Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

AT Y PARCH. H. JONES, FFALD-Y-BRENIN.

Y "DDWY FIt" A PHERIGLOR LLANDDEINIOL.

News
Cite
Share

Y "DDWY FIt" A PHERIGLOR LLANDDEINIOL. At Olyyydd SBRBV CVMRO." SXR, — Galwwyd fy sylw yn ddiweddar at draethodyn o eiddo Periglor Llanddeiniol ar y Ddwy Fil," yn yr hwn, fel y gallesid dysgwyl, yr amlyga anfoddlonrwydd nid bychan at y symudiad presenol er gwne.d coffadwriaeth o honynt, a'u dwyn i sylw y werin. Teimla yn ddigofus iawn atom fel "Ymneillduwyr o wahanol enwadau," am ein hymddygiad yn s6n am danynt; ac er dial ei lid, ymosoda nid yn unig arnom ni, ond hefyd ar y dynion da hyny, y rhai, er nad oes ganddynt un llaw yn y gwaith presenol, fuont achlysur o hono, ac am hyny ydynt wrthddrychau teilwng ei soriant. Anfynych, fel mae goreu y modd, y gwelir cyfansoddiadau mor Hawn o dymher ddrwg, ac ymadroddion anfoesgar ac en- llibaidd, a'r un dan sylw, nac ychwaith rai mor haerllug mewn liaeriadau disail, heb gynnyg eu cadarnhau drwy dystiolaethau haneswyr. Pe buasai "Syr Oracle ei hunan yn liefaru, nis gallasai ddangos mwy o ddirmyg • r awdurdodau hanesyddol nag y mae ein hawdwr wedi gwneuthur, na myned heibio iddynt gyda mwy o ddiystyrwch, ond gwna y diffyg hwn i fyny drwy y parch a ymhona i awdurdodau goruchel ein heglwys," sef gwyr eglwysig——offeiriaid—i roddi o'r neilldu bob deddf, ond y cyfryw a fyddo yn wasanaethgar iddynt hwy eu hunain, ac i sathru pob awdurdod arall dan eu traed. Dyweda fod y gwahanol bleidiau crefyddol yn amrywio yn yr amcan mewn bwriad, a'r defnydd a olygant wneuthur o'r Goffadwriaeth ryfedd hon, etto cydunant yn y pethau canlynol o leiaf," y rhal a renir ganddo yn y ffordll arferol i laf, yn 2il, ac yn 3ydd. Yr amcan mewn bwriad, yn y lie laf, medda ef, yw pern i'r achlysur fod yn wasanaethgar er gwneyd ym- osodiadau didrugaredd ar yr eglwys." Y mae yn beth hynod nas gellir galw sylw y bobl yn ol at dymhor mewn hanesydd- iaeth, na s8n am bersonau a enwogasant y tymhor hwnw, heb fod dan gyhuddiad o chwennych ymosod ar yr Eglwys Wladol. Ond gan nad oes un sail i'r cyhuddiad, ofer fyddai gwastraffu amser i'w wrth-ddywedyd. Y mae yn wir fod cyfnod ohanes- yddiaeth eglwysig yn dyfod i mewn yn naturiol yn hanes yr Annghydffurfwyr hyny,i!ac nis gallesid son am danynt na'u cyflwyno i sylw y werin heb ar yr un pryd wneuthur rhyw sylwadau ar yr amseroedd yn mha rai yr oeddynt yn byw, ac yn neillduol ar ymddygiadau yr awdurdodau eglwysig, a pha rai y mae eu hanes yn gyssylltiedig. Etto, annghyfiawnder yw cyhuddo yr Ymneillduwyr o wneuthur "Ilwyn o'r achos yma er saethu at y sefydliad bicellau tanllyd Ymneillduaeth," a phriodoli iddynt fel prif ddyben yr hyn nad yw, er yn gys- sylttiadol ond amgylcliiad damweiniol yn unig. Rhaid fod yr offetriaid ya eyfrif fod, eu sefydliad yn wneuthuredig o ddef- nyddiau hynod o awyraidd gan eu bod mor ofnus i ollwng goleuni hanesyddiaeth arno, ac mor ymdrechol i gadw y bobl mewn anwybodaeth o hanesyddiaeth grefyddol eu gwlad. Er hyny, ni ddylent dramgwyddo cymmaint wrthym ni, os nad ydym yu cvdsynio fi hwynt yn hyn, oblegid y mae gan bob plaid ei neillduolion a chan nad yw celu eu hanesyddiaeth yn un o neillduolion yr Ymneillduwyr," dygant ef i sylw y bobl, ac