Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

TY YR ARGLWYDDI.

.ARAETH FRENINOL:—

News
Cite
Share

ARAETH FRENINOL:— Fy Arglwyddi a BoneddigiQn- Y mae ei Mawrhydi yn gorchymyn i ni eich hysbysu, ei bod, O.ddiar pan gyfarfuasoch ddiweddaf, wedi gwneyd yn hysbys ei chaniatad i briodas gymmeryd lie rhwng ei Uchelder Breninol Tywysog Cymru a'i Huchelder Breninol y Dywysoges Alexandra, inerch y Tywysog Christian o Denmarc; ac y mae ei Mawrhydi •^•edi cwblhau cytmideb ar y mater a Brenin Denmarc, yr hwn a osodir ger eich bron. Y mae y profion parhaus ag y mae ei Mawrhydi wedi dderbyn o'ch yrnlyniad at ei pherson a'i theulu yn ei pherswadio y bydd i chwi gyfranogi o'i theimladau ar achlysur mor ddyddorawl i'w Mawrhydi; a'r hwn, gyda bendith IDuw, fel y gobeitliia, a brofa mor llesiol i ddedwyddwch ei theulu, ac i ddaioni ei phobl. Nid yw ei Mawrhydi yn ammheu na fydd i chwi ei galluogi hi i wneyd darpariadau gyferbyn a'r sefydliad (establishment) a dybiwch yn addas i radd ac urddas Etifedd Dyfodol coron y teyrn- asoedd hyn. Drwy i chwvldroad gymmeryd lie yn Groeg, a'r orsedd drwy hyny ddyfod yn wag. y mae y genedl Roegaidd wedi hysbysu ei dymuniad cryfaf fod i fab ei Mawrhydi, y Tywysog Alfred, i dderb. n y gorou Roegaidd. Nis gallai yr amtygiad digais a gwir- foddol hwn o etvyllys da tuag at ei Mawrnydi a'i theulu, a'r gwerthfawrogiad teilwng o'r budd a roddir gan egwyddorion ac ymarferion y cyfansoddiad Prydeinig, lai na bod yn wir foddhaol, X1 hyn a deimlir yn ddwys gan ei Mawrhydi. Ond y mae cytundebau diplomyddol coron ei Mawrhydi, yn righyd ag ystyriaethau pwysig ereil!, wedi attal ei Mawfhydi rhag ildio i'r dymuniad cyffredinol hwn o eiddo y genedl Roegaidd. Gobeithia ei Mawrhydi fodd bynag, y bydd i'r un egwyddorion o ddewisiad a arweiniasant feddyliau y genedl Roegaidd, yn y lIe cyntaf, at ei Uchelder Breninol y Tywysog Alfred, i'w harwain i ddewis penadur, dan lywyddiaeth yr hwn y bydd i deyrnas Groeg fwynhau bendithion Ilwyddiant tufewnol, a pherthynasau cyfeillgar a theyrnasoedd ereill ac os yn y cyfry w sefyllfa ar bethau y bydd rWeriniaeth y Saith Ynys wneyd yn hysbys ddymuniad pwyllog i ymuno a theyrnasoedd Groeg, bydd ei Mawrhydi yn barod i gym- meryd y cyfryw fesurau a fyddent angenrheidiol er adchwilio cyt- undeb Tachwedd, 1815, drwy yr hwn yr adgyfansoddwyd y wer- ioiaeth, ac y gosodwyd hi dan amddiffyniad Coron Prydain. Y mae perthvnastu ei Mawrhydi a galluoedd tramor yn parhau yn gyfeillgar a boddhaol. I Y mae ei Mawrhydi wedi ymattal rhag gwneyd dim gyda golwg ar gymhell y pleidiau gwrthwynebol yn Ngogledd America i roddi fypy yr ymdrech rhyngddynt; canys nid yw yn yinddangos etto i'w Mawrhydi y byddai i'r fath gynuygion fod yn llwvddiannus. Y mae ei Mawrhydi wedi edrych gyda'r pryder mwyaf ar yr ymdrechfa anrheithiol a garir yn mlaen etto yn y parthau hyny ac wedi canfod gyda chalon ofidus y cyfyngder a'r dyoddefaint y mae y rhyfel hwnw wedi ddwyn ar ddosparth helaeth o ddeiliaid ei Mawrhydi, ond a ddygwyd ganddyntgyda gwroldebacamvnedd teihvng o efelychiad. Y mae yn gysur i'w Mawrhydi gael lie i obeithio fod v cyfyngder yn lleihau, a bod adfywiad yn cymmeryd ]!e vn y parthau gweithfaol. Y mae wedi rhoddi y