Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Patmott (fglwyøig.

News
Cite
Share

Patmott (fglwyøig. UNDEB YR ENWADAU-Y PARCH. T. LEWIS, A'R PARCH. H. HUGHES, (Tegai), &c. YN y SEREN cyn y ddiweddaf, fel y mae ein dar- llenwyr yn gwybod, ymddangosodd dyfyniad o sylw- Wadau Tegai yn y Faner ar Anerchiad Mr. Lewis at y maban-fedyddwyr yn Nghymru. Gwnaethom ninnau, fel y gwyddoch, ragnodiad i'r dyfyniad, trwy ddywedyd y buasem yn gwneyd rhai sylwadau arno a chyflawnwn ein haddewid, mewn rhan, o leiaf, yn ySEREN hon. Mae Tegai yn ei gyfarchiad at Mr. L., yn siarad mewn ysbryd mwyo-, geiriau teg a boneddigaidd ac os cawn ddychymmygu, yr ydym yn credu fod ei lygaid yn gwbl siriol, fel y maent yn arferol o fod, pan oedd yn ysgrifenu ato. Etto, yr ydym yn tneddwl mai amcan ei frawddegau oedd, rhwydo Mr. L., neu, o leiaf, ymdrechu dangos i'r cyhoedd, trwy y Faner, fod Mr. L. wedi rhwydo ei hun, yn ei an- erchiad at y maban-fedyddwyr. Y frawddeg gan- lynol o eiddi Mr. L. a ddefnyddiwyd gan Tegai fel rhwyd, sef, Fod y gwahanol enwadau yn ym- wrthod a bedydd babanod, ac yn cymmeryd bedydd y crediniol yn ei Ie, gan gladdu gyda Christ yn y bedydd yr hwn a fyno fod yn ddilynwr i Fab Duw." Mae Tegai yn rhyfeddu at y frawddeg yna o eiddo Mr. L. Yr ydym ninnau yn synu at Tegai, ei fod wedi gwneyd v defnydd ag y mae wedi ei wneyd o'r frawddeg uchod. Dywed Tegai, neu, o leiaf, efe a ofyna i Mr. L.,—"Onid drwy ffeithiauac ymresym- iad y newidir barnau pohl, os newidir hwy hefyd ?" Yn hollol felly. Ond a oedd Tegai ddim yn gwybod, wyddys, neu ynte ddim yn cofio yr oedd, pan yn ys. grifenu fel uchod, yn gyntaf,—Fod y Bedyddwyr oil, ac felly Mr. L., yn ystyrietl fod y maban-daenellwyr a Thegai yn eu tnysg, yn gwbl argyhoeddedig fod claddu, soddi, neu drochi yn fedydd iawn—heb os ac oni bai—yn ol gorchymyn Crist ac esiampian yr Apostolion. Y n ail, mae y Bedyddwyr, ac felly Mr. L., yn credu mor ffafriol am y maban-daenellwyr, a'u bod oil yn gwybod (a Thegai gyda hwy yn gwybod) fod yr edifeiriol am ei bechodau, a'r credinwyr yn Mab Duw, yn ddeiliaid cymhwys i'r ordinhad dan sylw. Yu drydydd, mae y Bedyddwyr, ac felly Mr. L., y,4 mabwysiadu barn mor dda am eu brodyr, yr Annibynwyr yn gyffrediHol, a Thegai yn neillduol- os nad yw wedi newid ei farn vo fewn y dyddiau di- weddaf yma, yr hyn nid yw yn anmhosibl, mae'n wir eu bod yn gwybod yn berffaith, uad oes un gorch- ymyn am daenellu ar fabanod o fewn i Air Duw, ac nad yw y fath weithred yn un budd ysbrydol i'r baban na neb arall; nac ychwaith y byddai ei gadael heibio yn un math o golledi'r baban na'i rieni. Yn bedwerydd, o ganlyniad, nid yw y Bedyddwyr yn