annogaht hwynt i'w chv« ilio, gan gredu y bydd hyny yn llesiol iddynt hwy, ac ar y cyfan yn ogoniant i grefydd, heb un bwriad i ymosod ar yr eglwys yn neillduol, ond pob peth yn gyffredinol sydd yn groes i wirionedd ac uniondeb. Yr ail amcan mewn bwriad sydd genym, medda, yw parotoi y bobl i osod s61 eu cymmeradwyaeth ar y gwaith drwy greu rhagfarn yn eu meddyliau tuag at yr eglwys." Tyhi wyf mai rhagfarnyn eikerbyn afeddylia. Os, yw gwybodaeth o hanesyddiaeth yr eglwys yn debyg o greu rhagfarn yn meddyl- iau y bobl yr ei herbyn, ei hymddygiadau ei hunan ddylai feio, ac nid yr Ymneillduwyr ac os yw offeiriaid y dyddiau presenol yn ewyllysio sefyll; vn uwch yn nghvfrif y bobl na llawer o'u rhagflaeniaid, y ffordd fwyaf effeithiol iddynt gyr- haedd eu hamcan ydyw ymwrthod a'r hyn oedd feius ynddynt, ac nid ymdrechu cyfiawnhau eu hymddygiadau pan yn eglur ddrygionus. j Y trydydd amcan mewn bwriad," a'r olaf a briodolir ganddo- i ni, "ydyw gweithio y werin anwybodus i benboethni, fel trwy hyny y gallont eu darbwyllo i fod yn haelionus tuag at ddy- benion,ectol." Dymay dybenion a briodolir i'r Ymneilldu- wyr yn eu hymdrech i barchu coffadwriaeth y Ddwy, Fil gan un sydd wedi ymsefydlu ei hun yn farnwr. Pob peth a wneir gas grefyddwyr yn ol ei esboniad ef a gyflawnir i ddybenion sectol." Ni chreda fod y fath beth yn y byd a scl dros achos Duw,a phryder am eneidiau dynion, ond priodola bob ymdrech er Ilesoli y genedt i ryw ddybenlon ansantaidd a hunanol. Dy benion sectol!" Y mae yn beth rhyfedd fod Duw wedi arddel ymdrechion o'r fath, a'u gwneyd yn effeithiol i ddwyn oddiamgylch gyfnewidiad mor bwysig ar ein cenedl a'r hwn a gymmerodd le mewn tymhor mor fyr—cyfnewid gwla 1 o ddyn- ion nad oedd ond ychydig gwell nfi phaganiaid i'r hy-n ydyw yn bresenol. Y mae dynion wedi bod yn ein gwlad, ac yn bo etto, y rhai y mae gogoniant Duw a lies eu cyd-ddynion yd betbau agosaf at eu meddyliau-i hyn abertharit bob Iles n chysur, personol, gan ddymuno, fel Paul, bod yn anathema oddiwtth Grist dros eu cydgenedl, ac y mae Duw wedi arddea a bendithio eu hymdrechion fel y gwnaeth i'w cyffelyb ynl mhob oes, yr hyn yw y prawf cadarnaf, a'r unig brawf o'u gwir anfoniad i'r swydd. Buasai yn agosach i'w le, a dangosai ysbryd llawer mwy addfwyn a charedig, pe dywedasai, "eu dyben yw ymadnawyddu mewn sel a diwydrwydd, trwy ddwyu ar gof y blaenoriaid a draethasant Air Duw, ffydd y rbai y dymunant ddilyn, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt, fel yn gwneuthur daioni na ddiffygiont." Hysbysir ni gan ein hawdwr ei fod "wedi darllen yehydig o hanes y byd a'r amseroedd perthynol i'r cyfnod terfysglyd hwnw, ac wedi ymdrechu deall, i raddati, natur y gweithred- iadau oedd yn cael eu dwyn yn mlaen." Credaf yn rhwydd ei fod wedi darllen traethawd dwy geiniog Venables," How did they get there ?" yn lied fanwl, gan mai cyfieithadau o hono sydd yn gwneyd i fyny bron yr oll o'i draethodyn; ond gan nad pa faint yn rhagor a ddarllenodd o hanes y byd a'r cyfnod terfysglyd hwnw," a pha faint a ddeallodd o natur y gweithrediadau," nid oes llawer o'r ffrwyth i'w weled yn ei draethodyn. Beth bynag, y mae wedi myned yn mhell tu- hwnt i'w flaenoriaid yn y gelfyddyd o ddifrio, ac y mae wedi ei