Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
AT EIN CrOHEBWYR, &c. DBRBYNIADAU.—E. R. S. E.—J. Rees, &c.-Casbawr Annhrefn -John Hughes, &c.—Mary Thomas- I)an-Aelod-Liewelyn Jenkins—Hen Fugail-Pareh. Robert Jones—Rufus—Iorwerth Goch—T. W.—Un am wyliod-Llai na'r Beiar-M. P. S. JENKIN JONES.—Mae hawl gan unrhyw danysgrifiwr i enwi un neu ragor o frodyr i fod ar bwyllgor y gymdeithas genadol. MARY THOMAS, Pontestyll.-Ni wyddom ni ddim am eich ateb- iad chwi ni ddaeth i'n ilaw. Yr ydym ni yn gosod atebion ein cyfeillion i mewn fel yr ydym yn eu cael-nid ydym yn gyfrifol am syniadau yr atebwyr. AELOD.—Nid ydym yn ystyried fod crefydd y wraig ag sydd yn gallu newid oddiwrth un enwad at y Hall yn ol amgylchiadau yn werth pytaten bwdwr yn nghlorian y cyssegr ac nid yw hi na'i chefnogwyr yn werth i ni golli amser avda hwy. EWYLI-YSIWR DA.—Mae yn wirfod Mynegiad y Goffad wriaeth yn cymmeryd tipyn o le ond byddwch ymarhous. Un ymdrech am oes yw hon a dyma'r ymdrechfa fwyaf fendigedig a wnawd gan y Bedyddwyr Cymreig erioed. Bydd y flwyddyn gymman- faol hon yn adeg bwysig yn ein hanes. WILLIAM PARRY.—Y llyfr goreu a-wyddomam dano ar y mater yw. "The American Baptist Almanack." Gellwch ei gael trwy Triibner & Co., Paternoster Row, Llundain. IESTYN.—Rhy bersonol, rhy bigog, rhy isel, a rhy bob peth i ymdaangos. GORMon PWYSATJ.—Llythyr a osodwyd yn llythyrfa Cross Inn, a dwy geiniog i dalu, wedi myned at ei frodyr i swyddfa y llyth- yron meirw. ARvin IKIMNC.— Rhy ifcanc etto i osod eich llinyn mesur ar ddiacnn;aid vr enwnd. Pell ydvm o feddwl fod ein holl ddi- aconiaid yn berffaith ond y maent lawer yn rhy dda i gael y driniaeth a gynnwys eich ysgrif chwi. Gallem ni feddwl weith- iau oddiwrth rhai Ilythyrau a ddaw i'n dwylaw, mai y dynion gwaethaf da ) haul yw ein diaconiaid. Fel arall yn hollol yr ydym ni wedi eu cael; yr ydym yn ami, ami, yn cael achos i ddiolch i'r Arglwydd am yr help, y calondid, a'r cysur ag ydym yn gael oddiwrth y brodyr da hyn. D. AB DEW..—Bydd yn ofynol i chwi newid y notes cyn pen y chwe mlynedd, onite byddwch mewn perygl o golli yr arian. Mae cyfraith y stamps yn gofalu am hawliau y goron yn y pwne hwn f..1 pethau ereill. flar Yr ydym etto yn crefu am amynedd ein cyfeillion ;-daw eu cynnyrchion allan mor fuan byth ag a allom. Er mwyn arbed amser a thrafferth, bydded i'n Gohebwyr anfon eu cynnyrchion, yn ol eu gwahanol dueddiadau, ful y canlyn:— fir Pob hanesion-crefyddol a chymdeithasol, archebion, a thaliadau, i Mr. W. M. Evans, Seren Cymru Office, Car- marthen, ifST" Y TRAETHODAU, GOHEBIAETHAU, &C.—Rev. T. PRICE, IIOSE COTTAGE, ABERDARE. IW YR YSGRIFAU EGLWYSIG, o nodwedd yr erthyglau weiniol Eglwysig, &c., — Rev. B. EVANS, PENYDREF HOUSE, NEATH. IFGR Y FARDDONIAETII.