Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

-ittatmou (Sgtuntsifl. -i

YR HUGUENOT.

News
Cite
Share

YR HUGUENOT. Dechreuodd Martial Mazurier ar y gorchwyl pwysig o bregethu yn hynod o lwyddiannus. Yr oedd ei sel a'i hyawdledd yn disgyn fel tan ar glustiau ei wrandaw- wyr. Yr oedd yn taflu ei hun gorff ac enaid i'w bre- getliau-pregethai yr hen wirioneddau mawrion a saf- adwy gyda'r fath nerth a hyfdra, nes yr oedd pawb a'i gwrandawai mewn syndod. Yr oedd Victor Le Roy yn mblith ei edmygwyr mwyaf ffyddlon-efe a'i canlynai ac a'i gwasanaethai yn bar- haus. Yr oedd y dyn ienanc hwn yn treulio y n ill ddydd ar ol y llall i astudio y gwirioneddau pwysig a ddysgid gan ei athraw. Cafodd ei swyno gan ei hy- awdledd, a gwelodd oleuni yn ei oleuni ef, nes o'r diwedd yr ennillwyd ef drosodd i'r ffydd, ac yr oedd yn barod i'w ddilyn pa le bynag yr elai. Teimlai ei hnn wedi ei sicrhau wrth y pregetbwr-er ei fwyn yr oedd yn barod i wrthwynebu pob perygl, a dyoddef pob cam. Yr oedd ef a Jacqueline yn hoff neillduol o'u giiydd. Yn ami yn niwedd y dydd gellid ei weled yn cerdded allan ar y ffordd a arweiniai allan o Meaux, a'i wyneb tua'r haul machludol, lie y byddai yn sicr o gyfarfod a Jacqueline ar awr neillduol. Yr oedd y genethod yn byw yn awr yn nghymmydogaeth y gwmwydd, lie yr oeddynt yn gweithio. Yn fuan dechreuodd pobl y lie sylwi focl Jacqueline Gabrie a'r efrydwr ieuanc o'r ddinas, yn ami yn cerdded gyda'u gilydd; ond nid oedd yn bosibl iddynt flurfio dirnadaeth am destun yr ymddyddanion a gymmerai le rhyngJdynt o dan y coed tewfrig a daflent eu cangenau dros yr afon. Yr oedd eu hymddyddanion yn wahanol iawn i'r hyn a gymmerai le yn gyffredin rhwng trigolion y wlad a'u giiydd. Arferai Victor fyned dros ddarnau o bregethau Mar- tial, gan sylwi arnynt gyda manylwch a chraffder efrydydd, er boddhad ac addysgiad Jacqueline. Cafodd lawer o bleser a boddhad wrth wneuthur hyny, oblegid yr oedd yn parchu ei athraw a'r unigheth a ofnai oedd, na buasai yn gallu cyfleu ei syniadau mawreddog i Jacqueline feddylgar a chraffus. Ac ambell waith ar adegau neillduol, a ddygwyddent ambell dro, byddai hi yn arfer cerdded gydag ef i'r dref, i wrando drosti ei bun ar ei ddull medrus o drin athrawiaethau iaclius y ffydd. Yr oedd Elsie yn sylwi arni ac yn rhyfeddu ati; ond ni ddarfu iddi gellwair a Jacqueline mewn perthynas i'r fath bethau, fel y mae arfer genethod ieuaine yn gyff- redin. Yr oedd yn gweled fod rhyw gyfeillgarwch neillduol yn bodoli rhyngddynt. Tua diwedd y cynhauaf grawnwin, aeth wythnos heibio heb i Victor Le Roy ddyfod allan o'r ddinas gym- maint ag unwaith. Yr oedd yn gwybod yr adeg y byddent yn diweddu eu gwaith; yr oedd Jacqueline wedi ei hysbysu a threuliodd y dyddiau hyny mewn dysgwyliadau pryderus ond siomedig am dano. Gan ei bod yn gweithio yn hwyr ac yn foreu, nid oedd ganddi yr un cyfleustra i wybod pa fodd yr oedd pethau yn myned ynmIaen yn Meaux. Ond dygwyddodd ar y dydd olaf o'r wythnos i newyddion ei chyrhaedd yn ei hysbysu fod Martial Mazurier wedi cael ei ddal, ac y