Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

YR WYTHNOS

News
Cite
Share

YR WYTHNOS MAE y Briodas wedi myned heibio, a'r holl bobl yn dymuno dedwyddwch i'r Priodfab a'r Briodasferch. Yn awr, mae y wlad yn dechreu dyfod i'w Ue-y gwaith arferol yn cael ei gyflawnu. Mae ein Sen- eddwyr yn cymmeryd eu heisteddleoedd yn nosol, er nad oes ond ychydig etto yn cael eu gyflawnu o ddyddordeb neillduol i'n darllenwyr yn gyifredin. Mae Mr. Cobden wedi traddodi dwy neu dair o areithiau talentog a phwysig dros ben ar y gwastraff dychrynllytf sydd yn cymmeryd lie yn y fyddin a'r Ilynges; ond nid yw y rhai hyn yn cael fawr o effaith mewn t^ sydd yn cael ei wneyd i fynv gan y pendef- igion, a'r rhai sydd yn dal cyssylltiadau a hwynt. Mae'r newyddiaduron yn gyffredin trwy y wlad yn cael eu llenwi a hanesion o'r hyn a wnawd ar gyfer,a'r byn a gyflawnwyd ar y lOfed o'r mis hwn, fel nad oes fawr o ddim arall wedi cael sylw am yr wythnos hon ond hyny. Mae ein newyddion o America yn gvflawn iawn, er nad oes dim newydd o bwys o faes y frwydr. Mae amryw o fan ymladdfeydd wedi cymmeryd lie, heb fod *0 rhyw lawer o ddylanwad ar y canlyniadau yn y pen draw. Mae irhan fawr o fyddin y Gogledd o flaen Vicksburg, a gallem feddwl yn awr ei bod yn meddwl darostwng y lie hwn trwy newynu yr am- ddiffynwyr, tra y mae byddin fawr y Potomac yn aros mewn tawelwch. Nid oes dim newydd o Charleston. Mae y Senedd Americanaidd ar orphen yr eis- teddiad presenot. Maent wedi gwisgo Mr. Lin- coln a phob gallu angenrheidiol i gario y rhytel yn y blaen-y gallu i arfogi y negroaid—y gallu i gofres- trii-a'r gallu i godi arian i'r swm o DRI CHAN MILJWN o BUNNAU. Mae hyn oil wedi ei wneyd gan y Senedd bresenol. Mor bell ag y mae moddion mewn gwyr ac arian yn myned, mae yn Hawn ddigon i ddarostwng y gwrthryfelwyr. Yr ydym yn ddi- weddar wedi derbyn rhai llythyron cyfrinachol o'r taleithiau, y rhai a ddangosant fod prisoedd nwyddau yn myned yn uchel iawn yno, tra yroae auryn uchel iawn. Mae penadur o werth ugain swllt yma yn werth naw swllt ar hngain a grot yno. Mae yr holl Sefydliadau Crefyddol hefyd yn dyoddef yn fawr iawn yn herwydd y rhyfel. Yr oedd hyn oil o gwrs itw ddysgwyl; y syndod yw na fuasai yn cael ei deimlo yn gynt. Mae ein newyddion o Ewrop heb fawr o gyfnew- idiad er ein rhifyn diweddaf. Mae Ffrainc wedi danfon cenadwri at Rwsia yn achos Poland daeth yr ateb yn ol gyda buandra tuhwnt i'r cytiredin ond nid oes dim yn yr ateb yn addawol, nac yn obeithiol i achos Poland; ac nid yw yn debyg ar hyn o bryd y bydd i Ffrainc wneyd dim ond siarad. Mae Prwsia yn para i roddi pob help i'r gormesdeyrn i ddarostwng y Pwyliaid. Nid yw Awstria yn rhoddi cynnorthwy i Rwsia, ac nid yw chwaith yn rhoddi un gefnogaeth i Poland. Mae Itati yn teimlo dros Poland, ond nid yw mewn ffordd i gynnorthwyo. Mae y Pwyliaid eu hunain, fel y dangoswn mewn ysgrif arall, yn para i ddal eu tir, er ei bod yn an- mhosibl i ni yma i wybod v gwirionedd, gan fod y gwefrebydd a'r llythyrgodau yn hollol yn nwylaw Rwsia a Prwsia, a chyhoeddir yn unig yr hyn fydd yn ateb eu dybenion melldigedig hwy. Mae teimlad cryf iawn v n bodoli nad yw ein gwein- yddiaeth ni yn gwneyd yr hyn a ddylai yn y mater hwn er fod v Senedd a'r wlad yn teimlo i'r byw dros y rhai sydd yn tywallt eu gwaed dros ryddid a chyfiawnder. Mae y Pab mewn penbleth rhwng y Ffrancod a r Cardinal Antonnelli. Hyd yma v mae y Pab; yn gwrthod derbyn ei swydd o law y Cardinal. Anton- nelli yw enaid y Pab.

POLAND.'

[No title]