Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

[No title]

AMERICA.

Y GWRTHBYFEL YN POLAND.

News
Cite
Share

Y GWRTHBYFEL YN POLAND. Dywed y Czar am Chwef. 28, fod y Rwsiaid wedi cael eu trechu gan Langiewicz, ger Malogezec. Par- haodd y frwydr bum awr. Mae Malogezec yn garn- eddau. > Dywed ysgrifenydd y Times yn Vienna fod y gwrth- ryfelwyr yn raddol yn cael eu gwthio allan o'u gor- safoedd mwyaf cedyrn argyffiniau Prwsia ac Awstria, a'u gyru i ganolbarth y wlad. Mae dau golofn o Rwsiaid wedi dychwelyd o Ojcow a Walbrook i Mie- chow, yr hwn le sydd yn bentwr o adfeilion. AI- maenwr ag oedd yn dygwydd bod yn Ojcow pan ddarfu i'r Rwsiaid, dan lywyddiaeth y Tywysog Bag- raton, gymmeryd y lie, a ddywed iddo ef weled y Rwsiaid yn tynu llygaid ac yn tori bysedd y gwrth- ryfelwyr clwyfedig! Am bedwar o'r gloch ar y ddenddeg gwnaeth llu o Rwsiaid eu hytrrddangosiad gerbron palas yn Ratitnoy, perthynol i'r County Aur- elius Poletyllo, attegwr cadarn i'r Llywodraeth Rwsiaidd. Wedi anrheithip y palas drwy orchymyn y swyddog, cychwynwyd oddiyno i gastell y Count Leopold Poletyllo, yr hwn oedd aelod o'r Cynghor Gwladwriaethol a sefydlwvd yn Warsaw gan Wielo- polski. Gan fod y Count wedi clywed llawer am ytnddygiad barbaraidd y milwyr Rwsiaidd, gorehym- ynodd gau pyrth ei gastell yn eu herbyn, agommedd- odd eu hagor pan geisiwyd ganddo. Yr oedd y fath ymddygiad a hyn ar ran pendefig Polaidd yn ym- ddangos yn drwgdybus i'r Uchgadben, a chan hyny penderfynodd gymmeryd y Ile drwy drais. Tamwyd 9. ry dau ergyd yn gyntaf drwy y ffenestri, ac yna gwth. iwyd i mewn i'r castell, lIe y darfu i'r milwyr gam drin y Count a'i berthynasau. Saethwyd cefnder iddo yn farw, a buont bron a lladd ei dad. Lladdwyd dau o'r cogyddion yn y gegin, a chlwyfwyd ac anafwyd ped- oy wararddeg o rai ereill. Vn mhlith jr olaf yr oedd y Milwriad Dunin, 70 oed, a'r Ucbgadben Kuhn,60 oed. Ar ol anrheithio y castell llosgwyd ef yn was- lad a'r llawr. Dywed bryseb o Warsaw ddarfod i eiddo y Count Poletyllo gael ei ddinystrio o herwydd fod ergyd wedi ei danio ar y milwyr," ond ni chaf- wyd arf o un math yn y castell, er iddo gael ei an- rheithio yn drylwyr o'i ben i'w waelod. Sosnowice, Mawrth 1. Cyrhaeddodd Langiewicz a'i 6,000 o ganlynwyr Tombkoniz yn gynnar boreu heddyw. Mewn brwydr rhyngddynt a'r Rwsiaid, maeddwyd yr olaf yn dryl- wyr. Brcslau, Mawrth, 2. Teithwyr newydd gyrhaedd yma a hysbysant ddarfod i 4,000 o'r Poliaid enuill buddugoliaeth arall ger Myskow.

[No title]

MARK-LANE. LLUNDAIN.

MARCHNAD ANIFEILIAID LLUNDAIN.

PRISOEDD YMENYN A CHAWS.

MARCHNAD YD LLYNLLEIFIAD.

PRISOEDD Y LLEDR.

- MARCHNADOEDD CYMREIO.

PRISOEDD Y METELOEDD, &c.

[No title]