Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

YRWYTHNOS

;MARWOLAETH ALAW GOCH.

News
Cite
Share

MARWOLAETH ALAW GOCH. MAE ein calon yn isel, a'n teimlad yn llawn gofid, a'n llaw'n grynedig, pan yn y sgrifenu'r geiriau gwir alaethus i ni-MARWOLAETH ALAW GOCH I Ond erpob gofid, dyma ein gorchwyl yr wythnos hon. Mae yr enwog a'r aeddfwyn Dafydd Williams, o Ynyscynnon, wedi ein gadael. Mae ei ymadawiad cynamserol ac annysgwyl- iadwy wedi gordoi trigolion Aberdar mewn hiraeth dwfn a gwir alar. Nid ydym yn cofio am y fath deimlad yn cael ei greu ar farwolaeth neb pa bynag am y deunaw mlynedd diweddaf yn y plwyf hwn. Pan ddaeth y newydd i Aberdar boreu Sabboth diweddaf. yr oedd yn anhawdd cael gan y cyhoedd i gredu, fod eu mwyn gymmydog Dafydd, Williams wedi marw. Yr oeddynt yn gobeithio nad oedd y newydd trist yn wir, ac yin- drechent i beidio credu. Ond fel yr oedd y dydd yn myned yn mlaen, daeth cenad ar ol cenad, a chyn nos cadarnhawyd y newydd torcalonus, a gorfuwyd ni i gredu fod y Gwr o Ynyscynnon wedi ein gadael. Yr oedd ein cyfaill cynhes a'n cymmydog mwyn yn enedigol o Fro Morgans g ond pan yn las-lane symud- odd i blwyf Aberdar ei le arosol cyntaf oeddAbernanty- groes Isaf, preswylfa y diweddar Morgan Thomas David, tad-yn-nghyfraith y Parch. Thos. Price. Gweithiodd yn ddiwyd am dymhor, a buan y daeth i sylw fel gweithiwr da, diwyd, a sobr; ac nid hir y bu cyn dyfod yn Am- modwr dan gwmpeini haiarn Aberdar. Yma ennillodd iddo ei hun barch ei Feistriaid, serch ei gydweithwyr, ufydd-dod y rhai oedd tano, a gwnaeth ddaioni i'w am- gylchiadau bydol. Tuag ugain mlynedd yn ol, ardreth- odd fferm Ynyscynnon, wyneb a gwaelod, ar delerau tra manteisiol, mewn cymhariaeth i'r modd y cymmer. wyd tiroedd yn Nyffryn Aberdar wedi hyny. Dechreu- odd ar unwaith trwy agor Level fechan yn agos i hendy Ynyscynnon, ac yn ymyl Camlas Aberdar. Yma bu ein gwron yn hollol lwyddiannus, yn mhell tuhwnt i'w ddys- gwyliadau ef ei hun. Nid hir ar ol hyn y bu cyn dechreu agor y Pwll ar dir Aberaman. Hwn etto a brofodd yn gwbl lwyddiannus. Yna cawn ef yn olynol yn agor pyllau gloyn Cwmdar, Mountainash, a thrachefn ar Ystad Ynyscynnon. Yn mhob man yr oedd Haw dyner Rhagluniaeth yn bendithio anturiaethau y gwr o Ynyscynnon, fel y mae yn ffaith nad oes ond ychydig, os oes un i'w cael, ag sydd wedi profi'n fwy llwyddiannus na Mr. Williams yn ystod y deunaw mlynedd diweddaf. Dechreuodd y Level fach a llai ni dau cant o bunnau bu farw yn werth yn agos, os nad yn gwbl, DDAU CAN MIL o BUNNAU. A'r hyn oedd yn gysurus iawn fod pawb oil yn hollol foddlon i'r Gwr o Ynyscynnon i ennill arian. Yr oedd pawb yn credu ei fod yn eu hennill yn gyfiawn ac onest. Ni chlywsom erioed iddo wneyd cam a gwr yn ei fater. Yr oedd yn ei wasanaeth gannoedd lawer o weithwyr-yn ffesurwyr, crefftwyr, peiriannwyr, agorwyr pyllau, glowyr, gyrwyr, amaethwyr, a llafurwyr; ond er ein bod yn byw yn eu canol, ni chlywsom neb yn achwyn ar David Williams fel meistr; ond o'r tu arall, clywsom ugeiniau yn rhoddi iddo y cymmeriad uchaf fel meistr gweithwyr. Yr oedd ei air fel ei lw, a'i addewid mor sicr a'i chyflawniad. Mae ei gymmeriad fel meistr yn uchel iawn yn ngolwg y gweithwyr eu hunain, a bydd ei gofiant yn gynhes ac anwyl ganddynt am flynyddau i ddyfod. Fel Lienor, Bardd, a Noddwr Addysg, mae Alaw Goch yn adnabyddus yn agos ac yn mhell hefyd. Mae eu englynion yn dda, ei