Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

- Y BRAWDLYSOEDD.

News
Cite
Share

Y BRAWDLYSOEDD. SIR FRVCHKIKIOG.—Hwyr dydd Iau, Mawrth 19eg, cyr- naeddodd Syr John Mellor, Aberhonddu, gyda'r rheilffordd, ac 8gorodd y llys am 11 o'r gloch boreu dydd Gwener, a phrof- Wyd y carcharorion canlynol :-Ni chafwyd ysgrif yn erbyn Alfred Ashbum, yr hwn a gyhuddid o dyngu anudon yn Brynmawr, Awst 16eg. Rhyddhawyd Catherine Kemp ac Anne Lane, y rhai a gyhuddwydo'r un trosedd. Rhyddhawyd John Morgan a John Huish, a gyhuddid o sarhad ar William Fothergin Tucker, ar y ffordd fawr, ar y 3ydd o Chwefror, 1861.—Henry Foster, aliat Culverbank, a Caroline Williams, gafwyd yn euog o ledrata oriawr, gwerth £ 4, eiddo John Morgan, yn Aberhonddu. Dedfrydwyd Foster i bum mlyn- o galedwaith, a Williams i 18 mis o garchariad.—Thomas Williams, goruchwyliwr Yswirol, a gyhuddid o gadw *tfan drwy dwyll pan yn oruchwyliwr i'r Friend in Need Society." Cafwyd ef yn euog, ac a ddedfrydwyd i naw mis o garchariad. Charles Dixon, am ledrata siaced, gwerth 10s. 6ch., eiddo James Fowler, Brynmawr.-pedair blynedd o galed- "aitb. Edward Phillips, am ledrata par o fotasau gwerth 10s., eiddo Geo. Winterson, yn Brynmawr,—pedair blynedd o galedwaith. Rhyddhawyd Ann Hinks, a gyhuddid o ledrata pir o fotasau yn Aberhonddu. Rhyddhawyd John Rees hefyd. gyhuddid o ledrata oriawr. Rhyddhawyd William Rowlings, gyhuddid o godi atian drwy dwyll. John Price, am dbri i dY John Nicholls, a lledrata amryw bethau oddiyno,—dwy Syaedd o galedwaith. William Thomas, hawker, am basio arian drwg yn "Nghrughywel,—dwy flynedd o garchariad. Cafwyd Thomas Davies hefyd yn euog o'r un trosedd, a ded- frYdwyd ef j ddwyflynedd o galedwaith. SIR DHEFAIDWTK--Agorwyd brawdlys y sir hon, gerbron "!r. Barwn Bramwell. ar y 13eg o'r mis hwn. Yr unig achos 0 bwys oedd prawf Edward Edwards, John Jerman, John lones, a James Mills, ped-var gweithiwr o ymddangosiad parehus, a gyhuddid o achosi terfysg yn Llanidloes ar y 12fed 0 fis Gorphenaf diweddaf. Yr achos o'r ewyn hwn oedd yr etholiad diweddar yn air Drefaldwyn, pan y dychwelwyd Mr. W. Wyun (CeidwaJwr) gan fwyrif mawr yn erbyn Cadben *facey (Rhyddgarwr), yn awr Arglwydd Sudeley. Yragyn- o 400 i 500 o ddynion yn Llanidloes, y rhai a ym- jhechent attal pleidwyr Mr. Wynn i roddi eu pleidlais. Ded- frydwyd deuddeg o'r prif arweinwyr i sefyll eu prawf; ond ni chafwyd ysgrif yn erbyn ond ypedwar uchod. Cafwyd hwy JQ euog, a dedfrydwyd hwy i dri mis o garchariad. SIR FEIRIONYDD.—Mawrth 14eg, agorwyd brawdlys y 8wydd hon yn y Bala, gerbron y Barwn Bramwell, a phrofwyd y carcharorion canlynol :-George Chapman am ledrata par o esgidiau,—wythnos o garchariad. Henry Wood, a gvfaddef- Odd idelo dori i dt Cadben Parke, a lIed rata lIwyau arian, &c.t Oddiyno.—Dedfrydwyd ef i dair blynedd o galedwaith. Tbos. Anderson a Mary Ann Caledine, hawkers, a gyhuddid o ys- Peilio David Owen o £70, yn ffair Dolgellau, ar yr 16eg o £ agfyr diweddaf. Wedi hoji amryw dystion, ac i Serjeant ^ee8, o Ferthyr Tydfil, brofi fod y gwrryw wedi ei ddwyn Serbron yr ynadon o'r blaen dan y cyhuddiad o ledrad, dyg- !*yd y rheithfarn o euog yn erbyn y ddau garcharor, a ded- frydwyd hwy i wyth mlynedd o galedwaith.

[No title]

MERTHYR.

MYNEGYDD T GOFFADWRIAETH.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

[No title]