Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y "DDWY FIL" A PHERIGLOR LLANDDEINIOL,

News
Cite
Share

Y "DDWY FIL" A PHERIGLOR LLANDDEINIOL, At Olyyydd SEBEN CYMRU." (Par had). Dyweda ein hawdwr, Y mae yn ddigon eglnr i bawb fod gwyrdroi ffeithisu, a chamddarlunio hanesyddiaeth pethau, yn gosod yr anneallus a'r annysgedig dan anfanteision lawer i wneuthur cyfiawnder a'r hyn a gynnygir i'w hystyriaeth." Gwir yw hyn oil; cytunaf ag ef yn hollol, a chydymorfoleddaf ag ef yn y ffaith nad ydym ni-efe a minnau-yn perthyn i'r dospaith anneallus ac annysgedig y sonia am danynt, a go- beithio nad annghofir ar un achlysur dalu i ni y parch gofynol. Pethcanmoladwyynddiauyw "rboddi gwybodaeth gywir i'r darllenwyr mewn pertbynas i sefyllfa wirioneddol pethau Mcyn cyhoeddiohonyntddedfryd condemniad ar yr eglwys wladol, neu unrhyw beth arall; ond ymddengys kmi, ar ol darllen ei draethodyn, ei fod yn hynod o anffodus os dyma oedd ei am. can, gan mai prin a theneu yw y wybodaeth o sefyllfa wir- ioneddol pethau," neu unrhyw wybodaeth arall sydd i'w ddysgu ynddo. Pe gadawem o'r neilldu yr ymadroddion chwyddedig sydd yn ei fritho am urddau santaidd," muriau cyssegr- edig," awdurdod oruchel," hawliau yr eglwys," &c., ni fyddai nemawr i'w ddysgu ynddo ond moddion i enllibo ein gelynion, os meddwn rai, neu ein eyfeillion pan gwympom allan S hwynt, os na fydd moesgarwch & digon o lywodraeth arnom i'n rhwystro i'w defnyddio. Yn y rhan gyntaf o'i draethodyn rhydd ein hawdwr lawer o bwys Ki- yr hyn a eilw yn drachwant o fanteision tymhorol yr eglwys." Ni phetrusent," meddai, gan gyfeirio at y Ddwy Fil, I. ymgyfoethogi ar fywiolaethau yr offeiriaid; daethant i feddiant o'r gwaddoliadau mwynhaent y torthau a'r pysgod perchenogent drwy drais feddiannau yr eglwys, bara'r plant, a bara'r eglwys; yr oeddent /yn yspeilio yr eg- lwys o'r degwm a'r offrwm," &c. Naturiol yw meddwl wrth y pwys a rydd y dyn hwn ar y manteision tymho'ol," eu bod yn cael lie tra hclaeth yn ei feddwl ei hun, a'i fod dan lywod- raeth y gwendfd hwnw, yr hwn y mae ein natur lygredig mor dueddot iddo, sef mesur 9d ereill wrth ei bwysel ei hun," a phriodoli i'r Annghydffurfwyr hyn, er ei fod yn hollol gyfreith- Ion i ryw rai, sydd yn bechod anfaddeuol ynddynt hwy. Llawer cllllaeh fuasai iddo beidio son am y "torthau a'r pysgod," rhag dwyn i gof ei ddarllenwyr y dichon serch at y "manteision tymhorol" hyn ysgogi symudiadau rhyw rai heblaw y rhai a gyhuddir ganddo. Sonia lftwpr am arddodiad dwylaw esgobawl fel peth angenrheidiol i weinidogaeth yr eglwys sefydledig. Dyweda fod rheolau yr eglwys yn gwahardd gwneuthur dim yn gy- hoeddus o fewn ei muiiau cyssegredig heb dderbyn urddiad esgobuwl yn gyntaf." Am yr Annghydffurfwyr hyn, dyweda nad oeddent yn weinidogion priodol yr eglwys oll-nad oeddent wedi dyfod i mewn trwy y drws i gorlan y defaid, ond wedi dringo ff'ordd arall, yr hyn a'u gwna (yn ei gyfrif ef, beth bynag) yn lladron ac yspeilwyr." Ni chyfrifid hwynt gan yr eglwys," meddai ef, "ond llevgwyr, neu ddymon heb urddau, o herwydd nad ystyrient yn angenrheidinl, ac ni dder- bynient, urddau esgobawl. Os