ganiadau moesol yn swynol; ond yn benaf, yr ysbryd a redai drwyddynt oil a gor- onai y ewbl. Fel noddwr Llenyddiaeth ei wlad yr oedd yn enwog. Nid oes ond ei gyfeillion agosaf a wyddant am haelioni Alaw Goch, a'i barodrwydd mawr i gynnorth- wyo pob mudiad llenyddol Cymreig. Gwyddom ei fod wedi cyflawnu llawer tro clodwiw na fydd i'r byd byth wybod am dano. Yn y cymmeriad o noddwr Eistedd- fodau, mae wedi bod o flaen y cyhoedd yn ami yn ei flynyddau olaf. Ond gallwn ni siarad am ei ymdrechion yn Aberdar a Sir Gaerfyrddin o blaid ysgolion dyddiol, ac addysg y radd weithgar. Mae wedi llafurio yn galed, cysson, ac hyd y diwedd, yn y cylch hwn, a bydd mil- oectd o blant y Cymry yn canmol ei enw mewn blyn- yddau i ddyfod. Gwyddom ni hefyd am ei haelioni cysson a pharhaus at demlau y Jehofa. Fel dinasydd yr oedd yn sefyll yn uchel fel ILesolwr ei ardal. Cym- merai ddyddordeb yn nygiad y nwy i oleuo y dref, gyda Bwrdd techyd, y Dwfr-weithiau, a bu flynyddau lawer yn warcheidwad y tlodion; ac yn yr oil o'r cylch- oedd hyn bu yn ffyddlon, diwyd, a gonest. Ond wedi treulio blynyddau i ddadblygu adnoddion mwnol Aberdar, gwneyd rhan fawr atycynnydd pwysig yn y plwyf o 5,000 o drigolion pan ddechreuodd David Williams weithio y glo, ond yn awr sydd yn rhifo o leiaf 34,000 o eneidiau. Prynodd amryw diroedd pwysig mewn gwahanol fanau yn Nghymru; ac yn eu plith Ystad wertbfawr y Miskin. Yn ddiweddar symudodd y bardd i fyw i'r Miskin Court, er galar i bawb o'i hen gymmydogion yn Aberdar. Dydd Iau cyn ei farw, cawsom ei bresenoldeb yn nghyfarfod Rhanfeddianwyr y Gas Co." Yno cawsom y fraint o'i gynnyg ef, Thos. Wayne, a Crawshav Bailey, Ysweiniaid, i gael eu hail-ethol yn gyfarwyddwyr y Cwmpeini. Caniasom yn iach y dydd bwnw, heb feddwl am ei angeu disymmwth. Dydd Sadwrn diweddaf (Chwef. 28), aeth Mr. Wil- liams ar negei i dref Penybont-ar-ogwy, a phan yn cerdded yr heol am ddau o'r gloch, yn hollol ddirybydd a disymmwth, syrthiodd i'r llawr, wedi ei daro gan frenin braw. Mor nerthol oedd yr ergyd, fel na syflodd, nid ocheneidiodd, ac nid anadlodd byth mwy. Ni cheisem ddarlunio y teimlad yn Aberdar pan ddaeth y newydd trist i'r dref. Och ymadawodd y boneddwr, y ayngarwr, y Bardd, a'r Llenor, yn mherson David Williams o Ynyseynnon! Mae wedi gadael ar ei ol briod anwyl, a thri o blant. Mae y mab henaf, Gwilym, yn awr yn cael ei ddwyn i fyny i fod yn Ba- rister at Law," ac yn rhan-berchenog y Daily Leader;" mae Gotner, y mab ieuengaf, yn New Zealand, yn dir- fesurydd dan y Llywodraeth; mae Gwladus, yr unig ferch, yn briod a David Rosser, Yaw., cyfreitniwr, ao yn byw yn Aberdar. Dymunem Duw yn nawdd i'r weddw a'r plant anwyl. Yr ydym wedi ysgrifenu yr ysgrif hon vn nghanol swn Eisteddfod Gerddorol Ddirwestol Aberdar, ac nid oes genym bamdden i ddywedyd mwy yn awr, ac nis gallem ddywedyd llai am yr anwyl Alaw Goch. Mae y doniol Hugh Tegai wrth ein hochr, a gwnaeth ar ein cais yrengiynion canlynol i fod yn ddiweddglo i'r nod- iadau hyn: — Gwagle du, Ow I yw'r Gogtedd,—Oeh wyro Ei choron a'i gorsedd Gwae'r Deau! Angau ingwedd I Wylawmawr! ALAW y' medd IJ Oeh! Alaw, ein pen uchel wr,—dor wyd, Prif darian y gweithiwr Dyhidlai ef i dlawd wr Ei olud-bensf haclwr. I Aberdar y bu wir dirion—dad,— I'r De oil yn goron I Gymru bu hyd y bon Y noddydd awenyddion. TBOAI.

Family Notices

CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN…

Advertising