Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

AT WIR IFORIAID CYMRU BENBALADR.

News
Cite
Share

AT WIR IFORIAID CYMRU BENBALADR. ANWYL FRODYRt-Wrthgyfeirio fy ysgrif atoch fel hyn, y mae hyny ar unwaith yn rboi ar ■ ddfall i chwi fod genyf rhywbeth i ddweyd wrthych; ac mor sicr ag y mae rhwymau ein cytundeb yn rhwymo pawbohonom yn un, dros leisiant ein laith, ein Gwlad, a'n Cenedl, y mae a fyno fy nhraith & phob Ifor yn ddiwahan. Yr wyf yn ystyried, ac yn cydnabod fy annghymhwysder i ddvsgu cannoedd os nid miloedd o'm cydfrodyr, ag sydd yn bresenol yn milwrio dan faner Iforiaeth; er hyny, pan yn gwybod nad yw Iforiaeth yn cynnyrcbu yr holl effeithiau hyfryd hyny, ac yn sicrhau i;ni yr holl bethau da y bwriadwyd hi (er yn sicr y gall), ar ddyngarwct), gwladgarwch, a chenedlgarweh yr Hen Genedl," y mae yn llawn bryd i ni fel Iforiaid i arfer y eymhwysder sydd ynom er urolygu y moddion ydym yn ymddiried ynddynt am ddiogelwch cenedlaethol, a profi-eu heffeith- ioldeb yn ngwyneb yr ymosodiadau- sydd arnom yn bresenol, a barnu oddiwrth effaith a dylanwad moesol a chenedlaethol Iforiaetb ar y genedI. am yspaid saith ar hugain o flynyddau, pa un ai breuddwyd ai ffaith yr ydym yn ei goleddu, pan yn bloeddio allan gyda sel a Drwdfrydedd cymdeithasol, Tra M6r Tra Brython," Oes y byd i'r Iaith Gymraeg," Cymro, Cymru, a Gbymraeg, &c., &c., ac os llwyddaf i dynu sylw fy nghydfrodyr at y pethau yr ydym yn rhy barod o'u diystyru a'u hesgeuluso, o herwydd ein diogi a'n an- ffyddloudeb, ystyriaf fy hun wedi cyflawnu dyledswydd ag sydd wedi ei hesgeuluso er ys blynyddau; ac am yr hon, fe dJichon mai melldith a rheg sydd yn fy aros gan lawer. Mor bell ag yr wyf wedi deall, y mae yn ymddangos i mi fod holl amcanion y sefydliad Iforaidd yn cael eu cyrhaedd yn llawer gwell na'r un mawr a mwyaf angen- rheidiol, sef, coleddu ein Iaith a wedir gan filoedd, a choethi a diwyllio ein Ilenyddiaeth a ddibrisiwyd ac a annghofiwyd dros gyhyd o amser; a byny, am nad ydym yn talu sylw i'r naill beth fel y llall. Gwyddom fod coleddu ein iaith a'n Ilenyddiaeth yn un o brif amcanion yr urdd, a dyma y pethau mwyaf angenrheidiol arnom fel cenedl, er ein cadw rhag myned yn ysglyfaeth i ddylanwad difaol y Saeson a'r Saesneg; ac er mwyn hyny y gwelodd sylfaenwyr Iforiaeth ynoreu ymrwymo pob aelod trwy rym egwyddorion at hyn o ddyledswydd ac oni bai hyn, beth yw Iforiaeth yn welt i'r Cymro nag Odyddiaeth, neu rhyw sefydliad tebyg arall. Y maeeu buddioldeb mewn amgylcbiadau o gyfyngder, a mar- wolaeth, bron yn gyfartal; o ganlyniad, nid yw y naill yn well nâ r llall ar y tir hwnw. Er hyny, yr ydym yn credu mai Iforiaeth yw'r sefydliad y mae y Cymro yn ei garu fwyaf, a hyny am mai er ei les, ei gysur, a'i lawen- ydd ef yn benaf y sefydlwyd yr urdd a'i holl ragorfreint- iau, er codi y Cymro, Cymru, a Chymraeg. Ond gofynaf yn awr, beth y mae Iforiaeth wedi ac yn ei wneyd rhagor nâ'r sefydliadau ereill, er dyrchafu y Genedl Gymroaidd ? A ellir cyfeirio at ryw welliant sydd yn orgraff ein iaith; at ryw lawer o gyfrolau teilwng wedi eu hysgrifenu er addysg y genedl; at ryw eel a brwd- frydedd Iforaidd dros ddysgu, gwybod, a siarad ein laith a dweyd wrtn ben y cyfryw mai argraff a ddy. lanwadodd Iforiaeth yw byn oll? Yr wyf yn ateb, na ellir; ac y mae pob arwyddion, profiad, a ffaith, o fewn terfynau ein Himdeb hydyn hyn, yn dweyd wrthym mai twyllo ein hunain wnawn, os