golygu y byddai i'r brodyr yr Annibynwyr, &c., >»neyd un aberth yn y byd,*wrth adael heibio daen- ellu ar fabanod ond y byddai yn wir fendith iddynt, ar amryw olygiadau, i'w roddi o'r neilldu am byth, fel peth hollol ddisail yn Ngair y Gwirionedd, ac felly i eJ fod yn gwbl ansicr; ac, o'r tu arall, y byddent yn ymarferyd, wrth fedyddio y crediniol, yr hyn a fydd- ^nt yn ei wybod yn gydwybodol ac yn sicr eifod ynyijwir, yn ol y Testament Newydd. Pe buasai egai, ynte, yn cofio y pethau uchod, nid ydym yn credu v buasai yn rhyfedd ganddo am y frawddeg grybwyHedig o eiddo Mr. Lewis yn ei "ANERCHIAD CAR]ADUS AT Y MABAN-FEDYDDWYR." Yr oedd Mr. L., yn ddiammheu, yn ddigon di- niweil ac onest i gredu fod yr holl rai a anerchai yn °, argyhoeddedig o'r pethau a nodwyd genym fHl,ac felly nad oedd dim yn fwy naturiol nag o CAREDIG iddynt, fel at frodyr teilwng o) nghor, ac y buasai gnnddvnt galonau i'w gvf- ^WIIU er mwyn caej v pvvnc ag y slaradatit lawer yn T-h, i weithrediad, sef GWIH UNDEB RTI\V.NG( t. YR ENWADAU YMNEILLDUEDIG. On4 er syndod ddwywaith, ie, dair gwaith, i ni, wele Tegai yn cym- meryd Mr. Lewis i fyny am ei "ANERCHIAD CAR- EDIG." Ie Tegai, yr hwn oedd newydd ddyfod i mewn dros y trothwy at y Bedyddwyr, ac yn dy- wedyd,—Gyda chwi mae yr hen fedydd Apostolaidd -gyda chwi y mae yr hen ddeiliaid, sef credinwyr —-yn unig eich bod dipyn yn ystyfnig i dderbyn credinwyr bach ieuainc. Ie, dyma Tegai yn byw mewn gwlad ag y mae ei hinsawdd yn ddigon tym- herus iddo, yn ol ei ewyllys, i fedyddio yn ol yr hen drefn, yn dyfod allan i ryfeddu at Mr. Lewis am ei fod yn gofyn ganddynt i ymarferyd yr hen ddull hWrlw o fedyddio. Ie, Tegai wedi dyfod i mewn at y Bed- yddwyr i'w ty, acyn dywedyd wrthynt—Mae genych chwi gyflawnder o'r hen bethau Cristionogol ar eich byrddau—digon o fwyd iachus i fyw arno, &c., ond dyma efe, mewn ychydig ddyddiau yn dywedyd, ei fod yn rhyfeddu at Mr. L. a'i frodyr, eu bod yn eu gwahodd hwynt i ddyfod i mewn i fyw ar y cyfryw fwyd—fodyn welli'r Bedyddwyr ddyfod allan i'w cyf- arfod hwy, fel Annibynwyr, i fyw ar y trothwy-dan y bargod, lie nad oedd na bwrdd na bwyd! A ydyw Tegai ddim yn rhyfeddu ato, ac am dano ei hun ? A ydyw Tegai wedi edifarhau am y pethau a ddywedodd yn ei DDAELITHIAO ? A ydyw Tegai am seboni tipyn ar ei frodyr a ddigiwyd ganddo vn achos y dar- lithiau ac am ddangos iddynt ei fod yn recanto ychydig ac, mai wrong step ynddo oedd myned dros y trothwy at y Bedyddwyr, a dyweyd eu bod yn byw yn dda, acar fwydydd iachus ? Mawr mor ddedwydd y mae Tegai, ar ol dysgu blaen-dafod y maban-daen- ellwyr yn gyffredin, yn gwahodd y Bedyddwyr a'r Annibynwyr i oddef eu