Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

AT EIN GOHBBWTE, &c. EIN DERBYNIAJJAU.—E. ab Dewi-rT. E. George, Yew.- Parch. E. E. Jones—Bardd Du-Iotwerth Goch-Bugail- Tram vVyn-J. Harnon-C. H. James, Ysw.—Mam—Margret Carwr Cyssondeb Morgan Lewis—Yniofynydd—Elen Wil- liams-Annibynwr o'r North-Parch. T. E. James-D. E.- M. J. a R. J.—D. R. Lewis-Evan Davies-Golydydd-P. C. M.—H. Amos—J. W. ELJAS Bp WEN.—Yr ydych chwi yn tuchan yn hollol ddiachos. Ais gwyddom am y teimlad pleidgar y aeniwch as] dano. Ffordd jjallwn? nid ydym yn gwybod rawy urn hwn a'r Hall nag a wyddom am danoch chwi. Ni welsom yrun 0 honoch erioed, ac nis gall fod yr un pleidgarwch. Mae yn annichonadwy i ni gael mwy i'r SEREN nag y mae yn ddal. Yr ydym ni la we? gwaith wedi taflu ein hysgrifau arweiniol o'r neilldu, er mwyn I c rhoddi He i chwi ac ereill, ac etto nid oes modd eich boddloni. Nid yw conach a bygwth yn un help yn y byd i gael y pethau i iBen'n- Cofiwch fod gyda ni tua, 10,000 i'w boddloni hoblaw chwi. YRAM WYN.—Mae mynychu concerts mewn tafarnau gan broffeswyr crefydd YIa beth hollol groes i yebryd y grefydd Grist- g] ionogol, ac nid oes dim ond y drwg yn debyg 0 ganlyn y fath arferiad. ANNIBTNWR O'R NORTH.—Yr ydych yn ysgrifenu yn sarug jawn. Mawr yw eich digofaint at Hugh Tegai; ond dan eich dwylaw yr ydych wedi taro yr hoel ar ei chlopa, trwy ddvwedyd nad ydyw yr Annibynwyr yn dewis rhoddi "tyny bedy: 1 babanod, o herwydd y byddai hyny yn golled i'r gweillidflÉ.).j alu teuluoedd." Wei, dyna reiswin a rhyw lun arno! ac yr ydych chwi, y brawd o'r North, yn onest yn gollwng y gath o'r cwd. Ond am y siarad a'r ysgrifenu am Undeb, mae eich gwy- bodaeth yn bynod o gyfyng. Darllenwch hanes yr Undeb Cyn- nulleidfaol yn yJVoncomformist,y Patriot,y British Standard, a byddwch getyn bach yn gallach ar y pwnc. Hefyd, gallwn ni eich hysbysu fod pwyllgor wedi bod yn eistedd droion er ceisio effcithio yr undeb. Cofiwch mai nid y ni sydd yn ceisio hyn. Ond gan fod rhai o'ch blaenoriaid chwi wedi dywedyd na fydd i'r flwyddyn 1863 fyned heibio heb weled y tri enwad-yr Inde- pendiaid, y Presbyteriaid, a'r Bedyddwyr—yn un. Ar hyn, y mae y Bedyddwyr yn Lloegr trwy y Freeman, ac yn Nghymru trwy SJlREN CYMRU, am i'r byd wybod ar ba dir y bydd iddynt hwy ddyfod i mewn i'r happy family-bydd i ni fyned i mewn arhyd yr hen ffordd a droediwyd gan y Blaenor a'r Apostolien. LEWIS MORGAN.—Gan fod y ty wedi ei roddi at achos cref- yddol, rhaid i'r trust deed gael ei enrollo heb byn, nid yw y meddiant o un gwerth. CARWR CVSSONDEB.-Byddweh yn gysson & chwi eich bun. Yr ydych yn aehwyn ar iaith isel mewn ereill, ac ar yr un pryd yn danfon llythyr yn llawn o isel-iaith, a'r gwaelaf a ddaeth o dan ein sylw er's llawer dydd. YMOFYNYDD.