Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
IPATAGONIA. i
PATAGONIA. i Anwyl Gyfeillion" Y mae llawer iawn o ddadleu wedi bod yn nghylch y wlad uchod ar faesydd y newyddiaduron. Diau y dylai fod beddwch weithian rhwng y ddwy blaid, Credwyf nad oes angen sibrwd gair o berthynas i'r wlad ond gan fod y cyfeillion addien hyny o Mountain Ash wedi anfon nodyn i'r SEREN yd ei chylch, a chan fod eu darluniad o honi dipyn yn rhy wallus, bvddai yn llesol ei ateb, rhag i un o'r vmfudwyr dybied fod yr'anturiaeth yn rhy beryglus iddynt. Diau fod y cyfeillion hyn wedi eu gorlenwi a syniadau isel annghyffredin am yr ysgogiad, gan eu bod a'u boll egnLyn ceisio perswadio eu cyfeillion rhag myned yno. Dichon f3d yn well ganddynt iddynt fyned n giprys rhwng gwahanol genedloedd y ddaear nag ymfudo at eu gilydd i Patagonia, lie y cant feddiannu tir- oedd heb drais, a nodi terfynau eu rhyddid euhunain, a mwyn- hau pob peth yn iaith ac arferion eu hen wlad. Pe buasai y cyfeillion yma wedi darllen ychwaneg am Patagonia, ni fuasent yn crybwyll am dani fel ag y gwnaetbant. Y mae yn wir fod y wlad yn breswylfa i ychydig o anwariaid, tua 6,000 o nifer, a'r wlad tua mil 0 filltiroedd o hyd, a naw cant 0 hanner oled. Er mwyn cael gwybod sut ddyuion yw y Patagoniaid, edrycher yn ngweithiau y Cadbeniaid King a Fitzroy, ac yn llyfr Mr. Mayne Reed ar Odd People," tudal 436, pa rai a fuont yn y wlad yn ei chwilio trwyddi. Dywedant nad oes achos i neb, pwy bynag, bfni y Patagoniaid. Crybwyllant am danynt fel bodau gwareiddiedig a boneddigaidd yn yr holl ymdrafodaeth a fu rhyngddynt a hwy; ac y mae yr holl dystion ag sydd wedi bod yn nrchwilio y wlad yn dywedyd ei bod yn llawn anifeiliaid, da, defaid, cetfylau, a phob math o ednod. Profa hyn nad oes ynddi ond ychydig iawn o greaduriaid rheibus. Dywed deg ar hugaino dystion, wedi iddynt gerdded ar hyd a lied y wlad, o For y Werydd hyd fynyddoedd yr Andes, ac yn eu holau, na ddarfu iddynt ar hyd eu holl daith weled un Hew, artli, blaidd, na Ilwynog, nac un creadur rheibus srall; ac am ffrwythlondeb ei thir a diogelwch ei phorthladdoedd, dywedent ei bod yn un o'r gwledydd mwyaf manteisiol yn yr holl fyd i sefydlu Gwladychfa. Cawn yr hanesion mwyaf dymunol am dani; gan hyny, betb dal ymegnion i berswadio'r Gwladych- ychwyr rhag myned yno. Myned sydd raid o hen Walia. Hyderaf y meddianna y cyfeillion hyn ysbryd ail i Llewelyn. Gwel y pennillion isod Ha, fy nghyfaill mwyn caredig, Mi anturiaf dros y