Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Y GYMDEITHAS GENADOL.

CYFYNGDER SWYDD LANCASTER.

PRIODAS TYWYSOG CYMRU.

CYFARFOD TRIMISOL LLANDDULAS.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFARFOD TRIMISOL LLANDDULAS. Cynnaliwyd y cyfarfod hwn Mawrth y 3ydd a'r 4ydd. Am 2, dydd Mawrth. cyfarfu nifer luosog o weinidogion a clien- adau y gwahanol eglwysi perthynol i'r ddosran ogleddol o Gyuamanfa Dinbycb, Fflint, a Meirion. Dechreuwyd y gyn- iiadledd trwy weddi gan y Parch. John Roberts, Llangerniw. Eth'-lwyd y Parch. J. James, y gweinidog, yn llywydd. Dyg- wyd i sylw y gynnadledd yr angenrheidrwydd am wneyd rhyw ddarpariaeth yn ddioed, er cynnorthwyo Abergele a Cholwyn i gael gweinidogaeth fwy cysson, a chael jhyw frawd a alio i hretrethu Saesneg yn yr haf, ac i gymmeryd gofal yr achos yn" Abergele. Gan fod capel newydd da yn agos a bod yn barod i gael ei agor yno, mae o'r pwys msvyaf ar y cychwyniad i sicr- hau y doniau goreu ag a ellir eu cael, ac i geisio at gyrhaedd yr amcan hwn. Penderfynwyd,— 1. Fod y cyfarfod hwn yn penderfynu defnyddio y drydedd ran o'r casgliadau cenadol yn y dosparth hwn o'r Gymmanfa er cynnorthwyo y lie neu y llcoedd a farno y cyfarfod misol, daufisol, neu drimisol yn fwyaf priodol. 2. Fod y cyfarfod hwn yn pennodi y brodyr J. G. Owen, a Mr. R. Hughes, Rhyl Samuel, Rhuddlan a Watkins, anwydden, i gyfarfod mor fuan ag y byddo modd a swydd- o yr eglwysi yn Llanelian a Llanddulais, er trefnu cynllun Pit fodd i gael gweinidogaeth sefydlog yn Abergele a Cholwyn. Yna darllenwyd llythyrau oddwrth yr eglwys yn Llanrwst, a'i changen yn Llanddoget. Er cymmaint o bethau pwysig sydd wedi eu cwblhaa yn Llanddoget, nid oes yr un prawf ei bod wedi cael llythyr gollyngdod o'r fam eglwvs, ei -chorffoli, na'i derbyn yn aelod o'r Gyramanfa. Am hyoy, penderfynwyd 3. Fod yr Ysgrifenydd i anfon llythyr at y brodyr yn Llan- ddoget, i'w hysbysu nas gallant gael aelodiaeth yn ein Cym- manfa byd oni cheisiont am lythyr gollyngdod gan y fam eg- Iwys (Llanrwst), ac ymgorffoli yn rheolaidd; ac oni ch/dym- ffurfiont ^"r drefn, bydJant yn wrthodedig gan y Gymmanfa, ac nis caniateir i un o weinidogion y Gymmanfa weinyddu iddynt. Dygwyd i sylw y cyfarfod y gohebiaethau yn y SEREM a'r Greal mewn cyssylltiad a'r Baptist Building Fund a Thrysorfa yOdwy Fil. Amlygodd y cyrarfod ei deimlad gyda golwg arnynt mewn penderfyniad ond mae llythyr y Parch. John Prichard, D.D., yn v SEREN ddiweddaf yn arbed y drafferth i'w gyhoeddi. 