Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

AT EIN GOHEBWYR, &c. ETN DERBYNiADAU.—Bettws—Crydd o'r Wlad-Un o'r Cwm- r Didymus—Reporter—Parch. D. Morris-1—Eglwys Troedyrhiw -Parch. W. Hughes-Griffith Jones-Abel Edmunds—Maw- ddwg—Ysig—Guto Goch— J. S.-M. Williams-Meirionydd —J..Jones—T. Morris—Parch. T. E. James—Cynddelw— Gwalcb—David Jones—J.Lewis, Ys'w.—Edwin Smith—Parch. J. Williams. GARIBALDI.—Dylech chwi fod yn ddigon hen bellach i wybod nad oes na chyfiawnder na thegwch i'r Bedyddwyr i'w ddysgwyl ar law y wasg daenellyddol, ac etto yr ydych chwi a channoedd ereill o Fedyddwyr yn eu dal i fyny, yn eu porthi a'u cadw yn ^fyw, trwy ysgrifenu iddynt, hysbysu ynddynt, eu prynu, a'u derbyn, a hyny ar "draul gadael cyhoeddiadau eich enwad eich bun ar ol ac yn ddisylw. A phan geloch eich troedio a'ch snubbio, byddwch yn dyfod atom ni. Ond y mae genym ni fwy o hunan-barch na. myned yn was bach i gyhoeddi yr hyn y mae y Gidadgarwr wedi wrthod ddau fis yn ol. Mae genych eich cyfryngau llenyddol, a gwnewch gyfiawnder a hwy trwy hysbysu ynddynt, eu prynu, ac ysgrifenu iddynt, ac nid dyfod atynt i duchan pan wedi eich gwrthod mewn lleoedd ereill. CRYDD O'R WLAD.—Y dyn a gafodd y" boots sydd i dalu, o gwrs, os nad oedd rhyw ymrwymiad neillduol rhwng y fam-yn- nghyfraith a chwithau. Nid oedd y ffaith ei bod hi yn ceisio genych i'w gwneuthur, na'r ffaith arall i'r wraig i'w curio adref, yn eu gwneyd yn rhwym i chwi—y dyn sydd yn eu gwisgo yw eich dyledwrchwi. REES ARTHUR.— Mae y ddadl hon wedi ilithro yn un hollol ber- sonol, ac feilv, yn hollol ddifudd i'n darllenwyr yn gytfredin. Rhaid i ni, felly, mewn tegwch a derbynwyr y SEREN, osod terfyn ami yma. UN O'R CWM a ofyna i Un o'r Bettws pwy yw ei awdwr ? beth yw y pris ? a pha le y mae cael Athrofa'r Efengyl ?" GRIFFITH JONES, Llanfaes.—Byddem ni yn agored i'r gyfraith am gyhoeddi eich llythyr, ond mae Judge y County Court yn rhydd. Gosodwch y dyn i mewn am y gweddill, a dadleuwch y twyll yn y llys. EISTEDDFOD CoLWYN.—Yr ydym wedi darllen ei chynnyrchion gyda llawer iawn o hyfrydwch, a bydd yn dda genym gyhoeddi y rhan fwyaf, os nid yr oil, o'r ysgrifau a anfonwyd i ni gan Mr. James, y rhai sydd yn cynn wys dwy ysgrif ar Amser, ac ysgrifau ar Ansawdd Llenyddiaeth Cymru, Elfenau LUvyddiant Bydol, Cyfieithiad o'r Busy Man." yn nghyd â'r Feirniadaeth, 0 eiddo y Parch. J. Jones a Risiart Ddu o Wynedd. Y DR. JOHN EMLYN JONES.-Bydd yn dda gan ein holl ddar- llenwyr glvwed fod ein hanwyl frawd, y Parch. John Emlyn Jones, A.M., Caerdydd, wedi derbyn 0 Brif Athrofa Glasgow y radd uchel ac anrhydeddus o Doctor of Laws, neu LL.D. Yr ydym o'n calon yn dymuno hir oes i'n brawd i wisgo yr an- rhydedd sydd yn ei weddu mor dda. PARCH. T. E. JAMES.