Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

YR WYTHNOS

News
Cite
Share

YR WYTHNOS MAE ein colofnau yn barod wedi eu llenwi, ac nid oes genym ond lie i frawddeg neu ddwy. Mae y newyddion o America yn para i fod yn bwysig. Mae Tennessee yn agos a chael ei dwyn i ddwvlaw v Grog leddwyr unwaith etto, tra mae byddinoedd y Gog- ledd wedi bod yn fuddugoliaethus mewn amryw leoedd ar yrafon Mississippi. Maeymladd dychryn- 11yd wedi bod o flaen Vicksburg,a dywedir bod hanner can mil o'r Gogleddwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, tra mae y Deheuwyr yn para i ddaly ddinas. Dywed Jefterson Davis yn ei anerchiad na fydd i'r Dehau byth roddi fyny, ond ar y tir fod y Taleithiau Deheuol i gael eu hystyried yn annibvnol, tra mae y Gogieddwyr yn dangos yn hollol benderfynol i orch- fygu y gwrthryfelwyr. Mae Burnside wedi rhoddi fyny ei swydd fel Cadlywydd byddin y Potomac, a Hooker wedi cymmeryd ei Ie. Cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus pwysig iawn yn mhrif ddinasoedd y Grogledd, megys Efrog Newydd, Philadelphia, Cincirmatti, Boston, a threfydd ereill, ar y cyntaf o Ionawr, i roesawi cy- hoeddiad rhyddid y Llywydd. Nid ydy m etto wedi cael allan beth a ddichon fod effeithiau y cy- hoeddiad hwn yn y Taleithiau caethiwol. Mae y swn yn para fod Amherawdwr Ffrainc am osod ei fys i mewn, trwy fod yn fath o gyfryngwr yn materion America. Nid oes genym ddim ond Ull peth yn gahv am sylw ar gvfandir Ewrop, hyny yw, anerchiad Garibaldi at bobl Ithufain. Mae yr an- erchiad hwn etto yn debyg o greu dychryn yn y gor- 0 meswyr, o Paris i'r Vatican, tra mae yn dangos fod Garibaldi etto ei hunan. GARTREF.-Mae pethau yn dra thawel, fel y mae yn arfer bod, cyn agoriad y Senedd, yr hyn a fydd Z5 wedi cymmeryd lie cyn y bydd i ni etto gyfarch ein darllenwyr. Nid oes gan Olygwyr ein newyddiaduron ddiin i'w wneyd ond prophwydo am y dyfodol, a'r hwn o honynt a brophwyda leiaf, a ddywed leiaf o anwireddau. Agorir y ball yn fuan, a daw i'r amlwg ameanion y weinyddiaeth, a theimlad yr aelodau tuag ati. Mae amryw o gyfarfodydd yn cael eu cynnal, ny ond nid oes yn eu hanes rhyw ddyddordeb neillduol itn darllenwyr yn gyffredin. Yn Nghymru, mae" Yr eisteddfod" yn caelllawer iawn o sylw. Mae achwyniadau pwysig ar y Pwyll- gor lleol am fod mor awyddus i Seisnigeiddio y sef- ydliad, trwy roddi y prif desturiau, a'r pi if wobrwyon yn yr iaith Saesneg. Mae yr olwg ar y gofres testnnau, a'r gwobrwyon, yn lIawn gyfiawnhau yr holl e' rwgnach sydd yn y wlad. Bydd galw cyfarfod Ab- ertawe yr haf nesaf yn Eisteddfod Gymreiq yn gam- enwad o'r mwyaf. Ymddengys i ni yn awr, a chym- meryd v traethodau, y farddoniaeth, y canu, a'r ar- eithiau a fydd yno, v bydd o leiaf wyth rhan