Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
:|Wateri
|Wateri<M (Sgtumsig. Y LLYFR TONAU NEWYDD. "MAE crvn lawer o dwrw yn mhlith ein cantorion y dyddiau hyn am gael y llyfr hwn allan o'r wasg. Y llyfr ag y cyfeiriwn ato ydyw yr un a fwriedir ei rddwyn allan gan Mr. Rees Lewis, o Gaerdydd. Y rheswm, feddyliwn, fodcymmaint o siarad am y llyfr yw, am ei fod wedi cael ei hysbysu yn SEREN CYMRTJ ei fod i gael ei ddwyn sllan yn fuan. Etto, yr ydym wedi eael ar ddeall, os ydym yn cofio yn gywir, mai ar ammod yr hysbyswyd ei fod i gael ei ddwyn allan, sef "fod digon o enwau yn cael eu iianfon i Mr. Lewis er ei ddigolledu yn yr anturiaeth." Gan fod misoedd wedi myned heibio oddiar pan hys. Jbyswyd am dano gyntaf, ac nad oes un sicrwydd, hyd yn hyn, am yr amser ag y mae y llyfr i wneyd ei ym- ddangosiad, y mae amryw o'r cantorion yn dechreu anesmwytho, gan holi asiarad yn ei gylch, a gofyn- ant y naill i'r 11 all,—"Pa beth am Lyfr Tonau Mr. Lewis o Gaerdydd ? A ydyw y llyfr i ddyfod allan ~o gwbl P ac os ydyw, pa bryd y -mae hyny i gym- ineryd lie ?" &c. &c. Pan roddir addewid, mae y Ibobl ag ydynt yn teimlo interest yn yr addewid hono yn wastad yn dysgwyl yn bryderus am ei chyflawn- iad; a chan fod addewid wedi ei rhoddi am yLIvfr Tonau, wrth reswm, y mae ein cantorion yn awyddus am ei weled. 0 herwydd hyn yr ydym ninnau yn teimlo awydd ynom i ddywedyd gair neu ddau ar y pwnc hwn yr wythnos hon ac nid ydym yn meddwl y dylai neb ein beio am hyn o beth, canys y mae ein hawl m, fel Golygwyr, chwi wyddoch, yn dra ielaeth. Yr ydym ni i wybod, neu, o leiaf, i broffesu ein bod i wybod pob peth." Rbaid i ni fod yn Dduw- inyddion, Naturiaethwyr, Henafiaethwyr, Beirdd, ac, ysywaeth, yn Gantorion hefyd yn ein tro. Er, mae yn wir, fod ein swydd yn agored i ni gael llawer ergyd chwimwth, a chic caled beth bynag am hyny, tnae yn rhaid i rywrai ei chyflawnu tra dalio y Wasg i fwrw allan ei chynnyrchion. We!, at ein pwnc—y Llyfr Tonau. Mae dau neu dri o bethau i'w hystyr- ied o berthynas i'r llyfr hwn yn ei agwedd bresenol, mewn addewid." Yn un peth, nid ydym yn meddwl fod llawer o rai cymhwysach at y gorchwyl na Mr. Lewis ac os na chredir ein bod ni yn deall llawer am hyn ein hunain, etto y maegenym dystiol- aethau rhai sydd yn deall, megys Rickards, Casbach, ac ereill. Ar yr un pryd, nid ydym yn meddwl fod Mr. Lewis yn bwriadu dwyn y fath lyfr allan yn hollol ar ei gyfrifoldeb ei hun, ond yn hytrach mewn cyssvlltiad a chwaeth, cynghorion, a chynnortbwy prif "gantorion ein henwad yn gyffredinol. Ac yn hyn, fel pethau ereill, yr ydym yn ystyried mai tnewn amlder cynghorwyr y mae diogelwch. Peth arall i'w ystyried mewn cyssylltiad a'r pwnc hwn yw, nid peth i'w wneyd yn frysiog ydyw. Yr ydym yn credu fod Mr. Lewis yn deimladwy o hyn ei hunan, er, mae yn wir, na fuom ni yn siarad gair ag ef erioed ar y pwnc. Mae Ilawer, oes miloedd, o donau o fewn cyrhaedd ein cantorion yn barod, a'r cyfryw donau wedi eu cyfansoddi ar braidd bob tnesur a feddwn o hymnau, ac y mae yr holl donau hyn yn eiddo i'r cyhoedd (public). Mae hyn yn ein harwain i sylwi ar un peth arall yn y fan hon, sef Dad oes un Llyfr Tonau yn eiddo plaid-yn eiddo rhyw enwad o Gristionogion, yn fwy na'u gilydd. 