mor, Tua Phatagonia'n llawen, Cadarn yw yi Arglwydd lor; Y mae hono'n wlad ysbfenydd, Hen hil Gomer fydd yn well ■ gael ei meddiannu'n gartref, Gwn, nac u» o'r gwledydd pell. Na fvdd fachgen ofergoelus, O fy nghyfaill hoff ei wedd, Draw uefydlwn ni Wladychfa Wych heb tagnel croch 11a chledd Nid oes dim yn Patagonia Greaduriaid rheibus iawn, Cawn lonyddwch yn ei mynwes O'r boreu-ddydd hyd brydnawn. Beth dal ofni, d'vved, fy nghyfaill, 1 Gwedd y mor a'i donaumaith? Gwir fod llawer wedi soddi 'Ngwael eu gwedd i'w fynwes laith Rhaid rayn'd ymaith 0 hen Walia, » Bleiddfaid ynddi sydd yn llawn, Ffrwyth ein llafur bob diwrnod Ysglyfaethiry pfydnawn. Miloedfl sydd o Gymry gloewion Dros y mor yn myned ffwrdd, Ffwrdd af finnan drosodd hefyd Pa beth bynag ddaw i'm cwrdd Gan obeithio Hwyddaf acw, Draw yn Patagonia gn Ar fy nhyddyn bach fy hunan, Acwln gweithio byddaf fi. i Ymwrola lnghyfaill alriol, Paid ag ofni'r crychiog li'; Paid a goddef I estraniaid Awdurdodi arnat ti Dere gyda'th gyfaill hawddgar Heb un dychryn dan dy fron, Ni feddiannwn Patagonia, Ilyfryd fyd 'nol croesilr don. Castell. LLYWELYN. [NODIAD.—Dymunem unwaith ac am byth hysbysu ein darllen- wyr, nad ydym ni, fel Golygwyr SBKEN CVKRU, yn cymtner- adwyo neb pa bynag i fvned i Patagonia. Byddai yn llai peryglus yn ein golwgni i chwi geisio sefydlu yn y Lloer. Nid ydym am i un Cymro yn mhen blynyddau yn Patagonia i'n melldithio am ei dwyllo yn SEREN CYMRU. Mae gair yn ddigon.—GOL.]
GOHEBIAETH O'R GOGLEDD.'
GOHEBIAETH O'R GOGLEDD. MR. GOL.Dyma fi yn gyntaf yn darlunio maes ein llafur yn y Gogledd yma.—Mae'r cynauaf yn fawr, a'r gweithwyr yn anaoal, er eu bod yn lluosocach nag y buont. Mae yn hynod fod cynnifer o Ogleddwyr yn gweinidogaethu yn y De-yr hynodrwydd yw fod eglwysi bycliain y Gogledd wedi cynnvrchu cynnifer o weinidogion, ac eglwysi mawrion y De wedi cynu nyrchu cyn lleied mewn cymhariaeth. Ond gadawaf bethau fel yna yn llwiydd, ac af rhagof. Tua thair wythnos yn ol yr oeddwn yn cychwyn tua Phwitheli i ddarlithio, ac yn myned trwy Glynog Fawr, preswylfa Eben Fardd. Ond yr oedd y bardd yn rhy gystuddiol i gael golwg arno. Cafodd lawer o adfyd yn ddiweddar trwy golli ei wraig a'i blant oil ond on. Dyn gwerthfawr yn ei ardal yw Eben Fardd, a theimlir yn ddwys oblegid ei gystudd. Nid fel bardd yn unig y mae efe Jn rhagori. Eneiniwyd Eben anwyl Yn fardd mawr,—yn gawr ein gwyl, Mewn pair 0 ofid mae'n Prif-fardd, 0 cyd-ddygwn bwn ein bardd I Bardd anwyl yn Brnddwyneb