Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

:|Wateri

News
Cite
Share

|Wateri<M (Sgtumsig. Y LLYFR TONAU NEWYDD. "MAE crvn lawer o dwrw yn mhlith ein cantorion y dyddiau hyn am gael y llyfr hwn allan o'r wasg. Y llyfr ag y cyfeiriwn ato ydyw yr un a fwriedir ei rddwyn allan gan Mr. Rees Lewis, o Gaerdydd. Y rheswm, feddyliwn, fodcymmaint o siarad am y llyfr yw, am ei fod wedi cael ei hysbysu yn SEREN CYMRTJ ei fod i gael ei ddwyn sllan yn fuan. Etto, yr ydym wedi eael ar ddeall, os ydym yn cofio yn gywir, mai ar ammod yr hysbyswyd ei fod i gael ei ddwyn allan, sef "fod digon o enwau yn cael eu iianfon i Mr. Lewis er ei ddigolledu yn yr anturiaeth." Gan fod misoedd wedi myned heibio oddiar pan hys. Jbyswyd am dano gyntaf, ac nad oes un sicrwydd, hyd yn hyn, am yr amser ag y mae y llyfr i wneyd ei ym- ddangosiad, y mae amryw o'r cantorion yn dechreu anesmwytho, gan holi asiarad yn ei gylch, a gofyn- ant y naill i'r 11 all,—"Pa beth am Lyfr Tonau Mr. Lewis o Gaerdydd ? A ydyw y llyfr i ddyfod allan ~o gwbl P ac os ydyw, pa bryd y -mae hyny i gym- ineryd lie ?" &c. &c. Pan roddir addewid, mae y Ibobl ag ydynt yn teimlo interest yn yr addewid hono yn wastad yn dysgwyl yn bryderus am ei chyflawn- iad; a chan fod addewid wedi ei rhoddi am yLIvfr Tonau, wrth reswm, y mae ein cantorion yn awyddus am ei weled. 0 herwydd hyn yr ydym ninnau yn teimlo awydd ynom i ddywedyd gair neu ddau ar y pwnc hwn yr wythnos hon ac nid ydym yn meddwl y dylai neb ein beio am hyn o beth, canys y mae ein hawl m, fel Golygwyr, chwi wyddoch, yn dra ielaeth. Yr ydym ni i wybod, neu, o leiaf, i broffesu ein bod i wybod pob peth." Rbaid i ni fod yn Dduw- inyddion, Naturiaethwyr, Henafiaethwyr, Beirdd, ac, ysywaeth, yn Gantorion hefyd yn ein tro. Er, mae yn wir, fod ein swydd yn agored i ni gael llawer ergyd chwimwth, a chic caled beth bynag am hyny, tnae yn rhaid i rywrai ei chyflawnu tra dalio y Wasg i fwrw allan ei chynnyrchion. We!, at ein pwnc—y Llyfr Tonau. Mae dau neu dri o bethau i'w hystyr- ied o berthynas i'r llyfr hwn yn ei agwedd bresenol, mewn addewid." Yn un peth, nid ydym yn meddwl fod llawer o rai cymhwysach at y gorchwyl na Mr. Lewis ac os na chredir ein bod ni yn deall llawer am hyn ein hunain, etto y maegenym dystiol- aethau rhai sydd yn deall, megys Rickards, Casbach, ac ereill. Ar yr un pryd, nid ydym yn meddwl fod Mr. Lewis yn bwriadu dwyn y fath lyfr allan yn hollol ar ei gyfrifoldeb ei hun, ond yn hytrach mewn cyssvlltiad a chwaeth, cynghorion, a chynnortbwy prif "gantorion ein henwad yn gyffredinol. Ac yn hyn, fel pethau ereill, yr ydym yn ystyried mai tnewn amlder cynghorwyr y mae diogelwch. Peth arall i'w ystyried mewn cyssylltiad a'r pwnc hwn yw, nid peth i'w wneyd yn frysiog ydyw. Yr ydym yn credu fod Mr. Lewis yn deimladwy o hyn ei hunan, er, mae yn wir, na fuom ni yn siarad gair ag ef erioed ar y pwnc. Mae Ilawer, oes miloedd, o donau o fewn cyrhaedd ein cantorion yn barod, a'r cyfryw donau wedi eu cyfansoddi ar braidd bob tnesur a feddwn o hymnau, ac y mae yr holl donau hyn yn eiddo i'r cyhoedd (public). Mae hyn yn ein harwain i sylwi ar un peth arall yn y fan hon, sef Dad oes un Llyfr Tonau yn eiddo plaid-yn eiddo rhyw enwad o Gristionogion, yn fwy na'u gilydd. 