ydyw am i ni ddeall fod yr urod;<u y sonia am danynt yn angenrheidiol yr amseroedd hyny, rhaid ei fod yn hynod o anwybodus yn hanesyddiaeth eill beglwys" er cymmairit ei ymffrost, neu ynte ei fod yn ymdrechu camarwain ei ddarllenwyr trwy ddweyd yr hyn nid yw wirionedd. Dysgir ni gan haneswyr ei fod yri beth arferol i ddynion heb urddau esgobol weinidogaethu yn yr eglwys wladol o acuser ei setydiiad byd amser deddf yr U ntfurfiaeth. Nid oedd yn beth annghytfredin," medd Hallam yn ei ConstitutionalHistory of England," "er decbreuad ein divrygiad i dderbyn gweinidogion a dderbyniasid mewn gwled- ydd Protestanaidd tramor i fywiotaethaa ynHoegr. Ni ar- •ferwyd erioed adurddopërsonan a dderbyniasent yn flaenorol osodiad dwylaw mewn eglwys reolaidd, felly, ymddengys nad oedd Eglwys Loegr yn ystyried ordeiniad Presbyteraidd yn ddiwerth." Arglwydd Macaulay yn ei "History of Eng- land" a ddyweda, Urddiadau -esgobawl a "wnaethpwyd yn awr (a-mser deddf yr Unffuriiaeth) am y tro cyntaf yn anheb- gorol angenrheidiol et cyrhaedd dyrchaBadau egtwysig." "Yn y flwyddyn 1603," medd yr hanesydd, Cymmanfa Arches- gobaeth Caergaint (Convocation of the Province of Canter- bury) a gydnabyddodd yn awyddol eglwys Scotland^ yn yr bon yr oedd esgobyddiaeth yn adnabyddus, fel. canghen o-eglwys gylfiedinol santaidd Crist. Ystyrid fod gan weinidogion Presbyteraidd le a llais yn y cynghorfeydd cyffredinol (occu- menical councils^. Llawer o'r bywiolaethau Seisnig a fe'id- iennid gan dduwinyddion a dderbyniasid i'r weinidogaeth yn y dull Calfinaidd a arferid ar y cyfandir, ac nid ystyrid adurddiad gan esgob yn y fath amgylchiadau yn angenrbeidiol, nac ych. waith yn gyfreithlon." Felly, ni a welwn fod y periglor wedi cyfeitiorni pan y dy- weda nad oedd yr eglwys yn ystyried y dynion hyny yn" wein- idogion priodol," o berwydd nad oeddent wedi eu hurddo trwy arddodiad dwylaw esgobawl." Yr oedd llawer o'r esgobion eu hunain yn Bresbyteriaid mewn barn yn gystal a'r gweinidogion yn amser y frenines Elizabeth, y rhai ni chyfrifent yn uchel y swydd esgobawl gyda ei holl awdurdod a'i gwychder, fel y profa y dyfyniadau can- lynol o Macaulay's History of England j "Esgob Parkhurst a amlygodd ei ddymuniad mewn modd taer ar fod i Eglwys Loegr gymmeryd Eglwys Zurich (yr hon nid oedd yn un esgobyddol) yn gynllun hollol o gymmundeb Cristionogol." Esgob Ponet ydoedd o'r farn y dylid gadael y gair esgob i'r Pabyddion, ac y dylid galw prif swyddwyr yr eglwys buredig yn arolygwyr (superintendents)." Esgob Jewel a alwai y wisg offeiriadol yn ddilledyn chwareuwyr (stage dress), cochl ynfyd-ddyn (fool's coat), a gweddill yr Amoriaid, ac a addun- edodd nad arbedir unrhyw draflFerth er symud ymaith yr afres- ymoldeb iselwael (degrading absurdity)." Archesgob Grin- dall a betrusodd am hir amser yn nghylch derbyn y meitr, o herwydd ei ffieiddiad o seremoniau disynwyr y cyssegriad (mummeries of the consecration)." "Esgob Ridley, y merthyr enwog, a dynodd i lawr holl allorau ei esgobaeth, ac a orchymynodd i ordinhad y swper gael ei gweinyddu yn nghanol yr eglwysi ar fyrddau, v rhai a elwid yn anmharchus gan y Pabyddion