A'i rudd hvys yn oeraidd wleb » Wrth draed IesuOn ga a gwyl, Diysgog mae'n ddysgwyl, O'r boen am gael gadaw'r byd • 1 geinfawr gylch y gwynfyd. Nid yw'r awen yn foddlon i wneyd rhagor mewn ruynyd, ac nid oes genyf finau amser i ddysgwyl wrthi hi yn hwy. Mae llawer o olion hynafiaethol rhwng Caernarfon a Chlynog, megys Dinas Dinoethwy, Dinas Efrog, Craig y Dinas, Dinas Dinlle, &c. Sefydlwyd c6r Clynog gun Benno Sant, ac yno, yn Eglwys y Bedd, y mae gweddillion Benno yn gorwedd. Mae Cyff Benno, lie yr offrymid rhoddion ac aberthau gynt, ynEglwys Clynog hyd heddyw. Ond gan fod Eben Fardd y wedi cyfansoddi awdl gampus ar adgyweiriad Eglwys Benno, gyda nodiadau hynafiaethol ar hynod bethau yr ardal hon, ni raid i ni fanylu. Mae'r llyfr eisoes yn y wasg. Cyff Cenno yw ei enw. Mae Cromlech ar Gae Bachwen rhwng Clynog a'r mor; ac os ewch chwi, Mr. Gol., byth y ffordd hono, galwch gyda'r brawd JlGriffiths, Bachwen, ac mi wn y cewch groeso hefyd. Newydd basio Clynog dyma ffynnon go ryfedd ar ochr y Rbrdd,—" Ffynnon Benno" ydyw. Mai muriau uchel o'i hamgylch; ac y mae yn ddigon 0 faint i fedyddio ynddi ond ei glanhau, ac y mae par neu ddau o risiau o'i chwmpas o'r tumewn. Ar ol pasio Llanaelhaiarn ar ffordd Nefyn, dyna ffynnon arall o'r un ddull yn union. Ffynnon Aelhaiarn yw bona. Mae un arall gyffelyb, sef "Ffynnon Fair," yn nghanol tref Nefyn. Mae llawer o ffynnonau cyffelyb yn y Gogledd, a byddai pennod arnynt ryw dro yn ddigon adeil- adol a difyrus. Tref hynafol yw Nefyn. Bu Edward I. a'i furchogyn yno, yn 1284, yn cynnal dawns a thwrnamaint er difyrwch i'r Cymry yn ol dull Arthur Gawr a marchogion y ford gron. Noswaith y gwynt mawr yr oeddwn yn Mhortbdyn- lleyn ni welwyd y fath forjymmlawdd yn nghof dyn ag oedd yno. Ac wrth fyned tranoeth tua Phwllheli yr oedd y gwynt bron a chymmeryd y bachgen a minnsu ymaith megys ag y cymtnerwyd Elis Wyn oLasynysar gefnyTylwyth Teg. Dyna fy het i wedi myned! a'r bachgen ar ei hot hi fel milgi ar ol ysgafarnog, a minnau yn bloeddio Hw nerth fy mben. Cawsom ddarlith boblogaidd o ran gwrandawwyr yn Mhwll- heli. Mae yno gapel newydd ardderchog, nad oes ei fath am a wn i, yn Ngogledd Cymru Mae iddo gorn mawr ac uchel, yr hwn sydd yn addurn i'r dref, er fod ambell un gweflgam, gyda swm wy bran o ddybaco yn nghilei foch, yn teimlo tuedd i'w fychanu. Da fod rbyw un yn diwygio mewnrhywbeth. Mae capeli y Gogledd, fel gwaith ceifydd, mor ddichwaeth ag oedd capeli y De 20 mlynedd yn ol. Dyna un