Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

-ittatmou (Sgtuntsifl. -i

News
Cite
Share

ittatmou (Sgtuntsifl. UNDEB RHWNG YR ENWADAU YMNEILL- DUEDIG. <3AN ein bod wedi cymmeryd y pwnc hwn mewn llaw yn y SEREN ddiweddaf a'r un flaenorol, a chan mai byr iawn oedd ein hysgrifau hyny, a'i fod yn cael syhv lied gyffredinol, fel y crybwyllasom o'r blaen, yr ydym yu hollol gredu y goddefa ein dar- llenwyr liuosog i ni ychwanegu ychydig eiriau ar y pwnc yr wythuos hon etto, ac nid yn unig hyny, ond y bydd yn well ganddynt i ni siarad rhagor o berthynas iddo, na'i adael fel y gwnaethom, yr wyth- nos dditeddaf. Dywedasom yn ein hysgrif ddi- weddaf, na fuasai yn fawr neu ddim o golled i'r trodyr, yr Annibynwyr (a gallwn ddywedyd fellv am enwadau ereill), i daflu ymaith daenelliad ar fabanod, gan nad oes un sail iddo yn ngair Duw. Wrth daflu y ddefod hon ymaith, ni fyddent yn taflu dim o'r Beibl i ffwrdd-oi fyddent yn aberthu un iota o'r Ysgrythyr, gan nad oes son am y fath i'w gael yno. Mae yn gwbl wybodus i'n brodyr oil ag sydd yn arfer taenellu ar fabanod, eu bod hwy eu hunain yn gwahaniaetbu yn ddirfawr o berthynas i'r sail o daenellu ar fabanod. Nid yw ein brodyr yn gallu cytuno yn y mesur lleiaf ar y tir i sefyll, er cyflawnu y seremoni. Fel y mae yn hollol wybodus i bawb fod y gwahanol enwadau, a gwahanol bersonau yn yr enwadau hyn, yn gosod chwech neu saith o bethau,o leiaf, fel gwahanol seiliau i daenelliad babanod. Rhai a'i sylfaenant ar gyffredinolrwydd dwyfot ras; ereill ar ddysgyblu yr holl genedloedd; ereill, gan wrthod y ddau dir yna, a'i sylfaenant ar yr enwaediad, gan daenellu plant y credinwyr yn unig; pan y mae ereill o honynt yn ammheu y tir hwn etto, gan osod sail i'r peth trwy ddywedyd ei fod wedi dyfod yn lie, neu yn barhad o'r bedydd presolytaiddj pan ar yr un pryd fod ereill o honynt yn gwadu fn hollol fod un- rhyw fedydd o'r fath cyn yr oes Gristionogol. Ereill a ddywedant fod y babanod yn etifeddion y cyfammod gras, &e., am eu bod yn cael eu geni yn santaidd tra y mae ereill yn dweyd mai-yn eu bedydd y Inaent yn caeI eu gwneyd yn santaidd. Mae ereill yn sylfaenu y peth ar fachniaeth y tad bedydd a'r fam-fedydd, hyd nes y delo y plentyn i ryddhau ei feichion. Mae ereill, fel Luther, yn tybied fodffydd gan y baban ei hun, ac na ddylai gael ei fedyddio neu ei daenellu o gwbl, hyd nes y gellid credu fod y babanod back mis oed yn gredadyn hefyd. Fe welir ar unwaith y fath gymmysgedd y mae y gwahanol farnau hyn ynei gynnwys wrth chwilio am sail i'r ddefod dan sylw. Ai ni ddylai ein brodyr taeneli- Yddol daflu y fath beth heibio, fel peth lieb un syl faen iddo, yn hytrach na gwneyd peth ag y maent Wy eu hunain yn dweyd nad oes iddo sylfaen, trwy fod y naill blaid o honynt yn tynu i lawr, neu yn gwadu yn hollol, sylfaen y blaid arall ? Nid yn unig Relent i undeb a'r Bedyddwyr wrth daflu heibio y