—Mewn llythyr diweddar o eiddo y brawd hwn, efe a'n hysbysa ei fod wedi penderfynu ychwanegu rhif y brodyr yn yr Oriel ddyfodol 0 60, fel y bwriadai ar y cyntaf, i 71, gan ychwanegu maintioli y plate o 42 modfedd wrth 18 mod. i 34t modfedd wrth 23t modfedd, ond na fydd y pris, er byny, ddim yn uwch na 6s. i'r rhai a dalant 2s. 6ch. ya mlaen, ond bydd yn 7s. 6ch. i bawb ereill. LLYTHYR Y 'DR. PRTCHARD.-Nid ydym yn gyfrifol am yroheb- iaeth rhwng Dr. Prichard a Mr. Bowser, nac am gyhoeddiad amseroty llythvron. Aethant i mewn i'r SEREN, lei rhai pethau ereill, heb yn wybod i ni. Gyda phob parch i oedran a safle y Parch. John Prichard, D.D., nis gallwn lai na hollol annghym- meradwyo ei waith yn cyhoeddi y llythyrau hyn ar hyn o bryd. Mae Pwyllgor y Goffadwriaeth a'i holl egni yn codi Trysorfa, heb etto benderfynu pa fodd i ranu y Drysorfa. Mae y Pwyllgor a'r Is-bwyllgor wedi tynu i fyny gynllun i'w gynnyg i sylw y Pwyllgor Gweithredol, ac fe fydd i'r Pwyllgor hwnw alw "cyfarfod cylfredinol o'r holl danysgrifwyr a dalant y gyfran gyntaf o hyn i'r laf o Fai, er penderfynu pa fodd i weithredu yn mhellach, a pha fodd i ranu yr arian ond mae y Dr. Prichard a Mr. Bowser wedi cymmeryd gwaith y Pwyllgor a'r Tanys- grifwyr o'u dwylaw, ac wedi llwyddo i daflu asgwrn cynhen rhwng brodyr, a cheisio cael gan y Bedyddwyr yn y Gogledd i ranu oddiwrth y Dehau Beth bynag a ddaw o'r llythyrau hyn, mae ymddygiad y Dr. Prichard wedi bod yn hynod o ym- yrgar, annoeth, ac o duedd i wneuthur drwg mawi yn y dyfodol. Yr oeddem ni yn gobeithio y buasai sefydliad y Drysorfa Goff- adwriaethol a'r Athrofa yn y Gogledd yn foddion i r"'yrno y Gogledd a'r Dehau wrth eu gilydd ond ofnwn yn awr y bydd i ni gael ein siomi yn ein dysgwyliadau. Mae afal y gynhen wedi ei daflu fyny, a bydd rhai yn ddigon ffol i geisio ei ddal. MARY JENKINS.—More cost than profit. JOHN WILLIAMS.—Bydd y goot tuag an rhano dair yn fwy heb ewyllys na phan fyddo ewyllys. Rhaid i'r wraig gymmeryd y peth a elwir yn Letters of Administration" cyn y gallai godi dy led ion ygwr. WILLIAM WATKINS.—Cewch wybod trwy ysgrifenu at 1* Rev. G. H. Davies, Tract Society's Depot, St. Paul's, London." DIACON.—33, Moorgate Street, E.C., London. CLUSTFEINYDD.—Rhy bersonol o lawer.. YSGOLoR.-Dilfyg lie yn unig-daw eich tro chwithau yn y man. YMGEISVDD.—Mae y Court Dress yn cynnwys cadach gwddf Vgwyn, par o ddillad o frethyu du, breeches penlin, hosanau sidan duon, esgidiau isel; a byclau gloywon. A ydych yn meddwl myned yno ? JOHN JÓNKS (Gwakh).