Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

YR WYTHNOS

ARAETH Y FRENINES.

News
Cite
Share

ARAETH Y FRENINES. MAE Araeth y Frenines ar agoriad yr eisteddiad pre- seriol o'r Senedd wedi ei darllen gan ddirprwywyr penqdedig ganddi hi. Mae hon eleni yn ysgrif hollol ddiniwed, ac heb gynnwys cymmaint ag un syniad nad oedd o'r blaen yn adnabyddus i'n darllenwyr. Mae yn dechreu gyda chyfeiriad at briodas Tyw- ysog Cymru, gyda dymuniad am i'r senedd i wneyd darpariadau priodol ar gyfer y par ieuanc. Cyfeiria hefyd at ddymuniad y Groegiaid am gael y Tywysog Alfred yn Frenin, a noda fod rhwystrau gwleidyddol ar y ffordd i Alfred i dderbyn yr anrhydedd. Mae yn lled-awgrymu y bydd y trethi am y flwyddyn hon yn liai nag y maent'wedi bod. Mae hyn yn gysur i'r treth-dalwr, er nad yw y wybodaeth hon yn oewydd. Mae y cyfeiriad at America yn cadarnhau ein tyb- iaeth flaenorol, na fydd i'r wlad hon ymyraeth yn materion y taleithiau Americanaidd. Mae yr araeth yn datgan teimlad y weinyddiaeth o blaid rhoddi i fyny yr Ynysoedd Ionaidd, er ffurfio undeb a gwlad Groeg. Heblaw hynyna nid oes yn yr araeth ddim yn galw am ein sylw. Felly, mae yn dda genym i dori ein llith yn fyr, er rhoddi lie i rai o lawer o'r pethau sydd yn ein swyddfa yn aros am ymddangos ar dudalenau SEREN CYMRU.

Family Notices

[No title]

[No title]