ddefod hon, ond hefyd, delent i gytuno a'u gliydd yn Saith gwell; o herwydd y mae taenelliad ar fabanod yn gymmmut llawn, os nid mwy o asgwrn y gyn- hen" rhvngddynt hwy a'u giiydd, ag ydyw rhyng- 0 ZD ddynt hwy a'r Bedyddwyr. Felly, onid yw yn DRUETII < u bod vn cadw y fath beth ag nas gallant fjydweled am ei sylfaen; a chyda llaw, y peth ag sydd yn peru cymmaint o ofid ac annghytlllldeb iddynt hwy eu hunain fel ei bleid- Ileblaw yr hyn a nodasom, y mae taenelliad babanod yn fwy o asgwrn y gynhen" etto Yr, tnhlit ii ei bleid.vyr, trwy eu bod yn annghytuno bob adnod a ddyfynant i broji y ddefod. Pa adliod bynag y cyfeirir ati gan y naill blaid o honynt, ) mae bono yn cael ei gwrthod neu eu hamheu, i brofi pwnc, ;^an y blaid arall. Heblaw hynyna, y mae y ddefod yn fwyo "asgwrn y gynhen" etto, trwy ei phleidwyr yn methu yn d6g a chvtuno o erthynas i fudd, neu yr elw deilliedig i'r baban pan Z5 J gweinyddir y ddefod arno. Nid oes eisieu i ni fyned ar ol y gwahanol famau ag sydd gan ein brodyr am yr elw deilliedig i'r baban; y mae hyn yn hollol wybodus i bob dau adau, wrth siarad â'u gilydd am y peth. ,1 Gan hyny, trwy eu bod hwy eu hunain yn methu gweled y tir i sylfaenu y ddefod—yn methu cytuno ar yr adnodau sydd yn cael eu dyfynu at y ddefod, a'u bod yn methu cydweled o gwbl am y dyben, neu yr elw i'r baban yn y ddefod, oni fyddai yn fendith iddynt hwy eu hunain, heb son am y Bedyddwyr, i daflu y fath ddefod anysgrythyrol dros y bwrdd mor fuan ag a allant ? Ac os am "UNDEB A'R BED- YDOWYR," wrth gwrs, y mae yn rhaid iddynt daflu y ddefod o'r neilldu am byth. x Y mae y pethau canlynol yn dangos y gall ein bro- dyr, yn neillduol yr Annibynwyr, adael y fath beth a thaenellu heibio yn rhwydd, ac heb ddim colled, ond ychydig efallai o elw tymhorol (nid i'r baban na'i rieni) yn cael ei golli:—1. Nid oes un sicrwydd i'r ddefod yn yr Ysgrythyr, yn ol eu barnau hwy eu hunain. 2. Mae taenellu babanod yn colli ei afael yn gyflym, fel peth anysgrythyrol, ar feddyliau y taenellwyr eu hunain acy mae miloedd o'u plant yn cael eu gadael heb eu taeuellu. 3. Mae bedydd, sef trochiad, yn dyfod yn ol i'w le priodol, yn mhlith v gwahanol enwadau yn gyflym. Mae yr Eglwyswyr, y Presbyteriaid, y Wesleyaid, yr Annibynwyr, &c., yn bedyddio trwy drochiad yma a thraw ar hyd y byd yn gyflfredinol yn y dyddiau hyn. 4. Mae mil- oedd o aelodau yn mysg yr eglwysi a arferant daenellu, yn erbyn y fath beth i gael ei ymarferyd o gwbl. 5. Ni fyddai gadael y fath ddefod heibio yn un golled i'r efengyl, ond byddai ynennill i ladd pab- yddiaeth ni fyddai yn golled i'r babanod-ni fyddai yn golled i neb ond byddai yn ennill mawr, gan y byddai ei gadael heibio yn achos undeb i'r enwadau a'i hymarferent, a rhwng yr enwadau a'r Bedyddwyr. Ac nid peth bach fyddai i'r brodyr Annibynol i fod mewn undeb a phlaid o bobl ag sydd ynrhifo yn awr tua DWY FILIWN.

YR HUGUENOT.