Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y DDWY FIL A'R DRYSORFA.

News
Cite
Share

Y DDWY FIL A'R DRYSORFA. MAE yr adeg wedi dyfod etto pan fydd yr enwad yn cynnal cyfarfodydd blynyddol y gwahanol Gymman- faoedd trwy Gymru- yn wir, bydd y cyntaf o hon- ynt wedi myned heibio cyn y daw y llinellau hyn o flaen y darllenydd. Yn ein Cymmanfaoedd llynedd cafodd aohos y Drysorfa Fenthyciol sylw ein brodyr 'da, yn weinidogion a lleygwyr. Mae blwyddyn wedi gwneyd gwahaniaeth mawr yn agwedd pethau gyda golwg ar y mudiad pwysig hwn. Yn ystod y flwyddyn Jiiae ymdrechion mawrion wedi cael eu gwneyd—mae y llwyddiant sydd yn barod wedi dilyn y gwaith yn destun syndod pob un sydd yn caru lies a llwyddiant teyrnas Crist. Yr ydym ni yn credu nad yw y Bedyddwyr yn Nghymru erioed wedi deall eu nerth. Mae y flwyddyn hon wedi darganfod rhan o hyny. Mae yr enwad yn meddu nerth, gallu, a dylanwad tu- hwnt i ddim a feddyliodd neb am dano o'r bIaen. Y rhai sydd yn synu fwyaf yw cyfeillion goreu yr enwad. Mae cyfnod newydd wedi agor ar gyfenwad 7 Bedyddwyr yn Ngliymru. Dymajr adeg fwyaf bwysig a fu erioed ar y Bedyddwyr Cymreig. Y "ewbl a ofynwn am dano yn awr yw, undeb a chyd- loeithrediad, a phrophwydyn y bydd y Cymry yn yr oesoedd a ddaw yn diolch i Dduw a dynion am "eithrediadau y cyfnod o 1862 hyd 1867. Mae ein Calon ni yn JIawen wrth feddwl am weithrediadau y flwyddyn o Fehefin, 1862, hyd Fehefin, 1863. Mae ya wir nad yw yr holl eglwysi etto wedi dechreu gweithio, ond y mae digon wedi dyfod i'r maes i roddi nodwedd i'r mudiad. 0 Mae y mudiad ei hun yn awr yn great fact—mae yn ddigon cryf bellach i gyhoeddi ei hun uwchlaw pob gwrthwynebiad. Yn y Cymmanfaoedd llynedd nid oeddem yn gwybod yn jawn pa beth oedd oreu i'w wneyd. Rhai a feddyl- ient mai goreu oedd ffurfio Trysorfa i Gymru yn Unig, ereill a feddylient mai y peth goreu oedd uno a Thrysorfa Llundain, a thaHu ein holl arian yno a thai a dybient yn well ffurfio cymdeithas yn Nghymru yn ganghen o Drysorfa Llundain. Mae yn iawn i ddweyd fod y Pwyllgor Gweithredol yn hollol o'r teimlad mai uno a Llundain oedd oreu. Agorwyd go- bebiaeth i'r perwyl hyny, a chredodd y Pwyllgor pan gyfarfu yn Llanelli fod y ffordd yn rbydd i'r Cymry ffurfio cangen gymdeithas o Gymdeithas Llundain, ond taflwyd goleuni pellach ar y mater er cyfarfod y Pwyllgor yn y Casnewydd. Yna nodwyd is-bwyil- tor i dynu i fyny gyfansoddiad i'r gymdeitbas newydd, ac i ddwys ystyried y ffordd oreu i weith- tedu—pa un ai uno a Chymdeitbas Llundain ai ynte ffurfio Cymdeithas yn Nghymru, a hono yn annibynol ar wahan oddiwrth bob un arall. Grosodwyd yr ohebiaeth o flaen y Pwyllgor hwn—awd i mewn yn fanwl iawn i'r holl fater, a phenderfynwyd yn un- frYdol i sefydlu Cymdeithas i Gymru ar wahan i LIundain. Dartu i'r Pwyllgor yn Abertawe gadarnhau yr hyn ag oedd wedi ei wneyd gan yr is- "Wyllgor yn Nghaerdydd. Mae y Pwyllgor Gweithiol yn unfrydol yn myned i gymmeradwyo i sylw y cyf- arfod cyffredinol yn Awst y priodoldeb o sefydlu gymdeithas i Gymru yn annibynol ar, ac ar wahan Gymdeithas Llundain. Yr ydym ni yn teimlo yn sicr o hyn, pe byddai yn ddichonadwy i Dob tanysgrifiwr fod yn wyddfodol yn y cyfarfod cyffredinol yn Awst, y byddai rhesymau y Pwyllgor, gyda y »ohebiaethau rhwng Cymdeithas Llundain ^>wy%or» i fod yn foddion iargyhodedi 999 o bob 000 o honynt mai