Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

fefjjdW.

CYFARFOD CHWARTEROL DYFED.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFARFOD CHWARTEROL DYFED. Cynnaliwyd hwn yn Beulab a Chasmael, y 3ydd a'r 4yddt o'r mis hwn. Am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, cynnaliw d cyn* nadledd, pryd y llywyddwyd gan y Parch. T. E. Thomas, Tre- haol. Wedi i'r Parch. Dr. Davies, Hwlffordd, anerch gorsedd gras, penderfynwyd— 1. Fod Mr. T. U. Mathias, ag sydd yn awr yn ymdroi tUIIi Honeyborough, i ddyfod a llythyr o ddyddiad diweddar i ddan* gos ei gyssylltiad ag enwad y BedydJwyr i'r Gymmanfa nesafe cyn y gellir ei gydnabod yn weinidog rheolaidd yn y Sir. 2. Fod y cyfarfod yn cymmeradwyo ymweliad y Parch. Rees, o Abertawy, i'r eglwysi ar ran Cymdeithas Dadgyssyllt* iad Crefydd a'r Wladwriaeth, er rhoddi gwybodaeth am ei heg" wyddorion, a derbyn nodded iddi. 3. Fod cyfarfod i gael ei gynnal yn Blaenllyn, dydd Mawrtb^ y 17eg o'r mis hwn, am 10 o'r gloch, er ystyried a threfna f dull a'r moddion goreu i gasglu er talu traul cyfraith Trefan- gor; a dymunir ar weinidogion a diacaniaid yr eglwysi fod yno yn bresenol. 4. Mewn atebiad i Mr. L1. Jenkins, Goruchwyliwr y Gym- deithas Goflfadwriaethol, penderfynwyd nas gall Sir Benfrodaa ei hamgylchiadaupresellol wneyd dim yn amgen nag a gynnyg- iwyd gan y Cyfarfod Chwarterol diweddat, yr hyn a wrthod- wyd gan Bwyllgor Gweithredol y Gymdeithas, sef uno y ddaa amcan mewn un ymdreeh-casglu y Sir yn dda a manwl, tala traul cyfraith Trefangor allan o'r cynnyrch, a'r rhan arall at y Gymdeithas Goflfadwriaethol. Mae pobt Dyfed, fel rkoddwyrr yn barnu fod ganddynt kawl i ddweyd atba amcanion y rhodd- ant eu cyfraniadaa. Ac os na dderbyn y Gymdeithas y eynnyg yna, bydd yma yn agored iddynt ar ol talu traul y gyfraith. [Bernir o hyd genym fod amddiffyn hawl meddiant a rodd- wyd i'r enwad 200 mlynedd yn ol, gan un o'r rhai a drowyd allan, mor deilwng a phriodol amcan o Drysorfa y Goffadwr- iaeth a'r un a all fod.—Ys«.] 5. Penderfynodd y Cwrdd Chwarter gymmeryd gofal gwein- idogaethol yr eglwysi yn Beulah a Chasmael, bob yn ail Sab- both a'r Myfyrwyr, o hyn i'r Gymmanfa ac ymrwymodd yr eglwysi roddi eu hunain i fyny i gynghor a chyfarwyddyd y Cwrdd Chwarter, gyda golwg ar eu symudiadau rhagUaw. Wrth hyn, fe wel y Pregethwyr Teithiol na fydd galwad am eu cymhorth hwy i bregethu yn yr eglwysi hyn cyn y Gym- manfa ac ni fydd eu dyfodiad yma ond taflu traul ar yr eg- lwysi, a diflasdod iddynt eu hunain, oni ddanfonir am danynt. 6. Y Cyfarfod Chwarterol nesaf i fod yn Tabor, yn nechreo. Mai. Y dyddiau i gael eu nodi etto. Y GWASANAETH CYHOEDDUS. Yn Casmael, nos Fawrth, pregethodd y brodyr Roberts, Tabor, a Jenkins, Trefdraeth. Yn Trainar, y brodyr Griffiths, Blaenconin, a George, Jabez. Yn Skyber, W. Owen, I-e-lin- ganol, atrowe, Abergwaen. Am hanner awr wedi 9, dydd Mercher, yn Beulab, y brodyr George, Jabez; Griffiths, Blaenconin; a Williams, Llangloffan. Am 2, Phillips, Groes- goch, a Roberts, Tabor. Am 6, Owen, Felinganol, a Rowe, Abergwaen. Cafwyd cynnulleidfaoedd lluosog, cyfarfodydd da a dylanwadol, caredigrwydd mawr yn yr ardaloedd, a chasgliad da at Genadaeth Artrefol y Sir. W. OWEN, Ysg. AT BREGETHWYR YN GYFFREDINOI..—Anwyl Frodyr,- Yr ydym ni, fel eglwys o Fedyddwyr yn Nghaersalem, Bargoed, yn hysbysu trwy SEREN CYMRU, nad oes yma dderbyniad i chwi hyd nes yr anfonom am danoch a phan y bydd angen am hyny»:: byddwn yn wir ddiolchgar am eich gwasanaeth. Ein rhesymau i gyboeddi yr nchod yw, fod dau neu dri yn dyfod yma yr un SaD- both, a ninnau o dan ormod baich i'ch cydnabod yn deilwng am eich gwasanaeth. Arwyddwyd dros yr eglwys, D. PHILLIPS, T. MORGATF, J. DAVIBS, J. LEWIS, Diaconiaid.

MYNEGYDD Y GOFFADWRIAETH.