Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
AMERICA;
AMERICA; Mae y newyddion a ddygwyd o America gan y Great Eastern a'r Europa, pa rai a gyrhaeddasant Lynlleifiad dydd Sadwrn diweddaf, o gryn bwys. Bryslythyr oddiwrth y Cadfridog Undebol Sherman oddiar faes y rhyfel ger Vicksburg, a ddywed iddo ef lanio ei fvddin ar lan aswy y Varso, deng milldir o cnau yr afon hono, ac wedi ffurfio ei rengau yn barod i ryfel, iddo gyrchu ar Vicksburg. Ar ol llwyddo i fyned heibio i wnfadau y Gwrthryfelwyr, cyfarfuwyd ^'r gelyn mewn grym, ac ymladdwyd yn ffyrnig am bum awr. Gyrwyd y Gwrthryfelwyr y tu cefn i'r ddwy gilfach sydd yn amddiffyn tu 01 y ddinas, ac ar nos Sadwrn gorphwysai y ddwy fyddin ar eu harfau. Yn ystod y nos adeiladwyd pontydd dros y cilfachau gan yr Undebwyr, er fod y Gwrthryfelwyr yn tanio yn enbyd arnynt o gynllwyn. Ar doriad y dydd symudodd holl fyddin Sherman ar y Gwrthryfelwyr, y Cadfridog Steele yn arwain yr oehr aswy, y Cad- fridogion Blair a Morgan y canol, a'r Cadfridogion A. L. Smith a M. L. Smith yr ochr ddeheu. Trodd Steele rengau y G-wrthryfelwyr fel agi agortramwyfa 1 ddosran Morgan, yr hwn oedd wedi ei wahatiu gan y corsydd, ac erbyn codiad haul yr oedd yr holl fyddin ar waith. Yr oedd y Gwrthryfelwyr gyferbyn a dosranau Morgan a Smith wedi ffosgloddio am danynt ar dir uebel. ond cymmerwyd meddiant o'r sefyllfa gan yr Undebwyr a min y bidog. Ni allasai gwnfadau y Gwrthryfelwyr gydweithredu ond darfu i'r gwnfad tJndebol Benton ymosod ar amddiffynfa y Gwrth- ryfelwyr yn Haynes Bluff. Yr oedd y Cadfridog Banks a'r Llyngesydd Farragut i gymmeryd rhan yn V symudiad, ond nid oeddynt wedi cyrhaedd yno pan ddaeth y newydd diweddaf oddiyno. Yr oedd y brwydro wedi parhau am bum niwrnod, ac yr oedd yr Undebwyr wedi ennill tri allan o bedwar o'r prif ffos-gloddiau. Nifer byddin Sherman oedd deugain mil o wyr. Dywed y Grenada Appeal fod Vicksburg wedi syrthio yn gwbl i ddwylaw yr Undebwyr, ond nld yw hyn wedi ei g&.darnhau. Trechwyd y Gwrthryfelwyr ger Lexington, a y 0 chollasant 1,400 o wyr rhwng lladdedigion a chlwyf- edigion, 1,000 o arfau bychain, a C magnel. Darfu i bum mil o wyr meirch yr Undebwyr ddi- nystrio naw milltir o reilffordd Tennessee a Virginia, gan los.i y prif bontydd dros yr afonydd Holton o Wattamao, a chymmerwyd dau cant o wj r meirch y Gwrthryfelwyr yn garcharion. Yr oedd gwibdaith gwyr meirch yr Undebwyr yn gan milltir o am- gylchedd. Y mae dinystriad y rheilffyrdd yn cael ei ystyried yn beth pwysig, gan ei fod yn tori ymaith symudiad y catrodau Gwrthryfelgar o Richmond i'r gorllewin. Derbyniwyd teyrngri rhyddhad y caethion gyda Ilawenydd mawr yn yr holl daleithian teyrngarol. Yr oedd cynhwrf mawr yn Boston, Albany, Pitts- burg, a Buffalo amryw ddinasoedd ereill, o her- "vydd fod gwyr meirch yr Undebwyr wedi llwyddo 1 ddinystrio rhan fawr o reilffordd Mobile ac Ohio, a thrwy hyny wedi tori cyssylltiad y Cadfridog Gwrth- ryfelgar Bragg a'i fyddin a Mobile. Mae y Cadfridog Undebel Sullivan wedi trechu y Z5 ^adfridog Gwrthryfelgar Forrest, yn Springhill, ger ^oily-springs. Twriwyd Forrest, a chollodd