Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

AT Y PARCH. H. JONES, FFALD-Y-BRENIN.

News
Cite
Share

AT Y PARCH. H. JONES, FFALD-Y-BRENIN. Ms- Goi,—A fyddwoh mor garedig.a chaniatau i'r hyn a ganlyn i ymddangos yn y SEREN. Mae darllenwyr y SEREN yn cofio yn ddiau, am yr ychydig ofyniadau hyny a ymddangosodd ynddi yn ddiweddar, yn gyfeiriedig at y Parchedig uchod.ond nid ydynt wedi gweled yr hyn a alwai efe yn atebion, gan mai yn y Byd Cymreig yr ymddangosasant. Gan iddo ef anfon i'r Byd," anfonais innau adolygiad ar ei yagrif i'r un Cy- hoeddiad; ond nid oedd Golvgydd y cyhoeddiad hwnw yn ddigon gonest i ganiatau iddo ymddangos. Nid wyf rywfodd yn teimlo yn siomedig iawn am hyn, oblegid Independiad ydyw, ac y mae ei ymddygiad yn hollol deilwng ohonynt hwy, ie, ac o hono ei hunan hefyd. Gan fod yr ysgrif hon o eiddo Mr. Jones ataf mor amddlfad o wirionedd, mae yr bawl sydd gan y gwirionedd ar ddyn, yn nghyd â, dyledswydd y dyn at y gwirionedd, yn fy rhwymo i wneyd sylw neu ddau ar y pethau a'n barweiniodd i'r ddadl hon. Tra yn gwneyd hyn, yr wyf yn ymrwymo i ddweyd y gwir, y gwir i gyd, a dim ond y gwir. Yn mis Medi diweddaf, neilldnwyd fi yn weinidog ar eglwysi Bethel a Salem, Cayo. Ar ddydd fy sefydliad, rhoddais gyffes o'm ffydd. Yn mhlith pethau ereill, dywedais fy marn ar Fedydd, am yr hyn y chwerwodd llawer ag oedd yn barnu yn wahanol, a phenderfynasant fy ngalw i gyfrif am hyny ond cael rhyw fath o gyfleustra. Yn mhen ychydig amser wedi hyn, dywedodd y Parchedig Mr. Jones yn un o'i gapeli fy mod wedi dweyd anwiredd noeth ar ddydd fy sefydliad, a hyny yn nghlywedigaeth cannoedd o ddynion, gan gyfeirio atgyffes fy ffydd. Yn mhen ychydig wedi hyny yr oedd yr un gtfrr Parchedig yn taenellu plentyn mewn ffermd £ yn y gymmydog- aeth, a dywedodd, Nid wyf fi yn golygu dweyd llawer ar y pwnc hwn heno. Y*- ydych," eb efe, wedi clywed rhyw syl- wadau rhyfedd ar Fedydd yn y gifmmydogaeth hon yn ddi- weddar. Nid wyf yn gwybod pa un a wnaed hwynt oddiar anwybodaeth neu ynte oddiar ryw ragfarn atom ni," (gan gyf. eirio etto at gyfles fy ffydd). Y Sabboth yn mben yr wythnos wedi hyn y pregethwyd y bregeth ryfedd hono gan weinidog Ffaldybrenin ag oedd i benderfynu hen gweryl yr oesau rhwng y daenell a'r droch; ac o hyny allan, nid oedd un trochwr i agor ei enan ar bwnc y Bedydd. Am y tymhor hwn yr oedd eglwys Ffaldybrenin yn'fath o Etna daenellyddol-rhyw waew parhaus yn ei cholyddion ond ar foreu y Sabboth hwnw, dacw yr hyn oedd i fewn yn dyfod allan trwy enau y gweinidog, fel y lava berwedig, ac yn rhedeg yn afon danllyd boeth tuag at y "trochwyr" a'u gweinidog yn y gymmydogaeth. Dyna yn wirioneddol fel y mae wedi bod yma gyda ni. A chan mai ar y dybiaeth fy mod wedi gwneyJ annghyfiawnder a'r Bed- ydd ar ddydd fy sefydliad y gwnaed hyn oil, teimlais, ae yr wyf yn teimlo, mai fy nyledswydd yw amddiffyn fy hun. Mr. Jones, Syr,—Mae y frawddeggyntaf o'ch llythyr yn y Byd," ag sydd yn gyfeiriedig ataf fi, a rhyw sawyr anwiredd yn dyfod oddiwrthi. Yr hyn a fynwch i'r darllenwyr gredu drwyddi ydyw hyn, onide, sef fod rhyw siarad am y gofyniadau, a rhyw chwythu bygythion a chelanedd ar y Taenellwyr, gan y Bedyddwyr yn y gymmydogaeth, cyn ymddangosiad y SEREN, a fihwithau yn jarhaus yn byw yn sftn y sibrwd hwnw ? Ai hyn yw y gwirionedd, Mr. Jones ? Onidjnjfi