0 ganlyniad, mae vr holl donau a gyfansoddwyd erioed yn eiddo i bawb. Pwy bynag a gyfansoddodd yr Hen Ganfed—os nad ellir penderfynu, etto mae hi yn eiddo i bawb fel eu gilydd; felly y mae pob ton Wall o eiddo ein holl gyfansoddwyr, o Handel i lawr i'r rhai sydd vn treio eu dawn vn ein cyhoedd- iadau. Dyna Lyfr Tonau leuan Gwyllt, yr hwn a ganmolir yn gyffredinol—acyn haeddu cael ei ganmol yn ol ein barn ni—er ei fod ef yn aelod a gweinidog Methodistaidd; etto, nid yw ei lyfr fel y cyfryw yn perthyn i'r Methodistiaid yn fwy nag i ryw blaid arall-Ilyfr i'r cyhoedd ydyw. Nid oes dim yn enw- adol mewn swn, mewn llais, mewn canu. Felly, go. beithi6 na fydd i neb feddwl mai Llyfr Tonau Enw- adol fydd Llyfr Tonau Mr. Lewis pan ddaw allan, ond LIyfr Tonau i bawb o bobl y byd. Mae rhai o'n pobl ieuainc wedi dychymmygu os byddai i ryw ddyn perthynol i ryw blaid grefyddol gyfansoddi neu gyhoeddi Llyfr Tonau, mai llyfr i'r blaid y per- thynai efe fuasai y cyfryw lyfr. Nis gall dim fod yn fwy camsyniol na pheth o'r fath. Os daw Mr. Lewis a'i lyfr allan, nid llyfr i'r Bedyddwyr a fydd efe, ond llyfr i bawb a ewyllysiant ei brynu. Peth arall sydd eisieu ei ystyried ydyw, er fod llaweroedd o Lyfrau Tonau wedi eu cyfansoddi, ecto, nid yn un o honynt, nac yo mhob un o honynt, y ceir tonau gwerth i'w canu. T6n yma a thon acw yn y gwa- hanol lyfrau a ellir ei mabwysiadu er lies cyffredinol. 0 herwydd hyn, mae ein cantorion wedi gorfod talu mwy am donau diwerth nag am rai gwerthfawr; gan hyny, ni a obeithiwn pan ddelo Mr. L. a'i lyfr allan, y bydd yn cynnwys tonau da trwyddo, a'r cyfryw ar wahanoi fesurau. Maegenymamrywfesurauynawr yn Llyfr Hymnau Harris, ac y mae yn anhawdd iawn, er chwilio yr holl lyfrau t6nau, i gael tonau o werth i'w canu ynddynt ar y cyfryw fesurau. Dyna y mesur I lati a'r 8au wyth llinell, y 7.4 a'r 2.8, y 10au, &c. &c., ni chlywir ein cantorion byth yn canu amgen t6n neu ddwy ar bob un o'r mesurau hyn. Carem ni i Mr. Lewis ddwyn llyfr allan a digon o d6nau da ynddo, os yn bosibl, ar yr amrywiol fesurau, serch cymmeryd cymmaint arall o amser i'w ddwyn trwy y wasg. Ond y pwnc yw, wrth ymholi am Lyfr Tonau Mr. Lewis, a oes digon o ymdrech Wedi ac yn cael ei wneyd tuag at gael enwau tuag ato, fel y gallo yr awdwr gael ei ddigolledu o leiaf; ac hefyd, yn wir, efe a ddylai gael ei dalu yn dda am waith mor fawr. Byddem ni yn cymmeradwyo i'r llyfr i fad yn ddeg o ranau chwe cheiniog, neu ugain o ranau tair ceiniog, fel y byddo yn ddigon o lyfr ar unwaith. Ond ni a adawwn beth fel hyn i rai ag sydd yn deall y gyf- undraeth.

YR HUGUENOT.