Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Y GWRTHRYFELWYR YN POLAND.

[No title]

News
Cite
Share

Mae parotoadau mawrion yn cael eu gwneyd yti LIundain er rhoddi derbyniad priodol i'r Dywyaoges Alexandria, darpar- wraig Tywysog Cymru. Cafodd yr Arglwydd Faer ac aelodau ereill o'r pvryllgor ymweliad a Syr George Grey ar y mater ychydig ddtwrnodau yn ol, 0 berwydd gormes eynnyddol Rwsia ar drigolion Poland, y mae nifer y gwrthryfelwyr yn cynnyddu beunydd, ac mae y prif dir-feddiannwyr a'r pendefigion yn uno & hwy. Mae Dug Cobnrg wedi rhoddi ateb penderfynol na dderbynia goron Groeg. Mae ei resymau dros wrthod yr anrhydedd yn lluosog. Dywed y Nord ddarfod i Mazzini fyned drwy diriogaeth Awstria i ymweled a Garibaldi yn Caprera, ac er fod yr hedd- geidwaid Awstriaidd yn dysgwyl am dario, ac iddynt gael eu gosod ar ei ol, iddo fyned yn ddiangol drwvddynt. RHAGDYBIAETH RHYFEDD.—Bu farw Mr. W. Gingell Woodhouse, East Ham, ar bryooawn dydd lau diweddaf dan amgylchiadau tra rhyfedd. Yr oedd yn eistedd wriby bwrdd g-yda'r teulu yn ciniawa, pan y dywedodd wrth ei dad, Yr wyf yn rhagdybied y bydd i mi farw yn ddisymmwth," a chyn gynted ag oedd y gair dros ei wefus, gogwyddodd ei ben, a bu farw yn y fan heb gymmaint ag ochenaid i arwyddo hyny. LLEJDR, EorN.—Ychydig nosweithiau yn ol, fel yr oedd y Parch Mr. Lane, curad y plwyf, Witley, yn eistedd yn ei ys- tafell mewn ffermd^, lie yr oedd yn llettya, agorwyd drws ei ystafell gan ryw ddyn, yr hwn a edrychodd i mewn. Gofyn- odd yr offeiriad iddo os oedd eisieu rhywbeth arno, i'r hyn yr atebodd nad oedd, dim neillduol, ac enciliodd i'r gegin, gan gau y drws ar ei ol. Dilynodd Mr. Lane ef yno, a chanfu ar y bwrdd ddwy ysgyfarnog a gwydd. Gall fod yr offeiriad yn ddveithr i'r lie, < dim ond yn ddjweddar wedi myned i lettya yno, yr oedd yn tneddwl mai un (J'rgweision ydoedd, a gofynodd iddo a oedd yn cysgu yn y t9, i'r hyn yr atebodd y dyn dy- eithr yn eitbaf, sychsyber Ydwyf siwr." Aeth yr offeiriad yn fuan wedi hyny i'r gwely, ond boreu dranoeth cafwyd fod ffenestr y gegin fses wedi cael ei thori yn agored, a bod dwy ysgyfarnog, gwydd, dwy dorth o fara, a dernyn o fara, a dern- yn o facwn, wedi cael eu cymmeryd ymaith ac heblaw hyny, fod y lleidr wedi bod yn hdpu ei hunan i ryw gymmaint o win. BEDYDD TRWY DROCHIAD YN EGLWYS LoICGR.Dywed yTlmes, am Chwef. 14eg, fel y canlyn :—Gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd drwy drochiad dydd Mercher diweddaf, sef yr lleg o Chwefror, yn Eglwye y Drindod, Marylebone. Yn union ar ol diweddu y gwasanaeth boreuol arferol, aeth bonedd- iges ipuanc, yr hon oedd i gael ei bedyddio, ynRghyd f¡'i chyf- eillion a'i meichwyr (sponsors), i gymmeryd eu lie yn agos i fedyddfa, yr hon oedd wedi cael ei hadeiladu i'r pwrpas, ac wedi ei sefydlu yn gymhwys o flaen y bwrddcymundeb. Dar- llenodd y periglor, y Parch. W. Cadman, y gwasanaeth bed- yddiadol, ac yna aeth drwy ei bedydd yn y dwfr oer gyda'r penderfyniad mwyaf, ar ol yr hyn aeth i newid ei dillad. Yn ystod ei habsenoldeb yr oedd y gynnulleidfa wedi myned i weddi ar ei rhan, a darllenwyd y gweddill o'r gwasanaeth ar ei dychweliad. Dywedir fod y foneddiges ieuanc yn aelod o'r gynnulleidfa o'r blaeu.

{ ADOLYGIAD AR FASNACH YR…

---.....-MARK-LANE. LLUNDAIN.'

'MARCHNAD ANIFEILIAID LLUNDAIN.-

PRISOEDD YMENYN A CHAWS.

MARCHNAD YD LLYNLLE1FIAD.

MARCHNAD WLAN LLYNLLEJFIAD.

PRISOEDD Y LLEDR.

" MAltCHNADOEDD CYMREIG.

[No title]

AMERICA.