Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
HEOLYFELIN, ABERDAR.
HEOLYFELIN, ABERDAR. Nos Fawrth, y 13eg, cynnaliwyd cyfarfod y Drysorfa yn yr addoldy Tichod. Cawsom gynnulleidfa dra lluosog. a chyda hyny pobl •ewyllvsgar at y gorchwyl oeddent. Llywyddwyd y eyfarfod gan y Parch. W. Harris, v gweinidog, yn ysbryd y symudiad. Wedi agor y cyfarfod trwy weddi, ac araeth fer gan y cadeirydd, galwyd car y Parchn. Morgan Davies, Cwmdar; W. Williams, Mountain Ash *T. Price, Calfaria, a minnau, i anerch y cyfarfod, a chawsom siarad o ryw awr a hanner yn ddifyrus; yna aethpvvyd trwy y capel, a gosod,vyd en wan pawb braidd i lawr, a chyfrifwyd y cwbl ar y diwedd yn JE66. Wedi hyny, gosodwyd yr achos dan sylw y Sabbath canlynolyma ac yn Llwydcoed, a dyma y list yn awr yn J6103 lOa. 6c. s. c. a. c. Mr. Thomas Charles 4 0 0 Mrs. Mary John 0 4 0 Wm. Griffiths 200 Margaret Jones 0.40 Ed. Richards 2 0 0 Mr. Henry Henry 0 4 0 Rev. Wm. Harris 1 0 0 David Davies 012 0 Mr. Morgan Llewelyn 1 0 0 Miss Mary James 0 4 0 Alban Owens 1 0 0 Job Thomas 0 4 0 DavidPerkins. t 0 0 Daniel Evans 0 5 0 Wm. Mathews.. 1 0 0 David Jones. 0 5 0 Thomas James.. 1 0 0 David Jones 0 5 0 John Jones 10 0 Mrs. Mary Jones 0 5 0 David Gibbon 1 0 0 Hannah Gabriel 0 5 0 Edward Jones 1 0 0 Margaret James 0 6 0 Ben. Williams 1 0 0 Mr. Christmas Griffiths 0 5 0 David Davies 1 0 0 Rees Griffiths 0 8 0 Edward Terrar.. 1 0 0 Thomas Francis 0 6 0 John Walters 1 0 0 Mrs..Elizabeth Jones 050 Levi Thomas 1 0 0 Elizabeth Thomas 0 5 0 David Charles.. 1 0 0 William Williams 0 6 0 John Thomas 1 0 C David Gabriel 0 5 0 Jam" Jameq. 1 0 0 David Morris .0 4 0 Joseph Davies 1 0 0 James Thomas 0 4 0 Johrf Evans 1 0 0 William Hoy.). 0 4 0 Lewis James 2 0 0 Mrs. Elizabeth Jones 040 Thomas Jones 2 0 0 Mr. David Griffiths 0 4 0 Ben. Walters, 1 0 0 Mrs. Mary Morris 0 4 0 Thomas Richards 1 0 0 Margaret Williams 0 4 0 David Davies 1 0 0 Mr. James Thomas 050 Thomas Ricbards 1 0 0 Zechnriah Thomas 0 4 0 Henry Mathews 1 0 0 Thomas Evans.. 04 0 David Rees 10 0 Thomas Morgans 0 4 0 Thomas Jones 1 0 0 I-lowel Griffiths 0 4 0 James Wilkins. 1 0 0 John Morgans 04 0 Francis Francis. 0 16 0 Evan Jones 04 0 David Williams 0 16 » Rees Roberts 0 4 0 Thomas Thomas 0 16 0 Jenkin Rees. 0 4 Q Miss Harriet Price 0 16 0 David Phillips. 0 4 0 Mr. Joseph Walters.. 0 12 0 Daniel Darnel ..060 William John 0 10 0 John Beynon.. 0 4 0 Wm. Watkins. 0 10 0 George Morris 040 Ed. Williams 0 10 0 James Phillips. 