Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. MAE Poland dlawd wedi cael sylw Ewrop unwaith etto; er nad yw y eyffro presenol yn debyg o ych- wanegu dim at ddedwyddweh ei phobl. Mae gwrth- ryfel pwysig wedi tori allan yn Warsaw, a rhai manau ereill; ond mae yn mhell o fod yn gyffredin- ol. Mae yn ymddangos i ni fod yn Poland gryn lawer o ddarpariadau dystaw yn myned yn y blaen gyda'r amcan o daflu oddiar ei gwarau iau haiarn- aidd Russia; ond fel y mae yn dygwydd yn ami, torodd y tan allan yn gynt na phryd; felly y mae y gwrthryfel presenol yn sier o fod yn anaeddfed, ac o ganlyniad, yn aneffeithiol. Yr ydym yn hollol gydymdeimlo â. thrigolion Poland-nid oes gan Am- herawdwr Russia b'obl fwy urddasol yn ei holl am- herodraoth na thrigolion Poland. Gresyn eu bod yn dyoddef mor llymdost, o herwydd eu cariad at ryddid eu gwlad. Ond nid oes un gobaith i'r Pwyliaid mwy, nes cael chwyldroad yn Ewrop, digon nerthol i ysgwyd teyrn gormesol y Cyfandir, nes peru i'r Pab froi o Rufain, a Joseph o Awstria i ollwng ei afael ar Venice a Hungari, ac yna dichon i Poland godi ei phen unwaith etto, a chael ei hadferyd i ddarlunlen Ewrop. Mae yn dda genym ganfod penderfyniad senedd Prwsia. Mae yr atebiad i araeth y brenin yn llawn o wirionedd yn cael ei ddadgan mewn iaith benderfynol a digamsyniad. Nid ydym etto yn sicr pa un a fydd i'r brenin dderbyn yr atebiad neu beidio. Mae yn amlwg fod dyddiau o ofid yn aros Prwsia. Mae y Pab yn y farchnad yn benthyca swm mawr o arian er talu treulion ei dy, ac yn addaw talu yn ol yn mhen pumtheg mlynedd. Druan o hono, bydd ef wedi talu ei holl ddyledion yn y byd hwn yn hir cyn hyny. i, Mae Napoleon wedi bod yn cyflawnuy gwobrwyon i'r buddugoliaethwyr mewn ymddangosiadau yn yr Arddangosfa Fawr; a chymmerodd y cyfle i dra- ddodi anerchiad llawn o synwyr i'r boneddigion Ffrengig ag oeddynt wedi bod mor jfodus ag ennill y gwobrwyon. Yr oedd ei syniadau am Loegr yn uchel, parchus, a charedig. Mae yn awr yn dra thebyg bod Napoleon am geisio cyfryngu rhwng y pleidiau yn America. Mae brenin newydd, neu Pacha, fel ei gelwir, yr Aifft, wedi dechreu ar ei waith gydag egni a phenderfyniad i lywodraethu gyda doethineb a chynnildeb. Mae ein newyddion o America yn gyflawn iawn, ac er- heb feddu rliyw lawer o newydd-deb, etto yn cynnwys manylion pwysig. Mae yn ofidus genym fod y gogledd wedi bod yn golledwyr trwm mewn dwy frwydr yn ddiweddar. Yr oedd ymosodiad y gogleddwyr dan y maeslywydd Sherman ar ddinas Vicksburg yn anamserol, ac yn hynod o annoeth; ac felly nid ydym yn synu dim, wedi darllen y man- ylion, iddo fod yn aflwyddiannus. Ni ddylasai yr ymosodiad gael ei wneyd o gwbl o dan yr amgylch- iadaa. Mae y gogledd hefyd wedi colli Galveston yn Texas. Yr oedd y lie hwn yn cael ei amddiffyn gan nifer fechan iawn o filwyr y gogledd, yn cael eu cynnorthwyo gan nifer o wnfadau ond ymosodwyd arnynt gan y Deheuwyr