—Diolch yn fawr am eich Traethawd rhagorol-daw allan yn lied fuan. THALAWIUS AP BRAN.— Yn yr Adgyfodiad ni fyddant yn gwra nac yn gwreica, ond byddant fel angylion Duw—pob perthyaas ddaftirol wedi darfod. D. JONES, Drefach.-Nid oes a fynom ni a'r Cymro, ac nid yw eich dadl 8. Llangelerian" yn ddealladwy'i ni a darllenwyr y SEREN. Chwi ac ereill o'r Ymneillduwyr sydd yn cadw y Cymro yn fyw, trwy ddadleu ynddo nes cael eich troedio allan yna, dewch atom ni i geisio cyfiawnder. GWENTVDD.—Diolch i chwi. Carem glywed etto pan fyddo ham- dden. 0 PARCH. J. W. MAufticg.-Cyn gynted stg a al',wn. TRYSORFA Y GOFFADWRIAETH.—Yr ydym wedi derbyn cofre* hir 0 danysgrifiadau oddiwrth ein Goruchwyliwr ffyddlawn, ond o ddiffyg He, yn gorfod ei gadael allan hyd y rhifyn nesaf. Y mae cofresi wedi dyfod i law hefyd oddiwrth amryw eglwysi; cant ymddangos yn eu tro. Rhoddir colofn 0 bob rhityn o'r SEREN at wasanaeth y Drysorfa; nis gellir fforddio rhagor 0 le. 4W Yinddengys hanes cyfarfod misol Blaenllyri, ac amryw gyf- arfodydd ereill ydynt wedi dyfod i law, yn y rhifyn nesaf. Er mwyn arbed amser a thrafferth, bydded i'n Gohebwyr anfon eu cynnyrchion, yn ol eu gwahanol dueddiadau, fel y canlyn 1W Pob hanesion—crefyddol a chymdeithasol, archebion, a thaliadau, i Mr. W. JJl. Evans, Seren Cymru Office, Car- marthen. igjgr Y TRAETHODAU, GOHEBIAETHAU, &C.—Rev. T. PRICH, IIOSE COTTAGE, ABERDARE. Ø" YR YSGRIFAU EGLWYSIG, o nodwedd yr erthyglau ar- weiniol Eglwysig, &c., — Rev. B. EVANS, PENYDKEF HOUSE. NEATH. -E Y FARDDONIAETH.—Rev. J. R. MORGAN (Lleurwg), JLLANELLY, CARMARTHBNSHIRE. "SEREN" CYMRU" WYTHNOSOL. PRIIóI SIIRRN CYMRU i dderbynwyr a dalant am dani wrth ei derbyn. neu a dalant cyn pen wythnos ar ol i'r chwarter ddyfod yn ddyledus, yw Is. lc. y chwarter; neu Is. 3c. os na wneir hyny. TEIMI.IR yn ddiolchgar i'n dosparthwyr am gael nifer y derbynwyr yn 4, 9, 13, &c., er arbed traul y postages. Nis gellir caniatau y postage pan fyddo y nifer dan 4. GWALL.—Cenfydd rhai o'n darllenwyr wrth ddarllen tudalen 50, fod yr ail golofn wedi ei asod yn gyntaf. Yr oedd amryw gopiau o'r SEREN wedi eu gweithio ffwrdd cyn i ni ganfod y gwall. TALIADA U- Derbyniwyd taliadau oddiwrth-W. M. W. Llynlleifiad, J. p. W. Tonyrefail, J. J. Darlington, W. D. Witton Park, U. G. Noyadd, C. W. Fach, D. B. Pontymeistr, LI. D. Blackmill, D.E' Llanwtwit Vardre, D. J. Pantllyn, D. H. Cross Inn.

YR WYTHNOS

HELYNTION AMERICA.

Y DIWEDDAR MR. GEORGE PALMER,…

EBEN FARDD WEDI MARW!

GOHEBIAETH 0 MOUNTAIN ASH.