trwy fy llythyr a'ch hysbysodd am y peth gyntaf? Ai nid oeddech chwi yn gwybod fod y gofyniadau wedi eu hanfon i'r SERUM cyn fod neb arall yn gwybod, ond fy hunan ? Hefyd, a yw y corff An- nibynol wedi ei gyfansoddi yn y fath fodd, ac ar y fath egwydd- orion, fel os cauir genau gweinidog Ffaldybrenin, fod genan pob Annibynwr yn cael eu can ar yr un pryd ? Os felly, rhaid mai chwi yw genau y corff. Mae yn debyg mai rhyw deimlad ac ofn a gynnyrchwyd yn eich mynwes eich hun, gan rywbeth perthynol i chwi eich hun, ydoedd y rhai hyn. Yr ydych fel pe baech wedi galw rhyw alluoedd eneidiol newydd i fodolaeth, a'u harfer yn eu holl nerth i wadu na ddarfu i chwi ddweyd mai uni -g"a gwir ystyr y geiriau gwreiddiol bapto a baptizo yw taenellu neu dywallt. Byddwch mor garedig ag edrych ar y llythyr a anfonasoch ataf ar y IBred o Ragfyr, y tudalen flaenaf, y frawddeg ddiweddaf ond un ar y tudalen, yr hon sydd fel y caniyn :—" Fy unig drosedd oedd dweyd fy ngolyg- iadau ar fedydd, profi fod plant yn ddeiliaid bedydd, ac mai taenellu neu dywallt yw y dull ysgrytbyrol o fedyddio, ac fod trochi yn eich ystyr chwi yn anysgrythyrol." Meddyliwch chwi mai taenellu yw y dull ysgrythyrol 0 fedyddio; meddyl- iwyf finnau nad oes un dull o fedyddio. yn ysgrythyrol ond trochi. Mynwch chwi i ddarltenwyr y "Byd" feddwl eich bod yn credu fod mwy nag un ystyr i'r geiriau gwreiddiol am fedydd mynwch i minnau gredu nad oes ond un dull ysgryth- yrol o fedyddio, a hwnw yw taenellu. Os goddef y geiriau gwreiddiol i'w cyfieithu i ystyrion gwahanol, mae yn rhesymol i feddwl a phenderfynu fod pob ystyr gwahanol yn golygu dull gwahanol. Ond yn ol logic y Parch H. Jones, o Ffaldybrenin, ystyron lawer i'r geiriau gwreiddiol, ond un dull o fedyddio Yr wyf fi yn credu mor benderfynol a chwithau, nad oes ond un dull o fedyddio yn briodol, credwyf mor benderfynol a hyny nad oes ond un ystyr i'r geiriau gwreiddiol; and nid wyf yu credu mai taenellu yw y dull hwnw. Nid yw y geiriau gwreidd- iol yn gwybod mwy am daenellu fel ystyr iddynt hefyd, na wyr Jones, Ffaldybrenin, amy geiriau gwreiddiol. Os darfu i chwi ddweyd y Sabboth hwnw ar eich pregeth fod mwy nag un ystyr i'r geiriau gwreiddiol, paham y dywedasoch yr wythnos ar ol hyny nad oedd ond un dull o fedyddio? Am yr ail ofyniad, addefwch ei fod yn wirionedd. Nid yw yn briodol defnyddio mor o flaen y gystadlradd, megys, mor anwyled, neu mor laned, 0 flaen y symlradd mae mor i'w ddefnyddio, megys mor lan. Gellir dywedyd cyn neu can laned. Dywedwch)amy trydydd ei fod yn anwiredd perffaith dy. wedwch hefyd eich bod wedi dweyd rhywbeth am ddyn yn yr unfed ar bumtheg ganrif. Pa fodd, gan hyny, a chaniatau ei fod yn ahwiredd, yr hyn ni wnaf byth, y gall fod yn anwiredd perffaith 1; Yn un o'm Uythyrau atoch, cyhuddaw chwi o'r hyn a gynnwys y trydydd gofyniad eich ateb chwithau oedd Na, nid camsynied Munster yn lie Brown a wnaethym." Yr oedd fy nghyhuddiad yn cynnwys synindy trydydd gofyniad. Os oedd>n anmhriodol, gresyn na fuasech yn ddigon egwydd- orol, gonest, a boneddigaidd, i'w wrthwynebu y pryd hwnw. Ymddengys yn amlwg i mi, eich bod y pryd hwnw yn pcnder- fynu sefyll atyr hyn a haerasoch, a dweyd mai dyn uffernol oedd Munster, ac mai efe oedd sefydlydd y Bedyddwyr; ond eic!f bod yn ganlynol wedi gweled eich camsynied, a phender- fynu gwadu y cwbl. Na, Syr, os medt'wch chwi honi eich disgyniad o Rufain, medrwn ninnau brofi ein disgyniad fel en. wa5 o Fedyddwyr oddiwrth Iesu a'i apostolion. Yr oedd mil- oeda lawer o'n enwad ni wedi eu haberthu am eu crefydd, cyn fod y Butain wedi erthylu ar Independia. Am y pedwaredd gofyniad, dywedweh nad ydych yn gwybod dim am dano. Wel, yn hytrach nag i chwi ymbalfalu yn y tyvyllwch am yr hyn a lcfarasoch a'ch genau eich hun, ym- tlrechaf eich goleuo. 