Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

gwelais Martial Mazurier v tro diweddaf, yr oedd.ei iaith- yn oruchel, a'i benderfyniad yn ddynol. Ond gyda'ntf llygaid fy hun,-gwelais ef yn cerdd-jd yn rhydd mewn heolydd lie nad oedd rhyddid iddo ef, oni bai ei fod wedi ei brynu am bris annghyfreithlon." A oes y fath berygl i bawb ag sydd yr yn gredo a John Leclerc a chwithau, Victor?" Oes, y mae perval-eymtnaiiit o berygl." J JL "xnarhaid i chwi fyned ymaith. Rhaid i chwi beidio aros yn Meaux," meddai hi yn gyflyni, mewn llais isel ond penderfynol." Jacqueline, y mae yn rhaid i mi aros yn Meaux," atebai yn sydyn, ei wyneb yn cochi, a'i lygaid yn melldenu. O os felly, pwy all ddweyd ? Oni weddiodd ef ar iddo beidio cael ei arwain i brofedigaeth?" Do," meddai Victor, yn fwy teimladwy nag o'r blaen. Do, a goddefodd ei hun i syrthio o'r diwedd." Ond pe baech yn myned ymaith Oni fyddai hyny yn dianc o'r perygl ?" gofynai yn falch. 'ITMA, oni fyddai yn welt i chwi wneyd eich goreu er cael eich hun allan o afael y brofedigaeth ?" A oes arnoch ofn os arosaf yma y bydd i mi ildio iddynt?" Dywedasoch nad oeddych yn sicr, Victor. Ailadroddasoch eiriau Mazurier." Etlo ni bydd i m: ildio. Mi ddaliaf yn ddiysgog, deued a ddelo." Yr oedd gan y dyn ieuanc ffydd yn yr egwyddorion a bro- fiesWgan ei athraw. Yr oedd hyny yn sicr; ond yr oedd trafodaeth y dyddiau diweddaf wedi cynhyrfu cryn lawer arlei ysbryd. Byddai yn well dianc ymaith," meddai Jacqueline, o lawer nag aros yma i wrthwynebu y diafol, ae wedi hyny cael eich bod yn rhy wan yn y frwydr, Victor. 0 pe gallech fyned, fel y dywedai Elsie, i Domreny,-i rywle o Meaux greulon." Onid ydych wedi ennill dim, ynte, Jacqueline ?" "Pob peth! Ond i'w colli—O nis gallaf feddwI am byoy I" Gadewch i ni aros yn nghyd. Addawwch wrthyf, Jac- queline," meddai yn bryderus, fel pe buasai yn teimlo ei hun yn gadarn gyda hi. Pa beth a allaf addaw i chwi ?" gofynai hithau, gydag edrychiad mor benderfynol ag a ddangosai ei bod yn barod i wynebu pob perygl. Yr wyf finnau hefyd wadi pregethu y Gaif." Yr unig sylw a wnaeth oedd, Yr wyf yn gwybod eich bod wedi ei bregethu, a'i bregethu yn dda." Yr hyn sydd wedi syrthio i ran ereill a all sy.thio i'm rhan innau." O'r goreu. Dywedodd hyn gyda'r fath benderfyniad, fel yr aeth y dyn ieuanc yn mlaen a'r ymddyddan heb yr arwyddion lleiaf o ofn— All syrthio i'm rhan innau," med,lai drachefn. Yr hwn sydd yn credu ynof n, er iddo farw, a fydd byw drachefn," atebai mewn llais clodforus. Pa beth yw bywyd wrth ei gyferbynu a'r gwirionedd ? Yr oedd Mazurier i'w feio. Nis gall byth wneyd iawn am y peth a wnaeth." Yr wyf yn credu hyny," meddai Victor yn fuddugol- iaetnus. Yr oedd cymmylnu ammheuaeth yn prysur gilio oddiar ei wynebpryd agored a gonest. Yr wyf yn caru y gwirionedd yn fwy na'm bywyd. Sefwch gyda mi, Jacqueline. Siaradweh am dano. Nid oes genyf neb wedi ei adael ond chwi. Yrwyf wedi colli Mazurier. Jacqueline, yr ydych chwi yn ddynes, ond nid ellwch byth,—i'e, ie, er nas gallaf ddweyd cymmaint am danaf fy hun, yr wyf yn gallu dweyd am danoch chwi-nas gallech byth brynu rhyddid am y pris a dalodd Martial am dano. Nid wyf yn gwybod, os caiff gyf- leusdra, pa fodd y gall siarad am y pethau hynod hyny etto— y gwirioneddau byny ag sydd yn guddiedig oddiwrth y bydol a'r annghrediniol. Addawwch y bydd i chwi sefyll gyda mi, a bydd i mi ymddiried ynoch, Jacqueline. Peidiwch a'm gadael." "Victor, onid yw Ef wedi dweyd, yr Hwn a a!l ddweyd hyny oraf,'Ni'th roddafi fyny,ac ni'th lwyr adawaf chwaith ?'" Ond, Jacqueline, yr wyf yn eich caru." Ar ol y geiriau hyn, ymadawodd pob ammheuaeth oddiar wyneb y bachgen gwrol. Pa beth yw hyn ?" meddai y ferch wvlaidd a gwrol o Domreny, yn ammbeu a oedd wedi clywed yn iawn ac yr oedd ei llygaid clir a phur yn syllu ar Victor Le Roy, gan ddysgwyl eglurhad ar y geiriau a glywodd. "Yr wyf yn eich caru, Jacqueline," meddai drachefn "ac end mi gael sicrwydd i'm meddwl fod fy mywyd yn anwyl gan Jacqueline, byddaf yn foddion i'w golli, os bydd i hyny gael ei ofyn genyf, er cadarnhau y gwirionedd. Oni chawn sefyli ochr yn ochr, i ymladd fel milwyr da i lesu Grist, gan gadarnbau a chynnal breichian ein gilydd ? O atebwch fi, fyanwylaf? Oni chaiff fod felly, Jacqueline? Ac os na wnewch fy ngharu, dywedwch o'r hyn leiaf y byddwch yn gyf- eilles i mi, a'ch bod yn yruddiried ynot." Yr wvf eich cyfeilles, Victor I" Dywedwch eich bod fy ngwraig, Jacqueline." Ar ol ymddyddan pellach, gallodd gael ganddi addef ei bod yn ei garu. Dywedodd wrthi nad oedd raid iddi lafurio mwy yn y maesydd grawnwin—fod ei ewythr wedi gaditel iddo ei etifeddiaeth, yr hyn o'i galluogai i eistedd o dan eu gwin- wydden eu hunain, heb neb yn eu haflonyddu. Dywedodd wrthi y buasai efe yn ei dwyn i gael golwg ar y lie y carchar- wyd Joan yn Picardy. Ymadawsant y noswaith hono gyda chalonau Ilawn o'r cariad mwyaf at eu gilydd-un tua'r dref, a'r Hall i'w chartref unig. (Iw barhau).

[No title]

PEN. II.

I DOSRANIAD GEIRIAU,

ENW.

RHIF.

TREFFYNNON A'I HAMGYLCHOEDD

LLYTHYR 0 CARSON CITY.

HYNT Y BEDYDDWYR YN Y GOGLEDD.