dyledswydd y Cymry yw sefydlu ymdeithas i Gymru, Mae yn wir nad yw pawb o Syfeillion y mudiad yn gweled hyn etto, ond ni a yderwn na fydd iddynt daflu un rhwystr ar ffordd y ^udiad. Gallwn sicrhau pawb o'n darllenwyr fod y wyllgor o'r dechreu wedi gweithredu yn y modd goreu er lies y Bedyddwyr Cymreig yn neillduol, a'r gyfenwad trwy y byd yn gyffrediriol. Mae yn 6 Wng o sylw hefyd fod aelodau y Pwyllgor, gan faint oedd eu dymuniad ar y cyntaf i uno a Llundain, yn awr am weithredu ar wahan, a hyny trwy argyhoeddiad wrth chebu a gwyr Llundain. Mae dywedyd fod gwyr Llundain yn fwy adna- byddus, yn fwy diogel, yn fwy hyn, ac yn fwy'r llall, y fath o libel fach dawel arnom ni y Cvmry-libel ar ein cymmeriad fel dynion cyhoeddus, a dynion, a'n cymmeryd gyaa'n gilydd, ydym mor adnabyddus a Phwyllgor LIuodaio-líbel ar ein gonestrwydd, os tybir nad ellir ymddiried y swm a ddaw i law y try- sorydd a'r vmddiriedolwyr sydd genym yn awr, neu a ddewisir gan y cyfarfod blynyddol cyffredinol yn Awst-libel yw arnom ni i ddywedyd" nas gallwn drafod cymmaint a hyn o faterion yr enwad. Onid ydym wedi cael prawf o hyn yn sefydliad a dygiad yn mlaen Athrofeydd Pontypwl a Hwlffordd, a cbawn hyny yn mhellach yn Athrofa y Gogledd. Am Gymmanfaoedd Cymru, maent ar bob golwg yn rhagori ar Gymmanfaoedd yr enwad yn Lloegr. Bydd Cynnadledd y Gymmanfa leiaf yn Nghymru eleni yn fwy lluosog, bywiog, a dylanwadol na ebyf- arfod Undeb yr holl Fedyddwyr trwy y deyrnas yn Llundain mis Ebrill diweddaf. Y gwir yw, mae sefyllfa yr enwad yn Nghymru yn inhob ystyr yn tra rhagori ar sefyllfa yr enwad yn Lloegr. Yna, yn enw pob peth, pa eisieu sydd i ni daflu ein holl arian i'w trafod yn Lloegr sydd, pan allwn wneyd hyny yn well, yn rhatach, a llawer mwy effeithiol na allant hwy yn Lloegr wneyd ? Ie, meddai rhai, mae Trvsorfa Llundain mor fawr-dros £ 50,000. Mae y sawl a ddywedo hyny yn euog o ddywedyd anwir- n edd pwysig. Nid yw Trysorfa Gyffredinol Llundain yn gwbl ^68000, yr byn a all y sawl fyno weled ond darllen y mynegiad olaf oil. Mae wedi cyrhaedd y swm hyn yn mhen dwy flynedd ar bumtheg. Mae ein gobaith ni yn gryf iawn y bydd Trysorfa Cymru yn fwy ni hyn cyn pen y pum mlynedd. Mae yn dda iawn genym weled fod Cwrdd Chwar- ter Sir Fon wedi penderfynu taflu ei ddylanwad o blaid y Drysorfa Gymreig. Diolch yn fawr iddynt am hyny. Mae yn bleser genym weled fod Mr. Llewelyn Jenkins yn cael derbyniad mor galonog yn y Gogledd. Dichon fod pobl Llanelian wedi eu bwriadu gan yr Hollalluog i fod yn foddion, fel poteled o soda water, i oeri tipyn ar y brawd anwyl Jenkins, rhag i'r steam godi yn rhy uchel. Mae yn rhaid i ni gael ein cadw lawr dipyn, ac felly y gwnaeth pobi Llanelian; er hyny, trueni oedd hyn. Mae James James yo un o blant eglwys Calfaria, ond yn hyn nid yw yn debyg i'w fam. Mae yn dda genym ddywedyd yn mhellach, fod yr arian yn dyfod i mewn bob dydd-mae cannoedd yn llaw y Trysorydd yn barod. Yr oedd Mr. Ben- jamin Lewis, aelod parchus, a swyddog ffyddlon yn eglwys Hermon, Nantyglo, wedi addaw z650 yn y pedair blynedd, ond mae ef yn barod wedi talu y £50 yn llawn, tra y mae yr arian yn dyfod o'r Deheu a'r Gogledd. Mae yn wir fod y peiriant wedi symud, ac nid oes un gallu mwy a all ei attal; ond byddai eydundeb a chydweithrediad yn llawer o help iddo fyned yn y blaen.

ATHROFA. PONTYPWL.

ENWOGION CYMREIG.