4. Penderfynwyd fod y cyfarfod hwn gyda theimlad dvvya yn hysbysu ein bod yn ymwrthod a Mr. T. LI. Morris fel gweinidog a phregethwr. Dygodd y genad dros eglwys Bodogonwch i sylw y gynnad- ledd y ddyled fawr sydd yn gorwedd arnynt fel corff y farwol. aeth, a hwythau yn weiniaid i'w dwyn. Dywedai fod Cym., manfa Siroedd Caerfyrddin a Cheredigion wedi addaw yn y Gymmanfa ildiweddaf y caent ganiatad yn y Gymmanfa nesaf i fyned trwy yr eglwysi i gasglu, ond cael cymmeradwyaeth y cyfarfod trimisol. Dygai y brodyr a bennodwyd i chwilio cyfrifon Bodogonwch ea tystiolaeth o ffyddlondeb a gonest- rwydd y brawd Robert Roberts fel casglwr. Casglodd R126 8s. 9c, pa rai sydd wedi eu talu, a receipts am danynt, ac y mae i?166 5s. 5ic. etto yn aros. 5. Ein bod fel cyfarfod yn mawr gymmeradwyo achos yr eglwys yrndrechol yn Bodogonwch i sylw caredig a haelionus Cymmanfa Caerfyrddin a Cheredigion. 6. Fod y Parch. J. G. Owen, Rhyl, i'n cynnrychioli yn y cyfarfod a fwriedir ei gynnal yn Llundain mis Ebrill nesaf, ac fod Mr. R. Hughes, Rhyl, yn drysorydd i'r drysorfa er dwyn ei draul tra yn ein gwasanaetbu fel cynnrychiolwr. Bu achos y pleidiau yn y Tabernacl o dan sylw, aphennod- wyd ar y brodyr Theodore Ellison a W. Jones i chwilvo i'r achos, ac ymdrecliu gwneyd heddwch, yr hyn a effeithiwyd g nddynt y di wrnoti hwnw. Am hy(^y, afreidiol yw cyhoeddi y penderfyniad yn mhellaeh. Y GWASANAETH CYHOEDDUS. Am 7, y nos gyntaf, yn Llanddulas, pregethodd y brodyr Watkins, Glanwydden, ac Owens, Helygsn, yn rymus a dy- lanwadol. Yr un amser yn Colwyn, Roberts, Fforddlas, a Prichard, Dinbyeh. Am 10, dydd Mercher, pregethodd y brawd ieuanc John Pikering, Penyfron, ar brawf, fel ymgeisydd am fyned i'r Athrofll; ac ar ei ol gan R. Prichard yn ei hwyliau goreu. Yn y gynnadledd ar ol yr oedfa, penderfyn- wyd ein bod fel cyfarfod yn cymmeradwyo i sylw Pwyllgor Athrofa Llangollen y brawd ieuanc John Pikering, Penyfron, fel ymgeisydd teilwng o dderbyniad i'r Athrofa. Am 2, pre- gethodd y brodyr Samuel, Rhuddlan, a Rees, Llanrwst, ac yr oedd ein calonau yn cael eu cymhell i ogoneddu yr Arglwydd am nerthu ein hrodyr anwyl i Isfaru mor ogoneddus am Gar- iad Duw yn cael ei amlygu yn nhrefn fawr yr Iachawdwr- iaeth, ac am Ardderchogrwydd y Drefn i Bechaduriaid. Am 6, pregethodd y brawd Jones, Penyfron, yn ei arddnll syml a mawreddog ef ei hun, nes oedd yr amenuu a'r diolch yn agos a hod yn uwch na'i lais ac ar ei ol pregethodd yr ysgrifenydd. Hyderwn y bydd effeithiau da y cyfarfod yn para yn yr eglwys a'r cynnulleidfaoedd mawrion ag oedd yno. Mae yn llawenydd mawr i bob Cristion wele,l y fath olwg hyfryd ag sydd ar y maesydd sydd dan olygiaeth y brawd James James. Y fath ymdrech, y fath gydweithrediad, y fath gynnulleidtaoedd, y fath ysbryd efengylaidd yn yr eglwysi! 0 nad anfonai yr Arglwydd rhyw frawd talentog, gweithgar, ymroddol i waith yr Arglwydd, i ran o'r maes eang a tbor- eithiog hwn, cyn y hyddo iddosychu fyny o eisieu riiyw Apolos i ddyfrhau, ac yna credwn y byddai cynnydd buan. Amen. J. G. OWEN.

MYNEGYDD Y GOFFADWRIAETH.…

[No title]