ei boll *agnelau, a 300 o arfau bychain. T Gyrodd y rhengau Undebol yn y tiriogaethau Andiaidd y Gwrthryfelwyr o dan Coffee a Stuart yn groes i'r Arkansas ger Amddiffynfa Gibson. Nid oes un cyfnewidiad yn sefyllfa y byddinoedd at y Rappahannock. Y mae'r Democratiaid wedi lleddfu tipyn ar eu cyoddaredd yn erbyn y Llywvdd Lincoln. Ffadd y Gwrthryfelwyr o Murfreesbro' yn vstod °s y 3ydd. Aetti yr Undebwyr i mewn iddi yr ail j0l*u, ac yn ddiweddarach yn y dydd dechreuwyd er- y'lfa ar ot y gelyn. Dywed y New York Herald fod enciliad y Gwrth- y fel wyr o bwys mawr i'r Undebwyr, gan tod y Cad- 1(jQg Gwrthryfelgar Bragg wedi ei attal rhag ymosod Nashville. Dywed yn mhellach pe buasai rhengau Udfridog Rosencranz yn effeithiol, y gallesid fod dinystrio byddin Bragg, yr hwn wedi peru colled n {O,GG0 O wyr, a 30 o fagnelau i'r Undebwyr, a en- u>dd mwy fel gorchfygwr nag fel un wedi ei drechu. n ywed y New York Tribune ei fod etto i'w brofi Oe^Q enciliad gwirioneddol ai ynte ystranc filwrol d eiddo Bragg. Y mae yn canmol gwrhydri mil- YýYf Undeb yn fawr. e Cadfridog Rosencranz, mewn bryslythyr o i>rUQreesb°r°', dyd diedig y 5ed, a ddywed ddarfod o'r tWri :ry^wJr> drwy symudiad annysgwyliadwy ,}r ,u°'iddynt, ei attal rhag ennill buddugoliaeth ar nlW^r ?myat> on^ er hyny e* we^ eu maeddu bvrh am dri diwrnod, ac iddyot ffoi yn dra wyll ar foreu dydd Sadwrn, gyda cholled fawr. Y Cadfridog Gwrthryfelgar Ewell mewn brys- lythyr dyddiedig Chattanoga, y 5ed o lonawr, a ddywed: Enciliasom o Murfreesboro' yn eithaf rheolaidd. Arbedasom ein holl ystorfeydd. Mae oddeutu pedair mil o garcharorion, pum mil o arfau bychain, a phedwar ar hugain o gyflegrau, wedi newydd gyrhaedd y lie hwn. Mae yr Undebwyr yn cyfrif eu colled yn 7,000, ac eiddo y Gwrthryfelwyr yn 12,000. Mae gwnfad yr Undebwyr, y Monitor, wedi suddo ar y m6r, a dau swyddwr a 38 o forwyr wedi boddi. Mae yr agerlong Virginia, berthynol i'r Gwrth- ryfelwyr, wedi cael ei chyrnmeryd gan yr Undebwyr yn y Llynclyn.
FFRAINC.
FFRAINC. Dywed gohebydd y Times yn Paris fod y tywydd yn parhau yn hynod o anffafriol yn Neheudir Ffrainc. Y mae yn dra oer, gydag eirwlaw, a gwynt cryf o'r gogledd-orllewin. Y mae y gerddi yn y gymmydog- aeth wedi eu troi yn gorsydd, a gwastadoedd Frejusa Cagolin yn lynoedd mawrion o ddwfr. Mae Llysgenadwr newydd Prwsia, v Count Galtz, I., 'v wedi newydd gyrhaedd Ffrainc, ac wedi talu ymwel- iad a'r Amherawdwr Siaradai y Count mewn modd boddhaol ar y berthynas gyfeillgar oedd yn ffynu M, 0 rhwng Prwsia a Ffrainc, gan ddatgan ei farn y byddai n m Z3 i'r cytundeb masnachol newydd a wnawd gryfhau undeb y ddwy wlad. Mynegai yr Amherawdwr y pleser oedd pennodiad y Count i fod yn Llysgenadwr yn Ffrainc wedi roddi iddo ef, a syniadau yr hwn yr oedd efe yn hollol gytuno. Dywedai ei Fawrhydi yn mhellach ei fod byth, er pan y cafodd y fraint o siarad a Brenin Prwsia, wedi bod yn dymuno ar fod y berthynas rhyngddynt yn fwy cynhes. Yr oedd ef hefvd yn barnu y buasai i'r cytundeb masnachol sylweddoli undeb v ddwy wlad.—Y mae y cytundeb masnachol rhwng Ffrainc ac Itali wedi ei gwblhau a'i lawnodi.
