Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

UNDEB RHWNG ENWADAU-PARCH.…

TY'R CAPEL FRON OLEU.

News
Cite
Share

TY'R CAPEL FRON OLEU. RHIF HI. Torai yr hen frewd William Sion ar y dystawrwydd, gan ddweyd, Wel, mae'r cyfarfodydd gweddio diwyg- iadol yma yn taro yn dda, frodyr ni welais I ddim yn y aghof I y fath ddylanwadau ymron. Rhyfedd yn wir yw'r gweddio yma o ran hyny felly mae gweddio wedi bod, welweh ehwi, yn mhob oes o'r byd. Yr oeddwn I yn licio y sylw yna ar weddi a wnaeth Robert yn ei araeth yn nghylch y ddau eithafion yna, fod dau eithaf- ion bodau moesol yn cyfarfod a'u gilydd wrth weddio. Yr oedd yn dweyd, fel y gwyddoch, mai natur foesol Duw yw y natur foesol uchelaf, a natur foesol dyn yw y natur foesol iselaf. Yr oeddwn I yn meddwl fod y sylw yn un da iawn, ae 3 n dra newydd i mi, beth bynag. Cawsom gwrdd ar ^hyffredin heno. Yr oedd y brodyr mewn hwyl a th qnnghyffredin yn gweddio." Atebai Hugh K u yn uniongyrchol, "Do, William Sion, cawsom gy s ,d da iawn. Wel, wir, yr oedd Abraham Williams yn neillduol heno etto. Ni chlywais mo hono fo erioed yn well, am wn I. Yr ydwyf fi yn licio Abraham bob amser ar weddi, ond yr oedd yn y nefoedd heno." Yn y nefoedd," meddai Hwmflfre Diifydd, *'nac o'dd, nac o'dd 'rwyt ti, Hugh Morgan, yn dy hwylia yn myn'd ym rhy bell bob amser. 'Cheith yr hen frawd mo'r gair yna gen I, weli di; nid peth mor hawdd ydy* myn'd i'r nefoedd, Hugh bach ni gawn ni fatlo, chwysu, ac ymdrechu tipyn i ddringo i'r nefoedd ond tydw I ddim yn dweyd ua cha y brawd doniol Abraham i fyn'd i'r nefoedd pan y daw o yn aeddfed. Yr ydw I yn credu yn gadarn fod tipyn felly o dduwioldeb yr hen Abraham ystalwm ynddo fo, hyny yw, llawer o debygolrwydd rhwng y naill a'r llall; ac ma nhw yn son fod o yn meddwl myn'd o'r hen wlad i'r 'Merica, ac mae yn eitha tebyg heb whod i ba le y mae yn myned; ac os ydy hym'n wir, bydd mwy o debygrwydd etto." » Ebe Hugh Morgan, Rb id i mi dy wrthwynebu di yn hyna, Wmffre. Yr ydwyf fi yn dweyd etto fod o wedi bod yn y nefoedd heno, a llawer gwaith o'r blaen. Yr wyt yn gwybod fod yr Apostol Paul wedi bod yno, ac wedi clywed geiriau annhrdethadwy, ac ni wyddai yr Apostol ddim pa un ai yn y corff ai allan o'r corff yr ydoedd ar y pryd; ac Wmffre, hen arfer pobl dduwiol yw myned i edrych gwlad, fel Caleb a Joshua gynt yn edrych gwlad Canaan. Bum I yn y nefoedd fy hunan o ran hynyr ac mi glywais, ac mi welais lawer iawn o bethau yno hefyd. Y gwir yw, 'does dim yn bosibl i beidio myned yno wrth ddarllen rhanau o'r Testament Newydd sydd yn son am y lie, yn enwedig Llvfr y Dadguddiad—mae y darluniadau mor fyw a chyflawn. Ac hyn yr ydwyf yn sicr, dy fod dithau, Wmffre, wedi bod yn teimlo yn debyg, a dy fod wedi gwybod sut le yw y nefoedd. Wmffre, beth feddylidiamypethyn awr ?" Wel, do wir, Hugh, mi fuom fel yna o ran y