Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

AMERICA.j

, Y GWRTHRYFEL YN POLAND.

News
Cite
Share

Y GWRTHRYFEL YN POLAND. St. Petersburgh, Chwef. 7. Mac brwydr waedlyd wedi cymmeryd Ue. Gwas- garwyd y gwrthryfelwyr. Mae yn wir ddarfod i gyn- nyg gael ei wneyd i wenwyno yr Ardalydd Melopolske a'i deulu, ond hyd yn hyn nid oes un o honynt wedi marw. Warsaw, Chwef. 6. Trechodd 180 o filwyr 250 o'r gwrthryfelwyr ddoe, ger Zamosc. Mae'r newydd o frwydr fawr ger Wo- nachock, a threchiad y gwrthryfelwyr, wedi cael ei gadarnhau, ond nid oes un hanesswyddogol o'r frwydr wedi ei chyhoeddi etto. Lemberg, Chwef. 7. G^rwyd mil o'r gwrthryfelwyr, dan lywyddiaeth y Barwn Heidel, yn ol gan y Cadfridog Rwsiaidd Maek, ger Boncvoyck. Taflodd dwy gatrawd o wyr gwledig eu harfan i lawr ar ol yr ergyd cyntat. Gwasgarodd llawer o'r gwrthryfelwyr, ac y maent yn awr yn crwydro yn y coedwigoedd. Mae y Rwsiaid wedi n gosod tref Woucsocz ar dan. Cracow, Chwef. 7. Ymosododd y gwrthryfelwyr neithiwr ar Granica, Sonowice, a Noduzejow ar y cyffin rhwng Poland a Phrwsia. Maeddwyd y Rwsiaid, y rhai a gollasant 49 rhwng lladdedigion a chlwyfedigion. Cracow, Chwef. 8. Mae nifer y sawl sydd yn uno a'r gwrthryfelwyr yn cynnyddn beunydd. Mae y rhan Bolaidd o reil- flordd Warsaw a Vienna yn nwylaw y gwrthryfelwyr. Y mae tair mil o honynt yn nghy-rdmydogaeth Mys- lowitz. Cadarnheir y newydd o'r fuddugoliaeth a ennillodd y Rwsiaid ar y gwrthryfelwyr ger WOBCSOCZ. Mae Llywodraeth Geuedlaethol Sandamir wedi cael ei thori fyny. Breslau, Chwef. 7. Mae Sonowice, tref ar y cyffin Swsiaidd, gyferbyn a Kalowitz, eisteddle y Cyllid-dy, wedi cael ei chym- tneryd gan y Gwrthryfelwyr ar ol brwydr waedlyd. Dywed y SchlesiscXe Zeitung am Chwef. 8, Yn ol hysbysrwydd credadwy, y mae materion yn Poland wedi myned mor bwysig, fel y mae catrawd o wyr traed wedi cael eu danfon o Prwsia heddyw i'r cyffiniau Prwsiaidd gyda'r rheilffordd, ac y mae cerbydresi arbenig i fod mewn parodrwydd heddyw er cludo ychwaneg." Y Breslauer Zeitung o'r un dyddiad, a gyhoedda wefr-hysbysiad o Moslowitz i'r perwyl hyn "Mae milwyr Rwsiaidd ffoedig yn cyrhaedd yma mewn rhifedi mawrion. Mae pum cant o honynt wedi cael eu diarfogi, ac y mae'r dalaeth gymmydog- if aethol wedi cael ei chlirio yn llwyr o'r holl filwyr Rwsiaidd gan y gwrthryfelwyr, gyda pha rai y mae nifer mawr o wyr meirch." Cyhoeddir newyddion o Benthen gah yr un papyr, a dywedir fod milwyr Prwsiaidd wedi cael eu danfon o'r lie hwnw i Diemanovitz, o herwydd fod y gwrth- ryfelwyr wedi ychwanegu yn ddirfawr yn nhref Czelacz, yr hon dref sydd ar gyffiniau Prwsia a Poland. Dy- wedir fod y gwrthryfelwyr wedi goresgyn y dalaeth Brwsiaidd ger Subliuitz.

ADOLYGIAD AR FASNACH YR YD.

MARK-LANE. LLUNDAIN.

MARCHNADOEDD CYMREIG.