-Rev. J. R. MORGAN (Lleurwg), LLANELLY, CARMARTHENSHIRE. DALJER SYLW.—Er mwyn boddloni ein gohehwyr, yr ydym wedi gosod i fewn hanes amryw gyfarfodydd llenyddol oeddynt yn aros ar law; o hyn allan, fodd bynag, nid ydym yn ymrwymo cyhoeddi hanesion o'r fath os bydd wythnos wedi myned heibio cyn iddynt gyrhaedd y swyddfa. Diolchwn am hysbysiadau pryd- lawn o bob man; ond byddai yn dda i'n gohubwyr astudio byrdra wrth anfon hanesion, J. P, Llelrpwl. TJLTiTJ^JDJLTT. Derbyniwyd taliadau oddiwrth,—T. H. Treffynon, D. R Moelfre. S. L. Branch End, D. E. Aberhonddu, T. E. Rhosdeg D. W. Crosspenmain, J. H. Middlesbro', W. J. Garnddiffaith. W. T. New Tredegar, S. LI. Tydee, E. D. Llanedarne, G. D Wernfawr, W. R. Twyncarno, J. D. Llansantffraid, E. H Pwllbach, H. E. Pembrey, D. W. Trefdraeth, D. B. Yetybont- bren, L. L. Ty-un-nos, T. G. Blaencleddau, H. T. Tyddewi, D. D. Merthyr, J. B. Felinfoel, R. B. Cilfowyr, W. J. Bethabara, J. E. Mountain Ash. H. T. Llandilo.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. MAE Poland dlawd wedi cael sylw Ewrop unwaith etto; er nad yw y eyffro presenol yn debyg o ych- wanegu dim at ddedwyddweh ei phobl. Mae gwrth- ryfel pwysig wedi tori allan yn Warsaw, a rhai manau ereill; ond mae yn mhell o fod yn gyffredin- ol. Mae yn ymddangos i ni fod yn Poland gryn lawer o ddarpariadau dystaw yn myned yn y blaen gyda'r amcan o daflu oddiar ei gwarau iau haiarn- aidd Russia; ond fel y mae yn dygwydd yn ami, torodd y tan allan yn gynt na phryd; felly y mae y gwrthryfel presenol yn sier o fod yn anaeddfed, ac o ganlyniad, yn aneffeithiol. Yr ydym yn hollol gydymdeimlo â. thrigolion Poland-nid oes gan Am- herawdwr Russia b'obl fwy urddasol yn ei holl am- herodraoth na thrigolion Poland. Gresyn eu bod yn dyoddef mor llymdost, o herwydd eu cariad at ryddid eu gwlad. Ond nid oes un gobaith i'r Pwyliaid mwy, nes cael chwyldroad yn Ewrop, digon nerthol i ysgwyd teyrn gormesol y Cyfandir, nes peru i'r Pab froi o Rufain, a Joseph o Awstria i ollwng ei afael ar Venice a Hungari, ac yna dichon i Poland godi ei phen unwaith etto, a chael ei hadferyd i ddarlunlen Ewrop. Mae yn dda genym ganfod penderfyniad senedd Prwsia. Mae yr atebiad i araeth y brenin yn llawn o wirionedd yn cael ei ddadgan mewn iaith benderfynol a digamsyniad. Nid ydym etto yn sicr pa un a fydd i'r brenin dderbyn yr atebiad neu beidio. Mae yn amlwg fod dyddiau o ofid yn aros Prwsia. Mae y Pab yn y farchnad yn benthyca swm mawr o arian er talu treulion ei dy, ac yn addaw talu yn ol yn mhen pumtheg mlynedd. Druan o hono, bydd ef wedi talu ei holl ddyledion yn y byd hwn yn hir cyn hyny. i, Mae Napoleon wedi bod yn cyflawnuy gwobrwyon i'r buddugoliaethwyr mewn ymddangosiadau yn yr Arddangosfa Fawr; a