0 ganlyniad, mae vr holl donau a gyfansoddwyd erioed yn eiddo i bawb. Pwy bynag a gyfansoddodd yr Hen Ganfed—os nad ellir penderfynu, etto mae hi yn eiddo i bawb fel eu gilydd; felly y mae pob ton Wall o eiddo ein holl gyfansoddwyr, o Handel i lawr i'r rhai sydd vn treio eu dawn vn ein cyhoedd- iadau. Dyna Lyfr Tonau leuan Gwyllt, yr hwn a ganmolir yn gyffredinol—acyn haeddu cael ei ganmol yn ol ein barn ni—er ei fod ef yn aelod a gweinidog Methodistaidd; etto, nid yw ei lyfr fel y cyfryw yn perthyn i'r Methodistiaid yn fwy nag i ryw blaid arall-Ilyfr i'r cyhoedd ydyw. Nid oes dim yn enw- adol mewn swn, mewn llais, mewn canu. Felly, go. beithi6 na fydd i neb feddwl mai Llyfr Tonau Enw- adol fydd Llyfr Tonau Mr. Lewis pan ddaw allan, ond LIyfr Tonau i bawb o bobl y byd. Mae rhai o'n pobl ieuainc wedi dychymmygu os byddai i ryw ddyn perthynol i ryw blaid grefyddol gyfansoddi neu gyhoeddi Llyfr Tonau, mai llyfr i'r blaid y per- thynai efe fuasai y cyfryw lyfr. Nis gall dim fod yn fwy camsyniol na pheth o'r fath. Os daw Mr. Lewis a'i lyfr allan, nid llyfr i'r Bedyddwyr a fydd efe, ond llyfr i bawb a ewyllysiant ei brynu. Peth arall sydd eisieu ei ystyried ydyw, er fod llaweroedd o Lyfrau Tonau wedi eu cyfansoddi, ecto, nid yn un o honynt, nac yo mhob un o honynt, y ceir tonau gwerth i'w canu. T6n yma a thon acw yn y gwa- hanol lyfrau a ellir ei mabwysiadu er lies cyffredinol. 0 herwydd hyn, mae ein cantorion wedi gorfod talu mwy am donau diwerth nag am rai gwerthfawr; gan hyny, ni a obeithiwn pan ddelo Mr. L. a'i lyfr allan, y bydd yn cynnwys tonau da trwyddo, a'r cyfryw ar wahanoi fesurau. Maegenymamrywfesurauynawr yn Llyfr Hymnau Harris, ac y mae yn anhawdd iawn, er chwilio yr holl lyfrau t6nau, i gael tonau o werth i'w canu ynddynt ar y cyfryw fesurau. Dyna y mesur I lati a'r 8au wyth llinell, y 7.4 a'r 2.8, y 10au, &c. &c., ni chlywir ein cantorion byth yn canu amgen t6n neu ddwy ar bob un o'r mesurau hyn. Carem ni i Mr. Lewis ddwyn llyfr allan a digon o d6nau da ynddo, os yn bosibl, ar yr amrywiol fesurau, serch cymmeryd cymmaint arall o amser i'w ddwyn trwy y wasg. Ond y pwnc yw, wrth ymholi am Lyfr Tonau Mr. Lewis, a oes digon o ymdrech Wedi ac yn cael ei wneyd tuag at gael enwau tuag ato, fel y gallo yr awdwr gael ei ddigolledu o leiaf; ac hefyd, yn wir, efe a ddylai gael ei dalu yn dda am waith mor fawr. Byddem ni yn cymmeradwyo i'r llyfr i fad yn ddeg o ranau chwe cheiniog, neu ugain o ranau tair ceiniog, fel y byddo yn ddigon o lyfr ar unwaith. Ond ni a adawwn beth fel hyn i rai ag sydd yn deall y gyf- undraeth.