hymarferyd i'r eithaf ar yr Annghydffurfwyr hyny, trwy eu Iliwio yn y lliw duaf sydd ganddo, ac yna ar ei air ei hun yn unig dysgwylir arnom gredu y cyfan a ddyweda am danynt. Ond gan mai nid efengyl a bregethir bob amser gan y rhai a ddeibyniasant yr urddau angenrheidiol," fe allai y maddeuir i mi am attal fy nghydsyniad, am dymhor beth, bynag, gan fod y cyfan a ddarllenais yn flaenorol am danynt yn eu desgrifio fel cymmeriadau tra gwahanol. Y mae yn deilwng o sylw nad oes yn nghorff ei draethodyn braidd un dyfyniad na chyfeiriad at awduron i brofi a chadarnhau ei haeriadau; er hyny, yn gyfanswm efe a gondemnia y Ddwy Fil fel y gwrthddrychau mwyaf digydwybod a allasai ddarlunio." Geilw hwynt yn "toch a chwn," "dynion i'r fall," "yspeilwyr," "dynion o ysbryd llofruddiog a melldigedig," &c. Ofer fyddai i mi ddywedyd nage am y pethau hyn, er feallai y cawsai fy nage I gymmaiut o gredinwyr ag sydd gan ei ie yntau ond y mae genyf ryw gymmaint o barch i ddeall a rheswm fy nghydwlad- wyr, fel na cheisiaf ganddynt gredu y pethau a ddywedwyf heb, ryw brofion i'w cadarnhau. Prin y gallesid credu y gwnai un'dyn anturio yn ngwydd y cyhoedd i gymhwyso y fath ddarluniadau at ddynion o gym- meriadau mor uchel, a phersonau mor adnabyddus. Y mae coffadwriaeth llawer o honynt yn barchus yn mysg ein cyd- genedl, ac y mae eu gweithiau wedi rhoddi goleuni a chysur i filoedd rhwng mynyddau a bryniau ein gwlad bydd eu henwau yn berarogl yn Nghymru, yn gystal ag mewn gwledydd ereill, tra y peru yr iaith Gymraeg a'r Cymry fel cenedl fodoli. Richard Baxter, awdwr Gorphwysfs dragywyddol y Saint," gwaith mor adnabyddus i bob Cymro duwiolfrydig a chwaeth ganddo at lenyddiaeth. Dr. Owen, esboniadau yr hwn, yn nghyd A'i draethawd enwog ar "Gyfiawnhlld," ydynt mor boblogaidd. Charnock, awdwr y gweithiau ardderchog ar y Priodoliaethau Dwyfol;" Dyma rai o'r gwrthddrychau a ddifrlir gan ein hawdwr. Yn eu plith yr oedd Flavel a Poole, gweithiau y rhai hefyd ydynt yngyneithedig i'r Gymraeg; Howe o Farrington, Edmund Calamy, yrhwn yn ei bregeth ar fudr-elw a ddywedodd yn ngwydd y Cadfridog Monk, A phaham y gelwir ef yn fudr elw? Onid am ei fod yn peru i ddynion wneuthur pethau gwael a budronV Gale hefyd, yr ysgolhaig enwog Alleine a Manton Phillip Henry, o Sir Fflint, tad teilwng awdwr yr esboniadau gwerthfawr ar yr ysgrythyrau; Dr. Annesley, taid yr enwog John Wesley; Gouge, yr hwn a wnaeth gymmaint dros addysg a lledaeniad yr ysgrythyrau yn Nghymru, er cael ei eilid gan offeiriaid a swyddogion eglwysig ein gwlad, am yr hwn y dywedodd Arch- esgob Tillotson, wrth son am dano yn y bregeth angladdol a bregethodd iddo, "GallCymru mor deilwng ymffrostio yn y gwr gwir apostolaidd yma ag y gwna yn ei Sant Dewi, yr hwn oedd yn wr da mewn amser tywyll a choelgrefyddol." Dyma rai o lawer a allaswn enwi o'r enwogion a ddifenwir gan Beriglor Llanddeiniol! y rhai, er cymmaint ei ymdrech i'w cymmylu, a ymddysgleiriant etto fel goleuadau tanbaid, y rhai nis gellir eu cuddio." Y mae cyhoeddi y fath ddesgrifiad o'r dynion yma nid yn unig yn enllib ar y cymmeriadau goreu, ond hefyd, trwy ei gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg, y mae yn sarhad a dirmyg ar genedl y Cymry, yr hon sydd wedi dysgu*