chymmerodd y cyfle i dra- ddodi anerchiad llawn o synwyr i'r boneddigion Ffrengig ag oeddynt wedi bod mor jfodus ag ennill y gwobrwyon. Yr oedd ei syniadau am Loegr yn uchel, parchus, a charedig. Mae yn awr yn dra thebyg bod Napoleon am geisio cyfryngu rhwng y pleidiau yn America. Mae brenin newydd, neu Pacha, fel ei gelwir, yr Aifft, wedi dechreu ar ei waith gydag egni a phenderfyniad i lywodraethu gyda doethineb a chynnildeb. Mae ein newyddion o America yn gyflawn iawn, ac er- heb feddu rliyw lawer o newydd-deb, etto yn cynnwys manylion pwysig. Mae yn ofidus genym fod y gogledd wedi bod yn golledwyr trwm mewn dwy frwydr yn ddiweddar. Yr oedd ymosodiad y gogleddwyr dan y maeslywydd Sherman ar ddinas Vicksburg yn anamserol, ac yn hynod o annoeth; ac felly nid ydym yn synu dim, wedi darllen y man- ylion, iddo fod yn aflwyddiannus. Ni ddylasai yr ymosodiad gael ei wneyd o gwbl o dan yr amgylch- iadaa. Mae y gogledd hefyd wedi colli Galveston yn Texas. Yr oedd y lie hwn yn cael ei amddiffyn gan nifer fechan iawn o filwyr y gogledd, yn cael eu cynnorthwyo gan nifer o wnfadau ond ymosodwyd arnynt gan y Deheuwyr mewn rhifedi mawrion, a syrthiodd y lie i ddwylaw y gwrthryfelwyr. Mae cyhoeddiad rhyddid y Llywydd Lincoln yn gweithio i bwrpas yn mhlith y caethion. Mae miloedd lawer o honynt wedi cymmeryd mantais o hono, ac wedi canu yn iach am byth i'r cadwynau a'r llyffetheir- iau. Mae araeth y llywydd Jefferson Davies wedi ein cyrhaedd; mae yn faith, ac yn dra thalentog. Mae yn myned dros holl hanes y rhyfel, ac yn tynu y casgliad fod y Dehau yn gryfach yn awr nag ar y dechreu; tra y dadgana y penderfyniad mwyaf diysgog i beidio meddwl am heddwch, ond yn unig ar y tir fod y taleithiau gwrthryfelgar i gael mwyn- hau eu hannibyniaeth—hyny neu ymladd tra par- hao dafn o waed yn eu cyrff, a cent yn eu coffrau. Mae yn achwyn yn druenus ar gyhoeddiad Lincoln o barthed y caethiwed. Mae senedd y gogledd yn gweithio yn dawel, ond penderfynol. Y prif waith yw darparu ar gyfer treulion pwysig y rhyfel. GARTREF.-Mae darpariadau yn cael eu gwneyd ar gyfer agoriad y Senedd, yr hyn a fydd wedi cym- r-, y meryd lie erbyn y daw ein rhifyn presenol i law y darllenydd; ond yn rhy ddiweddar i ni wneyd un sylw o'r agoriad, gan y bydd SEREN CYMRU yn myned trwy y wasg pan fyddo araeth y Frenines yn cael ei darllen. Mae cryn ddysgwyliad am ddadl frwd ar bwric America yn lied fuan wedi agor y Senedd daw achos gwlad Groeg a'r ynysoedd Ion- n ZD aidd i mewn am ran o sylw, tra y dysgwyliwn y C5 bydd gan Mr. Gladstone uewydd da i ni, trwy y bydd iddo gynoyg lleihau y trethi. Mae dau neu dri o'n dynion mwyaf cyhoeddus wedi bod yn siarad yn ddi- weddar. Mr. Milner Gibson yn Ashton-under-Lyne mae ef yn hollol yn erbyn i