0 4 0 James Jenkins.. 0 10 0 Jenkin Williams 0 8 0 J«hn Evans 0 10 0 William Willams 0 6 0 Thomas Vaughan 0 10 0 Miss Ja.1e Braze 0 4 0 Evan Lewis 0 10 0 Margaret Price.. 0 4 0 David Jones 0 10 0 Eliza James 0 4 0 Daniel Jones 0 10 0 Hannah Jones.. 0 2 0 Mrs. Hannah Jones. 0 10 0 Sarah Phillips 0 4 0 Mr. Wm. Jones 0 10 0 Mrs. Rachel Morgans 0 4 0 Mrs. Theodosia Jones 0 10 0 Mr. William Davies 0 5 0 Mr. Thomas Reynolds 0 10 0 Mrs. Elizabeth Hopkins 0 4 0 Mrs. C. Reynolds 0 10 0 Mr. Joseph Braze 0 4 0 Mr. Joseph Reynolds 0 10 0 Mrs. Elizabeth Evans 0 2 6 Mrs. Mary Reynolds 0 10 0 Mr. William Jones.. 0 4 0 Mr. Thomas Thnmas 0 10 0 Wm. W illiaras 0 5 0 Mrs. Elizabeth Thomas 0 10 0 John Davies ..060 Mr. John Mathews.. 0 10 0 Sam. Edwards 050 Mrs. Mary Mathews 0 10 0 Daniel Jones 0 5 0 Mr. Edward Thomas 0 10 0 William Powell 0 4 0 Mrs. Elizabeth Thomas 0 10 0 Margaret Walters 0 4 0 Mr. Thomas Thomas 0 10 0 Thomas Jones 0 4 0 John Watts 010 0 Ben. Williams.. 0 4 0 Mrs. Esther Thomas 0 10 0 William Evans.. 0 4 0 Mr. William Davies 0 10 0 Evan Thomas 0 4 0 Mrs. Elizabeth Davies 0 10 0 Thomas Rees 0 5 0 Mr. David Thomas.. 0 10 0 Joseph Howells 0 4 0 Benjamin James 0 10 0. Lydia Howells.. 040 William Rosser 0 10 0 William Howells 0 4 0 David Watkins. 0 10 0 Mrs. Mary Rees ..040 Mrs. Margaret Watkins 0 10 0 Mary John ..040 Mr. Joshua Thomas 0 10 0 Ann Charles 04 0 Jonah Davies 0 10 0 Elizabeth Williams 0 4 0 Mrs. Mary Davies 0 10 0 Hugh Evans 040 Phcebe Morris 0 10 0 Rachel Evans 0 4 0 Mr. Thomas John 0 10 0 Rachel Davies.. 040 Hugh Hughes 0 10 0 Elizabeth Evans 0 2 0 John Davies 0 10 0 Mr. John Thomas 0 10 Miss Ann Evans 0 10 0 Miss Gwen. Hopkins 010 Mr. David Thomas. OlO 0 Jane Jones 0 5 0 Evan Evans 0 10 0 Mr. Wm. Jenkins 04 0 Thomas Daniel. 0 10 0 Wm. Williams. 0 4 0 Robert Morris 0 10 0 John Davies 0 4 0 John Griffiths u 0 10 0 Miss Amelia • 0 2 0 .John Ed wards.. 0 10 0 Mrs. Henry .040 Jacob Elias 0 10 0 Mr. Wm. Henry 0 4 0 Isaac Thomas 0 10 0 Wm. Davies 0 4 0 I<aac Thomas 0 10 0 Mrs. Margaret Davies 0 4 0 Daniel Jones 0 10 0 John Evans 04 0 John Davies 0 10 0 Miss Joan Henry 0 4 0 John Morris 0 10 0 Mrs. Mary Morgans 0 4 0 George Jones 0 10 0 Mary Davies 0 4 0 Miss Elizabeth James 0 10 0 Elizabeth Jones 0 '4 0 Mr. John Rees 0 10 0 Elizabeth Roberts 0 4 0 Thomas Thomas 0 10 0 Miriam Charles 0 4 0 James Evans 0 10 0 Hannah Walters 0 4 0 Thomas Thomas 0 10 0 Miriam Charles 04 0 James Evans 0 10 0 Hannah Walters 0 4 0 John Evans 0 10 0 Mary Evans 04 0 William Rees 0 10 0 Elizabeth Jones 0 4 0 David John 0 10 0 Mr. David Evans 0 8 0 Mrs. Margaret Jones 0 10 0 Thomas Stephens 050 Mr. William Williams 0 10 0 Thomas Lewis 0 4 0 Henry Jones OlO 0 Mrs. Ann Jones 04 0 John Davies 0 10 0 Margaret Jones 0 4 0 Miss Ann L. Jones. 