Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

.:. n.. AT Y PARCH. T. E.…

AT YR EGLWYSI A GYFANSODDANT…

CYMHORTH I CHWERTHIN.

TREFFYNNON A'l HELYNT.

MANCHESTER A'L HELYNTION.

[No title]

News
Cite
Share

GOLYGFA RYFEDDOL YN MOUNTAIN ASH. Ar ddydd priodas Tywysog Cymru, gan fod dydd gwyl yn cael ei gadw, drysau y masnachwyr yn gauad, dynion y gweith- feydd yn aros, penderfynodd Ysgolion Sabbothol y lie i wheu- thur rhyw orymdaith ar y dydd hwnw. Yna, am banner awr wedi 1 o'r gloth, yr oedd pub ysgol yu ewrdd a'u gilydd wrth yr eglwys blwyfol, Mountain Ash. Wedi hyn, dechreuwyd yr orymdaith, yn bedwar a phedwar. Yn mlaenaf yr oedd y rbeifflgor a'r seindorf, ac yn canlyn yr oedd ysgol yr Eglwys, ysgol yr Iudependiaid, ysgol y Bedyddwyr Saesneg, ysgol y Methodistiaid Califnaidd, ysgol fawr y Bedyddwyr Cymreig, ysgol y Primitive Methodists, a dwyysgol y Wesleyaid Cym- reig a Seisnig. Cychwynasom tua'r Dyftryn, a flaen t9 Mr. Bruce, A.S., i ganu, a chafode y pedair ysgol fwyaf bob o 42 ganddo, er mwyn rhoddi te i'r plant. Wedi canu gwahanol ddarnau o flaen t1 y boneddwr uchod, dechreuasom gychwyn tua Abercwmboy, er tynu yn ol i Mountain Ash, ac 0 olygfa ryfeddol! Yr oeddem yn rhifo yn agos i ddwy fit, yn cyrhaedd tua milltir o hyd, y baneraii yn chwifio, a'r corau yn canu. Onid oedd byn yn beth sobr, ac yn dangos daioni yr Ysaol y I Sabbothol ? Wedi cerdded felly trwy wahanol ystrydoedd y lie, aeth pob ysgol i'w chapel ei bun, er mwynhau y te a'r teisenau, pa rai ag oedd Mr. Bruce a Mr. Powell wedi cyf. ranu tuag atynt. Gwyn fyd na welem fwy o fawrion ein gwlad yn cynnorthwyo yr Ysgol Sabbothol. Yn yr hwyr, yr oedd ysgol y Bedyddwyr Cymraeg yn cyn. nal eyfarfod adroddiadol. Adroddwyd llawer o ddarnau tlws a da yno. Yr wyf yn meddwi fod Satan yn cynddeiriogi wrth yr Ysgolion Sabbothol yn y lie hwn ar y dydd hwnw, a'r Nefoedd yh llawenhau. Llwyddiarit iddi, medd lOAN DIDYMUS. Dywed gohebydd y Times yn Paris fod iaith newyddiaduron Ffrainc ar achlysur priodas Tywysog Cymru yn hynod o gan. moladwy i Loegr. Dirwywyd tri llanc yn vnad-lys Heol Marlborough, Llun- aain,dydd Mercber.am acliosi rhwystr yn un o'r heolydd drwy ganu rhigwtn antnharchus am Dywysog Cymru. Yr oedd yr heol yn llawn o wrandawwyr, ac nid oedd modd i'r cerbydau fyned heibio. BenrDD GAN Y PAtCH, W. LtNCOLN.—Dydd lau, wyth. nos i'r diweddaf, cynilaliwyd «'was-niaeth bedyddiadol cyntaf y gweinidog hwn, diweddar offeiriad yn Eglwys Loegr, yn Nhapel Heol Lion, Llundain, pan y traddododd y gweinidog bregeth oddiar Salm 119, 104. Yna bedyddiodd 16 o berson- au. Cynnorthwyai y Parch. W. Howieson, gweinidog y He, yn y gwasanaeth. Dealiwn mai bwriad Mr. Lincoln yw gwein- yddu y bedydd nesaJ yo ei eglwys ei hun, yn Heol Beresford, Walworth.

ATEBIOIST.

AOFMADAU.

PENNILLION I NADOLIG.'r

.HIR A THODDAID

Y GWIR FONEDDWR.

Y CYNNADLIEDYDD.