profid ef yr un fath ag y profwyd John Leclerc ac ereill; ac yr oedd yr hanes yn dweyd y byddai y ddedfryd yn gyfartal i ddylanwad a sefyllfa y carcharor. Ar ol clywed hyn, cythryblwyd hi yn fawr, a phen- derfynodd fyned y noson hono i Meaux,er cael gwybod y gwirionedd. Ni hysbysodd ei bwriad i Elsie. Yr oedd yn awyddus am beidio dwyn ei chyfeilles i unrhyw ofid yn y dyfodol. Pan yr ymdaenodd y nos dros y wlad brydferth, yr oedd yn barod i gychwyn ond attaliwyd hi yn ei bwriad trwy weled Victor Le Roy yn gwneyd ei ymddangosiad. Yr oedd ef wedi dyfod at Jacqueline—nid oedd gan- ddo ond un amcan etto, hi a ddechreuodd trwy ddy- wedvd:— A ydyw yn wirionedd, Victor, fod Martial Mazurier yn y carchar ?" Dychrynodd wrth ei atebiad. Na, nid yw, yn wir," meddai ef; ond yr oedd rhyw brudd-der hynod yn ymdaenu dros ei "edd ar y pryd, hollol wahanol i'r wen lawen a gynnyrchodd ynddi hi. Etto, yr oedd hi yn ofni fod rhywbeth allan o le, ond yn ei byw ni wyddai pa beth. Yr wyf yn eich credu," meddai hi, "ond yr oeddwn ar gychwyn i gael gwybod y manylion. Yr oedd yn anhawdd credu ac, etto, y mae wedi costio i mi lawer o ymdrech i wrthwvnebu fy annghrsdiniaeth, Victor." Fe gostia i chwi lawer yn ychwaneg, Jacqueline. Mae Martial Mazurier wedi dadgyffesu." Mae wedi bod yn y carchar, ynte ?" Mae wedi galw ei eiriau yn ol, ac yn rhydd etto. Dim ychwaneg o eiriau gogoneddus oddiwrtho ef, Jac- queline, fel yr ydym wedi arfer wrando. Mae wedi gwerthu ei hun i ddiafol, fel y gwelwch." Mazurier?" Mae Mazurier wediystyried dillad yn well na bywyd. Mae ef wedi ystyried lod bywyd dyn yn gynnwysedig mewn digonedd o bethau y byd," meddai y dyn ieuanc yn chwerw. Ychwanegai, gan edrych yn ddifrifol ar Jacqueline, Mae yn debygol y bydd yn rhaid i minnau roddi y gwirionedd i fyny hefyd. Mae fy ewythr wedi marw; oni ddylwn innau sicrhau fy meddiannau ? oblegid nid wyf mwy yn ddyn tlawd. Nis gallaf fforddio rhoddi fy mywyd yn nwylaw y bleiddiaid hyn." Mazurier wedi dadgyffesu Nis gallaf gredu hyny am dano, Victor Le Ro. Credwch, ynte, fod y dyn ddoe yn y carchar, a heddyw yn ddyn rhydd. Ie, efe a ddywed y gall was- anaethu lesu Grist yn fwy llwyddiannus wrth gydffurfio ag ewyllys yr esgob a'r offeiriaid. Yr ydych yn gweled nerth ei ymresymeg. Os dystewir ef, neu iddo gael ei garcharu yn hir, neu ei fywyd gael ei gymmeryd oddi- arno, na byddai mwy yn alluog i bregethu o gwbl. Nid yw yn credu fod yr hwn a geisia gadw ei fywyd mewn gwrthwynebiad i ddadganiad yr efengyl dragywyddol, yn sicr o'i cholli." 0! a ydych yn cofio pa beth a ddywedodd yn yr ystafell yna? O Victor, pa beth sydd i'w ddeall with hyn oil F" "Mae yn golygu yr hyn nad ellid ei siarad nis gallaf feddwl na siarad am dano." Nid ydych yn golygu ein bod ni yn cyfeiliorni, Victor." Na, anmhosibl i hyny fod byth! Pa beth bynag a wnawn ni a'r gwirionedd, y mae yn anmhosibl i ni ei wneyd yn dwyll. Gallwn ymddwyn yn annheilwn^.yn llwfr, ac anniolchgar; ond fe erys y gwirionedd, Jac- queline." "Victor, ni allech chwi ei adael?" "Pa fodd y gallaf ddweyd, Jacqueline? Fany