Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

TJNDEB RHWNG YR ENWADAU YMNEILLDUEDIG.

YMDDYDDANION Y TEULU.

News
Cite
Share

YMDDYDDANION Y TEULU. GAN Y PRYFGOPYN. PEN. III. Well done, Paddy, yn wir," meddai Thomas bach, gan cbwertbin yn iachus. Ond gan nad oedd neb wedi bod yn son am Paddy y noson hono, gofynwyd am es- boniad o'r difyrwch ag oedd Thomas yn ei fwynhau. Beth yw'r mater, Thomas?" gofynai Morgan. Yr wyt ti yn chwerthin ues bo'r dagrau yn dod allan o'th lygaid, fachgen." Am ben yr Irishman yr o'wn I yn chwerthin," oedd ateb Thomas. Mae yn y llyfr hwn ystori fach dlos am Irishman tlawd yn ceisio ymadael ag un o'i blant, ae yn methu. A ga'i 'i darllen hi yn y Saesneg, nhad ?" Na, machgen I; rho 'i sytwedd i ni yn y Gyraraeg," meddai gwr y ty. Ma'n well gen I ga'l sylwedd stori yn Gymraeg na stori gyfan yn Saesneg." O'r goreu, nhad. Dyma hi. Mi galwaf hi yn PAT DAUDDYBLYG BI FBDDWL." Y chydig amser yn ol, ar fwrdd un o agerlongau 0 America, yr oedd teulu Gwyddelig, yn cynnwvs gwr, gwraig, a thri n blant,—dwy ferch ac un bachgen. Yr oeddent yn gwynebu tua'r gorllewin draw. Yr oetld yn amlwg fod y teulu yn dlawd iawn ond yr oedd hardd- wch y plant, er hyny, yn tynu sylw cyffredinol ar fwrddy Hong. Yr oedd ar y bwrdd wr a gwraig foneddigaidd, o gefyllfa yn y b yd-yn gyfoethog iawn, ond heb fod yn feddiannol ar blant. Yr oedd y foneddiges wedi ym- serchu yn mhlant y par Gwyddelig i'r fath raddau, fel y dymunai fabwysialtu un o honynt, p'i ddwyn i fyny fel plentyn iddi ei hun, a'i wneyd ef neu hi yn etifedd neu yn etifeddes y cwul o'i chyfoeth. Ymdrechodd wneyd bargen a'r Gwyddelod trwy offeryngarwch cyfaill iddynt yr hwn, wedi bod yn bargena, a roddodd yr hanes can- lynol o'r drafodaeth:— Aethym ar unwaith at y gorchwyl; a chau gael y cyfaill Gwyddelig ar y deck, agorais y genadwri fel hyn. Xr ydyeh yn dlawd iawn." Tlawd, Syr," meddai Paddy. Os oes dyn tlotach na fi yn poeni y byd, Duw a'n helpo ni'n dau, eanys byddem gerllaw a bod yn gyfartal." Yna pa fodd yr ydych yn galln cynnaI eich plant?" Eu cynnal, Syr nid wyf yn en cynnal o gwbl; er hyny, y maent yn cael eu cynnal rhywfodd. Bydd yn ddigon cynnar i mi achwyn pan bo hwy yn achwyn." A fyddai yn ysgafnhad i chwi i ymadael ag un o honynt ?" Beth, Syr, yn ysgafnhad i ymadael a phlentyn ? A fyddai yn ysgafnhad i gael fy nwylaw wedi eu tori oddi- wrth fy nghorff, neu y galon wedi ei thynu o'm mynwes? Ysgafnhad yn wir Duw a fyddo yn drugarog wrthom. Beth yw eich meddwl 1" Nid ydych wedi fy neall," oedd yr ateb. Golyg- wch ei bod yn fy ngallu i ddarparu yn gysurus argyfer un o'r plant, a fyddai i chwi sefyll ar y ffordd er gwneyd eich plentyn yn ddedwydd ?" Na, na, Syr, mae Duw yn gwybod y byddwn ya foddlawn iawn i dori ymaith yr holl haul oddiwrthyf fy hun er mwyn iddynt hwy gael yr holl wres sydd yn ei belydr- au. Ond dywedwch wrthyf at beth yr ydych yn gyru 1" Yna dywedais wrtho fod boneddiges wedi ymserchu yn un o'r plant; ac os buasai iddo ef foddloni, y buasai y foneddiges yn cymmeryd y plentyn, yn gofalu am dano, yn ei ddwyn i fyny yn gysurus a diogel, yn ei ddysgu mewn ysgotion da, ac yn gofalu am dano. Taflodd hyn Pat i synfyfyriaeth. Dechreuodd grafu ei gernau, ac edrychai yn ddarlun perffaith o ddyryswcb meddwl. Yr oedd yn amlwg iawn fod yno ymdrech galed rhwng cariad tad a daioni y plentyn. O'r diwedd, efe a ddywedodd— 0 murther! Oni fyddai yn beth mawr i'r babi. Ond rhaid i mi fyned i siarad a Mari—hi yw eu mam nhw; ae ni fyddai yn iawn i roddi ffwrdd ei phlant o flaen ei gwyneb, a hithau heb wybod dim am hyny." Ffwrdd a chwi, vnte, a dewch yn ol a'r ateb cyn gynted ag y gellwch." Yn mhen rhyw hanner awr, daetb yn ol, gan arwain yn erddwyhw ddau o'i blant. Yr oedd ei lygaid yn gochion a chwyddedig, ac yr oedd ei wyneb yn dwyn nodau galar a ohynhyrfiadau. Wel, beth am y Ilwyddlant 1" gofynais. "Bedad, yr oedd yn ymdrech galed," meddai Pat. Yr wyf wedi bo(I yn siarad a Mari, a tdywedodd o'r diwedd, gan ei fod er lies y plentyn, y dichon y byddai i'r Nefoedd roddi i ni nerth i ddwyn y baich hwn. O'r goreu. Pa un o bonynt yw e' i fod 1" Faith, ni wn I ddim, Syr," a rhedodd ei lygad yn ammheus dros y ddau. Dyma Norah fach, hi yw yr