ITALI. '
ITALI. Cyhoeddodd dau o newyddiaduron Paris-y La France a'r Moniteur-ychydig ddyddiau yn ol, fod llywodraeth Itali mewn cyfwng arianol, ac wedi ceisio gan y Senedd i awdurdodi benthyciad ychwanegol. Y mae'r Stampa o Turin yn gwadu yr oil a ddy- wedwyd gan y papyrau Ffrengaidd. Daufonodd Llysgenadwr Ffrainc yn St. Petersburgh, sef y Due de Monteballo, at y Cadfridog Marmora, i erfyn arno ddefnyddio ei ddylanwad er rhyddhad y Dywysoges Barberini. Ateb y Cadfridog oedd, nas gallasai ef ymyru a llys cyfiawnder. Dywedir fod trigolion Rhufain yn cynllwyno rhyw ddyfais beryglus yn erbyn awdurdod dymhorol y Pab, a'r milwyr Ffreng- aidd sydd yn gwarchae ei Santeiddrwydd."
[No title]
DYRCHAFIAD I'R FARWNIAETH.—Mae y Frenines wedi gweled yn dda i ddyrchafu y boneddigion canlynol i'r Farwniaeth :-Thomas Davies LloyJ, Bronwydd, Swydd Aberteifi Henry Rich, Sonning, S-vydd Berks Francis Crossley, Swydd York; Wm. Brown,Lancaster; Syr Daniel Cooper; a David Baxter, Fife. Y PAB GARTREF.—Trigiannydd yn Rhufain a rydd yr hysbysiaeth ganlynol am arferion cartrefol y Pab Coda ei Santeiddrwydd am chwech. Am saith, dywed ei weddiau mewn ystafell gyssylltiedig a'i wely-ystafell. Y mae yn agos yr oil o'r cardinaliaid a'r esgobion Pab- yddol yn dilyn yr un arferiad. Pan yr hiria offeirlad Pabyddol ystafellau mevvn ty, dyga gydag ef allor fechan, o flaen yr hon y dywed ei weddiau. Gwasan- aethir ar y Pab gan offeiriad neu ddiacon. Y mae yn y Vatican tua deg o'r gwasanaethyddion hyn. Y rhai penaf o honyut yw Stella, Merode, Talbot, a Ricci, y rhai ydynt bob amser yn agos i'w Santeiddrwydd. Cadwant gwmni iddo, gan ei ddifyru, a gwneyd iddo chwerthin, yr hyn nid yw yn orchwyl anhawdd, gan fod Pius IX. yn ddyn o dymher hawddgar. Am wyth, cymher ei Santeiddrwydd ei goffi, ac ychydig luniaeth. Mgr. Stella yn unig sydd wyddfodol yr amser hwn, yr hwn a agora y llythyron, ac a'u darllena i'r Pab. Am naw, pan y mae y boreufwyd drosodd, a'r llythyrau wedi eu darllen, gwna y Cardinal Antonelli ei ymddang- osiad. Y mae efe bob amser yn hynaws a charedig- 'Y Tad Santaidd' yn awr, a'r Tad Dedwydd' bryd arall; canmola athrylith y Pab, ei ddealltwriaeth o am- gylchiadau nethau, &c. Y mgynghora y Cardinal An- tonelli a'r Pab yn n6hylch pob peth, ac y mae iddo y gwas mwyaf gostyngedig. Parha v cydymddyddan politicaidd yma o oiddo y penadur Pabyddol a'i wein- idog am awr neu ddwy. Am hanner awr wedi deg neu un-ar-ddeg, dechreua vr ymwelwyr ddod i mewn. Eistedda y Pab, wedi ei w;sgo mewn gwyn, ar gadair freichiau, gyda bwrddo'i fhen. Dy ""4 "^ydig eiriau wrth bawb a gyflwynir iddo, yn eu hiaith eu hunain —Ffrengaeg, Italaeg, neu Yspaenaeg ond os Saesnaeg neu Almaenaeg a lafarant, y mae cyfieithydd yn angen- rheidiol. Am ddau, cymmer y Pab ei giniaw. 0 dri i bedwar, a i orwedd ar ei esmwythfainc, tei v gwna pawb yn Rhufain. Os gelwch yn nhy Cardinal ar yr awr hono, yr ateb bob amser yw, Y mae ei Ucheider yn cysgu.' Nid yw y Pab felly yn gwneyd yn wahanol i ereill. Am bump, a ei Uchelder allan mewn cerbyd, yn cael ei amgylchu gan ei filwyr a i wasanaethyddion. Am saith, cymmer ei swper, ac yna treulia ychydig amser i chwareu billiards. Am ddeg, gosodir allan yr holl ganwyllau yn y Vatican."