—Gallwch gael rheithwyr o bump mewn unrhyw achos a fydd uwcblaw .£5. ELEN WILLIAMS —Y du a ystyrir y mwyaf clasurol, o 8wra- A'i gwallt yn ddu fel y fran ond mae yr euraidd ( golden yn cael ei ystyried yn dlws iawn. MAM.—Mae yn ddiddadl fod modrwyau bychain yn y clustiau yn Ileshad i lygaid cleifion. Gellir cael par da o aur pur am o bedwar a chwech i goron. Gofaler eu cael o aur pur, onite gallant fod o niwed mawr. MAROBET MEWN GQFID.- Y feddyginiaeth oreu iddo yw, i chwi osod llaweg ac asgwrn ynddi am ei wddf. Mae Ilawer o ddylanwad yn hyn, gydag ambell i wen a gair mwyn. MORGAN LEWIS, British Columbia.- G welsom ddau lythyr oddiwrthych, a da genym eich bod yn iach, ac yn cofio am yr ben grefydd. Duw fyddo gyda chwi a'ch cymdeithion. MORGAN JONE" A RICHARD JONES, dillegarny, America.— Daeth eich Ilythvr i law, a gwnawn ein goreu i gydsynio a'ch caii. DAVID Ev ANS.-Danfonasom y ddan rhifyn diweddaf o'r SKRKN i chwi i'r Hotel Francais, Fanbourg St., Hanor., Paris." Os daethant i'rh llaw, gwelwch yr ysgrifau cyntaf wedi eu cy- hoeddi; daw y gweddill yn y man. DAVID MATHIAS, Merteifi— Nid ydym yn dewis cymmeryd „ rhan yn y ffrae a/n rhwng y Parch. T. T. Jones a chwithan am rif y testunau, ac nid yw o bwya gan ddarllenwyr y SEREN i wybod eich bod yn tain punt y bregeth. PARCH. H JONES, Ffalrfybrenin.—Mae eich llythyr at y Parch. J. W. Maurice wedi dyfod i law, ond yn rhy ddiweddar i'r lhifyn presenol, Bydd yn y nesaf. Y Seren Orllexmnol A SEREN CYMRU.—Yn y rhifyn diweddaf o'r Seren Orllewinol, cawn y nodiad canlynol" SERBN CYMRU.—Mae y newyddiadur rhagorol hwn wedi ein cyrhaedd dechreu v flwyddyn hon, wedi ei helaethu a'i addurno yn fawr. Y mae yn dechreu y seithfed gyfrol yn ei lawn faintiolaetb, a chyda nerth adnewyddol. Synwn fod y Cyhoeddwr yn gallu gwerthu y fath len am un geiniog. Os oes rhai o'n darllenwyr am gael papvr wythnosol Cymreig yn rhoddi hanes lJawn am boll helynt y Bedyddwyr yn Neheudir Cymru, cynghorem hwynt i anfon am dano at Mr. \V. M. Evans, Swyddfa SERBN CYMRU, Caerfyrddin," &c. &c. Gyda diolch yn fawr am y nodiad caredig, dymunem o'n calon lwyddiant parhaus a chyn- nyddol i'r Seren Orllewinol, yr hon sydd yn awr yn ei hugein- fed flwyddyn, ac yn fwy nerthol beddyw nag erjoed o'r blaen. GUTO'R GLYN.—Rhy bersonol. MARGARET JENKINS.- Yr ydym wedi ateb y gofyniadau o'r btafn. CARWR GONESTRWYDD.—Ail ystyriwch y mater, a byddwch yn sicr o ddiolch i ni am osod eich ysgrif yn y tan. Bendith i chwi yw ein bod ni yn fwy trugarog wrthych nag ydych eich hun. YSGOLION ABERDAR.—Yr Independiaid a'r Bedyddl,vyr.