mewn rhifedi mawrion, a syrthiodd y lie i ddwylaw y gwrthryfelwyr. Mae cyhoeddiad rhyddid y Llywydd Lincoln yn gweithio i bwrpas yn mhlith y caethion. Mae miloedd lawer o honynt wedi cymmeryd mantais o hono, ac wedi canu yn iach am byth i'r cadwynau a'r llyffetheir- iau. Mae araeth y llywydd Jefferson Davies wedi ein cyrhaedd; mae yn faith, ac yn dra thalentog. Mae yn myned dros holl hanes y rhyfel, ac yn tynu y casgliad fod y Dehau yn gryfach yn awr nag ar y dechreu; tra y dadgana y penderfyniad mwyaf diysgog i beidio meddwl am heddwch, ond yn unig ar y tir fod y taleithiau gwrthryfelgar i gael mwyn- hau eu hannibyniaeth—hyny neu ymladd tra par- hao dafn o waed yn eu cyrff, a cent yn eu coffrau. Mae yn achwyn yn druenus ar gyhoeddiad Lincoln o barthed y caethiwed. Mae senedd y gogledd yn gweithio yn dawel, ond penderfynol. Y prif waith yw darparu ar gyfer treulion pwysig y rhyfel. GARTREF.-Mae darpariadau yn cael eu gwneyd ar gyfer agoriad y Senedd, yr hyn a fydd wedi cym- r-, y meryd lie erbyn y daw ein rhifyn presenol i law y darllenydd; ond yn rhy ddiweddar i ni wneyd un sylw o'r agoriad, gan y bydd SEREN CYMRU yn myned trwy y wasg pan fyddo araeth y Frenines yn cael ei darllen. Mae cryn ddysgwyliad am ddadl frwd ar bwric America yn lied fuan wedi agor y Senedd daw achos gwlad Groeg a'r ynysoedd Ion- n ZD aidd i mewn am ran o sylw, tra y dysgwyliwn y C5 bydd gan Mr. Gladstone uewydd da i ni, trwy y bydd iddo gynoyg lleihau y trethi. Mae dau neu dri o'n dynion mwyaf cyhoeddus wedi bod yn siarad yn ddi- weddar. Mr. Milner Gibson yn Ashton-under-Lyne mae ef yn hollol yn erbyn i ni ymyraeth yn materion America. Mr. Beresford Hope a ddywedai wrth bobl Maidstone, ei fod ef am gydnabod y Dehau a Syr Robert Peel, pan yn traddodi darlith ar Goed," a ddymunai weled y Dehau yn annibynol, er mwyn cael terfyn ar gaethiwed. Rheswm newydd Mae y prif drefydd, a dinasoedd y deyrnas, yn dechren parotoi erbyn gwneyd rhyw ddangosiad o barch ar adeg priodas Tywysog Cymru yr hyn a gymmer Ie, fel y dywedir, ar y 12fed o'r mis nesaf. Mae yn dda genym fod sefyllfa gweithfeydd Gog- ledd Lloegr yn dyfod yn well; mae amryw o'r melinau yn dechreu gweithio; ac y mae yn awr tua deuddeg mil ar hugain yn llai yn derbyn tal y tlawd nag oedd fis yn ol. Mae yn ddrwg genym nad yw sefyllfa gweithfeydd Deheudir Cymru ond marwaidd etto; tra maey stor- mydd diweddar wedi cadw llongau o'n porthladdoedd, fel y mae llawer o ddwylaw yn ein gweithiau glo yn cael eu cadw rhag gweithio. Y mae yn dda genym weled fod teimlad y wlad wedi ei ddeffroi ar bwne y gaethfasnach. Y nos o'r blaen bu cyfarfod yn neuadd fawr Exeter, ac yn lie un, gorfuwyd cynnal tri chyfarfod—y cyntaf yn y brif ystafell, y Hall mewn ystafelloedd lai, a miloedd drachefh ar yr heolydd. Amcan hyn oil oedd dadgan teimlad o lawenydd am Gy.hoeddiad Rhyddid y Llywydd Lincoln.

IFORIAETH.

[No title]