YR HUGUENOT.
YR HUGUENOT. CParhad.) Ah, Jacqueline, paham na ddywedwch wrthyf yr hyn ydych yn feddwl ? A ydych wedi colli eich gwrol- deb? Dywedwch, 'Ni ddywedant gelwydd wrth ddyn. ion, ond wrth Dduw. "Na oh, na! Pa fodd y gallwn ddweyd hyny, fy Victor anwyl. Pa fodd yr ydych yn gwybod? "Yn sicr nid ydych yn gwybod fel yr ydych yn dweyd. Ond yr wyf yn credu mai dyna fel yr ydycn yn meddwl. Cyffeswch Jacquetine Pe dywedech eich rneddwl, byddai fel hyn, Nid wyt wedi dweyd celwydd wrth ddynion ond wrth Dduw, lwfrddyn truenus "Oh, Jacqueline, gall Mazurier dwyllo ei hun Nid wyt yn siarad drosto ef; ond pa beth a wnewch gyda'ch Victor druan, fy anwyl Jacqueline?" Ni phetrusodd am foment-ni chwynodd, ni wylodd, -yr oedd wrth ei hochr. Ei garu i'r diwedd. Fel Efe, pan y carodd ei eiddo." "Eich eiddo, ferch anwyl ? Na. na." Rhoddasoch eich hunan i mi," meddai, mewn Ilais gwrol, gan wasgu ei law. Y pryd hwnw, yr oeddwn yn ddyn," atebai. Ond ni roddaf byth lwfrddyn celwyddog i Jacqueline Gabriel. Pob peth ond fy hunan, Jacqueline! Cymmerwch yr hen eiriau, a'r hen adgofion. Ond am yr alltud hwn, chwi a gewch ei annghofio. Fy Nuw Nid wyt wedi dwyn y ferch hon o Domremy, a-goleuo ei chalon gyda than oddiar dy allor, mewn trefn iddi dy adael di, a dyfod ataf fi On ydych yn caru dyn celwyddog a llwfr, Jacqueline, nis gellwch gynnorthwyo eich hunan bydd yn sicr o'ch gwneuthur chwithau felly. A'r achos i mi eich earn chwi, oedd eich purdeb a'ch gwroldeb. Rhoddais i chwi drysor ag yr wyf wedi methu gadw fy hunan. Yn mha le yr ydych yn byw, Jacqueline ? Nid wyf etto mor llwfr ag i foaarnaf ofn eich arwain. Yr wyf yu meddwl fod genyf ddigon o wroldeb i'ch am- ddiffyn heno, pe buasech mewn perygl. Deuwch, dan- goswch y ffordd." "Na," meddai Jacqueline. "Nid wvf yn myned gartref. Nis gallwn gysgu; yr wyf yn credu pe a i dy y llewygwn yn farw—yr wyf bron'yn methu anBdlu." Ewch, ynte, fel y dymunwch, ond i ba le P" Ni atebodd Jacqueline yr un gair, ond cerddodd yn mlaen yn araf; ac felly aetliant allan o'r dref at lan yr afon-yn mhell i'r wlad trwy y maesydd o dan oleu y s6r a'r lleuad aranaidd. Pe buaswn wedi bod yn bur!" meddai Victor, pe buaswn yn peidio gwrando arno ef. Ond nis gallaf ei feio ef. Yr wyf yn rhyddhau Mazurier. Efallai nad ymddangosodd yr hyn a wadais erioed iddo ef mor ogoneddus ag i mi; os felly yr oedd ef yn ddieuog o'r hyn a wnaethym i. Ond yr wyf fi yn euog. Darfu i mi wadu y gwirioneddyn erbyn argyhoeddiad fy nghyd- wybod. Ond yr oeddynt yn benderfynol o wneyd siampl o honof fi, Jacqueline. Yr wyfyn gyfoethog-yr wyf yn efrydydd. O, ie gall lesu Grist farwjjdroswyf fi, ae yr wyf yn credu hyny; ond pan y mae eisieu dy- oddef drosto-nis gall y fath lwfrddyn a fi oddef