Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

BRAWDLYSOEDD CYMRU.

EISTEDDFOD RHYL AC ABERTAWE.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD RHYL AC ABERTAWE. FONEDDIGION,-Caniatewch i mi ddweyd gair neu ddau am yr eisieddfodau a fwriadir eu cynnal yn y lleoedd uchod yr haf nesaf. Nid oes genyf deimlad at y De mwy na'r Gogledd etto meddyliwyf fod ymddygiad y Gogleddwyr yn codi eistedd- fod vn opposition i un y De fel hyn, nmryw weithiauyn olynol, yn oyfiawn deilyngu cerydd llym. Gwir fod Pwyllgor lleol Abertawe wedi ymddwyn yn annoeth iawn, yn neillduol yn ei waith yn peidio eyhoeddi hysbysiad prydlawno'r eisteddfod a'i thestunau, yn holl newyddion Cymreig y dywysogaeth, fel y galiai holl lenorion Cymru gael yr un chwareu tAg, i ymgys. tadhl ar y gwahanol destnnau. Etto, na feddylied beirdd a llenorion y Gogledd, fel eu brodyr yti y De wedi cael fawr o flaen arnynt yn yr ystyr hyny, oblegid er fod hysbysiad o'r testunau wedi ymddangos mewn Newyddiadur Seisnig, a gy- hoeddir yn Abertawe, etto ychydig o lenorion y De sydd yn cael cyfleusdra i'w weled; ond diammhau i'r Dosparth Saes- nig gael mantais trwy hyny i ddechren cyfansoddi, a hyny cyn i'r Cymro droan wybod dim am y testunau, a pha beth oedd. ynt; ond hyderwyf, a chredwyf, na ddygwydda amryfusedd cyffelyb etto, ond y gofala Pwyllgorau y genedl na chaiff rhyw fod iu hunanol a gormesaidd ymddwyn yn gyffelyb rhagllaw. Ond fy amcan yw ceisio gan gyfeiltion Rhyl i roddi eu 'heisteddfod heibio yr haf nesaf, ac ni fydd un rhwystr ar eu ffonld i gael yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn haf 1864. Byddai cystal, a gwell genyf o ran fy nheimlad personol, i't Eisteddfod fod yn Rhyl, oblegid os byw, gsilwn, fel y dywed y ddiareb, "ladd dau aderyn a'r un gareg," sef cael yr Eis- teddfod, ac befyd ymweled S theulu fy ngwraig, yr hon sydd o ddvffryn prydfert^ Clwvd; ond gwell genyf aberthu pob teimlad personol, a pnob mantais arianol, nag i'r undeb rhwng y De a'r Gogledd gael ei dori; ac os na fydd Pwyllgorau lleol Rhyl mor ddoeth a gwneyd hyny, gellid penderfynu mai dyna fydd y canlyniad. Ond nid wyf yn gweled fod eisieu iddynt wneuthur aber o gwbl-dim ond iddynt ymddwyn fel dynion, ac fel cristion. ogion-cadw at y rbeol ddwyfol, sef gwneyd i ereill, fel yr ewyllysiont i ereill wneyd iddynt bwythau," a pheidio talu drwg am ddrwg; ond yn y gwrthwynej, dilyn yr hyn sydd dda tuag at eicli gilydd, a thuag at bawb. Ond os na wrandaw- ant ar lais y Genedl, diau nas gellid edrych arnynt aingen bradwyr a rhwygwyr hunanol, a bydd i'r oesau dyfodol fell- <3ithio eu hpnwnu. Beth yn enw pob daioni, a raid i genedl y Cymry wneyd ei hun yn waw.i i genedloedd ereill, oblegid ei hyinrysonau na, na, undeb am byth, meddaf. Cymry yn un, beth bynag. Yr oeddwn wedi cael fy nolurio lawer gwaith, oblegid yr ymrysonau, a'r c <b!u parhaus oedd yn canlyn pob Eisteddfod. Un wedi cael cam gan ei feirniad; y Halt druan yn llenleidr, &c., hyd nes yr oeddwn wedi myned i edrych ar yr hen sefydliad eisteddfodol yn warth cenedlaethol, a gresynwn fod dynion crefyddol yn gwneyd dim a hi o gwbl, ac edrychwn arnynt fel rhai anomheus o ran eu duwioldeb; ond teimlwn yn llawen fod arwyddion am amser gwell i wawrio ar ein gwlad mewn cyssylltiad a'r Eisteddfod Genedlaethol; ond dyma gwmwl yn codi o'r Gogledd-teimlad gwrthwynebu yn cael ei ddangos—baner goch rbyfel yn cael ei chyhwfanu, ac amryw o lenorion y Gogledd yn bloejdio i'r frwydr, ac heb amcanion gwell mewn golwg na dyrchafu eu hunain, a feallai hefyd arbed ychydig dreulion arianol, trwy gaei Eisteddfod yn nes gartref; ,ac felly arbed traul teithio i'r De. Daeth boueddigion y De yr "liaf diweddaf yn un fintai luosog i Gaernarfon, a byddai yn compliment yn y Gogleddwyr i ddytod i Abertawe yr Haf nesaf. Dymunwyf ar lenorion ein hanwyl wlad i siarad eu meddyliau trwy y wasg. Dywedaf etto, Cymru yn un am byth a hefyd. ELIAN.

[No title]

1 TY YR ARGLWYDDI.

DVDD IAU, MAWRTH 5.

DYDD GWENER, MAWRTH 6.

DYDD MAWRTU, MAWRTH 3.

y. DYDD MERCHER, MAWRTH 4.

DYDD IAU, MAWRTH 5.

DYDD GWENER, MAWRTH 6.

[No title]