o ddeg o'r gweithrediadau yn Saesneg! Mae dywedyd fod hyn yn wrthun yn dweyd y lleiaf am dano. Nid ydym yn synu dim am v siarad sydd ar draed am gael Eisteddfod Gymreig mewn gwrthwynebiad i 5 gyfarfod Seisnig Abertawe. Peth arall sydd wedi ein synu, nad oes un hysbysiad o'r testunau mewn un- rhyw newyddiadur Cymreig o leiaf, nid ydym ni yn cofio gweled yr un. Mae hyn etto i ni yn rhyfedd. Ac etto, cawn rai yn taeru, fod yr Eisteddfod i fod yn gyfrwng i gadw y iaith Gymraeg. Wei, dichon i hyn fod, ond mae yn wybodaeth rhy uchel i ni ei deall. Na feddylied neb ein bod ni yn tuchan fel rhai siomedig—nid felly, ond fel rhai yn teimlo bod y boneddigion yn ymddwyn yn gamsyniol, ac er niwed i sefydliad a allasai fod o les i ni fel cenedl. Mae genym i gofnodi gyda llawenydd agoriad Rheilffordd Merthyr ac Aberhonddu. Hen Aber- honddu! da genym am danot, er mwyn yr amser gynt. Aeth Mr. Clark, o Ddowlais, a'i foneddiges, gyda nifer o gyfeillion, mewn dau gerbyd, yn cael eu dilyn gan ugain o wageni, wedi eu llwytho o 10 Dowlais, yr hwn a roddwyd gan y boneddwr parchus t5 i dlodion Aberhonddu. Dyma dro teilwng. Drwg genym nodi fod marweidd-dra lied gyffred- L, y inol yn cael ei deimlo trwy ardaloedd ein gweithfeydd. Hyderwn fod amser gwell etto yn ol, ac heb fod yn mhell iawn. GENEDIGAETHAU. Ion. 12fed, priod Mr. R. Owens, George street, ger Bethesda ar ferch. Ion, lleg, yn 108, Mill street, Liverpool, Mrs. David M. Davies ar fab. PRfODASAU. Ion. 24ain yn Bethel, Glyn Nedd, yn ngwydd Mr. Lewis, y Cofrestrydd, gan y Parch. T. E. James, gweinidog y lie, Mr. Howell Davies, pregeth- wr cynnorthwyol parcl-us yn Nantyffin, a Miss Jane Morgan. Ion. 9fed, yn eglwys Tal y hychau, sir Gaerfyrddin, gan y Parch. Thos. Thomas, Mr. John Griffiths, ysgrifenydd yn swyddfa D. L. Price, Ysw., cyfreithiwr, ag Elizabeth, merch hynaf Mr. William Griffiths, Blaenyg isaf-y ddau ger Tal y llychau, MARWOLAETHAU. Ion. 17, Jane Williams, Glan y Bala, Llandinorw ic, yn99 tnlwydd oed. Ion. 17, Robert Edward Thomas, Ebenezer, Llandinorwic. Prydnawn Sul yr 18eg cyfisol, ar ol tua deuddeg awr o gystndd blin, Mr. Thomas Lewis, Brynpostig, ger Llanidloes, yn 51 oed. Bydd mar- wolaeth y dyn hynaws a thirion hwn yn golled annhraethol i'w weddw a'i blant amddifaid, ac i eglwys v Bedyddwyr yn Cwmbelan; o'r hon yr oedd yn aelod dichlunaidd a diacon gwasanaethgar. Daearwyd ei weddillion yn mynwent eglwys y Nantgwyn, o'r hon yr oedd yn aelod gwreiddiol. Ion. 19eg, yn 80 mlwydd oed, Mr. William Morris, sail maker, Caer- gybi. Yr oedd yn aelod dichlynaidd gyda'r Bedyddwyr er ys dros 40 mlynedd. Dyoddefodd hir nychdod yn hynod dawel ac amyneddgar, a bu farw mewn tangnefedd.

iiancsion tfartrffot.

í!byf¡ttfø4y44 í!bttfg4401.