Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

AMERICA.

News
Cite
Share

AMERICA. Efrog Newydd, Chwef. 28. Gwnaetli gwyr meirch y Cadfridog G-wrthryfelgar Stuart ypiosodiad adnewyddol ar wyr meirch yr Undeb ger Stanord Court House, ond gyrwyd hwy yn ol gyda cholled o hanner cant. Nid yw lleihad lluoedd y Gwrthryfelwyr yn Fred- ericksburg mor fawr ag y gosodwyd allan. Dywedir fod byddin Stonewall Jackson yn cychwyn fynydrwy ddyffryn y Shenandoah tua Strasburg. Dywedir fod y Cadfridog Halieck wedi cyhoeddi fod 23,000 o wyr wedi ffoi o fyddin y Potomac.. Nid oes un ymosodiad rheolaidd wedi cael ei wneyd ar Vicksburg hyd yn hyn, ond y mae y gwnfadau yn tatlla ynachhrsurcl sr yr amddiflynfeydd. Dywedir y bydd i'r Undebwyr ddysgwyl effaith gwarchae reol- aigd. Y mae Ilawer o ddyoddefaint yn mhlith y Gwrthryfelwyr yn y ddinas. Dysgwj lir. y bydj ir. ymosodiad ar Charleston ddechreu yn" mhen deg diwrnod. Rrysebiano Cincinnatti a ddywedant fod y Cad- fridog Brecken ridge yn cychwyn ar Lexington gydag 20,000 o wyr, a bod yr Undebwyr yn cwympo yn ol ar y lie hwnw. Yr oedd y Cadfridog Vandorn, yn aghyd ag 8,000 0 .wyr meirch, wedi eroesi yr afon Tennessee ger fWehce eradgyfnerth u y Cadfridog Bragg. Sibrwdir fod y Cadfridog Undebol Hunteri gaelei amddifadu o'i lywyddiaeth, ac mai ei ganiyniedydd fydd y Cadfridog Burnside. Mae y Cadfridog Forster wedi cyrhaedd Newbern, tc yn ymbarotoi ar gyfer anturiaeth newydd. Dywedir fod y milwyr gwynion yn Port lloyal yn anfoddlallgar, a bod amryw ysgarmesion weJidygwydd rhyngddynt a'r milwyr negroaidd. Mae Mr. Davies, o Kentucky, wedi cyhuddo y Cadfridog Butler a'i frawd o feddiannu eu hunain o lawer oladrad yn Orleans Newydd, ac wedi hysbysu fwriad o alw am bwyllgor ymchwiliadol. Efroq Newydd, Chwef. 28, Prydnttwn. Mae y Cadfridog Townsend wedi newydd gyrhaedd C) gy Port Royal ag awdurdod i benderfynu y ddadl rhwng y Cadfridogion Hunter a Forster. Mae y Cadfridog Stevenson wedi cael rhyddhad ftnrhydeddus. Cyhuddwyd ef o ddweyd yn gy- hoeddus y byddai yn well ganddo gael ei drechu gan y gelyu na chydweithredu A'r milwyr negroaidd. Dywed gohebydd y New York Tribune yn Port Royal y bydd i 5,000 o filwvr negroaidd tywysedig gan swyddogion gvynion, yn cael eu hattegu gan fil. wyr rheolaidd, wneyd ymgyrch i ardaloedd mwyaf poblog y Dehau, er Annog y caetbion i gymmeryd arfau i fyny yn erbyn eu gormeswyr. Yr oeddys wedi bod yn dal cyfrinach a negroard mi planigfa, y rhai oedd yn barod i godi. Ffoedigion o Vicksburg a ddywedant y bydd yn rhaid i'r Gwrthryfelwyr ffoi o'r ddinas os na chant gynnorthwv yn ebrwydd. Y mae'r dyoddefaint yn fawr iawn yno, o herwydd fod y dramwyfa dros yr afon wedi ei chan fyny gan longau rhyfel yr Undebwyr. Darfu i ugain o wyr meirch y Gwrthryfelwyr gvm- m<»ryd cerbydr^s llwythog ag arlwyon ger Romney, yn Virginia Orllewinol, yr hwn a amddiffynid gan 80 o ddynion. j, TaniwydaryCadfridogUndebol Banks gan ber- 8on anadnabyddus tra yr oedd yn myned o'i weatdy i'w gerbyd. Ni tharawyd mo hono. Maey Cad- fridog M'Dowell wedi cael ei ryddhau oddiwrth yr hall gyhuddiadau yn ei erbyn. Efrog Newydd, Mawrth 3. Mae gweithrediadau yr Undebwyr yn erbyn Vicks- b111'g yn parhau. Maie y GwrthTvfelwyr yn gwneyd eu goreu i am- ddiffyn Charleston. Dygwyd y newydd gan yr agerlong Delta, o St. Gliomas a Bermuda, ddartod i'r agerlong Florida gymmeryd a llosgi y llong Jacob Bell, o China i Et'rog Newydd,a llwyth o de gwerth miliwn a hanner 0 ddoleri. Danfonwyd tair o agerlongau Undebol ar 0.1 y Florida yn union. 