ni ymyraeth yn materion America. Mr. Beresford Hope a ddywedai wrth bobl Maidstone, ei fod ef am gydnabod y Dehau a Syr Robert Peel, pan yn traddodi darlith ar Goed," a ddymunai weled y Dehau yn annibynol, er mwyn cael terfyn ar gaethiwed. Rheswm newydd Mae y prif drefydd, a dinasoedd y deyrnas, yn dechren parotoi erbyn gwneyd rhyw ddangosiad o barch ar adeg priodas Tywysog Cymru yr hyn a gymmer Ie, fel y dywedir, ar y 12fed o'r mis nesaf. Mae yn dda genym fod sefyllfa gweithfeydd Gog- ledd Lloegr yn dyfod yn well; mae amryw o'r melinau yn dechreu gweithio; ac y mae yn awr tua deuddeg mil ar hugain yn llai yn derbyn tal y tlawd nag oedd fis yn ol. Mae yn ddrwg genym nad yw sefyllfa gweithfeydd Deheudir Cymru ond marwaidd etto; tra maey stor- mydd diweddar wedi cadw llongau o'n porthladdoedd, fel y mae llawer o ddwylaw yn ein gweithiau glo yn cael eu cadw rhag gweithio. Y mae yn dda genym weled fod teimlad y wlad wedi ei ddeffroi ar bwne y gaethfasnach. Y nos o'r blaen bu cyfarfod yn neuadd fawr Exeter, ac yn lie un, gorfuwyd cynnal tri chyfarfod—y cyntaf yn y brif ystafell, y Hall mewn ystafelloedd lai, a miloedd drachefh ar yr heolydd. Amcan hyn oil oedd dadgan teimlad o lawenydd am Gy.hoeddiad Rhyddid y Llywydd Lincoln.
IFORIAETH.
IFORIAETH. MAE yr Undeb Iforaidd yn awr wedi cyrhaedd safle yn y Dywysogaeth ag sydd yn hawlio sylw yr athronvdd a'r dyngarwr. A chymmervd y dychweliadau swydd- ogol a gyhoeddwyd yn nechreu y flwyddyn 1862, ni a ganfyddwn fod yr Undeb y pryd hwnw, sef dros flwydd- yn yn ol, yn cynnwys dau ar ugain o adranoedd, chwech ugain o gvfrinfaoedd, ac yn agos i bumtheg mil o ael- odau, dros fil o ba rai oeddynt wedi eu derbyn yn y flwyddyn flaenorol. Yn ystod y flwyddyn 1861, talodd yr Undeb at aelodau mewn clefydau y swm o £8313 Is. Ie.; at gladdu aelodau a gwragedd aelodau, y svm o «j £ 2257 5s. 1-gc.; tra yr oedd yn gadael yn ngweddill yn nhrysorfeydd y Cyfrinfaoedd y swm pwysig o £ 47,413 4s.6ie. Heblaw hyn, mae yn awr gan yr Undeb dros: £400 yn y Drysorfa Undebol er cynnorthwyo cyfrinfa- oedd gweiniaid mewn achosion o angen. Hefvd, mae eiddo yr undeb, neu steel plates, trwyddedau, arwydd- luniau, rheolau, a nwyddau ereill, yn werth cannoedd o. bunnau yn rhajjor; yr hyn sydd yn gwneyd yr Urdd anrhydeddus o Wir Iforiaid yn gryf a- dylanwadol. Mae- wedi cymmeryd safle nas gellir ei siglo gan bob awel fach a ddichonchwythu arno. Nidydyw wedi cyrhaedd ysefyllfa hon heb lawerolafur, lludded, ac ymdrech eihengyfeillion yn y blynyddoedd gynt. Mae diolchgarweh yr aelodaa ieuainc yn ddyledus i'r gwroniaid a fu yn pleidio Ifor- iaeth yn yr amser a aeth beibio. Yr ydym ninnau yn ei ystyried yn fraint i gael cydlafurio yn awr a chyfeill- ion twymgalon yr Undeb, er ei