Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

(givjfafMjjtW (EMfijtltW.

CYFARFOD MISOL CYMREIG DYFED.

SIRHOWY Ar HELYNTION.

ABERTAWE.

CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN…

News
Cite
Share

oedd yn llawer mwy o Buritan riag y bu yn ei flynyddoedd boreuol. Ystyrid ef yn un o'r rhai mwyaf dysgedig yn y wlad, ac yn un o'r bynafiaethwyr blaenaf o fewn y dywysogaeth. Yr oedd yn fo- neddwr diledryw; yr oedd yn un o'r rhai mwyaf heddychol a di- gynhen a allesid gael; yr oedd yn ynad hwddwch yn ystyr fanylaf y gair; yr oedd ynwir fedrus a gofalus i ostegu ymrafaelion mewn cymmydogaeth; cynghorai ei gymmydogion yn ddifrifol i ymgadw mor ddyeithr ag y medrent i swyddfa y cyfreithiwr arbedodd draul a gofid i laweroedd ddegau o weithiau yn y dull hwn. Yr oedd yn hynod o garedijj i roddi pob cefrogaeth a allai i fechgyn a fyddent yn awyddus am wybodaeth a dysg. Derbyniodd yr ysgrif- enydd lawer o garedigrwydd oddiar ei law pan yn fachgenyn yn yr yagol; ac wedi hyny, cyfranodd a benthycodd lawer o lyfrau gwerthEawr i mi pan na feddwn nemawr o lyfrau, na moddion i'w cael. Er i mi droi allan yn yraneillduwr selog, ymddygai yn y modd parchusaf tuag ataf hyd ddydd ei farwolaeth. Byddai ei lyfrgell yn wastad at fy ngwasanaeth, beth bynag a fyddai arnaf eisieu; a byddai -yn fynych o wasanaeth mawr i mi pan fyddai arnaf eisieu ysgrifenu rhywbeth mewn cyfeiriad hanesyddol. Cefais fenthygllyfrau pwysig ganddo pan yn ysgrifenu ar Babydd- iaeth, y rhai a fuont o ddefnydd Mawr i mi Y mae YA tayfryd genyf gael eyfle i wneyd cymmaint a hyn o gydnabyddiaeth am hen gymmydog parchus a hynaws, ac yn neiIldnoI i gydnabod y carsdig- rwydd a gefais oddiar ei law. Bydded heddweh i'wlwch, a bydd- ed ei weddw a'i deulu yn fendigedig gan yr Arglwydd. Llanllyfni. R. JONES.