0 10 0 Gwenllian Jones 0 4 0 Mr. John George 0 10 0 Mr. William Morgans 0 4 0 Daniel Lewis 0 10 0 Mrs. Mary Bowen 0 4 0 Thomas Evans.. 0 10 0 Mary Davies 0 4 0 Miss Elizabeth Clayton 0 10 0 Mr. David Lewis 0 4 0 Mr. John Francis 0 10 0 Mrs. Mary Parry.. 0 4 0 Miss Margaret Rees 0 10 0 Mr. Wm. Rovvlands 050 P" Ruth Price 0 8 0 Mrs. Elizabeth Davies 0 2 0 Mr. W ill jam Williams 0 6 0 Catherine Davies 0 2 0 David Gabriel 0 5 0 Ann Jones 0 I 0 David Morris 0 4 0 James Thomas. 0 4 0 .6103 10 6 Benjamin John. 0 4 0) Y GORUCHWYUWR.
[No title]
Dywed un o newyddiaduron Edinburgh fod goruchwylwyr Major Yelverton wedi rhoddi rhybudd o'i fwriad /i appelio at D' yr Arglwyddi yn achos ei briodas a Miss Longworth.
CYFARFOD TRIMISOL LLANSANTFFRAID,…
CYFARFOD TRIMISOL LLANSANTFFRAID, GLYNDYFRDWY. Ionawr y 6ed a'r 7fed, cynnaliwyd y eyfarfod hwn, pryd y proffesir fod holl eglwysi ein cymmanfa yn cael eu cynnrych- ioli. Am 2, prydnawn y dydd cyntaf, cyfarfu amrywiol wein- idogion a chenadon. Ar ol dechreu y cyfarfod fel arfer, a dewis gweinidog parchus y lie i'r gadair, dygwyd prif bwnc y cyfarfod yn mlaen, sef dewis rheolau i fod yn safon cyfan- soddiadol i'n Cymmanfa. Mabwysiadwyd hwynt fel y maent yn Llythyr y Gymmanfa, gydag ychydig welliannau ac ych- wanegiadaa. Darfu y brodyr yn unfrydol benderfynu- "Fod y cyfarfod hwn yn dymuno ar eglwysi y Gymmanfa hon i fmdrechu yn ddioed i gael tanysgrifiadau tuag at y Drysorfa Fenthyciol a Chyhoeddiadol, mewn cyssylltiad a'r mudiad Daucannilwyddol; ac yn barnu y byddai yn ddoeth i'r Goruchwyliwr ymweled a ni,er ein cynhyrfu i gyf-anu yn deil- wng at ymu tiad hwn. Ystyria hefyd mai y cynllun o dalu yr addewidion o fewn i bedair blynedd yw y mwyaf effeithiol." Mae y cyfarfod trimisol nesaf yn y dosparth gosdeddol o'r Gymmanfa i fod yn Llanddulas, Mawrth y 3ydd a'r 4ydd. Y gynnadledd i ddechreu am 2 prydnawn y dydd cyntaf. Cefais yr hvfrydwch o wrando y brodyr James, Llanelian, a Jones, Llangollen, yn pregethu y nos gyntaf; ac yr oeddynt yn rymus a goleu-cryn lawer o bethau newydd i lawer, ond yn nerth gwirionedd. Nis clywais y brodyr ereill, o herwydd nad oeddwn yno. J. G. OWEN.
CWRDD CHWARTER MYNWY.
