Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Y GWRTHRYFELWYR YN POLAND.

News
Cite
Share

Y GWRTHRYFELWYR YN POLAND. Mae y gwrthryfel yn Poland wedi chwyddo i faint- ioli anferth yn ystod y pythefnos diweddaf. Yr oedd pawb yn barnu y pryd hyny mai un o'r pethau bychain sydd yn fynych wedi cymmeiyd lie yn y wlad anned- wydd hono ydoedd, ac âpha rai y mae pob darllenwr newyddiadur yn hysbys. Yr aedd y newyddion cyntaf yn arwain i'r gred mai gwrthryfel rhyw ych- li y ydig o ddynion ieuainc heb na chynllun nac arfau ydoedd, y rhai. oedd yn chwennych yn hytrach i achlesu gwlad eu tadau &*u gwaed nâ dyoddefgormes Czar Rwsia yn mhellach. Erbyn hyn y mae mwy na thair wythnos wedi myned heibio, ac ynlIe fod y gwrthryfelwyr wedi eu llethu, y maent yn cynnyddu oeunydd, ac yn cryfhau yn mhob talaeth. Nid yw yn awr yn gyfyngedig i un dref, neu un ddinas, neu Un dalaeth-y mae yn gyffredinol, ac y mae pob dosparth, gwreng a bonedd, tlawd a chyfoethog, yn cymmeryd rhan yn y gwaith. Er fod y newyddiaduron Rwsiaidd yn dweyd fod y gwrthryfel yn gyfyngedig i bobt y trefi, a bod y tirfeddiannwyr a'r bobl rnvrvaf cyfrifol nid yn unig ddim yn cymmeryd rhan ynddo, ond yn ochro gyda'r gormeswyr yn erbyn y bobl gyffredin, y mae'r hanesion a geir drwy gyfryngau mwy credadwy yn profi yn ddiamheuol fod pob dos- parth yn y wlad yn cydymdrechu i daflu ymaith iau ormesol Amherawdwr Rwsia. Y mae llinell y gwrthryfel yn ymestyn o'r Baltic hyd at gyffiniau Bessarabia, ac y mae talaeth Bessarabia yn awr yn cael ei goresgyn gan Boliaid Moldavia. Y mae cyff- iniau Prwsia ac Awstria wedi gweled brwydrau gwaedlyd yn mha rai y gorfodwyd i filwyr Rwsia roddi eu harfau i fyny, ac i ffoi o flaen egni a gwrol- deb dynion yn ymladd am ryddid ac am eu haelwydau a'u gwlad. Y mae y brodorion wedi cael buddugol- iaethau gogoneddus hefyd ar y Rwsiaid yn nhaleithiau Lithuania, Volhynia, Minsk, a Phodolia, gan yru y Cossacks ar ffo, Y maey rhan hyny o Poland sydd dan JywyddiaethPrwsia hefyd mewn cyffro mawr, ac y mae William 1. brenin Prwsia, yr hwn sydd yn gyru ei bobl ei hun i wrthryfel mor egniol ag y tndr, yn danfon ei n!w r wrth y miloedd i'r tir- logaethau hyny. Y mae G-allicia, talaeth Awstriaidd, rn.ewn cyflwr o gyffro mor enbyd a hyny, ac er holl ymdrechion y catrodau Awstriaidd i ddarostwng a jlethu cydymdeimlad y bobl a'r symudiad, y mae "Qoedd o weithwvr yn gwthio eu ffordd trwy rwys- trau mawrion i mewn i Poland i gymmeryd rhan yn y gwrthryfel. Mae trefn yn teyrnasu yn Warsaw," medd y newyddiaduron Rwsiaidd, ond y mae yn *eyrnasu yno drwy rym llu milwrol anorchfygol. Mae'r ddinas vn llawn milwyr, ac etto y mac lluaws yn cael eu danfon yn ychwanegol yno bob dydd. Mae ttd i'w weled pa un a fydd y Pwyliaid yn llwydd- 'annus yn yr ymdrech o daflu ymaith iau Rwsia.' Er °^ y wlad yn codi megys un gwr, etto, y mae byddin- Rwsia yn lluosog ac yn ddewr, ac heb help dir- awr nid oes braidd