- Yr ydym wedi derbyn amryw holiadau am y gwahaniaeth dirfawr rhwng rhif ysgslion yr Independiaid ac eiddo y Bedyddwyr yn Aberdar rl1 hanes yr orymdaith ar ddydd y briodas. Mae yr ateb yn eglur iawn Rhoddodd y Bedyddwyr y rhif o ystadegau ei llythyr Cymmanfaol diweddaf-y rhif awyddogol argraffedig olaf; ond yn anffodus, gadawwyd un ysgol bwysig o'r cyfrif trwy ddamwain, ac felly ymddangosodd y rhif yn Uai nag yw mewn gwirionedd. Y gwir rhif yw hyn ysgolion, 17; ath- rawon, 374 ysgolheigion, 3020 y cyfanswm yn 3,394. Ond pa fodrt y gwnawd cyfrif yr Independiaid i fyny? Fel arfer, trwy guesso yn unig, a gofalu guesso amryw gannoedd uwchlaw y gwir rif. Dyna y ffaith, ac nid oes modd ei gwadu ar dir diogel. Ond dyma arferiad yr Independiaid. Mae yn ffaith hynod, ond etto yn un gyfleus, nad oes gan yr enwad hwn yr unrhyw ystadegaeth o'u rhif hyd yn hyn Mae hyn yn rhyfedd i ni, ac yn warth iddynt hwy. Ond dyna Lythyr Cymmanfa Bedyddwyr Morganwg o flaen y byd, a'n rhif yn Hawn a manwl, a groesaw i'r sawl a fyno i'w chwilio. Hen arfer ein cyfeillion yw bod yn fwy mewn rhif; er dangos hyn i bwrpas, mae yr enwog Dr. Rees yn ei lyfr wedi gadael allan rhif y Bedyddwyr mewn tair Gymmanfa gyfan, mewn tair Sir gyfan, a rhanau, pwysig 0 dair Sir arall. Gadawa allan 0 gyfrif y Bedyddwyr y nifer 0 11,984 o aelodau, a dim Jlai 26,915 o ddeiliaid yr Ysgol Sul. Dyna y rule wrth ba un y cyfrifwyd ysgolion yr Independiaid yn Aberdar erbyn y briodas, sef y rule of addi- tion. Mae ein cyfeillion yn hoffi hon yn fawr. Yn awr, dealfed y darllenydd nad ydvm ni yn beio neb am osod y Bed- yddwyr gannoedd yn llai nag ydynt mewn gwirionedd, ond Mr. Price, efe, druan, yn ei anwvbodaeth a wnaeth hyn. Nid yw ef yn deall y rule of addition; ac nid ydym ni chwaith yn beio neb am gyfrif mawr yr Independiaid, ac nid ydym yn synu dim at hyn-fel hyn y mae yn arfer bod. Y ffordd i fantoli (balance) y cyfrif vw defnyddio y rule of substraction, a thynu o gyfnf yr Independiaid eu hunain 191 per centum, ac yna bydd wn yn agos iawn i'n lie. At y Derbynwyr a'r Dosparthwyr. Gyda'r Rhifyn presenol, danfonir cyfrifon o'r hyn sydd yn aros yn ddyledus am SEREN CYMRU, a theimla y Cyhoeddwr yn wir ddiolchgar i'r Dosparthwyr am wneyd ymdrech ddioed i glirio yr oil o'rhen gounts," feI na byddont mwyach, fel corff y far. wolaeth," yn peru gofid a blinder. Gan fod y chwarter cyntaf o'r SBREN Wythnosol ar fod ar ban, a bod dysgwyliad i bawb dalu yr ol-ddyledion cyn hyny, hyderir y ceir clywed oddiwrth bawb cyn pen wythnos. Dysgwylir i bawb dalu o hyn allan yn rheoi- aidd ar ddiwedd pob chwarter. TALIADAU.—Derbyniwyd.taliadau oddiwrth—J. T. Towyn' R. T. Bryncarno, D. W. Clvdach, R. G. Glandwr, G. T. Machen, J. R. Myrtle Hill, T. T. Star.

YR WYTHNOS

POLAND.'

[No title]