Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

CYFARFOD CHWARTEROL DYFED.

CYFARFOD CHWARTEROL BRYCHEINIOG.

CYFARFOD CHWARTEROL Y BEDYDDWYR…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFARFOD CHWARTEROL Y BEDYDDWYR YN MORGANWG. Cynnaliwyd y cyfarfod hwn yn Cefncoedycymmer ar y 3 a'r 4 o'r mis presenol. Dechreuwyd y Gynnadledd am ddau o'r gloch ydydd cyntaf, yn yr hon, yn mhlith pethau ereill, y penderfynwyd ar y petnau canlynol 1. Fod i'r eglwysi hyny sydd heb gasglu at y Genadaeth Dramor, i gofio gwneyd hyny yn ddioedi, ac anfon eu casgl- iadau i Mr. James James, No. 8, North St. Cardiff. Gan fod y flwyddyn genadol ar ben gyda y mis nesaf, bydded i'r eglwysi weled yn dda cadw hyn mewn cof. 2. Fod y cyfarfo I hwn yn taer ddymuno ar yr eglwysi sydd heb gasglu at Genadaeth Artrefol y sir, i wneyd hyny mor fuan ag y byddoynalluadwy iddynt-o hellaf o hyn i'r cwrdd chwar. ter nesaf. Bydded i'r casgliadau gael eu hanfon i Mr. Thomas Richards, Chandler, Pontypridd. 3. Fod y brawd W. Jones, o'r Docks, Caerdydd i gael ei dderbyn yn wresog i'r undeb hwn, ar gymmeradwyaeth y llythyr a gafwyd ganddo oddiwrth gyfarfod chwarterol sir Fynwy. 4. Fod y brodyr canlynol i gael llythyron o gymmeradwyaeth i'r gwahanol undebau cyrnm infiiol y perthynant iddynt, sef J. Jones (Mathetes), gynt o'r Pit; S. Jones, gynt o Lan- ylltid Fawr; J. D. Williams, gynt o Gauton R. D. Roberts, gynt o'r Tabernacl, Merthyr ac M. Griffiths, gynt o Bont- brenllwyd. 5. Fod y brawd Thomas Edwards i gael llythyr cymmerad. wyaeth i fyned i Athrofa y Bedyddwyr yn Llangollen. 6. Fod y cyfarfod hwn yn hollol gymmeradwyo symudiad ein brodyr, y Bedyddwyr caeth, yn Lloegr, o gynnal cyfarfod neillduol yn Llundain yn mis Ebrill nesaf, ac yn penderfynu cydweithredu a hwynt yn eu hamcanion daionus; a bod Mr. Price, Aberdar, a Mr. Thomas, Caerdydd, i fod yno yn cyn nrychioli cymmanfa Morganwg. 7. Fod i'r eglwysi ystyried nad yw D. Bowen, gynt o Cefn- coedycymmer, yn aelod na phregethwr perthynol i'r Bedydd. wyr yno yn biesenol, 8. Fod y cyfarfod hwn wedi clywed, er gofid a galar, am ymddygiad anweddus a hollol ddrygionus, dau weinidog o sir- oedd ereill, yn un o dref/dd y sir hon yn ddiweddar, yn dy. mune ar yr eglwysi oil i osod eu gwynebau yn bendant a phen. derfynol yn erbyn y fath gyinmeriadau annheilwng. 9. Fod y cyfarfod hwn wedi clywed am y bwriad o gael undeb rhwng y tri enwad,—y Presbyteriaid, yr Independiaid, a'r Bedyddwyr,—ein bod ni, ar unwaith, yn hysbysu ein par- odrwydd i ymuno ar yr unig dir ag y gallwn wneyd hyny, sef ar dir y Beibl-y Beibl oil, a dim ond y Beibl; a pherfflsith ryddid i ni i ddadblygu ein hegwyddorion, fel y datguddiwyd bwynt gan Grist a'i Apostolion. 10. Fod Eglwys Llantrisiant i gael caniatad i helaethu eu capel. Y brodyr Roberts, Pontypridd; Roberts, Rhydfelen a Mr. T. Richards, Pontypridd, i fod yn bwjllgor dros y cwrdd chwarter. 11. Fod Eglwys y Tabernacl, Caerdydd, i gael caniatad i hel- aethu y capel; a'r brodyr Davies, Wauntrodau Jones, Docks a Mr. Thos. Rees, Canton, i fod yn bwyllgor dros y cwrdd chwarter. 12. Fod y. cwrdd chwarter nesaf i fod yn Llysfaen, ar y Mawrth a'r Mercher cyntaf o fis Mai, sef y 5ed a'r 6ed; y gynnadledd i ddechreu am ddau o'r gloch prydnawn y dydd cyntaf. Y CYFARTODYDD CYltOKDDUS. Yr hwyr cyntaf, am 7, yn Carmel, dechreuodd y brawd T. R. Davies, Merthyr; a phregethodd y brodyr Phillips, Tre- fforest; Price, Aberdar; ac Evans, Castellnedd. Yr un pryd bu pregethu yn y Cefn a Merthyr gan y brodyr Thomas, Caerdydd; Roberts, Rhydfelen; Jones, Docks; James, Croesyparc; Williams, Brithdir; James, Glyn-nedd; Jones, Llantrisant; Michael, Penybont; Thomas, Berthlwyd; Rowlands, Cwmafon Jones, Abertawe; Jenkins. Maesycwm- mwr; Thomas, Llansawel Roberts, Pontypridd; Edwards a R.'es, T'r Phil; Evans, Tregolwyn; ac Edwards, Llysfaen. Dranoeth, am 7, gweddiodd y brawd John Hughes, Cartnel; a phregethodd y brodyr John M. Evans, Pontbrenlhvyd, a Wil- liams, Soar, Rumni. Am 10, gweddiodd, y brawd Edwards, Llysfaeii a phregethodd y brodyr Williams, Hengoed; Jones, Abertuve; a Thomas, Caerdydd. Ani- 2, gweddiodd y brawd D. Morgan, Drefach; a phregethodd y brodyr Roberts, Hebron, Dowlais Rowlands, Cwmafon a Roberts, Ponty- pridd. Am 6, gweddiodd y brawd Griffith Roberts (A), Eben. eser a phregethodd y brodyr Jones, Docks, Caerdydd; James, Croesyparc, ac Evans, Dowlais. Cafwyd pregethau o'r fath oreu, gwrandawiad astud, a thj r- faoedd mawrion yn nghyd. Ymddygodd yr ardalwyr oil yn hynod o garedig at y dyeithriaid, yn enwedig Mrs. Jones, grocer, Mr. Millward, y Parchn. Roberts (A.), ac Evans (U.), heblaw aelodau y capel. Cawsom h ofion amlwg fod y brawd Morris a'i eglwys wedi ennill safle o barch a dylanwad yn y gymmydogaeth. B. EVANS, YBg.

CYMDEITtlAS GENADOL Y BEDYDDWYR…

-..LLYSFAEN, MORGANWG.

IDOSPARTH LLANDILO.

CWMDU.

PENRHIWGOCH.

PONTBRENARAETH.

CARMEL, MYNYDDMAWR.

(!!)yfarlø4yd4 Qf)tt(ydtiot.