fympwy ryfedd sydd ganddynt yw rhoi dau ddrws yn y talcen, a'r pwlpud rhyngddynt i felly mae'r pregethwr druan yn cael pob mantais oddiwrth swn plant, drysau yn euro, gwynt drwy bared, &c. Gan fod llawer yn hoffi llais cryglyd ac annaturiol mae'r capeli hyn yn gwneyd Ilawer tuag at gadw gyddfau y pregethwyr mewttcywairaddasaty weinidogaeth! Gresyn na byddai i rywuno chwaeth a deall fel adeiladydd gael rhoi ei linyn mesur arnynt a'u darymchwel i drefn a dosparth, fel y byddo yn bleser cynnal cyfarfodydd ynddynt. Credwyf fod yny Gog. ledd gryn chwaeth at bregetbau ysgrythyrol, a bod yr achos yn myned rhagddo, ond y mae y Deheuwyr yn gyffredin yn Uawer gwell gweithwyr; etto ni raid i'r Gogledd roi fyny i neb yn hyny chwaith, ond i wyr Mynwy a Morganwg, a dosparth Llanelli 0 Sir Gaerfyrddin. Ond yn Mhwllheli yr oeddwn i. Y mae gweinidogaeth ffyddlon a grymus y brawd L. Jones yn debyg o ateb dybenion pwysig yn Mhwllheli a Thyd'dyn yn Sion. Ma<3 golwg anrhydeddus a chrefyddolar y gynnulleidfa. Daethum adref trwy Glynog, eithr nid oedd y bardd nemawr gwell. Dechreu'r wythnos ganlynol dyna fi yn Nyffryn Clwyd. Yr oedd y mor wedi gwneyd ei ol yn ddrwg gyda glanau Morfa Rhuddlan daethai ar draws y gerddi yn Nghywyn, Abergele, ac yn y Rhyl, &c. Ond i Lanelwy yr oeddwn i yn cyrchu. Dinas esgobawl, ond pur ddifywyd a difasnach, ar ofryn rhwng y Clwyd a'r Elwy yw Llanelwy. Yr oedd Sion Tudur, y bardd afiaethus a ffraethlym, yn byw yn0300 mlynedd yn 01; a Rhys Grythor o Lansarian, y Cellweirgnafpenaf yn ei oes, yn cyrchu yn fynych i Lys yr esgob y gwyliau arbenig. Ond i gadw cyf- arfod mawr yr oeddem ni, sef Thomas o Lerpwl ac Owen o Rhyl; a minau, yn cyrchu a chawsom gyfarfod da iawn. Pawb yn iach, ac ar ei lawn egni. Buaswn yn pregethu am dalm o Suliau yn Rbucjjdlan a Llanelwy yn haf 1836 ac yr oedd ad. gofion o bob math yn dihuno yn fy meddwl. Bum dranoeth gyda chyfaill yn gwele2 Llyfrgell yr hen eglwys gadeiriol, a chofion mai yna yn rhywle y gorwedda Uwch y Dr. Morgan, Cyfieithydd clodfawr y Beibt Cymraeg. Da genyf fod y brawd ieuanc W. Samuel mor gysurus a chymmeradwy yn Rhuddlan a Llanelwy. Dyna ni dranoeth yn Rhyl yn nghwmui y brawd J. G. Owen; a Mr. Thomas, Lerpwl, yn myaed adref mewn agerddfad, yr hwn oedd fel arch Noahyncynnwysamrywiaeth mawr o fywiolion, megys bystachiaid, tarw neu ddau, baedd gwyn yn safnrwym wrth bost, &c. Ond yr oedd y brawd yn eu canol mor dawel a Daniel yn ffau'r llewod. Caernarfon. CYNDDNLV.
AMLWCH.
