Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

GOHEBIAETH 0 MOUNTAIN ASH.

Y CYNHWRF EISTEDDPODOL.

LLYFR TONAU CYNNULLEIDFAOL…

YMGOMIAD BYR A MR. LL. JENKINS,…

i.■■ ENGLYN Pit SABBATH.

.ARALL I "SEREN CYMRU."

ARALL I IESU GRIST.

DEG PENNILL

HYNT Y BEDYDDWYR YN Y GOGLEDD.

News
Cite
Share

addoldy y Gilfach, ger Bangor; a thalwyd am dano gan Humphrey Ellis, Y%wam, a'i frawd; ogylch biwyddyn yn ol y gorphenwyd capel Porth Dinorwic, cydrhwng Caernarfon a Bangor. Y mae y cyfeillion yn Mangor mewn mawr angen am addoldy. Methu ar eu fFordd. Y mae cwrdd newydd helaeth, a hardd, bron wedi ei orphen yn ardal Taly- aarn, yn perthyn i esgobaeth Llanllyfniy mae yn sefyll o fewn dau can llath i annedd-dy fy niweddar gymmydot alm eyfaill talentog, yr hybarch John Jones. Y mae rhyw Reg- luniaeth faWr wedi trefnu fod, capel Llanllyfni bron yn ddi- ddyled. Oni buasai hyn, buasai bron yn annichonadwy i ni gymmeryd at yr anturiaeth newydd hon. Nis gallaf byth ddatgan y diolchgarwch a deimla fy nghalon am y cymhorth caredig a gefais yn y Deheubarth ychydig flynyddaii yn ol at gapelnewydd Llanllyfni, ynenwedig Bedyddwyr swydd Benfro. Ba y brodyr anwyl yn y Felinfoel, Glanymor, Llanelli, a chyf. eillion y Tabernacl, Caerdydd, yn nodedig o garedig i mi. Cesglais yn agos i gan punt yn y Deheubarth mewn rhyw 15 wythnosvn y daith hono. Y mae y cymhorth hwnw ynein galluogi i dori tir newydd. Y mae poblogaeth ein ardaloedd yn cynnytliu yn fawr, fel y mae genym hyder,gyda bendith yr Arglwydd, y deuwn yn mlaen yn llwyddiannug gyda ein antur- iaeth. Bydd yn dda gan ein cyfeillion hoff yn y Deheubarth glywed fod ysgoliun a moddioh addysg ar gynnydd yn y Gogledd. Dywedotl Inspector yr ysgolion Brytanaidd wrthyf yr wyth- nos ddiwivldaf, fod tuag ugain neu ragor o ysgoldai newydd yn cael eu dnrparu yn siroedd y Gogledd. Y mae'r coleg Nor- malaidd yn Mangor yn myned yn mlaen yn llwyddiannlis; y mae tua 40 vnddo yn awr o ddynion gobeithiol i fod yn ath- rawon yr vsgolion Brytanaidd. Gyda dymuno llwydd i bob. daioni yn Nehau a Gogledd Cymru, a pbob parth o'r byd, y gorphwys, „ T Llanllyfni. R. J ONES.