CWRDD CHWARTER MYNWY. CynnaHwyd hwn yn Llaneurwg:ar y Mawrth a'r Mercher, y 27ain a'r 28ain o Ionawr. Am 2, y dydd cyntaf, eisteddwyd mewn cynnadledd. Etholwyd y Parch. S. Williams, Hermon, yn llvwydd, yr hwn a alwodd ar y brawd Lewis Evans, Demi, Casnewydd, i agor y cyfarfod drwy ddarllen a gweddio. Yna bu ymddyddan maith ar y mater pwysig o'r dull o godi dynion ieuainc i bregethu, pa bwnc sydd i gael sylwpellach yn y cyf- arfod nesar. Annogwyd hefyd y brodyr Mr. T. Reeves, a Mr. O. Griffiths, Risca, i wneyd eu goreu, a hvny yn uniongyrchol, tuag at gael He i bregethu, a chadw Ysgol Sabbothol yn ardal y Cross Keys, pa un sydd yn dyfod yn boblogaidd, ac yn sicr o gynnyddu. Rhoddwyd annogaethau befyd i'r eglwysi wneyd eu goreu dros y Drysorfa Goffadwriaethol, ac i ofalu am gael y taliad cyntaf i mewn erbyn yr amser pennodol. Penderfynwyd hefyd ar a ganlyn:- 1. Fod y Cwrdd Chwarter nesaf i gael ei gynnal yn Salem, Blaenau, ar y Mawrth a'r Mercher olaf yn Ebrill. 2. Fod ll) thyr o ollyngdod parchus i gael ei roddi i'r brawd anwyl W. Jones, gynt o'r Bargoed, yr hwn sydd wedi symud, ac wedi cymmeryd gofal yr eglwys yn Siloam, Caerdydd. Arwyddodd y gynnadtedd deimtadau hiraethlon wrth feddwl fod amryw o frod r mor hoff, parchus, heddychol, a defnydd- iol, wedi gadael y sir y misoedd diweddaf-Ellis a Jones i Sir Gaernarfon, a Jones etto i Forganwg. Er yr hiraeth ar eu hol, gweddiwn am eu Ilwydd yn eu cylch newydd, oes hir, a ffydd- londeb hyd angeu, a bydded i Ben yr eglwys roddi doethineb i'r cynnulleidfaoedd sydd yn amddifaid yn ein Cymmanfa o weinidogion, i ddewis iddynt eu bunain fugeiliaid wrth fodd ei galon. Terfynwyd y gynnadledd drwy weddi gan y brawd Roberts o'r Blaenau. Am 6, nos Fawrth, dygwyd y rhan arweiniol yn mlaen gan y brawd Jones o'r Docks pregethodd y brodyr Lloyd, Cas. bacb; Morgans, St. Brides; a Lewis Evans, Demi, Cas. newydd. Am 10. dydd Merchc-, gweddiodd y brawd Jones, Llanhiddel; a phregethodd y brodyr Williams, Hermon; Reeves, Risca ac E. Thomas, Casnewydd. Am 2, dechreu- wyd gan y brawd Lloyd a phregethodd y brodyr Roberts, Bethel; Roberts, Blaenau; a Thomas, Maesaleg. Am 6, dechreuwyd gan y brawd Edwards, Llysfaen; a phregethodd Phillips, Tabor, Brynmawr; Griffiths, Risca; a Jones, Siloam, Caerdydd. Catwyd yn Llaneurwg gwrdd a gofir yn hir am dano. Dydd Mawrth, daeth haid o showmen a cherbyd mawr i'r lie, a chodwyd opposition i'r Cwrdd Chwarter. Yr oedd rhai pobl selog am gael y police i'w hanfon ffwrdd. Na, na, gadewch lonydd iddynt, ebe un arall, i ni gael gweled pa un ai efengyl neu fifair y gwagedd garia'r dydd. Pan yn myned tua'r oedfa nos Fawrtb, yr oedd eu darluniau i fyny, eu lamp- au yn goleuo, a'u band yn chwareu yn swyngar; ond myned oedd y lluaws pobl tua'r cwrdd. Yr oedd y capel yn orlawn, ond neb customers yn y show. Boreu dranoeth, codasant eu pack, a gadawsant y lie wedi eu hargyhoeddi fod gan efengyl ddylanwad a gafael ar breswylwyr Llaneurwg. Taled yr Ar- glwvdd i'r ardalwyr am eu caredigrwydd mawr. TIMOTHY THOMAS, Vag.