yn fyrddau llymeriaid (oyster boards)." Esgob Hooper, yr hwn a fu farw yn wrol dros ei grefydd yn Nghser-N loyw, a wrthododd am hir amser gymmeryd ei ordeinio, o herwydd y llw annuwiol, a'r hyu a alwai' y gwisgoedd Aaron- aidd." Yn nheyrnasiad Elizabeth, yr Esgobion Jewel, Cooper, a Whitgift, yn nghyd a doctoriaid enwog ereill, a amddiffynent esgobyddiaeth trwy ddweyd ei fod yn ddiniwed, ac yn ddefnyddiol, ond ni ddywedasant erioed nad oedd cym- mundeb Criationogol, er heb esgob, yn eglwys berffaith; ond i'r gwrthwyneb, eyfrifent Brotestaniaid y cyfandir fel yn per- thyn i deulu yr un ffydd a hwy eu hunain." Yn nyddiau Edward VI. ac Elizabeth, amddiffynwyr y fTurfiau eglwysig a ymfoddlonent ar ddywedyd y gallesid eu hymarferyd heb bechod, ac am hyny na wrthodai heb ond deiliaid cyndyn ac anufydd eu defnyddio pan yn cael eu gorchymyn gan y swydd- ogion." Amryw o swyddogion ac awdurdodau gorucbar" Eglwys Loegr yn ei liamser boreuol a ysgrifenasant yn erbyn yr olyn- iaeth Apostolaidd, ac esgobyddiaeth fel ei harferir ynddi ac yn eu plith. Cranmer ei hunan, yr hwn a ddylai gael parch a sylw manylaf pleidwyr yr urddau, gan y cyfrifir ef yn gyff- redin yn brif apostol eu hurdd. Esgob Stiilingfleet yn ei Irenicuni a rydd y dyfyniad canlynol o Cranmer: "Ell. gobion ac offeiriaid oeddynt un peth un amser, ac nid dau beth, eithr yn nechreuad crefydd Crist y ddau vn un. Gall esgob wneuthur offeiriaid yn ol yr ysgrythyrau, felly hefyd y gall tywysogion a llywodraethwyr trwy yr awdurdod a rodd. wyd iddynt gan Dduw, a'r bobl hefyd trwy ddewisiad (elec. tion). Y bobl yn gyffredin cyn bod tywysogion Cristionogol a ddewisent eu besgobion a'u hoffeiriaid eu hunain. Dan y Testament Newydd nid oes ar yr bwn a bennodwyd i fod yn esgob neu yn offeiriaid angen am gyssegriad (consecration) yn ol yr ysgrythyrau, oblegid dewisiad neu bennodiad i hyny sydd ddigonol. I amgylchiadau yr oes ac nid i Cranmer ei hunan yr ydym yn ddyledus am y cyffesiad rhyddfrydig yma. Gwyddai fod perthynas Lloegr a'r eglwys apostolaidd wedi darfod, y genedl wedi ei hysgymmuno, yr esgobion a'r offeir- iaid wedi eu diswyddo, ffrwd y ffynnonell apostolaidd wedi ei thori ymaith, a'i rhedle yn y cyfeiriad yma wedi sychu felly, yr oedd yn rhaid edrych i rywle arall am awdurdod i gyflwyno yr urddau angenrheidiol" i'w hoffeiriaid. Cafwyd ef am unwaith He yr oedd i'w gael, sef yn yr eglwys, neu fel y dy- weda efe, yn y hoht j ond am ffynnonell arall yr awdurdod, sef tywysogion a llywodraethwyr," y mae yn anhawdd dirnad pa fodd y daeth i'w feddwl briodoli y fath awdurdod iddynt hwy, oddieithr i'w reddf wasaidd sibrwd wrtho fod ganddo feistr yn mherson y brenin i'w wasanaethu. Yn gysson a'r athrawiaeth yma, sefydlwyd deddf (Harri VIII. 37, pen. 17), yr hon a Jdywedn "pu bod (y swyddogion eglwysig) yn derbyn eu hawduni.'