boddhad mwyaf i'w Mawrhydi i ganfod gyda'r fath aelfrydedd y mae pob aosparth o'i deiliaid yii mhob parth o'i hamherodraeth wedi cyfranu er darbodi ar gyfer angen- ion eu cyd wladwyr dyoddefus ac y mae yr haelfrydedd gyda pha un y mae deiliaid trefedigol ei Mawrhydi wedi rhoddi eu cynnorth- wy yn profiler fod eu hanneddan yn mhell oddi wrthym, etto fod eu calonau yn meddu teimladau gwresog tuag at hen wlad eu tadau. Y mae y Pwyllgorau Darbodol wedi arolygu, gydagofatparhaus a diffunnt, ddosparthiad y drysorfa a roddwyd dan eu gofal. Y mae ei Mawrhydi yn gorchymyn i ni i'ch hysbysu ei bod wedi cwblhau cytundeb masnachol a llyngesol a Brenin y Belgiaid, ya-nghyd a chyfammod gyda golwg ar gwmnion arianol. Bydd i'r cyfryw gytundeb a'r cyfryw gyfaramod gael eu gosod o'ch blaen. Y mae ei Mawrhydi wedi gorehymyn fod y papyrau perthynol i achosion Itaii, Groeg, a Denmarc, i gael eu gosod o'ch blaen a bjdd i'r papyrau o berthynas i'r dygwyddiadau a gymmerasant Ie y:i ddiweddar yn Japan i gael eu gosod hefyd gerbron. Foneddigion Ty y Cyfiredin,— Ymae ei Mawrhydi yn gorchymyn fod yr amcangyfrifon am y flwyddyn ddyfodol i gael eu gosod ger- eich bron. Y maent wedi «u parotoi gyda golwg ddyladwy at gynnildob, ae a ddarparant i wneyd y cyfryw leibad yn y treulion ag a yrnddengys yn gyd- weddot a dygiad yn mlaen y gwasanaeth cyhoeddusyn eHeithidI. Fy Arglwyddi a Boneddigion,- Yr ydym yn cael ein gorchymyn sari ei Mawrhydi i'ch hysbysn, 'er fod rhyfel cartrefol yn Ngogledd America yn parhau, nad yw masnach gyffredinol y wlad wedi lleihau nemawr y flwyddyn ddi- weddaf. Y mae y cytundeb masnachol a gwblhaodd ei Mawrhydi ag Am- Tiarawdwr Ffrainc eisoes wedi cynnyrchu canlyniadau tra man- teisiol i'r ddwy genedl y mae yn ymwneyd a hwynt; ac nid yw sefyllfa y gyllidaetb, er fod amryw amgylcbiadau anffafriol wedi dygwydd, yn anfoddhaol. ,Gobeith;a ei Mawrhydi y cymmerir y canlyniadau hyn fel profion nad yw adnoddau y wlad wedi eu niweidio. Y mae yn foddhaol i'w Mawrhydi i ganfod y trefnusrwydd hapus a fodola drwy ei holl diriogaethau, yr hyn sydd yn elfen mor hanfodol i ddedwyddwch a Ilwyddiant cenedlaethau. Gosodir dan eich ystyriaeth amryw fesurau o ddefnyddioldeb a 'gwelliant cyhoeddus; a dwys weddia ei Mawrhydi ar fod i fendith yr Hollalluog Dduw arwain eich ymgynghorhd er ychwanegu llesiant a dedwyddwch ei phobl. Cynnygiwyd gan Jarll Dudley fod anercliiad i gael ei anfon mewn atebiad i araeth y Frenines. Eiliwyd y cynnygiad gar. Iarll Gi anard. Wedi i Iarll Derby ac ereill siarad, pasiwyd y penderfyniad. DyBD GWENER. — Cynnygiwyd gan Esgob Ripon fod dychweliad o boblogaeth archesgobaethau York a Ripon gael ei wnevd. Mewn atebiad i Arglwydd Llanofer, dywedodd Iarll de Grey a Ripon y byddai i V sgrifenydd y Rhyfel, pan yn cynnyg yr amcan-gyfrifon, roddi eglurhad o berthynas i gym- meradwyaeth pwyllgor y Gwirfoddiaid. DYDD LLUN.—Wedi ychydig eiriau oddiwrtb Arglwydd Rayenswortb, o berthynas i borthladdoedd noddfaol, darllen- odd yr Arglwydd Ystafellydd atebiad ei Mawrhydi i'r an- ercliiad. Wedi i addysg y tlodion fod dan sylw. torodd y$i fyny i am chwarter i saith.

TY Y CYFFREDIN.

COLEG Y PARCH. C. H. SPURGEON.

CYMDEITHAS ARIANOL DDIRWESTOL…

[No title]