ADOLYGIAD AFU^SNACH YR YD.
ADOLYGIAD AFU^SNACH YR YD. Cyflenwad bychan o wnith o Kent ac Essex oedd ar y farchnad dydd Llun diwed,laf. Gwerthwyd yr oil o'r siamp)ausychatn brisoedd y dydd Llun blaenorol, ond ni chynnygid am y bathau ereill. Yn araf y gwerthai yr un tramor. G werrhai hitidd at fragu am brisoedd yr wythnos rtaenorol; haidd at fain o i Is. y chwarter yn is. Ceirch Is. yn is. Fflwr Americanaidd heb un y chte.viad. MARK-LANE. LLUNDAIN. y chwarter y chwarter 8 8 8 s Gwenith gwyn 43 i 56 Ffa, Mazagan 30 i 32 „ coch 42 54 Pigeon .37 43 Haidd, at fragu 28 33 Pys, gwynion 37 40 „ atfaiu 26 29 llwydion 34 35 Ceirch, Seisnig 19 23 Fflwr, sach o 28u pwys,goreu 42 47 „ Vsgotig.. 20 23 ail, o'r wlad 31 38 Gwyidelig 18 23 Yd Indiaidd 32 34 Brag, goreu 60 67 Americanaidd, y baril.. 22 2g ail 50 56 BARA.—Bara Gwenith, 8e. i 8!c. y dorth 4 pwys teuluaidd etto, 6ch. i 7Jc. GWER.—Town Tallow, 46s. 6ch. y cant; Rough Fat, 2s.3!c. yr 8 pwys Russian candle, 47s. Oc. y cant; Melted Stuff, 34s.0c. MARCHNAD ANIFEILIAID LLUNDAIN. YrSpwys. S. C. 8. C. ] I. C. g. C. Cig Eidion gwael 2 6 i 2 10 Cig L!o 3 6i4 4- Mawr goreu 3 0 3 6 Cig Moch 4 0 4 6 Cig dafad gwael 3 2 3 6 Mawr goreu 3 8 4 4 1 PRISOEDD YMENYN A CHAWS. LLUNDAIN.—Dorset, o 118s i 124s. y can pwys Carlow, 98s. i 106s.; Jersey, 90s. i tOOs.; Friesland, 112s. i 114s. CORK.—laf, 116S,; 2il, 114s.; 3ydd, 90s.; 4ydd, 65s.; 5ed, 57s; 6ed, 40s. MARCHNAD YD LLYNLLEIFIAD. s. c. s. c, Gwenith Seisonig gwyn 11 9 i 12 6 y 100 pwys. coch.. II 0 lJ 3 etto. Ceirch Seisonig 36 4 9 y 45 pwys. Haidd Gwyddelig, at talu 38 4 2 y 60 pwys. Seisonig, at lragu 38 0 41 0 y chwarter. Fflwr Seisonig 40 0 42 0 Y 280 pwys. MARCHNAD WLAN LLYNLLEIFIAD. s. c. s. c. Laid Highland Wool y 24 pwys 170i18 0 White Highland 20 0 21 0 Laid Crossed etto unwashed. 21 0 22 0 Etto washed. 22 0 22 6 Laid Cheviot etto unwashed ..22 0 23 0 PRbOEDD. Y LLEDR. pwys pwys c. c. Crop Hides 28 i 40 12 i 15. 1J 40 60 13* 21 English Butts.) 4 24 14 26 Foreign Butts 16 28 12J 24 Dressing hides, common 10i 15 „ saddlers 13 17 „ shaved. 12 16 Horse Butts, English 11 16 Horse hides, English 11 14 Calf skins, 20 40 14 25 „ 40 66 15 26 „ 60 80 13 23
MARCHNADOEDD CYMREIli.