AMLWCH. A ganlyn sydd adroddiad o'r hyn a ddarllenwyd gan Mr. Palmer i gynnulleidfa Salem, Amlwch, nos Sul, y 25ain, yn cynnwys cyfrif 0 sefyllfa arianol yr eglwys mewn cyssylltiad ag ail-adeiladu y capel. £ s. c. Yr holl drauI mewn adeiladu 901 17 Ii Casglwyd fel y canlyn:- Cyfraniadau gan yr aelodau a chyfeillion 207 7 3 Casglwydar ddiwedd y cyfarfodydd 16 16 101 „ yn yr Ysgol Sul 7 19 61 Cynnyrch dwy ddarlith, gan Mr. R. Ellis (Cynddelw), a Mr. H. Brown 27 9 3 Gan gyfeillion trwy lyfrau casglu 27 8 9 Am eisteddleoedd ya ystod y tri chwarter diweddaf, ac o drysorfa y capel 54 15 5i Y cyfanswm 341 17 If Gweddill o'r ddyled 560 0 0 Yr oedd zC40 o hen ddyled, felly maeyn aros 600 0 0 Y mae gwahanol gyfeillion wedi rhoddi y swm 0£185 yn ddi- log felly, nid oes i dalu ond liog £415 yn ol t4 y cant. Dengys yr adroddiad yma fod ymdrech a chydweithrediad mawr wedi bod yn ein plith, gan fod yn agos i dri chant a Itanner o bunnau wedi eu casglu yn ystod deunaw mis gan y gynnutleidfa yn unig. Teilwng yw nodi, fod J. Palmer, Ysw., wedi llafurio yn galed ddydd a nos, ac nid arbedodd ei amser na'i arian er cael yr addoldy yn deilwng o'r enwad, ae 0 achos yr Arglwydd Jesu. Dysgwylir hefyd y bydd£16 5s. 0 draul a aeth arnom'er cael y capel wedi ei oleuo & DWy wedi eu talu yu fuan. Mae gan Mr. G. Webster Palmer X8, mewn llaw tuag at hyn, ac y mae y gynuutleidfa a'r Ysgol Sul yn gwneyd y gweddill. Gwel, ddarllenydd, nad yw cyfeillion y Gwaredwr ddim yn segur yn y lie hwn. Bendith Daw fo ar eu hymdrech. BRAWD.
CWRDD CHWARTER Y BEDYDDWYR…
CWRDD CHWARTER Y BEDYDDWYR YN NOS. BARTH UCHAF SWYDD GAERFYRDDIN. | Cynnaliwyd y cwrdd hwn yn Cross Inn,: Llandybie, ar yrait Fawrth a Mercher o'r mis hwn. Am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, bu yno gynnadledd, pryd y penderfynwyd — I 1. Fod y eyfarfod trimisol nesaf i fod yn Lianfvnydd yr ail Fawrth a Mercher yn mis Mai. Y gy^nadledd i ddeclireu am 2 y dydd cyntaf. 2. Fod y gweinidogion yn y cyfarfod hwn yn cydymdeimlo ag eglwys Salem, Llangenech, yn marwolaeth ei gweinidog, y brawd Daniel Jones, ac yn addaw myned yno ar gylchji'vr cynnorthwyo dros ryw gymmaint o Sabbothau. 3. Fod y cwrdd bwn yn mawr gymmeradwyo Cymdeithas y Dadgyssylltiad," ac yn dymuno ar yr eglwysi i ymdrechu o blaid ei llwyddiant. 4. Ein bod fel gweinidogion, wedi gwrandaw y brawd ieuane John James, Cwmifor, yn pregethu, yn unfrydol yn ei gymmer- adwyo i sylw pwyllgor Athrofa Llangollen, fel un teilwng o dderbyniad iddi i gael addysg ychwanegol. Dechreuodd y cyfarfodydd cyhoeddus am 6 yn yr hwyr, pryd y gweddiodd y brawd D. Morris, Carmel; a phregethodd IT brodyr John James, Cwmifor; John Williams, Smyrna; a R. D. Roberts, Llwynhendy. Am 10, dydd Mercher, gweddiodd y brawd Thos. F. Williams, Saron a phregethodd y brodyr J. Morris, Cwmifor, a J. Williams, Aberduar. Am 2, gweddl- odd y brawd J. Davies, Cwmaman (A.); a phregethodd y brodyr J. W. Morris, Caio, a J. R. Morgan, Llanelli. Am 6, gweddiodd y brawd William Davies, Salem a phregethodd y brodyr N. Davies, Pembre D. W. Morris, Cwmsarnddu a William Hughes, Glanymor. Rhoddwyd yr hymnau ollallan. yn fedrus gan ein brawd hoff D. Williams, gweinidog y lie. Cafwyd yma gyfarfod rhagorol o dda. Mae y cyfeillion ya Cross Ina yn rtui bynod 0 gare lig boed nawdd y Nef arnynt. J. WILLIAMS, YSfI.
ABERDAR.
