Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

AMERICA.j

News
Cite
Share

AMERICA. Y Cadfridog Undebol M'demand, mewn bryseb at y Cadfridog Halleck, dyddiedig Memphis, Ion. 14, a ddywed ei fod wedi cymmeryd Arkansas Post, yn nghyd ag o saith i ddeng mil o garcharorion, yr holl ystorfeydd, creaduriaid, ac arlwyon rhyfel. Y Llyngesydd David D. Potter, yn ysgrifenu at Ysgrifenydd y Rhyfel, a gadainha fryseb y Cadfridog M'Clernand o barthed cymmeriad Arkansas Post. Y Cadfridog Undebol M'Lean, llywydd dinas Jefferson, yn ysgrifenu i'r Democrat, a ddywed fod y Milwriad Pennock wedi newydd ei hysbysu fod pump o'i wyr ef wedi cael eu llofruddio yn y modd mwyaf ciaidd gan y Gwrthryfelwyr. Yr oedd eu cyrff a'u penau wedi euhanafu a'u tori yn ofnadvry. Yr oedd gwynebau rhai o honynt wedi eu dryllio yn ddarnau megys a phedolau sodlau, ac yr oeddys wedi gosod pyloryn nghlust un o'r trueiniaid, a gosod tfin wrtho wedi hyny, ac felly ei tfrwydro, tra yr oedd dau glust un arall wedi eu tori ymaith. Nid oeddys yn gwybod pa un ai cyn neu wedi marwolaeth y cyflawowyd y barbareiddiwch hyn. Mae'r brysebau oedd ar eu ffordd i Loegr a Ffrainc oddiwrth Mr. Memmenger, ysgrifenydd Trysorlys y Gwrthryfelwyr, pa rai a gymmerwyd ar y m6rganyr Undebwyr, wedi eu cyhoeddi yn awr drwy yr holl wlad. Ymddengys oddiwrth y brysebau hyn, y rhai oeddynt o dan ofal un o'r enw George Sanders, fod Mr. James Spence, o Lynlleifiad, wedi cael ei benodi yu oruchwyliwr cyllidol dros y Gwrthryfelwyr yn y wlad hon. Y peth mwyaf hynod yn nglyh a hyn yw, fod Mr. Spence wedi bod yn gwadu yn ddigllon y ber- thynas oedd rhyngddo a'r DeheuwyF bryd bynag y cyhuddid ef o dderbyn tal oddiwrth y Gwrthryfelwyr am amddiffyn eu hachos. Yr oedd yn ysgrifenu i'r Times o blaid y Dcheuwyr o dan yr enw S." Mae y brysebau hyn modd bynag nid yn unig yn son am dano ef fel goruchwyliwr cyllidol y Gwrthryfelwyr, ond yn cynnwys llythyr ato ef oddiwrth Mr. Mem- minger, yn dechreu fel hyn :—" Syr,—Gan eich bod wedi cael eich pennodi yn oruchwyliwr cyllidol dros y Taleithiau Cynghreiriol," &c. Mae yr Aelod Sen- eddol Mr. Lindsay hefyd, yn oly brysebau a enwwyd, mewn cynghrair a'r Gwrthryfelwyr i adeiladu ager- longau rhyfel iddynt. Mae Mr. Lindsay wedi bod yn awyddus iawn i gael gan Lywodraeth Lloegr i gyd- nabod annibyniaeth y Deheu. Bydd y wlad yn gwy- bod o hyn allan pa faint o goel i roddi i ddynion o'r futh hyn. Mr. Benjamin, yn ysgrifenu at Mr. Mason yu Llundain, yr hwn lythyr hefyd oedd gydar brysebau uchod, a gwyna o herwydd meithder llythyron Mr. Mason, a dim llai o herwydd meithder eiddo Mr. Slidell hefyd, yr hwn sydd yn Paris. Mae yn debyg ddarfod i Mr. Mason wneyd rhyw gynnygiadau ychydig amser yn ol i Iarll Russell gyda golwg ar gotwm deheuol, yr hwn oedd Mr. Mason am ddwyn i mewn i'r wlad hon ar delerau ag oedd Iarll Russell yn farnu oedd yn annheg tuag at y Gogledd, gan fod y wlad hon wedi hysbysu ei hunan yn anmhleidiol. 