[No title]
Mae y Frenines wedi danfod £300 i esmwythau y gwasg- feuon yn Coveity a gogleddbarth swydd Warwick. Mae Arglwydd Palmerston wedi cael ei ethol yn Llywydd anrhydeddus o Anthanaum Glasgow. Mae'r llysgenadwr newydd o Ffrainc i'r wlad bon, sef y Baron de Gros, wedi newydd ddyfod drosodd. Cyrbaeddodd y Hong Eliza Bonsall Lynlieifiad dydd Llun o Nassau a 1,500 o fyrnau o gotwm a ddygwyd i borthladd Nassau gan longau oedd wedi rhedeg y gwarchae American- aidd. Bu farw y Parch. Henry Drury, Archddiacon Wilts, a Chap. Ian Tk y Cyffredin, ar ddydd Sul wythnos i'r ddiweddaf. Mae Llywodraeth Peru wedi pasio deddf yn caniatau i long. au Prydeinig dan 200 o dunelli, yr un breintiau gyda golwg ar daliadati porthleddol, ag aganiateir i'w llongau hwy eu hunain. Mae y Tywysog Alfred wedi pasio ei arholiaeth fel morwr ar fwrdd y St. George, ac wedi derbyn yn ammodol y swydd o raglaw, ond ni fydd iddo gael ei gadarnhau yn y swydd hyd nes y byddo wedi pasio Coleg Llyngesol Portsmouth. Dywed y Morning Post fod Dug Coburg wedi tynu yn ol ei gystadleuaeth am orsedd Groeg. Ychwanega ei fod vn deall y dygir Tywysog o linach uchel, ac o'r ffydd Brotestanaidd yn mlaen yn fuan fel person priorloll lanw yr orsedd. Mae yr enogyn Roupell, diweddar Aelod Seneddol dros Lambeth, hyd yn hyn yn ngharchar Pentonvilie, lie y mae, fel y carcharorion cyffredin ereill, yn pigo carthion. Er fod llawer o ohebiaethau wedi pasio rhwng yr etifedd cyfreithlon a'r sawl sydd wedi pfynu y gwahanol ranau o'r ystad dan y gweithred- oedd ffugiol, nid oes un cam o bwys wedi ei gymmeryd hyd yn hyn. Dywedir fod Mr. Cobden a. Mr. Henry Hallam wedi cael cynnygiad o'u rhestru yn mhlith barwniaid y Deyrnas Gyf- unol, ond fod y ddau foneddwr wedi gwrthod yr anrhydedd. Yn fuan wedi i'r ddedfryd gael ei phasio ar Jossie Maclach. Ian am y llofruddiaeth yn Glasgow, (medd yr Inverness Courier) cynhyrfwyd ei chwaer, Mrs. Jack, yr hon oedd yn byw yma, i'r fath raddau fel yr oedd yn ofynol i ddanfon am gymhorth meddygol. Symudwyd hi i'r Ysbytty, lie y par- haodd mewn gwallgofrwydd anobeithiol hyd nos Sul diweddaf, pryd y rhoddodd derfyn ar eu dyoddefiadau. Ar y 17eg o Ionawr, bu farw hen wr yti Mulmurphy, ar ystad Arglwydd Cremorne, o'r enw Jack Owens, yn 112 oed. Hyd o fewn yr ychydig tisoedrl diweddaf, yr oedd yr hen wr yn arfer cerdded i mewn i'r dref, ac yr oedd mewn meddiant trwyadl o'i alluoedd meddyliol hyd y diwedd. CYDYMDEtMLAD AMICRICANATDD. Mae y Hong Hope wedi cyrhaedd HynHeimd o Efrog Newydd a llwyth o flau d, &c., er esmwythau v gwasgfeuon vn Swydd Lanoster. Mae yr Hope, VI: hon sydd long newydd hardd, dan lywyddiaeth Cadben Hancock, yr hwn sydd yn rhoi ei wasanaeth yn rhydd. Gadawodd Efrog Newydd ar y 22ain o Ragfyr, yn llwythog o 1,010 o farilau o flawd, a 287 o dunnelli o guano, yr oil o ba rai a werthir, a'r arian a ddanfonir i'r Pwyllgor. Mae y Meistriaid Badcock a'i Gyf., o Lynlieifiad, wedi cymmeryd arnynt i ddadlwytho y Hong yn rhad ac am ddim. Llusgwyd y llong fyny yr afon yn rhad, nc y mae yn rhydd hefyd o'i holl dollau porthladdol. Dysgwylir y Hong George Griswold yn fuan ar yr un neges o drugaredd a chydymdeimlad. MARWOLAETH DDTC&RYNLI.YD.