ABERDAR. ARHOLIAD CYHOEDDUS YR YSGOL LENYDDOL. Trwy ganiatad a hir ymaros darllenwyr mwyn y SEREN, yP wyf am gael tua dau hyd fy mis 0 golofn i ddywedyd ychydig- eiriau am gyfarfod newydd. Bendith y dyddiau marwaidd yma yw cael rhywbeth newydd. Nos Fawrth, Chwef. 17, yB nghapel Calfaria, Aberdar, cawsom arholiad cyhoeddus o wa- hanol ddosparthiadau yr ysgol lenyddol. Mae yr ysgol hoa wedi bod mewn gweithrediad am ychydig fwy na blwyddyn, a theimlem awydd mawr i gael gweled ffrwyth y llafur am y tymhor hwn. Yn fuan wedi saith o'r gloch, eawsom fod y capel yn cael ei lanw yn weddol dda-amryw gannoedd wedi dyfod yn nghyd. Cawsom y capel hefyd wedi ei addurno yn ddestlus iawn-mapiau, darlunleni, models, &c., tra yr oedd y cor wedi cymmsryd ei le tu ol i'r esgynlawr. Cymmerwyd y gadair gan Lywydd y Gymdeithas, y Parch. Thomas Price, yn cael ei gynnorthwyo gan yr Is-lywyddion Mri. Henry Davies, a Henry Jones. Darltenodd Mr. Davies Reolau Cyffredinol y Gymdeithas, a darllenwyd Rhagdrefn y chwarter presenol gan Mr. Henry Jones. Wedi ychydig o sylwadau gan y cadeirydd, a thon gan y c6r, dechreuwvd ar waith y cwrdd o ddifrif, trwy alw i'r esgynlawr E, G. Price, Ysw., a'r dosparth Gramadeg Seisnig. Bu y dosparth hwn o dan arholiad maith a manwl gan Mr. E. G. Price, a ehsfDdd pawb oil gyflawn foddlonrwydd yn y dull medrus o holi a dull parod a chywir y dosparth yn ateb. Rhoddwyd cyfle i unrhyw be"son yn y gynnulleidfa i ofyn gofyniadau i'r dosparth, ond ni ddewisodd neb i wneyd. Y dosparth nesaf oeddynt yn cael eu holi yn Arferiadau yr Iuddewon. Mr. E. G. Price oedd yr athraw a'r holydd yma etto. Y rhanau mwyaf pwysig a fu 0 dan sylw oedd y Prif Wyliau Juddewig, amsereu sefydliad, eu Jyben, eu nodweddau, eu parhad, a'u haddysgiadau i ni. Y IDa etto dangoswyd fod y dosparth wedi talu sylw i anerchiadau dyddorol yr athraw yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Ar ol cael ton gan y cor, dar- llenodd Mr. Henry Jones bapyr ar "Ddiwylliant y Meddwl." Papyr rhagorol o dda, o gyfansoddiad tlws a llawn o ddyddor- deb. Bydd i ni gael y fraint o anrhegu darllenwyr gHREN CnIRU a'r papyr hwn, gydag amryw erei'l a ddaw o dan sylw o bryd i bryd. Daearyddiaeth oedd y peth nesaf a gafodd sylw. Daetbt Mr. B. Hinton a dosparth lluosog yn y ganghen,hou 0 ddysg- eidiaeth. Awd trwy y gwaith yn rhagorol dros ben. Ar ol too etto cawd Athroniaeih Naturiol gan Mr. E. G. Price & dosparth o fechgyn gwir wybodus. Awd trwy y gwaith yn rhwydd a hwylus. Yr oedd yno arwyddion Hafur. Yn nesaf cawd Darllen Seisnig. Yr oedd y dosparth hwn dan ofal y llywydd. Awd trwy y gwaith yn rhagorol 0 dda. Yr oedd yr holl gyfarfod yn dda dros ben. Yr oedd rhai 0 honom yn ofni mai flat y buasai, ond beth bynag fel arall yn hollol y bu. Y flwyddyn nesaf, os byddwn byw, dysgwyliwn lon'd y capel o wrandawwyr. Cydwynwyd diolchgarweh gwresocaf yr ysgol a'r gynnulleidfa i Mr. E. G. Price a'i gyd- athrawon am eu sel a'u llafur am y flwyddyn, i'r Llywydd, yr Islywyddion, a'r Pwyllgor, ac yn olaf oil i'r cor am eu gwas- anaeth rhagorol. Ton dda a derfynodd gyfarfod newydd, ond un y prophwydwn am dano a fydd yn doreithiog o ffrwyth.