0 herwydd hyny darfu i'r Iarll Russell wrthod cyn- nygion Mr. Mason. Mr. Benjamin yn ysgrifenu at Mr. Mason ar y pwnc hwn, a ddywed Ystyrir fod c hyawdledd prin' Iarll Russell yn hnnghlod i'r Saeson mewn cyferbyniad i garedigrwydd Ffrainc. Bhodres rhai o'i dynion cyhoedd yw y prif achos o'n sashad yn erbyn Lloegr. Mae y cyferbyniad yn da- rawiadol rhwng caredigrwydd caboledig M. Thou- veuel ac anfoesgarwch sarug larll Russell." Newyddion hyd y 24ain o Ionawro Efrog Newydd a hysbysant ddarfod i'r Gwrthryfelwyr ar y Sul cyn hyny godi gwrthgloddiau newydd y tu ol i Freder- icksburg, gan ddangos bywiogrwydd mawr arybryn- lan eyfagos, yr hyn oedd yn gwneyd croesiad arall o'r Rappahannock gan Burnside yn yr un fan yn orch- il anhawdd iawn. Y mae twysgedo ysgarmesio yn nghymmydogaeth 0 ZD 0 Baton Rouge, ac y mae'r ddinas bron yn wag, y tri- C) golion gan mwyaf wedi ffoi. Y mae llu yr Undebwyr yno yn rhifo 8,000 o wyr. Yn y rhytel diweddar yn Murfreesboro, colled yr Undebwyr, yn ol y cyfrif diweddaf, oedd 1,470 *edi eu tladd, 6,800 o glwyfedigion, a 2,000 o gar- charorion. Dywed y Richmond Despatch (papyr Gwrthryfel- gar). fod yr Undebwyr yn cydgasglu llu mawr gyda golwg ar fwrw ergyd ar brif linell y rheilffordd sydd yn cyssylltu Richmond a'r rhanau mwyaf pellenig o'r J-'eheu. Mae eu lleoedd yn Newbern a dinas More- head yn rhifo 50,000. Dywedir fod llynges nerthol yn Morehead er gwneyd ymosodiad buan arWilming- tray gwneir ymosodiad ar yr un pryd ar Wel- Y Cadfridog Undebol Burnside, yn ei anerchiad 1 r fyddin, a'n hysbysant ei fod ar fed/ eu harwain un- waith yn rhagor yu erbyn y gelyn. Mae y brwydrau ardderchog yn North Carolina, Tennessee, ac Arkan- sas," eb efe, wedi rhanu a gwanychu hyddin y Rappahonnockgymmaint, fel y mae yr amser ffafriol wedi dyfod yn awr i ni daro ergyd mawr a marwolar y gwrthryfelwyr, ac ennill y fuddugoliaeth sydd yn ddyledus i'r wlad." Mae y Cadfridogion Franklin a Hooker wedi symud oddiar yr 20fed heibio in ol dosran Sumner, saith neu wyth mllltir tu hwnt i Falmouth, ar y Rap- pahannock. Y mae dosran Sumner yn igorwedd gyferbyn a Fredericksburg,. gyda'r gorchymyn i fod yn barod i symud ar fynyd o rybydd. Y mae'r gwlawogydd trynaion wedi gwneyd y cychwyniadau yn afrwydd. Y mae'r Llywodraeth yn parhau yn ddystaw gyda golwg ar symudiadau byddin y Potomac. Mae'r New York Tribune yn argymhell adffurfiad y Cyfringynghor, yr hwn, medd, a ddylasai fod yn gyn- nwysedig o ddynion sydd nid ya uniii: yn cydweled a Mr. Lincoln, ond yn barod i'w gefnogi hyd yr eithaf Y mae yn dadleu hefyd drosarfogi pob dyn, pa un ai brodor ai dyeithr, gwyn ai du, sydd yn foddlon i ym- ladd dan luman y Llywodraethv1" Mae anerchiad urddol Llywydd Talaeth Delaware yn llawn o syniadau Undebol a Chaeth-rvddhaol, ac yn dadleu dros gario y rhyfel yn mlaen yn egniol. Mae y newyddiaduron Gorllewinol yn dysgwyl y bydd i'r Cadfridog Gwrthryfelgar ymosod yn union ar fyddin Rosencranz. Dywedir y bydd i'r Cadfridog Blltlerddychwelyd i New Orleans fel llywydd y ddinas. Mae y Jackson Mississisippidn yn barnu mai ar lanau y Mississippi, naill ai yn Vicksburg neu yn Port Hudson, y cymmer y frwjdr fawr olaf a ther- fynol le. A JEfrog Newydd, Ion. 27. Mae y Cadfridog Burnside wedi rhoddi fyny llyw- yddiaeth byddin y Potomac, ac y mae y Cadfridog Hooker wedi cael ei benodi yn ei le. Mae y Cadfridogion Franklin a Sumner wedi cael eu rhyddhau o'u lIywyddiaeth. Mae y tywydd garw yn attal symudiadau cychwynol byddin y Potomac. Mae yr Undebwyr yn North Carolina, dan y Cad- fridog Foster, yn symud yn mlaen yn gyffredinol. >uddwyd y gwnfad Undebol Hatteras gan naill ai yr Alabama, y Victor, neu yr Harriet Lane, ger Gal- veston. Mae y cynllun cyllidol a drcfnwyd gan bwyllgor y ffyrdd a'r modd wedi ei basio yn Nhy y Cynnrych- iolwyr. &a-

, Y GWRTHRYFEL YN POLAND.

ADOLYGIAD AR FASNACH YR YD.

MARK-LANE. LLUNDAIN.

MARCHNADOEDD CYMREIG.