0 Mae y Gwrthryfelwyr wedi cymmeryd yr agerlong Undebol Indianola, 25 milltir y tu isaf i Vicksburg. Yr hwrdd-long Queen of the West fu yn foddion i'w gymmeryd. Dywed y llywydd Undebol iddo golli ei long o herwydd diffyg cario ei orchymynion allan. Profodd ymgyrch anturiaethol gwyr meirch y Gwrthryfelwyr dros y Rappahannockyn fethiarit. Cymmerwyd dau cant o wyr meirch y Gwrthryfel- wyr yn garcharorion ger Strasbourg, ar ol erlyniad o "grin milltir. Mae Mr. Sumner wedi gwneyd adroddiad i'r Senedd °ddiwrth y pwyllgor ar berthynasau tramor, gan osod pr bron y penderfyniadau gyda golwg ar gyfryng- fteth. Ar ol cyfeirio at gynnyg Ffrainc i gyfryugu, y^ed y penderfyniadau fod pob drychfeddwl o 8y ryngiad neu ymyriad yn afresymol ac yn aaner- yniadvry; hefyd, fod pob cynnyg o ymyriad yn Ueddu gymmaint i gefnogi y gwrthryfel, ac i barhau yr ymdrech, fel y bydd yn rhaid i'r Congress ystyried pob cynnyg pellach yn y cyfeiriad hwn fe' gweithred annghyfeillgar. Mae y penderfyniadau yn datgan hiraeth na fuasai y galluoedd tramor wedi dweyd yn groyw wrtb benaethiaid y Dehau fod eu gwaith yn un anobeithiol, a bod llywodraeth newydd, a chaethiwed yn gonglfaen iddi, ac heb nti dyben arall o hanfod gwahaniaethol, mor groes i warediad ac i synwyr moesol dynoliaeth, fel nad all ddysgwyl na chroesaw na chydnabyddiad. Maey penderfyn- iadau hefyd yn cadarnhau y bwriad i gario y rhyfet yn y blaen hyd nesy llethir y Gwrthryfel, ac y maent i gael eu gwneyd yn hysbys i'r Ilywadraethau. Efrog Newyrld, Mawrth 5. Mae yr agerlong Wrthryfelgar Nashville wiedi cael ei hertydi dir yn Fort M' Allister, Savannah, a'i dinystrio gan longau haiarn beisiog yr Undebwyr. Dywedir fod Fort M'A!!ister hefyd wedi cael ei gym- meryd, ond y mae hyny yn ammheus. Yo ystod y diwrnodau diweddaf, y mae'r ddinas wedi bod yn Hawn o adroddiadau o barthed i'r hrwydra yn Vicksburg a ffoad y gwrthryfelwyr, ond nid oes newydd credadwy wedi dyfod hyd yn hyn. Dywedir fod antuiiaeth yr Undebwyr er agor yr afon Yazoo wedi bod yn llwyddiannus. Mae chwech gwnfad Undebol wedi cyrhaedd Talla Hotabie drwy y Yazoa. Mae dau gar-llusg ar waith yn nghamlas Vicks- burg. Mae dwfr y Mississippi yn codi morgyflyrn fel y mae'r lampau ar Ynys 95 mewn perygl. Mae'r gwrthgloddiau wedi tori lawr, ac y mae'r dwfr yn ffrydio drostynt yn ofnadwy. Dysgwylir y bydd i'r G-wrthryfelwyr ddefnyddio y Qileenaf the West a'r Indianola i ymosod ar y llyngesUndebol ar y Mississippi wrth Orleans Newydd. Mae y Cadfridog Undebol Rosencranz wedi cyr- haedd Middlesbro, hanner y ffordd rhwng Murfrees- bro a Shelbyville. Cyfarfu mil o wyr meirch yr Undeb o Murfreesbro A a'r gelyn yn Bradyville. Gyrodd yr Undebwyr hwy allan o'r dref, cymmerwyd 70 yn garcharorion, a nifer o bapyrau swyddol. Cynaliwvd cyfarfod gan aelodau Ystafell Fasnachol Efrog Newydd i'r dyben i gymmeryd i ystyriaeth llosgiad y Hong Jacob Bell. Pennodwyd pwyllgor i ystyried pa fesurau svdd briodol i fabwysiadu o ethryb i losgiad y llong gan herwlong o Loegr. Yr oedd Llywydd yr Ystafell o'r farn fod rhyfel Lloegr yn beth possibl, ond yn beth nid i'w ofni. Condemn- iwvd anmhleidgarwch Lloegr, ac hysbyswyd fod yin- ddygiad Lloegr tuag at farsiandwyr Americanaidd yn warth i'r oes. Dylid gwneyd ymdrechion i alw sylw marsiandwyr Lloegrat yr amgylchiadau, a thybid y byddai i filoedd o honynt gymmeryd sylw o'r ffeithiau. Ar y 19eg o Chwefror yr oedd yr agerlongau Prydeinig Cornelia a Miriam yn Bermuda. Yr oedd y Cornelia wedi dyfod o Charleston a llwyth o gotwm, w ac yr oedd yn llwytho arfau ac arlwyon ereill i ddychwelyd i Charleston. Yr oedd y Miriam hefyd i ddychwelyd i Charleston.

IPOLAND."

-+' MARK-LANE. LLUNDAIN.

MARCHNADOEDD CYMREIG.