alluogi, nid i ddal ei dir yn unig. ond i'w wneyd etto yn fwy nerthol a dylanwad- ol nag y* bu erioed o'r bhen. Yr ydym yncredunafu erioed mewn cyflwr mwy iachus ac addawol nag yw ar yr adeg bresenol. Mae y Bwrdd, yn ei hagwedd new- ydd, wedi dwyn y gwaith dan law mae y mynegiad chwarterol a gyhoeddir yn dangos y gweithrediadau a'r cyfrifon yn amlwg a goleu, fel ag i fod yn eglur i bawb- a garant dalu sylw i weithrediadau yr Undeb. Mae yr holl gyfrifon yn cael eu cadw gyda manylwch a chywir- deb, fel nad oes Ile i ammheuaeth lechu am hanner eiliad yn meddwl unrhyw Ifor a gymmer y drafferth o'i ddar- lien o dro i dro; tra y mae cyfrif-ymchwilwyr yn gwneyd eu gwaith mor llwyr, fel ag i hawlio ymdtliried mwyaf calonog yr holl frawdoliaeth. Mae cyfansoddiad y Bwrdd, a'r dull o gadw y cyfrifon, y fath, fel ag i roddi golwg cywir i'r holl aelodau o wir sefyllfa yr Undeb. Yn y gynnadledd flynyddol:ddiweddaf, penderfynwyd i ychwanegu v Drysorfa Undebol, trwy fod i bob aelod yn yr Undeb, nad oedd wedi talu o'r blaen, i dalu swllt am, unwaith er cryfhau y drysorfa hon. Mae y Prif Adran- oedd; megys Abertawy, Merthyr, Aberdar, ac ereill,. wedi talu y swm dyledus, tra mae ereill yn para i ddyfod i mewn. Mae cyfeillion goreu yr Undeb yn edrych ar y mudiad hwn yn un o'r pethau mwyaf pwysig er llesoli yr Undeb Iforaidd. Mae hyn yn sicr o fod yn foddion cryfhad ac undeb; a gwir y dywediad, Mai mewn undeb y mae nerth." Heb y Drysorfa Undebol, nis gallem weled pa faatais yw bod yn perthyn i'r Undeb, yn fwy na phertliyn i rhyw glwb benefit unigol, yr hwn a ddichon fod yn gryf neu yn wan; ond pa un ai yn nerthol ai egwan, nid oes ganddo le i nesu hwnt pan ddelo dydd ei galedu. Heb Drysorfa, nid yw yr U ndeb Iforaidd ond Undeb mewn enw yn unig, a hwnw yn enw gwag. Ond bydd swllt oddiwrth bob aelod am un- waith at yr hyn oedd gan yr Undeb o'r blaen gyda y Hog, yn rhoddi trysorfa o FIL o BUKNAU; a bydd hyn, tra yn rhoddi bywyd yn nghalon Iforiaeth, yn gwneyd rhaff deircainc, cydblethedig o frawdgarwch, cydym- deimlad, a chariad, er rhwymo yn un teulu mawr y pumtheg mil sydd heddyw dan faner Dewi Sant. Yr ydym ni yn diolch i'r rhai a fu yn foddion, yn y Gyn- nadledd ddiweddaf, i ddwyn hyn oddiamgylch. Bydd i Iforiaid yr oes a ddel yn sicr o'u canmol am eu gwaith.. Mae hwn yn gam yn yr iawn gyfeiriad mae fel y gareg- glo yn y bwa. Pwnc pwysig arall i'r Undeb Iforaidd yw y Cofrestriad. Mae yn dda genom ni i Gynnadledd Rhymni er's ychydig flynyddau yn ol, benderfynu cael y Rheolau Cyffredinol wedi: eu cofrestri, a thrwy hyny yn gosod holl eiddo yr Undeb, fel Undeb, dan nawdd a diogelwch cyfraith y tir. Darfu i'r Bwrdd, heb oedi dim, gario i weithrediad orchymyn Cyn- nadledd Rhymni, trwy osod yr Undeb dan nawdd