'Dywedasoch fod rhywun wedi dweyd mai barn ar y byd yw y Bedyddwyr o'i dechreuad.J Beth oedd eich amcan yn dweyd hyn ? Daeth eu sylfaenydd, mae'n wir, i fwrw tan ar y ddaear, a barn at gyfeiliornadau yw y blaid wedi bod o loan Fedyddiwr hyd heddyw; <tnd nid oeddech chwi yn dweyd hyn i addef a chydn'abod ei hanrhydedd. Ar ol esbonio y rban flaenaf o'r adnod, Claddwyd ni, gan hyny, gydag ef trwy fedydd," &c., dywedasoch, er mwyn cyssondeb &'m golygiad ar y rhan flaenaf, rhaid i'r Bedyddwyr wneyd fel agy gwnaeth y gweinidog hwnw yn yr America. Yr oeddyno ryw fenyw i gael ei bedyddio yr oedd yn rhaid tori yr ia cyn y gellid gwneyd hyny hyn a wnaed, ac aeth y gweinidog a hithau i waered eill dau i'r dwfr collodd ei urael ynddi; ac ni welwyd hi byth mwyach claddwyd hi trwy fedydd i farwol- aeth." Er mwyn cyssondeb a'ch golygiadau chwi ale, rhaid i'r Bedyddwyr wneyd fel hyn neu fel arall! Pwy ydych, ac o ba le y daethoch ? Ai ei anffaeledigaeth santaidd o Rufain ydych ? Fedyddwyr, gwnewch bob peth yn gysson a golyg- iadau gweinidog Ffaldybrenin; nid oes gwahaniaeth pa mor wrthun a chyfeiliornus y byddont; rhaid i'ch holl ysgogiadau fod yn gysson a hwynt. Gwarchod pob dyn gweinidog Bethel yn galw ar y broydd a'r bryniau yn nghyd i syllu ar ei ddeheurwydd yn dynoethi eyfeiliornadau. Pwy o'r bloen a glywodd fod y broydd a'r bryniau yn gallu edrych, syllu, a gweled dyn yn dynoethi cyf- eiliornad ? Mae gweinidog Ffaldybrenin mor glever yn def- nyddio ffigyrau ag oedd yr hen bregethwyr a adeiladodd long yn nghragywyddoldeb, launchodd hi yn Eden, ganwyd hi yn Bethlehem, chwysodd yn yr ardd ganddo, ergydiwyd ati gan fagnelau fori llys yr archoffeiriad, aeth yn shipwreck ar Gal. faria, a daeth i'r ISn yn long ar foreu y trydydd dydd. Mae rhyw enwogrwydd cytfelyb yn ffigyr y" broydd a'r bryniau wedi eu galw yn nghyd i syllu," &c. Yr wyf yn hollol olr un farn a chwi am y siarad coegaidd." Yr oeddwn yn meddwl pan yn ysgrifenu y geiriau call" a dysgedig fy mod yn ymddwyn yn foneddigaidd wrth wneyd ondcynymddangosiadySNRENyr oeddych wedi fy argyhoeddi yn hollol fy mod wedi camsynied yr oedd genyf brofion lawer nad oeddech yn gall na dysgedig. Mae yr ammodau ar ba rai y cynnygiwch ddadleu yn^fwy cywrain na dim a ddygwyd i arddangosfa Llundain y flwyddyn o'r blaen. Goryo ickwi pa beth a ddywedasoch efall-in wir, Syr. Oddiwrth eich Ilytbyr mae'n amlwg mai chwi yw yr awdwr mwyaf galluog yn y Byd." Yr ysgrif at y Parch. J. W. Maurice yw y fwyaf galluog yn y Byd," Y Parch. H. Jones, Ffalybrenin, yw awdwr yr ysgrif hono, Gan hyny, y Parch. H. Jones, Ffaldybrenin, yw yr awdwr mwyaf galluog yn y Byd." Gobeithiwyf yr amlygwch o hyn allan fwy o gariad at y gwirionedd, rhagor o gariad at ganlynwyr Iesu Grist, a llai o benboethni taenellyddol. Yr eiddoch, &c., Bethel, Cayo. J. W. MAURICB.

Y "DDWY FIt" A PHERIGLOR LLANDDEINIOL.