lie i obeithio y llwyddir yn yr awiean clodwiw. Yr achos o'r gwrthryfel presenol Yvv, fod Rwsia yn gorfodi pob un rhwng dwy ar 1 C5 i a ar huSain oe<^ uno ^'r fyddin Rws- P 1 j effaith y trosedd anferth o raniad am- ^wn y mae Ewrop yn gyfrifol. Pan droqdRsia i rhan hi o'r yspail, addunedodd yn vdl,nJ sicrhau i'r Pwyliaid wasg rydd, sef- C, mdau cynnrychiolawl, a phob hawl ag a berthyn We^rfaS mae yr banner can mlynedd di- WeH t I" Pro^ f°d yraddygiad ltwsia at Poland 1 bod y duaf ar ddalenau hanesyddiaeth, a'i bod wedi bod yn euog o droseddau sydd wedi peru) ddynoliaeth wridio. Y mae'n llawn bryd bellach i bol llywodraeth tufewn i derfynau cred i roddi llai; i'r syniad eyffredinol yn er-byn y fath ormes, ac t ddefnyddio eu dylanwad moesol o blaid pobl ag sydc mor deilwng o ryddid ag un pobl a droedibdd daeai erioed. Mae'r newyddiondiweddAf i'r perwyl catilynol Benthen, Chwef. 8. Mae rhyw gaanoedd o bobl wledig addas at waith milwrol wedi ffoi i'r cyffiniau Prwsiaidd ger Brincia. Mae'r tir-feddiannwyr yn cynnorthwyo y gwrthryfel- wyr a chefpylau a bwyd. Berlin, Chwef. 9. Y mae newyddion pwysig wedi newydd ein cyr- haedd o'r tiriogaethau Polaidd. Hyd yr awr hon nid yw y cyffro sydd ynffynuyn Poland-Rwsiaidd wedi croesi ein cyffiniau, ond y mae cynhwrf mawr wedi dechreu yn awr mewn rhai manau, yn benaf yn Kulm, yn mhlith y tir-feddiannwyr Polaidd. Credir y bydd ymyriad pwysig a difrifol o eiddo y Llywodraeth yn angenrbeidiol. Lemberg, Chwef. 9. Mae y gwrthryfel yn Olkusch yn lledaenu yn gyf- lym. Mae y gwrthryfelwyr dan Rurrowski wedi cael eu sefydlu ger Dombrowa. MaeLangicorexyn parotoi i ymosodarCzeustockan. Mae y gwrthryfelwyr wedi addaw peidio dinystrio y rheilffordd ar yr arnmol y bydd i'r cerbydresi sefyll pan roddir yr awgrym i hyny. Myslowitz, Chwef. 8. Mae y gwrthryfelwyr mewn meddiant o bob lie rhwng Creutochow a'r cyffin Prwsiaidd. J\fJ;j.e'r milwyr Rwsiaidd a ffoisant i'r tiriogaethau Pswsiaidd wedi cael eu hebrwng i Iliewitz. Mae Uysgenadwr Rwsia yn llys Awstria wedi cwyno yn ffurfiol yn erbyn ymddygiad yr awdurdodats Awstriaidd yn Gallicia, yn caniatau i ddynion listio at y gwrthryfelwyr yn y dref hono a manau ereill. Lemberg, Chwef. 14. Yr oedd rhagwylwyr y gwrthryfelwyr ac eiddo y rhengau Rwsiaidd yn agos iawn i'w gilydd neithiwr. Dysgwylir brwydr bob mynyd. Berlin, Chwef. 14. Llawnodwyd y cynghrair rhwng Prwsia a Rwsia o barthed i'r gwrthryfel yn Poland ar yr 8fed. Thorn, Chwef. 14. Mae y Cadfridog Annenkoff, llywydd taleithiau Padolia a Volhymina, wedi cael ei awdurdodi gan yr Amherawdwr i orchymyn gosod y taleithiau hyny mewn cyflwr o warchae os bydd hyny yn angenrheid- t .in"rrr' iol,

[No title]

{ ADOLYGIAD AR FASNACH YR…

---.....-MARK-LANE. LLUNDAIN.'

'MARCHNAD ANIFEILIAID LLUNDAIN.-

PRISOEDD YMENYN A CHAWS.

MARCHNAD YD LLYNLLE1FIAD.

MARCHNAD WLAN LLYNLLEJFIAD.

PRISOEDD Y LLEDR.

" MAltCHNADOEDD CYMREIG.

[No title]

AMERICA.