credwn yn amgen; oblegid y mae y gwrthglawdd cadarn ag oedd Iforiaeth i ffurfio er diogelwch ein Iaith, heb weithio ond ychydig arno; ac hyd nes y del hwnw i ben, yn ofer yr ymdrechir diogelu ein terfynau trwy gadw y llifeiriau draw. Er mai pethau felly y darogenid am ran o ddylanwad Iforiaeth cyn yn awr; ond fel arall y mae. Yr ydym heb un gwelliant yn orgraff ein Iaith, na neb yn ein plitb yn gofalu fawr amhyny; ac er treulio llavver iawn o arian gyda'n Heisteudfod bob blwyddyn, nid oes ond cynnyrch nifer fechan iawn wedi dyfod trwy y wasg; ac, er ein holl ymffrost yn hynafiaeth, gwreiddioldeb, a gallu darluniadol ein Iaith; a'n proffes gyboeddus o'n cariad a'n hymlyniad wrthiy yiJJddygiad cyffredin llu o honom yw, nad yw hi yn werth i ni i brynt llyfr ceiniog, a'i dysgu hi i'n plant; onide, paham yr esgeuluswn ei dysgu hi gymmaint ar yr aelwyd, neu paham na chan- iatawn i'n plant ddysgu Cyroraeg yn yr vsgolion Sul; neu, paham na welem gyffredinolrwyM aelodau ein Cyfrinfaoedd yn rhesu eu hunain yn mtilith dysgedigion ac athrawon v sefydliad tra gwerthfawr hwnw, er mwyn dysgu eu hunain, neu ei dysgu i ereill ? atebed y sawl a fyno yr achosion o hyn, ar yr un tir y trigaf fi. Llawer o bethau ereill y gellid ddysgwyl y buasai i ddylanwad yr Unrieb Iforaidd effeithio cyfnewidiad, os nid chwyldroad hollol arnynt cyn yn awr; megys, ein dwyn fel Cenedl i weled y gwarth a'r anfri yr ydym dano wrth beidio a mabwysiadu enwau Cymreigaidd ar ein heiddo bydol; a galw ein hanwyliaid bychain ar enwau Cymroaidd y Gwroniaid Cymreig; ac amlygu ein parch a'n teimladau da i'n pertbynasau ,madawedig mewn iaith a nodwedd, teitwng o olyfwyr Taliesin, Hywel Dda, Catwg, ac Ifor Hael. Yh wir, pan yr ystyriom fod oddeutu pumtbeg mil o wir Iforiaid mewn cylcb mor fechan, y mae yn rhyfedd i ni na fyddai ynfydrwvdd, brad, i gwarth ein bymarferiadau cenedlaetbol, wedi eu hysgubo ymaith cyn hyn,ac na fyddai dylanwad niweidiol ein hymarferiadau beunyddiol, er dileu coffadwriaeth ein henw o blith cenedloedd y ddaear, wedi cynhyrfu ac ennyn pob bardd y tu allan i Iforiaeth, yn gystalaco fewn, i ddefoydLtio ei athrylitb, pob areithiwr, ei hyawdi- edd, a phob gwladgarwr ei ddylanwad moesol, er achub y Genedl, a sicrhau*ei diogelwch, cyn elo hyny yn or- chwyl rhy anhawdd, ac ofer am bytb. Qpd y gwir yw, mai dibrisdod, diogi, a balchder cyffredinol y genedl, sydd yn nodi holl weithrediadau yr Undeb Iforaidd yn y cyssylltiadau hyn oddiar ei sefydliad ac yn lie bod Iforiaid Cymru yn arweinwyr, noddwyr, a dysgawdwyr y jQenedl, y Genedl sydd felly iddynt hwy. Yn awr, frodyr, ai felly y mae hi i fod ? Onid yw hi yn bryd fod gan Iforiaeth rhywbeth teilwng o'i heg- wyddorion i ddangos i'r Genedl yn brawf o'i gallu, yn yr ystyr yr ydym wedi crybwyll? Adolygwn ein dttil ar- wynebol a ffugiol o weithio allan ein hegwyddorion, a diwygiwn yn mhob peth yr ydym ar fai. Ymdrechwn ennyn a meithrin ysbryd a bywyd Cymroaidd trwy holl gyfrinfaoedd ein Undeb, a bydded i bob brawd ystyried yr angenrheidrwydd o fod mewn egwyddor yr hyn ydyw mewn enw. Rhaid i hyn gymmeryd lie, cyn byth y gwelir Iforiaeth dan ei choron, a'i holl amcanion wedi eu henniil, a'i gwisgo ag arwyddion buddugoliaeth, yn brawf o'i gallu, er diogelwch ein Iaith, ein Gwlad, a'n Cenedl. Mountain Ash. IORWERTH GOCH.

GOHEBIAETH 0 MOUNTAIN ASH.

[No title]

.'Søhtbiutt&uu. -

AT Y PARCH. J. W. MAURICE,…

YR HUGUENOT.