marn. Meddyliwch yn awr am gymmaint yn cael eu dwvn i fvny yn oSfeiriaid yn yr eglwys, yn ei chymmeryd yn hollol fel rhyw gel- fyddyd, na theimlasant erioed y tueddiad lleiaf at gre- fydd o ran ei ysbrydolrwydd. Yn awr dyma y rhai hyn yn eu hanystyriaeth yn tyngu llw o fFyddlondeb i gy- hoeddi geiriau y bywyd tragwyddol, ac i rybuddio y bobl i adael eu beiau, ac i ymofyn am gael teimlo dy- lanwad y creu o'r newydd yn Nghrist Iesu i weithred- oedd da, pan nad ydynt eu hunain erioed wedi teimlo y fath beth. Ac erbvn eu bod yn cymmeryd y gwaith ollbwysig hwn mor gnawdol yn ei holl ranau, y maent yn rhwystro Ysbryd Duw i ymwneyd a'u calonau, ac felly o radd i radd y maent yn ochri at ammheuafeth o wirionedd y Beibl, ac yn y diwedd yn troi yn anffydd- wyr trwyadl! Tybiwyf fod pob meddwl diragfarn yn barod i gredu fod hyn yn ddigon naturiol. Y peth goreu, gan hyny yw ymdrechu cael y ffynnon ynlan, ac heb hyny anmhosibl yw cael y ffrydiau felly oblegid nis gall neb gael peth glan allan o beth aflan. Brysied y dyddiau pryd ag y byddo gweinidogion yr efengyl wedi dyfod yn fwy cydweddol a'r rheolau euraidd o ran eu rhodiadau, ac vna buan y deuai llu i ddweyd o'u. calonau, Ni a ddeuwn gyda chwi." Rhag eich bod yn blino ar fy llythyr, ys dywedai yr hen batriarch T. R. Davies, "gadawaf hynyna yn y fan yn i." Yr eiddoch byth, ITHEL Hews.

. CYMRY YN LLADD EU GILYDD.

AT ELIAS BOWEN, LLANON.

Y LLYFR HYMNAU NEWYDD.

AT WEINIDOGION CYMMANFA CAERFYRDDIN…

RHODD I Dy WYSOG CYMRU.

ENWOGION CYMREIG.