—^Taflodd dyn ei hunanyn ddiweddar o ben un o dyrau eglwys Notre Dame. Yn ei gwymp fe syrthiodd yn erbyn pig un o'r man dyrau. Yr oedd yr ergyd mor ofnadwy fel y darfu i'r corff, yr hwn oedd wedi cwympo yn groes i'r t#r, dori yn ddau, y coesau yn syrthio i'r llawr, a'r corff yn aros ar ol. Cymlllerwyd y gweddillion i'r Morgue i'r dyben o'u hadwaen, pryd y cafwyd mai eiddo neges, dd perthynol i'r Rue Faubourg du Temple ydoedd ond nid ydys yn gwybod beth oedd achos yr hunanladdiad. DIAL OFNADWY.—Saethwvd M. Thuller, un o farnwyr lleol Ffrainc, yn ddiweddar yn ei dy ei hun gan euogyn ap; oedd wedi dyoddef pum mlynedd o garchar am ddynladdiad ac ys- beiliad. Pan gondemniwyd ef gan y barnwr, sef M. Thuller, addunedodd y byddai iddo ef ymddial ar ei (arnwr, ac fe gadw- odd ei air. Dyoddefodd Hawn, gosp y ddedfryd yn y carchar, a cbyn gynted ag y rhyddhawyd ef, aeth i dy M. Thuller, a gofynodd am dano. Dygwyd ef i'w bresenoldeb, a chyn gynted a hyny tynodd o'i logell lawddryll llwythoa a darnau 0 haiarn, hoelion, &c., a saethadd y barwn yn ei fynwes. Yna diangodd y llofrudd, ac aeth ac ymgrogodd mewn gallt, lte. y cafwyd ei gorff. Mae M. Thuller mewn cyflwr peryglus. PJUYGU I AMGYLCHIADAU.—Mewn eglwys bentrefol ddim can milldir o Lyddon Spout, cymmerodd amgylchiad tra dydd- orol le yn ddiweddar. Un prydnawn dydd Sul oerllyd, ar ol i'r offeiriad ddarllen y gweddiau, anerchodd y gynnulleidfa fechan i'r perwyl hwn:—" Fy anwyl gyfeillion,- Yr ydych yn ystod y pythefnos diweddaf wedi cael eich anrhegu ag amryw lyfrau rhagorol drwy garedigrwydd haelionus. Gellwch ett darllen gyda llawer iawn o fudd ar eich aelwydau eich hunain ac y mae yn ddios genyf y byddwch yn llawer mwy cysurus yno nag y byddwch yma yn gwrando ar fy mhregeth I ar bryd- nawn oer fel hwn." Felly bu gwasgarodd y gynnulleidfa, ond pa un a aeth pob un gartref i ddarllen ei lyfr, nid yw y cronicl yn hysbysu. CYFARFODYDD MAWRION 0 BLAID RHYDDHAD Y CAETHION.—Dichon mai rhai o'r mwyaf, os nid y mwyaf, o'r holl gyfarfodydd a alwwyd yn ny-hyd i dditgan birn ar unrhyw bwnc cyhoeddus, oedd y cyfarfodydd a gynnaliwyd yn Exeter Hall, Llundain, nos lau diweddaf. Galwwyd y cyfarfod yn nghyd gan Gymdeithas Rhyddhad y Caethion yn Exeter Hall, i'r dyben o ddangos cydymdeimlad a theyrngri y Llywydd Lincoln, ac i'w galonogi yn y gwaith da. Yr oedd y cyfarfod i ddechreu am saith o'r glocb ond yn mhell cyn yr awr hono, yr oedd pob congi o'r neuadd ardderchog wedi ei gorlenwi i raddau annghysurus. Y neuadd fel hyn yn fwy na llawn cyn dechreu, a mwy na hanner y bobl y tu