MARCHNADOEDD CYMREIli. AMLWCH.—Gwenith, 44s. i 47s. (y chwarter) haidd, 28s. Oc- i 29s. Oc.; ceirch, 18s. 0.. i 20s. Oc.; ymenyn ffres, 13c. i 14c. y pwys; llestri, 10c. i 11e. y pwys; cig eidion, 5ie. i 6^c.; cig dafad, 6|c. i8c. BANGOR.—Gwenith, 4ls. Oc. i 44s. Oc. y chwarter haidd, 26s. Oc. i 30s. Oc.; ceirch, 18s. 6ch. i 20s. Ocb.; ymenyn ffres, 14c. i 15c. CAERNARFON.—Owenitn, 40s. Oe. i 47s. Oc. y chwarter haidd, 27s. Oc. i 31s. Oc. y chwarter ceirch, 18s. Oe. i 21s. 6c. y chwarter blawd ceirch, 32s. Oc. i 34s. Oc. y 240 pwys ymenyn ffres, 13s. i 14c. y pwys llestri, 11c. i 12Jc. y pwys. CABRFYRnniN.—Gwenith, 5s. 6ch. i 6s. 6ch. y 64pwys haidd, 3s. 9c. i 4s. 6ch. y 54 pwys; ceirch, 2s. Oc i 2s. 6ch. y 40 pwys; ymenyn llestri, lojc. y pwys caws, 20s. i 22s. y can pwys. DINBYCH.-Gwenith, 14s. Oe, i 14s. Oe. yr nob; haidd, 10s. Oc. i 128. Oe. yr hob ceirch, 7s. Oc. i 8s Oe. yr hob blawd ceircb, 33s. Oc. i 34s. Oe. y 240 pwys ymenyn ffres, 134c. i 14jc.; llestri, 'a lOfc. i 11 !c. y pwys. 4 4 HWLFFORDD.—Gwenith, 5s. 6ch. i 6s. 3c. y bwysel haidd, 3s. 6c b. i 4s. 3e. y bwysel ceirch, 2s. Oe. i 2s. 6ch. y bwyse] ymen- yn ffres, Is. 2e. y pwys; etto llestri, 10c. LLAWDILO.—Gwenith, 6s. 6ch. i 7s. Oe. y bwysel; haidd, 4stj 3c. i 4s. 6ch.; ceirch, 2s. 3e. i 2s. 6ch.; ymenyn ffres, 13le. i 14c. y pwys etto llestri, IOle. i lie.; cig eidion, 6ch. i 7c.; cig dafad, 6t i 7c. y pwys. LLANELLI.—Gwenith, 6s. 3c. i 7s. 3c. y bwysel: haidd, 3s. 6c. i 4s. Oc.; 6eireh, 2s. Oe. i 2s. 6ch.; ymenyn ffres, 12c. i 13c.; etto llestri, 11c. i 12c.; cig eidion, 51. i 7c.; cig dafad, 6ch. i 7c y pwys; pore, 6ch. i 7jc. y pwys.
Advertising
BATHODYN GWOBRWYOL, A RODDWYD AM STAROH G-LENFIELD, Gan Farnwyr Dosparth 2, Arddangosfa 1862. Y MAE Y STARCH ENWOG HWN Yn cael ei DDEFGYDDIO yn y GOLCHDY BREINIOL, AC A GVHOEDDIR GAN OLCHWJRAIG EI MAWRHYDI Y- GOREU A DDEFNYDDIODD ERIOED. TRWSWEAIG YSNODAU EI MAWRHYDI A'I GFSYD ALLAN Y GOREU A DDEFNYDDIWYD GANDDI; AC Y MAE Y WOBR UCHOD, GAN RAI 0 BRIF GEL- FYDDYDWYR YR OES, YN PROFI EI RAGORIAETH. WOTHERSPOON & CO., Glasgow a Llnudian
PRISOEDD Y METELOEDD, &c.
PRISOEDD Y METELOEDD, &c. HAIARN.-Cymreig.-Rails, 5p. 15s. Oc. i 5p. 15s. OCt y dunnell yn y gweithiau Common bars, 5p. 10s. Oc. i 5p. 15s.; Staffordshire, Op. Os. i Op. Os. y dunnell. PLWM.—English Pig, 21p. Oe. Oe. i 22p. Os. y dunnell- Spanish pig, 20p. Os. i 20p. Os. Plwm Coch, 22p. Oc. i 22p. Os.: Plwm gwyn, 27p. 10s. i 28p. 10s, y dunnell.