y gyft'aith. Mae yn dda genym hefyd fod rhai adranoedd wedi gwneyd yr un roodd, tra mae ugeiniau o Gyfrinfaoedd wedi cofrestru. Mae rhai yn para yn wrthwynebol i hyn ond nid oes braidd. ddwy wythnos yn myned heibio nad oes rhyw Q-yfrinfa neu. gilydd, perthynol i rai o'r Undebau dyngarol, nad ydyr.t yn teimlo yn chwerw o herwydd peidio mynu nawdd cyfraith y tir, ac felly wedi talu yn ddrud-yn ddrud iawn weithiau- maent yn cofrestru ar yr un egvvyddor a dyn yn cloi drws y stabl ar ol i'r ceffyl fyned allan. Yr ydym ni yn perthyn i Gyfrinfa a dalodd y swm o £170 am ei dysg; ond i ni gael deg ceiniog yn y bunt yn ol mewn ffordd o lwc. Ond gwnaeth yr ysgol yna les i ninnau; mae y drws wedi eigloi byth ar ol hyny. Mae y gyfraith yn awr yn dyfod a'i thro oddiaiu- gylch yn Had chwyrn, ac yn dal atnbell i wrth-gofrestrwr yn annysgwyliadwy. Ychydig yn ol yr oedd Cyfrinfa Iforaidd mewn t9 un o'r rhai hyn ond efe a ddaeth yn fethdalwr nos Sadwrn; daeth dau, o'r brodyr yn eu gofid atom am naw olr- gloch nos Sal; gwnawd ac argraffwyd rheolau erbyn adeg y post dydd Llun yr oeddynt gyda Titt Pratt am naw ox gloch dydd Mawrth, ac yn ol dydd Mercher, a'r arian wedi eu dio- geli cyn i'r gwrth-gofrestrydd gael amser i werthu ei bethau. Yr oedd yn siomedigaeth ddaublyg; y Gyfrinfa wedi ei sioini yr ochr oreu, a'r gwrthgofrestrydd yn crafu ei ben. Yr ydym ni yn adnabod dyn perthynol i Undeb arall nid i'r Iforiaid—dyn ag oedd yn swyddog pwysig, ac yn selog iawn,, ac yn llawn set yn erbyn cofrestru. Buom yn dadleu ag ef ar' y pen hwn ond nid oedd modd ei argyhoeddi; ond wrth ddarllen mynegiad chwarterol diweddaf yr Odyddion, deall. asom y pwnc yn y frawJdeg ganlynol o'r mynegiad hwn yn dilyn enw y person y cyfeiriwn ato Expelled from the Good Intent Lodge, for embeziling the sum of £ 56 19s. 2d., when acting as Corresponding Secretary." Dyna y rheswm cyntaf a wyddom am dano dros ddadlu yn erbyn cofrestru, Iforiaid gonest, peidiwch a chau eich llygaid, a chymmeryd eich twyllo ar y pwne hwn. Mae y manteision o gofrestru yn lluosog a phwysig; inae yr anfanteision yn-DDIM. Mae gair yn ddi«on i gall, ac awgrym i'r doeth. Diogelwch- eich eiddo, a bydd yn tfynnonell cysur i chwi yn oriau blin clefyd a methiant. «rm. =r
[No title]
Y TAFOD."—Bu y Parch. Mr. Evans, Stanhope Street,. Liverpool, yn dweyd Darlith gampus, ie, godidog ar y testun uchod yn Penygelli a Helygen, ar y laf a'r 2ail o'r mis diweddaf. Mae gan Mr. Evans dafod i'r dim i dweyd am y Tafod. Ymaey ddarlith hon yn wir werth ei dweyd ac y mae wedi bod yn oreu am hel arian o ddim a tu yma erioed.—JUDAS. GALWAD.—Mae y Parch. John Williams, gynt o'r GarLi, wedi derbyn galwad i Bontriphont a Chae'rgeiliog. Hyderwn «- parchant hwy ef fel gwas yr Arglwydd.