hyny. Gwir fod dyn tland fel Leclerc ynfgallu dyoddef; ond y mae Esgob Buconnet a Mazurier wedi dewis ei werthu ac nid yw Victor Le Roy yn well dyn, nac yn fwy gwrol dyna n hwythau." Fel hyn, aeth yn mlaen am amser maith i gyhuddo ei hun tra yr oedd Jacqueline yn ceisio codi ei meddwl at Dduw mewn gweddi ond rywfodd yr oedd yr awyr yn gymmylog—yr oedd satan yn ceisio ei guddio oddi- wrthi. Mae Mazurier yn dvfod yn y boreu i'n cymmeryd gydag ef, Jacqueline," meddai Victor. Yr ydym am fyned ar daith." Pa beth, Victor ?" gofynai yn dawel. Yr oedd yn rhaid iddi fod yn amyneddgar—yr oedd yn gweled hyny yn amlwg dim ond amynedd ac ym- ddibyniad ar Dduw. Y mae arno fy ofn i, neu ofn ei hun, neu y ddau, yr wyf yn credu. Mae yn meddwl y gwna newid y go- lygfeydd les i ni ill dau—dau glofF truenus ydym." "Rhaid i mi f* ned gyda chwi, Victor Le Roy," meddai Jacqueline yn-wrol. Patiatn ?" gofynai. Oblegid pan oeddych yn gryf a dedwydd, dyna oedd eich dymuniad, Victor; ac yn awr pan yr ydych yn wan a thrallodus, ni roddaf chwi i arall: na! na chaiff Ma- zurier na neb arall mo honoch. Rhaid i mi aros yn Meaux ynte ?" Mae hyny yn dibynu arnoch chwi, Victor." Yr oeddym i briodi. Yr oeddym i fyned i edrych am ein hetifeddiaeth." Ie, dyna oedd eich cynllun, Victor." Ond ni wnaf gam a chwi. Yr oeddych i fod yn wraig i Victor Le Roy. Ei weddw ydych, Jacqueline, oblegid nid ydych yn credu ei fod yn fyw ddim yn hwy?" Mae yn fyw, ac y mae yn rhydd Os ydyw wedi pechu, mae hyd y nod fel Pedr yn wylo yn chwerw. CyfFesodd Pedr drachefn." Ac ni wasanaethodd neb ei Arglwydd yn fwy ffydd- lon, na chyda mwy o wroldeb drachefn. Victor, yr ydych yn cofio." Ydwyf; oh, Jacqueline!" Victor, Victor! Judas yn unig a ymgrogodd. Dewch, Jacqueline! Aeth gydag ef. Yn y boreu darfu iddynt gael eu priodi. Cariad a'u harweiniodd—cariad a orchfygodd. Yr wyfyn gweled dau efryclwr yn sylwi ar yr un tud- alen. Yr wyf yn gweledjdau ysbryd cariadus yn cerdded trwy dywyllwch mawr. Mae yr addewidion yn pro- ffwydo fod y wawr ar dori. Maent yn dweyd, Oh Ysbryd Glan,a wyt ti wedi gadael dy demlan dy hunan?' Maent yn galw ar Dduw yh uchel. Yr wyfyn eu gweled yn crwydo trwy goe I a maesydd. Domremy, o amgylch Castell Picardv, yn siarad am loan. Yr wyf yn eu gweled yn gorphwys wrth feddau mewn dau bentref henafol. Yr wyf yu eu gweled yn rhodio mewn lleoedd heulog; nid ydynt wedi eu galw i lafurio; maent yn cael amser i gasglu y blodau, a mwynhau holl ddymuniadau eu calonau. Mae eu cariad yn para i gryfhau fel y treigla blynyddoedd heibio. Dedwydd ddeuddyn 1 Ond yr wyf yn edrych araynt iel trwy gwmwl dysglaer a darfodedig. Yr olwg nesaf a gaf arnynt sydd trwy farau y carchar. Fel mae yr olygfa wedinewid I. Maent yn dyfod allan ♦