faes yri methu cael lie, penderfynwyd agor y neuadd arall, sef yr un sydd odditan yr ystafell a arferir yn gyffredin, a chyn gynted a hyny, llanw. wyd hono drachefn, ac etto yr oedd rhyw filoedd o bobl y tu allan, yn llenwi'r Strand, ac yn rbwystro tramwyfa'r cerbydaa a phob peth arall. Penderfynwyd, gan hyny, i gynnal cyfar- fod yn yr awyr agored yn Heol Exeter, ar bwys, Yn lie un cyfarfod, ynte, yr oedd tri wedi yriigynnull, a chan bob un o honynt ei gadeirydd a'i areithwyr. Yr oedd y gweithrediadau yn mhob un o honynt yn cael eu hynodi gan y brwdfrydedd mwyaf o blaid y Gogledd, a chariwyd penderfyniadau drwy fanllefau o blaid Rhyddhad—Lincoln—Lly wodraeth Wash- ington, &c. Tu fewn, yn yr uch-ystafell, yr oedd lluaws o weinidogion enwog, yr Anrhydeddus a'r Parchedig Baptist Noel, y Parch. Newman Hall, &c.; Aelodau Seneddol, Mr. P. Taylor, &c.; gwyr licnyddol, Mr. Thomas Hughes, B.A., Mr. Holyooke, Mr. G. H. Thomson, &c. Yr oedd y banllefau o'r is-ystafell yn cyfodi yn hyglyw i'r uch-ystafelt, ac yn cynhyrfu y gynnulleidfa hono, nes oedd banllefau bono drachefn yn effeithio ar y gynnulleidfa isod a'r un yn yr awyr agored, fel rhwng y naill a'r Hall yr oeddynt i gyd wedi myned yn un fflam o frwdfrydigrwydd o blaid Rhyddid i'r Caeth, ac o gyd- yradeimlad a'r Llywydd Lincoln a'i Deyrngri, yr hyn a ennyn- wyd yn fwy gan y tipyn gwrthwynebiad a ymdrechwyd ei wneyd gan un Mr. Field, yr hwn a bleidleisiai yn uniy dros ei welliant ei hun 1 Dim ond uh dros y South o'r holl filoedd ymgynnulledig Traddodwyd yno areithiau gorgampus gan yr Anrhyd. a'r Parch. Baptist Noel, y Parch. Newman Hall, Mr. Thomas Hughes, Mr. P. A. Taylor, ac ereill, yn mha rai y dynoethwyn ffugresymiaeth y Times, uc y gwnawd i'r papyr cyfnewidiol hwnw wrthateb ei hunan, drwy ddyfynu erthygl yn erbyn erthygl o hono, a gosod ei Ohebwyr Arbenigol i ateb camgyhuddiadau a chamgasgliadau ei Olygwyr. Yn ystod yr hwyr, derbyniwyd gwefr-hysbysiaeth o Bradford, lie y cynnelid cyfarfod o'r un natur. a lie hefyd yr oedd pedair mil o bobl yn bresenol, ac o Stroud, He hefyd y cynnelid cyfarfod i ddatgan cydymdeimlad ag achos Rhyddid, yn rhoddi hanes y cyfarfod- ydd yn y trefydd hyny, ac ychwanegai hyn frwdfrydedd y gwa- hanol gynnulleidfaoedd hyn yn ddirfawr. Y mae yn ddrwg genyai nad yw ein gofod yn caniatau i roddi yr areithiau ger- bron ein darllenwyr, canys y maent yn wir werth eu darllen a buasem yn gwneyd annhegweh mawr i hwy i ddyfynu darn- au, oblegid fod llinyn yr ymresymiad yn rhedeg o ddechreu i ddiwedd pob un o honynt Os bu yn amlnheus crioed gyda pha ochr oedd cydymdeimlad y wlad hon, mae yn eglur ddigon erbyn heddyw, er gwaethaf y Toriaid, a'r rhan fwyaf o'n newyddiaduron s'u ffugresymiaeth a'u rhagfarnau dallbleidiol, na fyn pobl weithgar Prydgiin-mgr ac esgyrn y wlad-hunan- iaethu eu hunain gydag achos halogedig a llygredig y G-vrth- ryfelwyr.