EGLWYS BRYNHAFOD AT EGLWYSI'.Y…
EGLWYS BRYNHAFOD AT EGLWYSI'.Y BEDYDD- WYR YN SWYDDI CAERFYRDDIN A CHEREDIGION. Mae yn hysbys i chwi ein bod ni wedi cael caniatad yn Nghynnadledd Cymmanfa Hebron, yr haf diweddaf. i ym- weled â ehwi eleni yn. mis Chwefror, Mawrth, ac Ebrill, i dderbyn eich caredigrwydd er dileu y ddyled sydd yn gor- phwys arnom mewn cyssylltiad a'n capel newydd. Mae sefyllfa yr achos fel hyn. Mesur yr adeilad ydyw 32 troedfedd wrth 28. Traul yr adeiladu oedd £230. Talwyd 0 hyny jflll 12s. Y ddyled bresenol yw £119 8s. Gan ein bod yn bresenol yn amddifad 0 weinidog sefydlog, mae y brodyr canlynol yn addaw ymweled a chwi drosom. Y Parch. J. Rowlands yn Cainewydd, Llwyndafydd, Capel Gwndwn, Ferwig, Penyparc, Blaenweneu, ac Aberteifi. Y Parch. J. Davies yn Llanymddyfri, Cwmifor, Cwmdo, Cwm- sarnddu, Waunclyndaf, Llandilo, Porthyrhyd, ger Llanym- ddyfri, a Phenybont, Llandyssil. Y Parch. E. Lewis yn y Tabernacl a Phenuel, Caerfyrddin, Ffynnonhenry, Rhydar- gaeau, Porthyrhyd, Carmel, Penrhiwgocb, Soar, Llandyfaen, Saron, Llandebie, Pembre, Bethlehem, Pwll, Horeb, Llanon, Sardis, Cydweli, Glanyfferi, Etim, Pare, Ponthenry, Eben- ezer, Cross Inn, Llangendeyrn a'r Meinciau, Felinfoel, Llwyn- hendy, Seion a Bethel, Llanelli, ac Ebenezer a Hebronr Llandyssil. Y brawd D. Lewis yn Bethel a Salem, Caio, Bwlchygwynt, Bwlchnewydd, Cwmfelin, Drefach, St. Clears, Talog, Ainon, Rhydwilym, Ebenezer, Llangunnog, Nazareth, Login, Salem, Mydrim, Castellnewydd Emlyn, a Rehoboth. Arwyddwyd dros yr eglwys, gan EVAN DAVIES, T. JSKKINS, S. EVANS, Diaconiaid.
GOHEBIAETH 0 MOUNTAIN ASH.
ddyn tra ofer, ac yn hoff hwn o'r cwrw. Mae amry w anffodau wedi dygwydd i'r teulu yn ddiweddar, a'r" gwr arfog fel yn llyeadrythu ar y fam anffodns. Dywedodd ei fam dyner wrthym rai misoedd yn ol, oni buasai ymlyniad, haelioni, a thynerwch ei bachgen hoff, y buasai hi, druan, wedi dyoddef eisieu bwyd er ys Hawer dydd. Fechgyn Mountain Ash! a gawn ni fyw yn y fath fodd ag y bydd cymmaint a hyn o rin- wedd yn cael ei gofnodi ar ein holau. Dyma y bachgen dewr.galon wedi ein hateb yn nghylch