gilydd mewa cariad," &c. Clywir yr hen gan bono yn barhaus, sef, Dewch i ni gael caru ein gilydd, os nad ydym yn cydweled. Beth yw'r gwahaniaeth gida plnvy enwad byddom- tua'r un wlad yr ydym yn inyned-mae dynion duw- iol gyda phob enwad," &c., &c. Mae y dynion ag sydd yn arferyd yr hen ddywediadau yna, yn eu dywedyd yn bwrpasol, yn ein barnmwyaf pwyllog ni, i'r dyben o rwystro y bobl i chvvilio am y gwirionedd fel ag y mae yn yr Iesu; ac felly i'w cadw mewn rhan helaeth yn y ty wyllwch. Ac y mae Tegai, fedd- yliem ni, wedi dysgu yr hen wers yna i'r dim, sef dim ond caru ein gilydd, ac yna, dyna braidd bob peth yn iawn.Bedyddier rhywffordd, ond dewch i ni gael caru ein gilydd." Bydded i'r rhai a fedyddiwyd, a daenellwyd, a'r rhai difedydd, a didaenelliad, i gael CYMUNDEB, fel y byddom yn Hearn ein gilydd rhyw ddull." Nid yw y dynion sydd yn dywedyd fel yna byth yn caru gwneyd dim ychwaith ond yn ol eu ffyrdd a'u mympwy eu hunain acer hyny yn ymof- yn i bawb eu caru, pa ddullbynagy byddontyn cario eu crefydd allan i weithrediad! Paham na all y dyn- ion hyn ddeall fod yn rhaid i gariad gael SAIL, fel ag y mae yn rhaid i ffydd gael tystiolaeth, a gobaith gael ei wrthddrych. Maent yn deall nas gellir credu heb dystiolaeth i'w chredu, ac nas gellir gobeithio heb wrthddrych i obeithio ynddo neu am dano; ond am garu, y maent vn dywedyd y gellir gwneyd hyn heb sail, ond "goddef ein gilydd mewn cariad." A dywediad rhyfedd yw, onide ? Goddef ein gilydd i garu ein gilydà I" Mae peth tel yna yn ddigon i wneyd i ddyn ddywedyd ar unwaith, nonsense i gyd. Dywedir wrthym fed yr Apostolion yn annog y saint i oddef eu gilydd mewn cariad. Mae yn wir eu bod, ond saint oedd y rhai hyny ag oeddynt wedi eu dwyn i UNDEB FFYDD CYN HYNY. Yr oeddynt oll yn cydweled o berthynas i ordinhadau ac atfiraw- iaethau efengyl Crist. Cofier mai nid eu hannog i oddcf eu gilydd mewn cariad oedd yr Apostolion, a phob un i gael crefydda yn ei ddull ei hun. 0, na, ni fuasent byth yn rhoi y fath annogaeth. Ni fuasai Crist ei hun, yn gystal a'i ApostoUon, yn aberthu un iota o'r gwirionedd er mwyn carittd neb. Ond y mae rhyw ddynion, ar enw crefydd, vn ein dyddiau ni, ag a aberthantbi-aidd boh peth, ineddant hwy, er mwyn CAKIAD ond ychydig ymae y cyfryw yn ei wybod am egwyddorion i'w cadw neu eu colli. Gadawer i ni gael UNDEB FFYDD YN GYNTAF, yna ni a allwn oddef ein gilydd mewn CARIAD. Gan fod ein hysgrif wedi myned yn hwy na'r hyn sydd yn gyfreithlon o ran lie iddi, ni a sylwn etto ar yr hyn ag y mae Tegai wedi ei ddywedyd yn nghylch It. Hall, Hinton, &c., yn gystal a'r hyn a ddywedwyd gan Olygwyr y Faner.

GRAMMADEG Y GYMMRAEG.