Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

TY YR ARGLWYDDI.

.ARAETH FRENINOL:—

TY Y CYFFREDIN.

COLEG Y PARCH. C. H. SPURGEON.

News
Cite
Share

COLEG Y PARCH. C. H. SPURGEON. Nos Wener, Ionawr 30ain, cyfarfu cyfeillion, myfyrwyr, ac athrawan y coleg sydd mewn eyssylltiad ag eglwys y Parch. C. H. Spurgeon, yn y Tabernacl. Ymddengys fod y coleg hwn mewn sefyllfa flodeuog iawn. Yr oedd rhoddion wythnosol cynnulleidfa Mr. Spurgeon y Sabboth blaenorol yn cvrhaedd i X20 3s. lg.; ac yr oedd y swm hwn, er mor fawr yr yrndden- gys, dan y cyfartaledd o roddion wythnosol y gynnulleidfa at yr achos teilwng hwn. Rhif presenol y myfyrwyr yw 51 ac y mae 150 o fyfyrwyr yn y dosparthiadau hwyrol. Heblaw cyf- lenwi pwlpidau gweiginn, y mae myfyrwyr y coleg hwn yn pregethu mewn 27 o orsafoedd yn ac o aingylch i Lundain. Y mae 29 o eglwysi Bedyddiedig, gweinidogion y rhai a addvsg- wyd yn y coleg hwn. Treulion y coleg y llynedd oedd £ 2,000. O'r swm hwn codwyd yn agos ei banner drwy roddion wyth- nosol y gynnulleidfa, tua £250 drwy danysgrifiadau cyfeillion yn y Tabernacl, a je592 gan Mr. Spurgeon, a chyfeiilion drwyddo ef. DerbyniwydE59 gan Drysorfa y Bedyddwyr. Ymwelir a'r coleg bob dydd Llun a dydd Gwener gan Mr. Spurgeon ei hun, er gweled pa gynnydd a wneir gan y myfyr- wyr, ac er cyfranu liyfforddiadau duwinyddol iddynt. Wedi i'r cyfeillion yfed te gyda'u gilydd, eyfeiriodd Mr. Spurgeon at y pleser a deimlai yn y fath gynnulliadau, a'r lies a ddeilliai oddiwrthynt. Dywedai hefyd, wrth gyfeirio at y coleg, fod y myfyrwyr wedi codi o un i hanner cant, a bod yn agos i 200 yn y dosparthiadau hwyrol. Cyfrenid addysg rad yn y classes hyn i fobl ieuainc ag oeddynt yn dilyn eu gorchwylion yn y dydd, y rhati amlaf o ba rai oeddynt yn pregethu yn achly- surol, ac yr oedd eu llafur wedi ei fendithio yn hynod. Yn ychwanegol at barotoi gweinidogion i eglwysi yn y wlad hon, yr oedd un myfyriwr wedi ei anfon i Newfoundland, lie y mae wedi bod yn dra llwyddiannus a danfonid ereill i wledydd tramor pan y êaniatâi amgylcbiadau. Yr oedd Ilwyddiant y myfyrwyr wedi bod yn hynod yr oedd un o'r rhai cyntaf a fu yn y coleg wedi bedyddio 500 o bersonau. Yn ganlynol, rhoddoJd Mr. Spurgeoo a Mr. Rogers (un o'r athrawon) fras- lun o'r addysgiaeth a gyfrenid yn y coleg, ac ymadawodd y cyfeillion wedi cael boddlonrwydd mawr yn ngweitlirediadau y sefydliad daionus hwn.

CYMDEITHAS ARIANOL DDIRWESTOL…

[No title]