(! esgobawl, a phob awdurdod eglwysig arall, yn unig ac yn hollol gan, oddiwrth, a than y brenin." Wrth byn, y mac yn amlwg mai ar awdurdod y Ilywydd gwladol y mae sw. durdod Eglwys Loegr yn sylfaenedig, ac nid ar awdurdod olyniaeth apostolaidd. Felly, ni a welwlI," medd Esgob Stiilingfleet, ar ol gwneuthur dyfyniadau helaethach o Cran. mer, trwy dystiolaeth yr hwn a fu y prif offeryn yn nygiad oddiamgylch ein dhvygiad nad oedd yn cydnabod esgobydd- iaeth fel urdd wahanol oddiwrtn henaduriaeth (presbytery) trwy hawl ddwyfol, ond yn unig fel sefydliad doeth o eiddo y llywodraethwr gwladol er rheoli yr eglwys yn well." Yr un awdwr etto a ddadleua mewn modd cywiain yn Irenicum," nad yw Crist wedi sefydlu llywodraeth breladaidd neu esgob- yddol yn ei eglwys oil. Dyweda "fod Crist wedi appwyntio swyddogion yn ei eglwys, ac wedi eu gwisgo ag awdurdod i bregethu, bedyddio, a gweinyddu ordinhadau yr efengyl sydd amlwg yn ngair Duw. Ond pa un a oedd neb i ddilyn yr apostolion mewn blaenoriaeth uwchlaw henuriaid, neu a oeddynt oil i lywodraethu yr eglwys mewn gallu cyfartal, nid yw yn un lIe wedi ei benderfynu gan ewyllys ddatguddiedig Duw yn yr ysgrythyrau, y rhai a gynnwysant ei gyfraith fren- inol ef." Dyweda etto, "Pethau hanfodol llywodraeth eg- lwysig yw y pethau hyny angenrheidiol er cadwraeth y eyfryw gymdeithas. Y pethau hyn oil ydyrit yn gynnwyseclig yn yr ysgrythyrau, fel y profwyd ond beth bynag nad yw yn angen- rheidiol ynddo ei tun a all ddyfod yn angenrheidiol, yn unig trwy orchymyn pendaat Duw; a pha betb bynag nad yw wedf ei orchymyn felly sydd ddygwyddiadol ac amgyLchiadol, »c yn fater o rydd Cristionogol, a'r cyfryw yr ydym yn haerttyw y fifurflywodraeth eglwysig." Gwelwo fod, gwahaniaeth dirfawr yn bodoti rhwng barnau yr awduron uchod a'r eiddo rhai o araddiffynwyr esgobyddiaeth y dyddiau presenol, y rbai gan gymmeryd yn ganiataol anwy- bodaeth yr anneallus a'r annysgedig," a gymmerant arnynt ei brofi o'r ysgrythyraa gan ymhoni olyniaeth apostölaidèl." Os yw eglwys yn ymddibynu ar ei sefydlogrwydd am ei bodol- aeth, fel y dadleua y periglor, bawdd fyddai profi nad yw Eglwys Loegr yn eglwys oil, gan fod cymmaint o gyfnewid- iadau wedi cymmeryd lie ynddi o bryd i bryd, a hyny yn rhai o "brif bethau ei cfeyfausoddfad." Ac heblaw hyny, y mae yn cael ei gwneyd i fyny y dyddiau presenol o bleidiau mor wahanol a gwrtbwynebol, fel y mae yn antnhosibl eu hystyried fel yn perthyn i'r un corff yn cael eu harwain gan yr un ysbryd; ond yr unig undeb ymddangosiadol a fodola rhyng- ddynt yw, eu bod yn dorf gymmysglyd, fel happy family, yn cyduno i fwyta ar fwrdd y wladwriaeth. Yr uchel eglwys- wyr, y rhai a wnant fyny y rhan luosocaf, ydynt, yn eu tyb- iau dychymmygol a'u hoffder o ffurfiau, yn llawer mwy tebygi Bahyddion nag i Brotestaniaid; 'ac y niae rhan helaeth o'i dynion mwyaf cyhoeddus a'i swyddogion nchelaf, hyd y nod yn mysg eu hesgobion, yn anffyddwyr protfesedig-yn gwadu ysbrydoliaeth yr ysgrythyrau ac athrawiaetbau sylfaenol y grefydd Gristionogol, tra y mae rhai o bonynt mor efengylaidd yn eu golygiadau, fel y byddent yn addurn i Brotestaniaid unrhyw wlad, neu Buritaniaid y cynoesoedd. Undeb me enw, heb unrhywiaeth, ydyw fel coedwig, yn yr hon yr ym- lecha adar o bob lliw a lIais-rhai yn soniarus, ereill yn aflafar -rhai yn ddymunol a phrydferth, a llawer yn ysglyfaetbus ac aflan. D. E.

m GOHEBIAETH O'R GOGLEDD.

TY'R CAPEL FRON OLEU.