meddwl, neu y dychymmyg, ond nid ydw I ddim am ddeud fy mod fel tase yn gwbod sut le sy' yno. ra. chwaith, o ran byny, fy mod I wedi bod yn y nefoedd. Dyn a dy belpo," Wmffre bach, ychwanegai y brawd Morgan, mae y meddwl yn gallu gwneyd a myn'd mwy na feddyliet ti na minna. Y meddwl yw y dyn. Dyna sydd yn gwneyd dyn yw y meddwl. D na sydd yn gwneyd dyu yn fawr neu yn fychan-y meddwl. Ac mae yn anhawdd iawn dweyd yn mha le y mae y meddwl yn aros, pa un ai ynot ti, ai yn dy ymyl, ai yn mhell filiynau o filltiroedd oddiwrthyt P Mae y meddwl yn ysbrydol, weli di, a hyny yn fwy ysbrydol nar angylion a'r seraphiaid sydd yn y nefoedd, oblegid dios fod gan yr ysbrydion hyny ryw fath o gyrff, ac y maent yn cael son am danynt felly; ond mae meddwl dyn yn fwy ysbrydol na nhw o lawer, oblegid ni pher- thyn iddo ef ffurf na llun; ac am hyny, rhaid bod yn ofalus w iarad yn mha le y mae. Ysbryd, a dim ond ysbryd v" Pwy fedr ddweyd yn mha Ie y mae? Pe buaswn i yn cael rhoi fy marn ar y pwnc, buaswn I yn dweyd fod y med Iwl bob amser yn y lie mae gwrth- ddrychau serch y dyn; a phan mae gwrthddrychau ein serch a'n myfyrdod yn Patagonia, mae y meddwl yno hefyd, wrth gwrs. A phan vr yclym ya rhoddi ein serch ar y pethau sydd uchod, mae y meddwl uchod "fvd, ac os felly, yr ydym wedi bod eill dau lawer gwaith yny nefoedd. Mae y Beibl yn dweyd yn benderfynoIlle mae trysor dyn, yno mae ei gill on hefyd. Ac Wmffre, dichon i ni fod o ran ein cyrff a'n meddwl yn y nef- oedd, ac yno hefyd y mynydyma. Pwy wyr, feallai mai ar y ddaear y bydd sefvllfa ddyfodol y saint, weli di felly mae llawei iawn o bobl vn harnu, a byny yn ddigon naturicl. Mae yn wir fod llawer fel arall, ac yn barnu mai rhywle goruweh y ssr y bydd eu harosfa. Maent fel yn tybied fod y byd yma—y ddaear hon, yn rhy balogedig i fod vn nefoedd, pan mewn gwirionedd fod ein hen ddaear ni mor santaidd a dwvfol a'r nefoedd ei hunan, hyny yw, mor santaidd a'r nefoedd mae y Beibl yn son am dani. Yr hen ddaear yn santaidd Ydyw siwr, mor sautaidd a'r un ran yn amherodraeth y Jebofa mawr. Y dynion sydd ar y ddaear sydd yn an- mherffaUh, aflan, ac yn halogedig, ac nid y ddaear. Nid Z, oes un ran o'r greadigaeth yn fwy santaidd a dwyfol na/r hen ddaea.. Yr un Duw a wnaeth bob rhan o'r gread- igaeth fel eu gilydd, ac y mae yr un Duw yn llanw y naill fel y llall a'i bresenoldeb. Yr unig beth a'n gallu- oga ni i fyned i'r nefoedd yr adeg y b'om yn dewis yw, meddwl santaidd, pureiddio a nefoleiddio y meddwl, ac yna yr ydym yn y lie santaidd hwnw. A dyma yr achos fod y Beibl yn siarad cymmaint am goethi y meddwl, gwregysu llwynau y meddwl, caru yr Arglwydd ein Duw a'n holl feddwl, adnewyddu y meddwl, &c Dyna, Wwmffre, yr vdwyf yn dal at fy ngosodiad etto sef fod Abraham William a wedi bod yn y nefoedd heno a hyny am ei fod ef yn nefolaidd o ran ei feddwl a'