Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Mae y Great Eastern 3 n awryn gorwedd yn y Mersey, ger Rock Ferry. er ei chywelrio. Y mae Signor Gavazzi yn bwriadu sefydlu newyddiadur wythnosol newydd yn Florence, dan yr enw Gobaith Itali." Y mae Garibaldi wedi danfon 100 francs i swydd Lancaster. Mae Tywysog Cymru wedi pennodi y Parch. H. M. Birch, periglor Prestwich, ei athraw cyntaf, yn un o'i gapleniaid. RHYWBETH NEWYDD.Ychydig ddiwrnodau yn ol, priod- wyd boneddiges yn Syracuse a milwr mewn amddiffynfa ger Washington. Yr oedd y priodfab a'r briodferch oddeutu ped- war cant 0 filltiroedd oddiwrth eu gilydd ar y pryd, a llefarwyd yr addunedau priodasol drwy y pellebyr. Y gweinidog ar yr aehlysur dyddorol hwn oedd caplan y gatrawd i'r lion y per- thynai y priodfab. Ni chusanodd y briodferch." Cym- tnerorld ddwy awr i gwblhau y gwaitb, a'r neges bellebrol oddiwrth y caplan at y foneddiges yn hysbysu. ei bod hi a'r milwr yn$T a gwraig, yw ei hardysteb briodasol.—New York Times. FFWYDRIAD BERWEDYDD.—Cymmerodd dygwyddiad an- ffodus iawn le yn ddiweddar yn ngweithiau haiarn Iarll Gran- ville, drwy yr hwn y collodd nifer o bobl eu bywydau. Odd. eutu canol dydd ffrwydrodd berwedydd, a cliwythwyd ef i'r lan t'r awyr yn unionsyth i ryw nchder anferth ynacymmer- odd gyfeiriad naill ochrog, a daetb i lawr oddeutu dau can Hath O'r fan lie y safai gynt, Gorchuddiwyd y peutai a'r tai cyf- agosa'r adfeilion, ac nid yw braidd yn bosibl 1 ddychymmygu y fath alanastra a wnawd. Yr oedd nifer mawr o weithwyr gyda'u gorcbwylionar y pryd, ond ychydig 0 honynt ddiaug- odd. Nid ydys yn gwybod pa nifer sydd wedi colli eu byw. ydau, o herwydd danfonid y clwyfedigion yn union i'r clafdai, ac ereill i'w cartref, ac nid oeddysyr. dysgwyl y byddai i lawer o honynt wella. Codwyd wyth 0 gyrff meirw o'r adfeilion pa nifer sydd yno etto nid oes neb a wyr. Mae'r clwyfedigion yn y clafdai dros ddeg ar hugain mewn rhif, a chyflwr y rhan fwyaf 0 honynt braidd yn anobeithiol. HELA LLKW YN YR ALBAN,-Talodd Mander ymweliad a Mid-Calder yn ddiweddar a'i gasgliad 0 greaduriaid gwyllt. Pel arfer, yr oedd lluaws 0 bobl wedi ymgasglu yn mhell cyn yr amser penodedig i agor yr arddangosfa. Tra yr oeddys yn parotoi i agor y drysau i'r cyhcedd, diangodd llewieuanc, naw Deu ddeg mis oed, ond o faintioli anferth, o'i ffau, gan cliwalu y dorf yn mhob cyfeiriad. Cymmerodd y ceidwaid, yn nghyd r heddgeidwaid, a rbyw nifer o helyvyr arnynt i'w hela a'i ddwyn yn ol. Y llew yn clywed eu twrf, ac yn ofni y canlyn- iadau, pan welodd ddrws agored, a ruthrodd i mewn i d £ i'r lan i'r loflft, ac i mewn i'r gwely, er mawr syndod i'r hen Wraig, unig ddeiliad y ty, yr hon a ffodd ar ffrwst gan adael y cwbl i'r meddiannydd newydd. Ar ol twysged o drafferth, sicrhawyd y creadur gan ei geidwaid, a dygwyd ef yn ol i'w hen artref, heb iddo niweidio cymmaint ag un. YSPAENWR EHEDOG. — Ymddengys oddiwrth Telegrafo Barcelona fod gwas ffarm o'r enw Orujo, yn byw ger Malaga, wedi dyfeisio peiriant er ehedeg yn yr awyr. Mae'r peiriant yn gynnwysedig 0 wyntyllau wedi eu sicrbau wrth y sodlau, ac adenydd mawrion yn cyrhaedd o'r ysgwyddau i ganol y corff, symudedig gan y dwylaw. Mae'r dyfeisiwr, medd y papyr uchod, wedi esgyn ddau cant o droedfeddi a'i beiriant, acyr oedd yn alluog i fyned yn y cyfeiriad a fynai, hyd y nod yn erbyn y gwynt. Yr oedd befyd wedi teithio tair milldir mewn llai na chwarter awr. MAHWOLAETH RYFEDD.—Daliwyd trengholiad yn Green- wich dydd Gwener diweddaf ar gorff plentyn saith mis oed. Ymddengys ddarfod i'r fam osod y plentyn yn y gwely yn y prydnawn fel arfer, a phan aeth i'w chodi oddiyno yn mhen oddeutu dwy awr, cafodd ei bod wedi marw. Agorwyd y plentyn er mwyn gwybod beth oedd wedi achosi ei marwolaeth, pryd y cafwyd plufyn bychan yn ei gwddf, yr hwn y rhaid fod y plentyn wedi sugno o'r gobenydd ar yr hwn y gorweddai. Yr oedd y rheithwyr o'r farn mai y plufyn oedd wedi tagu y pltntyn.

AMERICA.

Y GWRTHBYFEL YN POLAND.

[No title]

MARK-LANE. LLUNDAIN.

MARCHNAD ANIFEILIAID LLUNDAIN.

PRISOEDD YMENYN A CHAWS.

MARCHNAD YD LLYNLLEIFIAD.

PRISOEDD Y LLEDR.

- MARCHNADOEDD CYMREIO.

PRISOEDD Y METELOEDD, &c.

[No title]